Newyddion


Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau 2015 Awst 1af - 8fed (28-07-2015)

Cofiwch alw yn ein pabell - uned 313-314 fydd ar agor o leiaf rhwng 10 a 5 30 Sadwrn a Llun i Sadwrn

Dyma ddigwyddiadau fydd ymlaen yn y Babell

Sadwrn 2.00 Mimosa - detholiad o ganeuon y sioe gan griw yr Urdd/Theatr Clwyd - perfformiad yn Theatr y Maes am 3.30

Llun 11.00 Cyfle i gyfarfod yr awdur Eirionedd Baskerville Yma i aros

2.00 Mimosa - detholiad o ganeuon y sioe perfformiad yn Theatr y Maes am 3.30

Mawrth 2.00 Rhisiart Arwel

Mercher 2.00 Karen Owen a Mererid Hopwood y trafod eu cyfrol Glaniad

3.00 Arfon Gwilym a Sioned Webb '
.
Iau Yn dilyn y cyfarfod blynyddol PARTI dathlu 150

Gwener 11.00 Cyfle i gyfarfod yr awdur Cathrin Williams Y Wladfa yn dy boced

1.45 Côr Merched Edeyrnion

Sadwrn 3.30 Gwenan Gibbard y rhoi cân eu ddwy a thynnu y Raffl.

Hefyd ar y Maes

3 Dydd Llun 12.30 Bydd y ffilm Galesa - Roger Williams yn cael ei dangos yn Theatr S4C

3 Dydd Llun 2.30 Eirionedd Baskerville yn rhoi sgwrs am ei chyfrol Yma o hyd (Y Lolfa) Pabell LLGC

3 Dydd Llun 3.00 Caneuon gwerin Patagonia. Traddodir Darlith Goffa Amy Parry-Williams gan Dr Rhiannon Ifans ar 'Ganeuon Gwerin Patagonia' ym Mhabell y Cymdeithasau 1.

4 Dydd Mawrth 11.00-11.45 Elvey MacDonald Y Wladfa 1865-2015: dathlu beth? dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Y Babell Lên

5 Dydd Mercher 13.30-14.15 Argraffiadau o ddathliadau 150 yn y Wladfa - fideos dan ofal Sandra De Pol Maes D

5 Dydd Mercher 4.00 O Gymru i’r Wladfa: Awr gartrefol o gerddoriaeth o Gymru a’r Ariannin yng nghwmni Rhisiart Arwel a Gwenan Gibbard.
Seiniau’r gitâr a’r delyn yn uno i ddathlu 150 o flynyddoedd ers sefydlu’r Wladfa Gymreig. Y Lle Celf

6 Dydd Iau Amser i'w gadarnhau Profiadau Patagonia Dr Llŷr Gwyn Lewis yn cadeirio sesiwn yn holi myfyrwyr Ysgol Gymraeg Prifysgol Caerdydd am eu profiadau diweddar yn y Wladfa Stondin Prifysgol Caerdydd

6 Dydd Iau 10.30 a 4.00 Elvira Moseley yn coginio yn Y Pantri (mewn cydweithrediad â Cyngor Sir Powys)

6 Dydd Iau 12.30: O Bontiets i Batagonia: Hunaniaeth a Pherfformiad Dwy Genedl Dr Rhiannon Williams Cwt Drama

6 Dydd Iau 13.00-14.00 Irma Ariannin Dr Rhiannon Marks yn siarad am fywyd Irma Ariannin (Irma Hughes de Jones) Stondin Prifysgol Caerdydd

6 Dydd Iau 2.00-3.30 Cyfarfod Blynyddol Cymdeithas Cymru-Ariannin ym Mhabell y Cymdeithasau 1 Sgwrs gan Eirionedd Baskerville Y Mimosa a'r fintai Gyntaf

6 Dydd Iau 2.15 Lucy Taylor Y Cyfarfyddiad ym Mhatagonia: Cymry a’r Brodorion, 1865-1885. Pabell Prifysgol Aberystwyth.

7 Dydd Gwener 3.30 Aduniad i bawb sydd wedi bod ar deithiau'r Urdd i Batagonia dros y blynyddoedd ers 2008 ym mhabell yr Urdd


(27-07-2015)






CD newydd Gwenan Gibbard (27-07-2015)

Y Gorwel Porffor

Y Gorwel Porffor


Y Gorwel Porffor’, Gwenan Gibbard

Caneuon a cherdd dant am Y Wladfa, am Gymru ac am fywyd.


Label: Sain (SAIN SCD 2737)

Dyddiad rhyddhau: Dydd Llun, Awst 3ydd

(Ar gael ym mhabell Cymdeithas Cymru-Ariannin a Sain yn yr Eisteddfod ac yn eich siop Gymraeg leol. Hefyd ar gael i lawrlwytho)

Casgliad newydd o 6 o ganeuon:



1. Patagonia

2. Ddoi di draw?

3. Mesur Dyn

4. Gwawr (gyda Mei Gwynedd)

5. Cenedl

6. Lisa Fach (gyda Alejandro Jones)



Wedi taith fythgofiadwy draw i’r Wladfa yn ystod mis Chwefror a Mawrth eleni, ’roedd Gwenan yn awyddus i ganu am ei phrofiadau. Bu’n perfformio yno, dan nawdd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, yng Ngŵyl Patagonia Celtica yn Nhrevelin, yr Andes, a chafodd gyfle hefyd i berfformio mewn cyngherddau yn Nhrelew, Gaiman ac Esquel.

Mae’r caneuon yn ein cludo ar fordaith arloesol y Mimosa i draeth Porth Madryn ac yna’n ôl i Gymru. Ceir yma gasgliad amrywiol yn adlewyrchu profiadau personol a threfniannau a gosodiadau newydd gan Gwenan o rai o’n barddoniaeth mwyaf eiconig. Mae’r gân agoriadol yn drefniant o ddetholiad o ‘Patagonia’, yr awdl a enillodd i R Bryn Williams Gadair Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1964. Ynddi, cawn ein hatgoffa o fenter, siom, dewrder a dyfalbarhâd rhyfeddol y gwladfawyr cyntaf. Yna ceir ‘Ddoi di draw?’- cân sy’n adleisio cerddoriaeth gynhedid yr Ariannin. Cawn hefyd drefniant newydd o’r gân werin ‘Lisa Fach’, cân a wnaethpwyd yn enwog yn yr Ariannin gan y canwr Rene Griffiths, ac yma yng Nghymru gan Ar Log. Yn y trefniant hwn mae’r canwr a’r gitarydd o’r Wladfa, Alejandro Jones, yn ymuno gyda Gwenan mewn fersiwn hwyliog a recordiwyd yn ystod ymweliad diweddar Alejandro a’i frawd Leonardo â Chymru. Bu Gwenan ac Alejandro yn canu deuawd draw yn y Wladfa nôl ym mis Mawrth ac achubodd y ddau ar y cyfle i ganu gyda’i gilydd unwaith eto.

Hefyd yn y casgliad ceir fersiwn cerdd dant, (recordiad byw), o ran o gerdd anfarwol Gerallt Lloyd Owen, ‘Cenedl’ – trac a recordiwyd yng nghyngerdd agoriadol gŵyl Womex 2013, yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd. Mae ‘Gwawr’ yn ffrwyth dosbarth meistr cerdd dant yn Tŷ Gwerin , Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr llynedd, lle bu’r cerddor roc Mei Gwynedd yn mentro ar yr hen grefft am y tro cyntaf, tra bod ‘Mesur Dyn’, geiriau John Gwilym Jones, yn pendroni ar werthoedd bywyd.

Yn dilyn llwyddiant yr albwm ‘Cerdd Dannau’, dyma gasgliad blaengar arall gan Gwenan, yn rhoi cipolwg ar amrywiaeth ei gweithgareddau cerddorol dros y flwyddyn ddiwethaf.




mwy


Cyfarchion dathlu (27-07-2015)

Cyfarchion gan Gymdeithas Cymru-Ariannin i Gymdeithasau, Ysgolion ac unigolion yn y Wladfa ac Ariannin.

