Mae'r Gymdeithas yn cael stondin ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol pob blwyddyn ers 1997, ac ers 2008 yn trefnu nifer o ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos:
Cafwyd wythnos brysur ar Faes Llandŵ.

Gweneira a Gwilyml enillydd cystadleuaeth (c)Daniel Hughes

Elvey MacDonald yn cyflwyno Nigel Callaghan o Dechnoleg Taliesin luniodd y wefan

Cyfarfod lansio'r wefan

Gwrando ar sgwrs am y wefan newydd

Teulu Bod Iwan, Bryn Crwn, yn yr Eisteddfod

Mwynhau yfed mate gyda Elvira Moseley (nee Austin)

Gwilym Roberts wedi cael bargeinion ar Faes y Steddfod!

Gwilym Roberts, Hazel Charles Evans, Isiaias Grandis a Sandra De Pol

Isaias Grandis, Dysgwr y Flwyddyn 2012 gyda'i athrawes gyntaf Hazel Charles Evans

Isaias Grandis, Dysgwr y Flwyddyn 2012 gyda'i athrawes gyntaf Hazel Charles Evans

Julia Hawkins, Dysgwr y Flwyddyn 2010, Mavis Griffiths ac Isaias Grandis

Sandra De Pol, Dysgwr y Flwyddyn 2000, Isaias Grandis ac Azul De Pol

Sandra De Pol yn cyflwyno blodau i ddiolch i Morfudd Slaymaker am ei gwaith hi a'i diweddar w^r Eric gyda'r myfyrwyr ddeuai i Lambed

Isaias Grandis yn tynnu y raffl ar y dydd Sadwrn

Catrin Miles, Maer Aberteifi, gefeilldref Trevelin yn cyflwyno rhodd i Isaias Grandis mewn sosial yn Aberteifi
Cafwyd wythnos hwylus a llwyddiannus iawn yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010. Cafwyd cryn ddiddordeb yn yr arddangosfa Ymfudwyr o Flaenau Gwent gan Eirionedd Baskerville (
Darllenwch mwy yma - PDF). Bu gweithgareddau'r prynhawn yn llwyddiannus a gan mai Edith MacDonald oedd arweinydd Undeb Cymru a'r Byd cafwyd cryn brysurdeb yno gydol yr wythnos. Roedd nifer o Wladfawyr yn yr Ŵyl - yn enwedig ddechrau'r wythnos.

Richard Davies, Cadeirydd Eisteddfod Genedlaethol yn y canol rhwng Gwilym Roberts ac Angharad Rogers, dau aelod o Gangen y De

Coeden negeseuon yn y Babell

Rebeca White o'r Gaiman fu'n cynorthwyo i addurno y babell

Dau gynrychiolydd o Orsedd y Wladfa yn gorymdeithio - Hector MacDonald (Mac Patagonia) a Gladys Thomas (Gladys Berth Goch)

Eirionedd Baskerville yn siarad am Ymfudwyr o Flaenau Gwent
Cafwyd wythnos eithriadol o brysur yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a'r cylch 2008,
Bu digwyddiad dyddiol yn y babell - y dydd Sadwrn cyntaf lawnsiwyd cyfrolau Arie Lloyd de Lewis a Mario Jones; dydd Llun - gweithgareddau i blant; dydd Mawrth - gair gan D.L. Davies am gysylltiad Abraham Matthews a Chaerdydd; dydd Mercher - eitemau cerddorol gan Walter Brooks a Glenda Powell; yn y cyfarfod blynyddol dydd Iau croesawyd Gabriel Restuccia, Maer y Gaiman a dydd Gwener bu Merched y Garth - fu ar ymweliad â'r Wladfa ychydig yn ol yn canu gosodiad cerdd dant o awdl R. Bryn Williams, Patagonia.

Angharad Rogers, Ceris Gruffudd, Sandra De Pol a Robin Bateman yn stondin y Gymdeithas

Arie Lloyd Lewis a Mario Jones yn lansio eu llyfrau yng nghwmni Elvey MacDonald

Arie Lloyd Lewis

Romina Herrera, Trelew, Elvira Roberts de Williams, Glenda Powell, Lizzie Jones de Lloyd, Esquel a Jessica Jones, Trevelin

Prysurdeb y stondin

Perfformiad gan Glenda Powell a Walter Brooks

Y Cyfarfod Blynyddol

Gwladawyr yn yr Orsedd

Gabriel Restuccia yn cyflwyno rhodd i Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan

Cor Merched y Garth yn canu