Annwyl Gyfeillion,

Hoffwn estyn ein dymuniadau gwresocaf atoch chi yn enw Cymdeithas Cymru-Ariannin wrth inni ddathlu Canmlwyddiant a Hanner Gŵyl y Glaniad.

Achylsur unigryw am sawl rheswm rydych ni'n ei ddathlu heddiw. Mae'n garreg filltir yn hanes dwy wlad ond hefyd, mae'n esiampl o gyfeillgarwch a dycnwch y Cymry. Dyma arloeswyr a adawodd eu gwlad, eu teuluoedd a'u ffrindiau er mwyn ymgartrefu mewn ardal ddiarth a phell. Gweithion nhw'n galed i droi anialwch yn ffermydd ffrwythlon a chynhyrchiol fel mae yn y trefi yma bellach.
Cant a hanner o flynyddoedd yn ôl planwyd yr hedyn hwn sydd wedi gwreiddio'n ddwfn yn eich cymunedau. Mae dycnwch, dewrder a ffydd yr arloeswyr cynnar yn parhau'n fyw yn eu disgynydion ac ymysg pobl eraill, fel finnau gobeithio, sydd wedi mabwysiadu iaith ac anian y genedl a ddangosodd cymaint o egwyddorion cadarn a ffydd yn y dyfodol.

Mae'n bosib dathlu 150 hefyd, diolch i ymdrechion a gweledigaeth dysgynyddion yr arloeswyr ac i'r rhai sydd yma heddiw. Dyma bobl a weithiodd yn ddi-baid er mwyn sicrhau gwaddol i'r cenedlaethau iau. Oherwydd gyda'r esgus y dathliad y flwyddyn hon, mae bob un o'r cymunedau wedi gosod tasg ei hunan ac felly, rydyn ni'n gallu gwerthfawrogi heddiw bod capeli'n llawn, ysgolion dwyieithog yn cael eu codi ac etifeddiaeth hanesyddol a digwylliannol yn cael ei thrysori yn Nhalaith Chubut.


Ein cyfarchion annwyl, Gŵyl y Glaniad Llawen i chi!
Ymlaen a ni gan fod y gwynt yn ffafriol!

Sandra De Pol
Cadeirydd


Enillwyr Gorffennaf 2015 Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin. (26-07-2015)

Tynnu y gwobrau yng Nghaernarfon

Dyma enillwyr Gorffennaf 2015 Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin. Tynnwyd y rhifau buddugol yng Ngŵyl y Glaniad yng Nghaernarfon

£60 Rhif 83 Alwyn a Gwenllian Roberts, Llanuwchllyn

£50 Rhif 386. Gwyn a Rhian Parry Williams , Cricieth

£40 Rhif 2 Elen Wyn Lewis, Mynachlog-ddu

£30 Rhif 363 Ann Jones, Waunfawr, Caernarfon

£25 Rhif 226 Morfudd Slaymaker, Llanbedr Pont Steffan

£20 Rhif 333 Pat ac Edward Naish, Garndolbenmaen

£10 Rhif 144 Ceinwen Edwards, Moelfre, Llansilin



Patrwm Patagonia - Melin Tregwynt (25-06-2015)




Ysbrydolwyd gan hanes anhygoel - sy'n dechrau 150 o flynyddoedd yn ôl... pan aeth nifer o Gymry ar siwrnai 8,000 o filltiroedd i greu 'Cymru tu hwnt i Gymru' newydd yn ne America - Patagonia.

Patrwm Patagonia - yn uno arddulliau Cymru a De America.
Mae ein brethyn yn troedio tir newydd... mae'n cydnabod yr arloeswyr beiddgar hynny a'u cymdogion brodorol.

Gwneir mewn 4 lliw gwahanol - 100% o wlân oen.
mwy


Swyddi Newydd: Swyddogion Datblygu 2016 (23-06-2015)


3 SWYDD

Swyddog Datblygu’r Gymraeg ym Mhatagonia

A oes gennych ddiddordeb mewn dysgu a datblygu’r Gymraeg ym Mhatagonia?

Ydych chi’n chwilio am her newydd a phrofiadau gwerth chweil?



Gwybodaeth Ychwanegol
Noddir Cynllun yr Iaith Gymraeg yn Chubut gan Lywodraeth Cymru, British Council Cymru, Canolfan Dysgu Cymraeg i Oedolion Prifysgol Caerdydd, Cymdeithas Cymru-Ariannin ynghyd ag Ymddiriedolaeth Mari a Pryderi, gyda chefnogaeth Menter Patagonia

Nod y prosiect yw hyrwyddo a datblygu'r iaith Gymraeg yn nhalaith Chubut ym Mhatagonia. Ers ei sefydlu yn 1997, mae'r prosiect wedi recriwtio athrawon o Gymru i ymgymryd â lleoliadau dysgu yn y cymunedau Cymraeg ym Mhatagonia a darparu hyfforddiant ac arweiniad i'r tîm o diwtoriaid lleol. Nod hyn yw datblygu'r gallu addysgu Cymraeg a gwella'r ddarpariaeth Gymraeg yn yr ardaloedd hyn.

Yn y tri dalgylch (Esquel,Gaiman a Threlew) dysgir ystod eang o gyrsiau o safon dechreuwyr hyd at safon siaradwyr rhugl (gloywi iaith a chyrsiau ysgrifennu). Cynhelir trawsdoriad o ddosbarthiadau yn ôl oedran – plant meithrin, plant cynradd, plant ysgol gyfun a dosbarthiadau i oedolion. Mae tiwtoriaid lleol yn cyfrannu’n helaeth at y dysgu yn y tri dalgylch ond bydd disgwyl i’r swyddogion o Gymru ddysgu ystod o gyrsiau o blith Wlpan, Pellach, Uwch, Meistroli a Gloywi. Defnyddir cyrsiau Canolfan Dysgu Cymraeg, Prifysgol Caerdydd ac y maent eisoes wedi eu haddasu ar gyfer y cyd-destun Sbaeneg/Cymraeg.

Dylid pwysleisio mai dosbarthiadau gwirfoddol yw’r rhai a gynhelir ar hyn o bryd – 80 dosbarth bob wythnos rhwng y tri dalgylch. O’r herwydd ni ellir gwarantu oriau dysgu sefydlog fel a geir o fewn fframwaith yr ysgolion dyddiol swyddogol. Ar y cyfan cynhelir rhan helaethaf y dosbarthiadau yn ystod y prynhawn a gyda’r hwyr.

Bydd galw arnoch, fel rhan o’ch dyletswyddau ar ran Menter Iaith Patagonia i gyfrannu at bapurau newydd, rhaglenni radio a gweithgareddau cymdeithasol/diwylliannol.

Mae’n gyfle ardderchog i gyfrannu at adfywiad y Gymraeg yn Chubut.

mwy


CYFLWYNO CORON EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU (18-06-2015)

Coron Maldwyn a'r Gororau: Llun: Iestyn Hughes

Coron Maldwyn a'r Gororau: Llun: Iestyn Hughes


Neithiwr (Mehefin 17) cyflwynwyd Coron Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau i Bwyllgor Gwaith lleol yr Eisteddfod.
Rhoddir y Goron eleni gan Gymdeithas Cymru-Ariannin, a’r wobr ariannol g


Lluniwyd y Goron gan y gof arian, John Price, cyn athro crefft a gwneuthurwr nifer o goronau eisteddfodol cain, a gofynnwyd iddo gyfleu’r berthynas agos sy’n bodoli rhwng y Cymry a’u cefndryd yn Nhalaith Chubut wrth ei chreu.
Gwnaed cylchyn y Goron o arian. Ar ei ganol, gwelir carreg a godwyd o draeth Porth Madryn, lle glaniodd y gwladfawyr Cymreig cyntaf ddydd Gwener 28 Gorffennaf 1865. Ar y garreg hon, gosodwyd y nod cyfrin. Cymru newydd ym Mhatagonia oedd y nod yr anelai gwladfawyr y Mimosa ato, a’u gobaith oedd cael bywyd newydd, llewyrchus a rhydd o bob gormes yno.
O bobtu’r garreg, gwelir hwyliau’r Mimosa yn cael eu tynnu i lawr ar ddiwedd y daith cyn i’r ymfudwyr lanio ar dir eu gwlad newydd. Dyma symbol o ddiwedd un cyfnod a dechrau’r nesaf. Mae’r rhain hefyd yn cynrychioli’r ddwy gofeb a welir ar y lan – cerflun o’r wraig Gymreig a’i chefn at y môr yn edrych mewn gobaith at y tir ac, ar benrhyn ger man y glaniad, cerflun o frodor yn edrych allan dros y môr yn barod i groesawu’r Cymry.
Ar y cylchyn hefyd gwelir symbol o afon Camwy. Mae ei dyfroedd wedi chwarae rhan allweddol ym mywyd y trigolion o’r dechrau un. Heb ddŵr yr afon a dyfeisgarwch y gwladfawyr, ni fyddai tiroedd Dyffryn Camwy erioed wedi bod yn gynhyrchiol.
Mae’r blodau yn cynrychioli planhigyn y Celyn Bach (neu’r Quilimbay, sef y fersiwn frodorol o’r enw Cymraeg). Mae’r planhigyn hwn yn tyfu hwnt ac yma ar y paith.
Daw defnydd y cap, a wnaed gan Mary Price, o Batagonia – yr un defnydd a ddefnyddir yng ngwisg Gorsedd y Wladfa.
Meddai Beryl Vaughan, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau, “Mae’n bleser derbyn y Goron hardd yma heno, a diolch yn fawr i Gymdeithas Cymru-Ariannin a theulu’r diweddar Aur ac Arwyn Roberts am eu haelioni. Mae eleni’n flwyddyn eithriadol o bwysig i’r cysylltiad rhwng Cymru a Phatagonia, a braf yw gallu nodi’r cysylltiad hwn mewn ffordd mor hardd, drwy gyplysu’r ddwy wlad ynghyd drwy waith celfydd John Price.
“Mae’n bleser derbyn y Goron hon ar ran y Pwyllgor Gwaith, a gwn fod gweddill y Pwyllgor, fel minnau a phawb yng Nghymru’n gobeithio y bydd teilyngdod yn y seremoni a gynhelir brynhawn Llun 3 Awst yn y Pafiliwn. Edrychwn ymlaen i’r seremoni a diolch yn fawr am eich cefnogaeth, nawdd a Choron hyfryd.”

Cyflwyno'r goron


John Price, Beryl Vaughan, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith) ac Elvey MacDonald (:Llywydd Anrhydeddus)







Fiesta Aber-Esquel Dathlu 150 mlwyddiant y Glaniad (05-06-2015)

Bydd Cymdeithas Aberystwyth ac Esquel: Pobl mewn Partneriaeth (AEPPA) yn trefnu nifer o ddigwyddiadau yn y dref i ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu'r Wladfa Gymreig ar ddydd Mawrth, 28ain Gorffennaf.

Cynhelir cyfres o weithgareddau awyr agored, gan gynnwys cerddoriaeth, adrodd straeon ac eitemau dawns ar safle Llys y Brenin, bydd yn apelio i'r hen a'r ifanc, pobl lleol a dwȃd, ac yn gyfle gwych i flasu diwylliant Cymreig ac Archentaidd.

Mae'r Gymdeithas yn cydweithio yn agos gydag Amgueddfa Ceredigion i drefnu gweithgareddau a gweithdai ar gyfer plant ysgol lleol sy'n cyd-fynd â themȃ yr arddangosfeydd haf eleni, sef bywyd morwrol a mudo.

Bydd Panel Ieuenctid Treftadaeth Ceredigion (CHYP) yn cynnal gweithdai hwyliog yn yr amgueddfa ar y 22ain a'r 23ain Gorffennaf, yn ogystal ag ar y diwrnod ei hun. Dywedodd Anna Evans, Swyddog Addysg Amgueddfeydd Ceredigion:

"Gallwn ddibynnu bob amser ar ein panel ieuenctid i feddwl am ffyrdd newydd a chyffrous i archwilio hanes. Felly dewch draw i'n helpu i adeiladu 'Anghenfil Chwedlonol', a fydd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yng ngharnifal Aberystwyth ar y 25ain Gorffennaf. Yn ôl chwedloniaeth, Patagonia oedd Gwlad y Cewri, felly rydym yn disgwyl mlaen i greu un!”

Bydd Theatr Arad Goch hefyd yn cynnal disgwyddiadau ac yn darparu lleoliad ar gyfer pob math o gerddoriaeth a sesiynau adrodd straeon.

I ddathlu y penblwydd arbennig hwn mae’r Gymdeithas wedi cynnal ysgoloriaeth o £2500 i alluogi person ifanc o’r ardal i ymweld a’r Wladfa i astudio yno. Enillydd yr ysgoloriaeth yw Isabella Hughes, cyn ddisgybl o Ysgol Penglais, sydd bellach yn astudio athropoleg ym mhrifysgol Caeredin. Bydd yn treulio 3 wythnos yn yr Ariannin yn ystod yr haf yn gweithio ar ei maes ymchwil.

Meddai Isabella: "Rwyf yn ddiolchgar iawn i'r Gymdeithas am roi y cyfle imi ymweld â'r Wladfa, a fydd yn fy ngalluogi i ddilyn fy mreuddwyd o ymweld â'r rhan honno o'r byd a chwblhau fy ymchwil israddedig. Bydd fy ymchwil yn edrych ar y ffyrdd yr ydym yn ymgysylltu â hanes ymfudol a phrofiad pobl o ddysgu am hanes Patagonia ac ymweld â'r Wladfa.

"Bydd ymgysylltu â'r hanes a chwrdd â phobl sy'n rhan annatod o hanes y Wladfa yn ddiweddglo perffaith i fy ymchwil. Os oes unrhyw un yng Nghymru neu yn Patagonia â diddordeb mewn cymryd rhan yn fy ymchwil, mae croeso iddynt gysylltu â mi drwy e-bost: geih@hotmail.co.uk ".

Mae'r Gymdeithas hefyd yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â straeon sy'n ymwneud â'r ymfudo. Efallai bod gennych hynafiaid neu berthnasau pell ymfudodd i'r Wladfa? Os felly, bydd Casgliad y Bobl, Llyfrgell Genedlaethol Cymru wrth law i gofnodi unrhyw ffeithiau diddorol neu atgofion teuluol sydd gennych.

Dywedodd Dr Stephen Tooth, Cadeirydd y Gymdeithas: "Rydym yn gwybod am ffaith bod llond llaw o ymfudwyr o Aberystwyth ar y daith enwog honno 150 o flynyddoedd yn ôl, a gellir gweld eu hanesion yn arddangosfa haf Amgueddfa Ceredigion. Bydd y diwrnod yn gyfle gwych i ddathlu ein cysylltiadau, hanes y ddwy wlad a nodi hanes y mudo Cymreig i Batagonia yn y 19eg ganrif.

"Mae'r gefeillio rhwng Esquel ac Aberystwyth wedi mynd o nerth i nerth ers ei sefydlu ac er bod miloedd o filltiroedd rhyngom teimlwn ei bod yn bwysig i nodi'r pen-blwydd arbennig drwy dynnu sylw at y cysylltiadau cryf sy'n bodoli rhwng ein cymunedau.

“Os yw unryw glwb, busnes neu gymdeithas am ymuno yn yr hwyl a threfnu digwyddiad neu stondin i gyd-fynd ȃ’r achlysur mae croeso iddynt gysylltu gyda’r trefnydd Gaynor Jones: 07775 847710. Rydym yn awyddus i drefnu diwrnod i’w gofio.”

Aberystwyth-Esquel


Plac yn Esquel
Bella





Enillwyr y Clwb Cyfeillion (04-06-2015)

Dyma enillwyr y Clwb Cyfeillion am fis Mai 2015 – tynnwyd yr enwau ym Mhwyllgor Gwaith y Gymdeithas Sadwrn 16 Mai

1. £60 rhif 31 Geraint Jones, Sir Benfro
2. £50 rhif 238 Meic a Bet Jones, Llanddaniel, Môn
3. £40 rhif 52 David R. Jones Lerpwl
4. £30 rhif 5 Eifion a Iona Daniels Sir Benfro
5. £25 rhif 239 Mai Williams Conwy
6. £20 rhif 169 John a Marina Adams-Lewis Ceredigion
7 £10 rhuf 10 Eirwyn a Bessie Harris Aberteifi



Dathliadau Patagonia – 150 mlynedd (26-05-2015)




A hithau yn 150 o flynyddoedd ers i’r ymfudwyr cyntaf fentro i Batagonia, mi fu'r Eisteddfod heddiw yn croesawu criw o Ysgol Gynradd Gymraeg yr Hendre, Trelew, ar y Maes, fydd yma trwy’r wythnos. Buont yn perfformio ar y llwyfan perfformio am 11:30am heddiw.

Bydd yr Urdd a chwmni Clwyd Theatr Cymru hefyd yn cydweithio ar gynhyrchiad theatr o’r enw Mimosa, gydag actorion proffesiynol,
17 aelod o’r Urdd a pump person ifanc o Batagonia yn rhan o’r cast. Mi fyddant yn dechrau ymarfer ym mis Gorffennaf ac yn perfformio ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau ym Meifod ym mis Awst cyn teithio i Batagonia i fynd â’r sioe ar daith yno.

Cyhoeddodd yr Urdd heddiw hefyd enwau’r 25 person ifanc sydd wedi eu dewis ar gyfer taith yr Urdd a Mentrau Iaith Cymru i Batagonia ym mis Hydref eleni. Bydd y 25 person ifanc canlynol yn treulio 10 diwrnod ym Mhatagonia ble byddant yn ymweld â Threlew, Esquel a Buenos Aires. Tra yno byddant yn ymweld gyda’r Ysgol Feithrin Gymraeg, yn cael cyfle i gymdeithasu gyda phobl ifanc Archentaidd sy’n siarad Cymraeg ac yn cystadlu yn Eisteddfod y Wladfa. Bydd angen i bob un godi £2,400 er mwyn mynd ar y daith.

De
· Ysgol Plasmawr - Tomos Ifan, Lucy Claire Marks ac Ela Pari Hughes

· Ysgol Gyfun Glantaf - Elis Phillips Jones

· Ysgol Gyfun Llangynwyd - Carys Ellie Parry ac Emily Bruce

· Ysgol Gyfun Ystalyfera - Jacques Stefan Mahé

· Ysgol Gyfun Gwynllyw - Cara Hood a Sophie Georgia Allen

Gorllewin;
· Ysgol Bro Myrddin - Gwenllian Anthony

· Ysgol y Preseli - Eurgain Haf Wyn a Holly Evans

· Ysgol Dyffryn Teifi - Siriol Ifan Thomas

· Ysgol Gyfun Aberaeron - Carwyn Sion Hawkins a Catrin Haf Evans


Gogledd
· Ysgol Brynhyfryd - Beth Mars Lloyd a Lowri Jones Williams

· Ysgol Dyffryn Conwy - Branwen Tudur Morus a Rhiannon Eiddon Hughes

· Ysgol y Berwyn - Joseph Glyn Owen ac Ilan Hedd Jones

· Ysgol Brynrefail - Nia Haf ac Adam Carl Bragan

· Ysgol Syr Thomas Jones - Sorcha Roberts

· Ysgol Gyfun Llangefni - Hattie Plesant


Croeso nôl Pen Gwyn! (24-05-2015)


Bydd Mistar Urdd yn croesawu ei ffrind hoff, Pen Gwyn, o Batagonia i Faes yr Eisteddfod yn Llancaiach Fawr eleni, 30 mlynedd a mwy ers i’r ddau gyfaill gyfarfod diwethaf.


Cyflwynwyd y cymeriad yn wreiddiol ym 1979 gan swyddog cyhoeddusrwydd yr Urdd ar y pryd, Wynne Melville Jones, a fu hefyd yn gyfrifol am greu Mistar Urdd. Bydd Pen Gwyn yn bresennol ar y maes ar ffurf teganau meddal fydd ar werth yn stondin yr Urdd.

Bydd Pen Gwyn hefyd yn ymddangos yng nghylchgrawn misol plant 7-11 oed yr Urdd, CIP, ar ôl i olygydd cylchgronau’r Urdd, Llio Maddocks, ddod o hyd i gartŵnau gwreiddiol o’r cymeriad a grëwyd gan awdur llyfrau Sali Mali, y diweddar Mary Vaughan Jones.

Fe ddarganfuwyd y cartŵnau mewn hen rifynnau o’r cylchgrawn Deryn oedd wedi’u storio yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn. Byddant yn cael eu diweddaru yn weledol a’u hatgynhyrchu mewn lliw llawn yn CIP o fis Medi ymlaen.

Mae presenoldeb Pen Gwyn ar faes Eisteddfod Caerffili yn cyd-fynd â’r dathliadau i nodi 150 mlynedd ers sefydlu’r Wladfa, ac mae’n un o nifer o weithgareddau yn gysylltiedig â Phatagonia sydd ar y gweill gan yr Urdd.

Bydd criw o ddisgyblion o Ysgol yr Hendre, Patagonia yn ymweld â’r Maes, ac mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd 2015 wedi’i hysbrydoli gan fordaith y Mimosa, a gludodd y Cymry cyntaf hynny i Dde America.

Eglura Wynne Melville Jones, a sefydlodd yn ddiweddarach gwmni cysylltiadau cyhoeddus dwyieithog Stratamatrix ac sydd bellach yn gweithio fel artist: “Fe ofynwyd i mi ar ddiwedd y 1970au i ystyried creu cymeriad i fod yn gwmni i Mistar Urdd, a’r canlyniad fu creu ffrind trilliw a fyddai’n gallu pontio rhwng Cymru a Phatagonia a’i alw’n Pen Gwyn.
“Fe welwyd Pen Gwyn am y tro cyntaf pan laniodd ar ei ymweliad cyntaf â Chymru a hynny ym Maes Awyr Cymru Caerdydd a Mistar Urdd a nifer o blant yr Urdd yno i’w groesawu.
“Yn ogystal â’r cartwnau yn Deryn, fe ryddhawyd cân Pen Gwyn, wedi’i chyfansoddi gan Geraint Davies a’i pherfformio gan Emyr Wyn.
“Mae ail gyflwyno Pen Gwyn yn gyfle ardderchog i safleoli’r Urdd o fewn dathliadau Patagonia a bydd ef a Mistar Urdd yn siwr o greu mwy fyth o ddiddordeb a brwdfrydedd yng ngweithgareddau’r Urdd yng Nghymru ac yn y Wladfa.
“Ychwanega Llio Maddocks: “Ar ddiwedd y 1970au a dechrau’r 1980au roedd Pen Gwyn yn wyneb cyfarwydd yn yr Eisteddfod ac roedd yn gymeriad hoffus a doniol. Dwi’n sicr y bydd croeso cynnes iddo gan ddarllenwyr CIP a phlant ifanc ledled Cymru, a dwi’n edrych ymlaen at gael yr ymateb.”
Ail-greu cloriau o 1979 ar gyfer cylchgrawn IAW
Bydd tri chlawr eiconig o 1979 o’r cylchgrawn ‘Mynd’, rhagflaenydd ‘Iaw’, cylchgrawn dysgwyr oedran uwchradd yr Urdd, yn cael eu hail-greu gyda sêr modern.
Bydd clawr gyda llun o Caryl Parry Jones yn cael ei ail-greu gyda’r gantores Miriam Isaac, merch Caryl, ar gyfer rhifyn mis Mehefin Iaw. Bydd cyfweliad gyda Miriam yn y rhifyn, yn ogystal â phytiau diddorol yn cymharu Cymru heddiw gyda Chymru’r 1970au.
Yn rhifyn mis Medi Iaw bydd clawr newydd gyda’r seiclwr Geraint Thomas yn adlais o glawr o 1979 gyda’r chwaraewr rygbi John Toshack.
Bydd llun o’r cerddor Griff Lynch, cyflwynydd rhaglen Ochr 1 S4C ac aelod o grŵp Yr Ods, ar glawr rhifyn mis Hydref Iaw yn dwyn i gof clawr tebyg gyda’r cerddor Geraint Griffiths o 1979.
Bydd elfennau dyluniad ‘Mynd’ – delweddau du a gwyn gydag ymyl coch - hefyd yn cael eu hailgynhyrchu ar y cloriau newydd.
Meddai Llio Maddocks, golygydd cylchgronau’r Urdd: “Mae’n ddiddorol iawn gweld y cloriau hyn o’r 1970au, sy’n nodweddiadol iawn o steil a ffasiwn y cyfnod. Bydd ail-greu’r cloriau yn ffordd gyffrous o gyflwyno sêr y Gymru fodern i’n darllenwyr.”
Mae cân Pen Gwyn, ryddhawyd yn wreiddiol ar label Sain yn 1979, ar gael i’w lawrlwytho am 99c o wefan Sain neu iPlayer.

Pen Gwyn


Pen gwyn 1
Pen gwyn 2
Pen gwyn 3





DAU GWMNI THEATR CENEDLAETHOL CYMRU AC S4C YN DOD AT EI GILYDD I NODI 150 O FLYNYDDOEDD ERS SEFYDLU’R WLADFA YM MHATAGONIA (22-05-2015)

, CYNHYRCHIAD AML-BLATFFORM WEDI EI GREU GAN YR ARTIST MARC REES, YN CAEL EI LWYFANNU YN STORFA’R TŶ OPERA BRENHINOL YN ABERDÂR,
MEHEFIN-GORFFENNAF 2015


Bydd dau gwmni theatr cenedlaethol Cymru yn dod at ei gilydd am y tro cyntaf, gydag un o’n prif artisiaid theatr, Marc Rees, i adrodd stori wir, arwrol, llawn antur.

Yn 1865, fe ymadawodd 150 o ddynion, menywod a phlant â Chymru i chwilio am fywyd gwell ym Mhatagonia, De America. Bydd y cynhyrchiad aml-blatfform hwn – a berfformir yn Gymraeg, Saesneg a Sbaeneg, ac sy’n cynnwys digwyddiadau byw a ffilm – yn adrodd hanes rhai o uchafbwyntiau eu taith anhygoel, ac yn mynd ar drywydd eu disgynyddion yn Y Wladfa heddiw.

Bydd yn cael ei lwyfannu yn Storfa’r Tŷ Opera Brenhinol ger Aberdâr, adeilad enfawr nad yw fel arfer ar agor i’r cyhoedd. Bydd y perfformwyr yn cynnwys: Gareth Aled, Rosalind Brooks, Dafydd Emyr, Angharad Harop, Eddie Ladd, Beth Powlesland, Caroline Sabin a Lara Ward, yn ogystal â pherfformwyr gwâdd Billy Hughes a Fernando Williams o’r Ariannin.

Wedi’i integreiddio yn y perfformiad byw bydd darnau o ffilm sydd wedi’i chomisiynu’n arbennig gan S4C, ac wedi ei hysgrifennu gan Roger Williams a’i chyfarwyddo gan Lee Haven Jones. Mi gaiff y ffilm, sydd wedi’i chynhyrchu gan Joio, ei darlledu’n llawn ar S4C ar ddiwedd mis Gorffennaf 2015.

Mae Marc Rees yn artist amlgyfrwng creadigol ac mae wedi gwneud enw i’w hunan trwy greu prosiectau sydd yn gwthio ffiniau, yn torri tir newydd yn procio’r dychymyg. Adain Avion oedd prosiect mwyaf uchelgeisiol Rees hyd yma, ac fe gafodd ei ddewis fel y prosiect oedd yn cynrychioli Cymru yn Olympiad Celfyddydol Llundain 2012 a Gŵyl Llundain 2012. Tir Sir Gâr, ei gynhyrchiad gyda’r awdur Roger Williams ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru oedd y cynhyrchiad a dderbyniodd y mwyaf o enwebiadau yng Ngwobrau Beirniaid Theatr Cymru 2014, gyda phump enwebiad. Yn 2014, fe ail-ddychmygoedd fyd Under Milk Wood, Raw Material: Llareggub Revisited ar gyfer NTW a BBC Cymru oedd yn dod â thref Talacharn ynghyd yn rhan o’r Ŵyl DT 100. Mae hefyd yn creu a churadu LLAWN (Penwythnos Celfyddydol Llandudno), gŵyl blynyddol sydd yn dathlu etifeddiaeth y dref Fictorianaidd ger y môr.
http://marcrees.com/

Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn creu naratif cenedlaethol sy’n cynrychioli diwylliant deinamig Cymru, a hynny trwy greu theatr arloesol a chynyrchiadau uchelgeisiol trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru a thu hwnt – ar brif lwyfannau, mewn lleoliadau annisgwyl, ac yng nghalon ein cymunedau. Mae’r cwmni – a leolir yng Nghaerfyrddin – hefyd yn cynnig gweithdai a rhaglen gynhwysfawr o waith gyda chymunedau, ac yn darparu adnoddau ar gyfer y sector theatr yng Nghymru. www.theatr.cymru

Mae National Theatre Wales wedi bod yn creu cynhyrchiadau Saesneg eu hiaith mewn lleoliadau ar draws Cymru, y DU, yn rhyngwladol ac ar-lein ers Mawrth 2010. Mae’r cwmni yn gweithredu o leoliad bach yng nghanol dinas Caerdydd, ond maent hefyd yn gweithio dros y wlad i gyd, a thu hwnt, gan ddefnyddio tirwedd gyfoethog ac amrywiol Cymru, ei threfi a’i phentrefi, ei straeon anhygoel a’i thalent gyfoethog fel ysbrydoliaeth. Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn cefnogi National Theatre Wales. nationaltheatrewales.org

S4C yw'r unig sianel deledu Cymraeg yn y byd. Mae'r arlwy yn cynnig rhaglenni o feysydd amrywiol, gan gynnwys dramâu a dogfennau uchel ei bri. Drwy weithio mewn partneriaeth â’r diwydiannau creadigol yng Nghymru, mae S4C yn rhoi sylw i nifer eang o ddigwyddiadau diwylliannol gyda chynyrchiadau theatr a cherddoriaeth yn eu plith, yn ogystal â chyd-weithio er mwyn creu cynnwys gwreiddiol i'w ddarlledu ar y sianel.

mwy


Gemydd Cymreig blaenllaw yn cynhyrchu casgliad Dathlu Patagonia (21-05-2015)

Mari Thomas

Mari Thomas


Gemwaith MT yn cyflwyno: Casgliad y Mimosa

Mae’r gemydd Cymreig cyfoes Mari Thomas wedi cynhyrchu casgliad arbennig i ddathlu canmlwyddiant a hanner sefydlu’r Wladfa ym Mhatagonia.
Mae dau ddarn - cadwyn i’r gwddf a phin i’w roi ar labed, tei neu fel broetsh - a’u cynllun wedi ei ysbrydoli gan y Mimosa, y llong hwyliau a gludodd 153 o deithwyr o bob cwr o Gymru i’w bywyd newydd yn Nyffryn Camwy yn ne’r Ariannin. Mae’r darnau wedi eu cynhyrchu o arian soled gyda marc arian swyddogol Mari, y gwneuthurwr, arnynt. Cyfres gyfyngedig yw hon yn cael ei chynhyrchu ym mlwyddyn y dathlu yn unig a’r marc arian swyddogol yn dangos y flwyddyn 2015 ar bob darn. Pris y pin yw £150 a £290 yw pris y gadwyn wddf. Bydd cyfran o’r pris yn cael ei drosglwyddo i Gymdeithas Cymru-Ariannin ac i brosiectau ym Mhatagonia. Gall Mari gynhyrchu fersiwn arbennig o’r gemmwaith mewn aur pur os gwneir cais.
Mae’r darnau ar gael drwy wefan MT - http://www.marithomas.com/

Gemwaith MT


Cadwyn i'r gwddf (c)Mari Thomas
Pin (c)Mari Thomas




mwy


Dwy arddangosfa ar y Wladfa yn Aberystwyth (21-05-2015)

Cyflwyno Beibl

Cyflwyno Beibl


Mae Amgueddfa Ceredigion a'r Llyfrgell Genedlaethol wedi paratoi arddangosfeydd ar ddathlu 150 y Wladfa yn eu sefydliadau.

Hwylio tuag at fywyd gwell; arddangosfa i gofio’r daith arwrol a wnaethpwyd 150 mlynedd yn ôl gan yr allfudwyr cyntaf o Gymru i Batagonia, De America.
22 Mai tan 2 Awst, 2015

Bydd arddangosfa dros dro sy’n rhoi blas o fywyd ar y môr a thaith yr allfudwyr cyntaf o Gymru i Batagonia yn dechrau yn Amgueddfa Ceredigion ar 22 Mai.

Dyma Carrie Canham, curadur yn Amgueddfa Ceredigion, yn esbonio’r caledi oedd yn wynebu’r 153 o bobl a fu’n teithio am ddeufis ar fwrdd y cliper ‘Mimosa’: “Nid y Mimosa oedd y llong wreiddiol a gomisiynwyd i gludo’r teithwyr, ond yn hytrach cliper oedd hi a gafodd ei haddasu i fynd ar y daith ar fyr rybudd. Mae’n rhaid ei bod yn brofiad anodd iawn i bawb.”

Yn ôl y manylion sydd ar gael am y daith, bu’n rhaid i’r teithwyr aros am fis cyn mynd ar fwrdd y llong. Meddai Carrie: “Unwaith roeddent ar y llong, roedd yn rhaid iddynt aros i’r tywydd wella. Fe fuon nhw yno am rai diwrnodau, dim ond yn aros i’r gwynt lenwi’r hwyliau.”

O’r diwedd, am bedwar o’r gloch y prynhawn ar 28 Mai, 1865, cododd yr angor a chychwynnodd y 'Mimosa' ar ei thaith i Batagonia.

‘codwyd yr angor a daeth yn bryd inni ffarwelio â gwlad ein mebyd.’ Thomas Jones, Glan Camwy

Roedd y teithwyr yn dod o bob cwr o Gymru, a rhai ohonynt o ardal Aberystwyth. Cawsant ddechrau cyffrous i’r daith – daeth gwyntoedd cryfion a thonnau mawr i chwipio’r llong yn fuan wedi iddi hwylio o Afon Merswy.

Bydd yr arddangosfa yn yr amgueddfa’n cynnwys eitemau sydd a wnelont â bywyd yn y cyfnod hwnnw. Wrth sôn am brif themâu’r arddangosfa, dywed Carrie: “Mae gennym ni eitemau yn ein casgliadau sy’n debyg i’r rhai y byddai’r bobl yma wedi mynd gyda hwy. Mae gennym lythyrau a dogfennau sy’n adrodd hanesion rhai o’r teithwyr, hefyd.”

Hwn oedd y tro cyntaf i rai o’r teithwyr fynd ar y môr, ac mae’n rhaid bod llawer ohonynt wedi cael trafferth mawr ymdopi â hynny. Roedd y tywydd wedi cadw’n weddol fwyn wrth iddynt groesi Môr Iwerydd, tan iddynt ddynesu at draethau Brasil, lle daeth storm arall i chwipio’r llong.

Mae’r amgueddfa’n trefnu amrywiaeth o weithgareddau morwrol yn yr wythnosau nesaf, felly holwch am fwy o wybodaeth am sut allwch chi gymryd rhan.

A’r gair olaf gan Carrie: “Ar 26 Gorffennaf 1865, ar ôl bron i ddeufis ar y môr, cyhoeddodd un o’r criw fod tir sych ar y gorwel. Hwyliodd y llong i’r Bae Newydd y noson honno, a’r bore trannoeth dringodd y teithwyr i fyny i fwrdd y llong i gael eu cipolwg cyntaf o dir sych. Aeth criw bach o ddynion i’r lan y noson honno, ond bu’n rhaid i weddill y teithwyr aros am ddiwrnod arall cyn cael cyfle i gamu ar dir Patagonia.”

Gallwch weld yr arddangosfa yn rhad ac am ddim ym mhrif awditoriwm Amgueddfa Ceredigion.
Cofiwch, bydd yr amgueddfa’n cynnal noswaith arbennig o ganu Siantis Môr ar 26 Mehefin am 7yh (£7.00/ £6.00).
​================================================================
Beibl o'r Mimosa ymhlith trysorau'r
Llyfrgell Genedlaethol ar Ŵyl Banc y Sulgwyn

Bydd Beibl Cymraeg a gludwyd ar y Mimosa gan y Cymry cyntaf hynny a deithiodd i Batagonia ym 1865 ymhlith y trysorau fydd i'w gweld yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth ar Ddydd Llun Gŵyl Banc y Sulgwyn, 25 Mai.

Mae'r Beibl ar fenthyg i’r Llyfrgell ar gyfer arddangosfa newydd o’r enw 'Gwladfa' sy'n agor ddydd Sadwrn, 23 Mai.

Mae 'Gwladfa' yn cofio 150 mlynedd ers sefydlu cymuned Gymraeg Patagonia. Mae'n dilyn hynt a helynt yr ymfudwyr cyntaf, o’u breuddwydion am fywyd gwell i’r glaniad ym Mhorth Madryn ar 26 Gorffennaf 1865 a sialensiau eu blynyddoedd cynnar ar y paith.

Mae’r arddangosfa yn cynnwys llawysgrifau a gwaith celf o gasgliadau’r Llyfrgell. Ar 19 Mehefin bydd cyfle i aelodau’r cyhoedd ddod â deunydd perthnasol am Batagonia i’r Llyfrgell er mwyn cael cryfhau’r wybodaeth am y Wladfa ar wefannau Wicipedia a Chasgliad y Werin Cymru.

Bydd Ystafell Ddarllen y Gogledd, Ystafell Ddarllen y De, y siop a'r Caffi Bach hefyd ar agor i'r cyhoedd ar ddydd Llun 25 Mai. Bydd y Llyfrgell ar agor rhwng 9.30am-5.00pm.

Meddai Dr Aled Gruffydd Jones, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

"Mae hanes yr antur fawr i Batagonia yn un sydd wedi cydio yn nychymyg y Cymry erioed, a bydd ‘Gwladfa’ yn dod â’r hanes hynny’n fyw trwy gyfrwng dyddiaduron, lluniau, llythyrau a mwy.
“Mae Gwladfa yn un o nifer o arddangosfeydd difyr sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd yn y Llyfrgell. Yn sicr mae rhywbeth at ddant pawb, ac edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr dros Ŵyl Banc y Sulgwyn. "

Arddangosfa LLGC


Map o'r Wladfa
Tocyn Mimosa






MORDAITH Y MIMOSA YN YSBRYDOLI NEGES HEDDWCH AC EWYLLYS DA YR URDD 2015 (19-05-2015)

Neges Heddwch ac Ewyllys Da Cwm Rhymni 2015

Neges Heddwch ac Ewyllys Da Cwm Rhymni 2015


Mordaith y Mimosa, y llong a aeth â’r Cymry cyntaf i Batagonia i sefydlu gwladfa newydd 150 o flynyddoedd yn ôl, sydd wedi ysbrydoli Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd yn 2015.

Cafodd y neges ei chyflwyno gan grŵp o ddisgyblion o Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn Llancaiach Fawr, Nelson, am 11.00am ar ddydd Llun 18 Mai, Dydd Ewyllys Da ac union wythnos cyn i Eisteddfod yr Urdd gael ei chynnal ar y safle.

Mae’r Neges Heddwch ac Ewyllys Da, a anfonwyd am y tro cyntaf ym 1922 gan y Parchedig Gwilym Davies o Gwm Rhymni, yn draddodiad blynyddol sy’n ysgogi ac yn ysbrydoli gweithgarwch dyngarol.

Eleni, mae’r neges yn disgrifio teimladau a gobeithion y Cymry ar ddec y Mimosa wrth iddynt adael “hen fyd blinedig” a theithio tua’r gorwel gan ddychmygu “Cymru newydd yn ein pennau, i’w hadeiladu’n well yfory.”
Criw o ddisgyblion Blwyddyn 7-10 Ysgol Gyfun Cwm Rhymni sydd wedi llunio’r neges, gyda chefnogaeth Bardd Plant Cymru, Aneirin Karadog, Morgan Roberts, Swyddog Ieuenctid yr Urdd Caerffili a Bethan Jones, Swyddog Prosiect Llais Menter Iaith Caerffili.

Bydd y criw yn perfformio’r neges i gyfeiliant trefniant arbennig o’r alaw ‘Ar Lan y Môr’, wedi’i baratoi gan y cerddor a’r cyfansoddwr Jeffrey Howard a’i berfformio ar y delyn.
Mae’r neges wedi’i chyfieithu i 29 o ieithoedd, gan gynnwys Saesneg, Sbaeneg, Swahili a Chatalaneg. Bydd hefyd yn cael ei pherfformio yn y Senedd, Bae Caerdydd am 12.45pm ddydd Mercher 20 Mai, dan nawdd Aelod Cynulliad Caerffili, Jeff Cuthbert, ac ar lwyfan yr Eisteddfod ei hun ar 27 Mai.

Bydd BBC Radio Cymru yn darlledu’r neges yn ystod rhaglen Shân Cothi, ‘Bore Cothi’, 10.00am-12.00pm ar fore Llun, 18 Mai. Bydd y neges hefyd ar gael i’w darllen a’i gwylio ar wefan yr Urdd, urdd.cymru/cy/dyngarol/peace-goodwill

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd:
“Mae’r Neges Heddwch ac Ewyllys Da yn un o draddodiadau pwysica’r Urdd, sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc Cymru estyn dwylo i bobl ifanc ym mhedwar ban byd gyda neges yn llawn gobaith a chyfeillgarwch.

“Mae thema’r neges eleni, ymfudo, ac yn benodol yr ymfudo i Batagonia, yn un oesol ac amserol, gyda chymaint o bobl ledled y byd yn fodlon wynebu peryglon lu wrth geisio bywyd gwell.
“Wrth i ni ddarparu cyfleoedd i’n pobl ifanc ddysgu a chymdeithasu yng nghwmni ei gilydd, yng Nghymru ac yn rhyngwladol, mae cyfeillgarwch a pharchu ein gilydd a phobl ar draws y byd ymhlith conglfeini gwaith yr Urdd.”
mwy


Gwerthu copїau o lun y Mimosa er budd i'r Wladfa (09-04-2015)

Oriel yn Llandeilo yn gwerthu printiau o'r Mimosa

I ddathlu 150 mlynedd ers i’r Mimosa gyrraedd Patagonia, bydd Oriel Mimosa yn cynhyrchu a gwerthu 150 print o’r darlun, pob un ar bapur o’r ansawdd gorau, wedi eu rhifo a gyda thystysgrif ddilysrwydd. Bydd cyfran o’r arian yma yn mynd i Gymdeithas Cymru-Ariannin ac i brosiectau yn y Wladfa
mwy


Enillwyr Clwb Cyfeillion Mawrth (25-03-2015)

Tynnwyd rhifau buddugol ym mhwyllgor Mawrth - ohiriwyd o Chwefror.

Dyma enillwyr Mawrth 2015 Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin. Tynnwyd y rhifau buddugol ar 21 Mawrth.

£60 Rhif 101 Geraint Rowlands, Llanelltud
£50 Rhif 386 Gwyn Parry Williams, Chwilog
£40 Rhif 163 Helen Prosser, Tonyrefail
£30 Rhif 160 Gwilym Roberts, Caerdydd
£25 Rhif 34 Tegid Roberts, Llanrug
£20 Rhif 309 Iorwerth Gruffudd Jones, Abermaw
£10 Rhif 164 Arwyn Owen, Nant Gwynant



Dosbarthu'r Testament Newydd (23-03-2015)




Cafodd dosbarth Cymraeg Arddegau Camwy bnawn prysur ddydd Iau 19eg o Fawrth, gan iddynt ymweld a gwestai lleol yn y Gaiman i ddosbarthu Testament Newydd ddwyieithog, Cymraeg - Sbaeneg. Mae'r gyfrol sydd yn cynnwys y Salmau a'r Diarhebion wedi cael ei gyhoeddi gan y Feibl Gymdeithas, er cof am Mair Davies a fu yn cenhadu yn y Wladfa am amser math.

Trefnwyd yr ymgyrch gan Undeb Eglwysi Rhyddion y Wladfa a Menter Patagonia, gyda chymorth Pwyllgor Dathlu y Canmlwyddiant a Hanner.

Mae Testament Newydd wedi cael ei osod ym mhob bwrdd nos yn yr ystafelloedd yn y gwestai. Cafwyd croeso cynnes gan y perchnogion. Rydym yn gobeithio ymweld a gweddill y gwestai yr wythnos nesa.




Cystadlu dros Skype o Batagonia (10-03-2015)

Guillermo

Guillermo


Eleni bydd dau o Archentwyr ifanc o Batagonia, Guillermo Javier Thomas a Florencia Giselle Zamareno, yn cystadlu yn Eisteddfod ranbarthol yr Urdd tu allan i Gymru dros Skype. Bydd yr Eisteddfod tu

Dyma fydd y tro cyntaf i Guillermo, sydd yn wreiddiol o’r Gaiman, gystadlu yn yr Eisteddfod ac fe fydd yn teithio i Gymru erbyn Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r Cylch, boed yn ennill yn yr Eisteddfod ranbarthol a’i peidio, gan aros am dair wythnos. Dywedodd,

“Dwi’n meddwl ei bod yn ddiddorol sut yr ydym yn defnyddio y rhwydweithiau cymdeithasol i fyrhau pellteroedd – ac yn yr achos yma, rhoi cyfle i mi gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd.

“Rwyf ychydig bach yn nerfus o ran sut fydd y dechnoleg yn gweithio – ac os y gall y beirniaid wir werthfawrogi y perfformiad yn defnyddio camera a microffon ar gyfrifiadur. Mi fyddaf yn canu ac yn adrodd yn fy fflat yn La Plata, Buenos Aires ble rydw i yn mynd i’r Brifysgol, yn gwybod efallai y bydd y cymdogion yn gallu fy nghlywed a ddim yn deall unrhyw beth!”

Bydd cyflwynwraig The One Show, Alex Jones, yn agor yr Eisteddfod yn swyddogol gyda Gillian Elisa Thomas, sydd bellach yn actio cymeriad ‘Grandma’ yn sioe gerdd Billy Elliott, yn beirniadu. Bydd tua 100 yn cystadlu yn Llundain, gan gynnwys aelodau’r Urdd o Ysgol Gymraeg Llundain, Aelwyd Llundain ac aelodau unigol o bob rhan o Brydain.

Bydd Florencia Giselle Zamareno o’r Gaiman yn cystadlu ar yr unawd offerynnol 19 – 25 oed gyda’r gitâr a Guillermo yn cystadlu ar yr alaw werin unigol a’r llefaru unigol, y ddwy gystadleuaeth 19 – 25 oed.

Yn y gorffennol mae plant a phobl ifanc wedi cystadlu dros Skype o Bahrain a Singapore, ond dyma’r tro cyntaf i gyswllt gael ei wneud gyda’r Wladfa. Dywedodd Leah Owen-Griffiths, trefnydd yr Eisteddfod tu allan i Gymru, “Rydym yn gyffrous iawn fod gennym ddau eleni yn cystadlu dros Skype o’r Wladfa – mae’n braf fod y dechnoleg gennym bellach fel bod aelodau o bob cornel o’r byd yn gallu cystadlu yn yr Eisteddfod. Mae hefyd yn wych fod y gyflwynwraig boblogaidd Alex Jones wedi cytuno i agor yr Eisteddfod i ni – mae Alex wastad wedi bod ac yn dal i fod yn gefnogol iawn i’r Urdd a’n bod wedi cael rhywun o safon Gillian Elisa i feirniadu.

“Mi fydd gennym ni eleni hefyd stondinau Cymreig yn y festri, gan gynnwys Cylch Ti a Fy Llundain, Cariad Welsh Cakes a stondin gyda nwyddau’r Urdd.”
mwy


Bu Matthew Thistlewood , Rheolwr Cerdd Ieuenctid, Ty Cerdd ar ymweliad a'r Ariannin (26-02-2015)

Darllenwch am ei ymweliad yma


mwy


Gwerthu hetiau i godi arian i noddi myfyrwyr o'r Wladfa (23-02-2015)

Fel Swyddog Datblygu’r Gymraeg yn Nyffryn Camwy y llynedd ac eleni yn dychwelyd i’r Andes
teimlai Eluned Jones fod gwir angen cefnogi pump o ieuenctid o’r Wladfa sydd wedi cael eu dewis i gymry


"Deallais fod yn rhaid i’r ieuenctid o Gymru sy’n cymryd rhan godi o gwmpas £2900 o bunnoedd yr un. O glywed hyn meddyliais am ffordd efallai i gynorthwyo costiau ieuenctid y Wladfa i’w galluogi i gymryd rhan llawn yn y prosiect. Yn amlwg nid yw codi arian o’r fath yn hawdd yma ym Mhatagonia oherwydd yr economi.
Cefais ymateb syfrdanol gan gyfeillion, busnesau,cymdeithasau ac ysgolion ym mro’r Preseli a gogledd Penfro ac o ardal gyfagos Aberteifi a de Ceredigion pan ofynnais iddynt gefnogi’r ymgyrch. Bu Siop Awen Teifi yn hael ofnadwy pan archebais 100 o hetiau Cymreig. Diolchaf yn fawr i Geraint am werthu’r hetiau am bris prynu i mewn yn ogystal a noddi.
Deallais tra’n ymweld y llynedd a Threvelin y buasai’r Ysgolion yn falch iawn i gael hetiau uchel Cymreig ar gyfer y dathliadau cyson. Gwerthwyd yr hetiau am £10 yr un a thrwy hynny gwneud elw o £900 tuag at y gronfa a thrwy hynny hefyd sicrhau fod gan blant Ysgol Gymraeg yr Andes yn Nhrevelin ac Esquel, Ysgolion y Dyffryn sef Ysgol yr Hendre Trelew ac Ysgol Gymraeg y Gaiman
bump ar hugain o hetiau yr un yn eu meddiant erbyn Mis Mawrth.
Diolchaf yn arbennig felly i’r busnesau, ysgolion a’r unigolion canlynol am noddi. Siop Awen Teifi,
E.L Jones yr Argraffwyr Aberteifi, Olew Trefigin Cware, Siop Sglodion a Bwydydd Glandy Cross, Dylan Thomas Crane Hire Boncath, Midway Motors Crymych, John Harries
Trydanwyr Maenclochog/Aberteifi. Ysgolion lleol - Ysgol Gynradd Aberteifi, Ysgol y Frenni Crymych ac Ysgol Brynconin Llandysilio. Clybiau Criced a Rygbi Crymych. Unigolion a chysylltiadau personol megis Richard Jones Aberporth, Eirwyn a Bessie Harries Brynawelon, Marina Jones Cefn Sidan a’r Parch Eirian Wyn Lewis Brynhyfryd.
Rhaid peidio anghofio am bawb a fu mor garedig i gludo’r hetiau allan i’r Wladfa.
Bu’r daith yn faith i’r hetiau. Cludwyd chwe deg ohonynt i Ruthin gan Rhian Clwyd Blaenffos a’u trosglwyddo i Pedr Wynn a’u gyfeillion o Glwyd sy’n teithio allan i’r Wladfa ddechrau Mawrth.
Yna tair ar ddeg gan Delyth ac Elvey Mac Donald Llanrhystud sy’n teithio ddiwedd Chwefror.
Dwsin arall gan Sion a Rebeca o’r Gaiman a fu ar eu gwyliau yng Nghymru, a minnau’n cludo’r gweddill.
Hoffwn ddiolch hefyd i Ceris Gruffudd unwaith yn rhagor am ei gymorth i wneud y trefniadau gyda chyfeillion Clwyd.
Banciwyd cyfanswm o naw can punt yng nghyfrif Urdd Gobaith Cymru - Taith Patagonia yr wythnos diwethaf. Dymunaf i’r arian hwn i fynd yn uniongyrchol i gefnogi’r pump o’r Wladfa sy’n cymryd rhan yn y perfformiad.

Diolch i bawb am gefnogi"
Euned Jones
Swyddog Datblygu’r Gymraeg / Menter yr Andes 2015.

Gweler lluniau plant yr Ysgolion yn gwisgo’r hetiau a nifer o’r hetiau wedi eu pacio yn y bagiau ar gyfer y daith,
O’r Chwith - Ysgol Brynconin ac Ysgol y Frenni yn sefyll o flaen bws Midway Motors.

Plant Cymru gyda'r hetiau


Ysgol Bryncconin
Ysgol y Frenni






Cyfrol Sbaeneg yn dathlu bywyd a gwaith cenhades Gymraeg (17-02-2015)

Hasta

Hasta


Cyhoeddi fersiwn Sbaeneg o Hyd eithaf y ddaear.

Llawenydd i’r rhai sy’n cofio bywyd a gwaith Mair Davies (1935-2009), a wasanaethodd fel cenhades Gristnogol yn y Wladfa am 45 o flynyddoedd, yw gweld cyfieithiad o’r gyfrol Hyd eithaf y ddaear (Gwasg y Bwthyn, 2010) yn ymddangos yn Sbaeneg dan y teitl Hasta el confín de la tierra. Golygwyd y gyfrol Gymraeg gan Gwen Emyr, a’r awdur adnabyddus Elvey MacDonald a ymgymerodd â’r gwaith o gyfieithu’r gyfrol i’r Sbaeneg, a hynny mewn pryd ar gyfer dathlu eleni 150 o flynyddoedd ers sefydlu'r Wladfa ym Mhatagonia. Cynorthwywyd yn y gwaith o olygu’r gyfrol Sbaeneg gan Dr Phil Ellis, Alicia Picón de Arthur ac Edith MacDonald. Y Parch. Carwyn Arthur, sy’n gweinidogaethu erbyn hyn yn Nhregaron a’r cylch, a lywiodd y gyfrol drwy’r wasg. Ymhlith y lluniau niferus ceir un o’r Arglwydd Dafydd Wigley ar ei ymweliad â’r Wladfa yn 1965 adeg dathlu’r canmlwyddiant. Mae’r gyfrol yn cynnwys atgofion y genhades a theyrngedau iddi gan nifer o bobl y Wladfa a werthfawrogai ei gwaith yn eu plith. Ymddangosodd cyfieithiad Saesneg o’r gyfrol yn 2012 dan y teitl To the ends of the earth, a Gwasg y Bwthyn, Caernarfon, a sicrhaodd fod y gyfrol ar gael bellach mewn tair iaith. Siop Lyfrau GristnogolTrelew sy'n cyhoeddi, Gwasg y Bwthyn oedd yn cysodi, a gwasg o'r Ariannin yn argraffu.
Pris y gyfrol yw 130 Pesos argentinos ac mae ar gael yn y siop Lyfrau Gristnogol yn Nhrelew - cyfeiriad:

Libreria Cristiana San David,
9 de Julio 554,
9100 Trelew



Cyfle i fynd ar daith i'r Wladfa a chefnogi y Cynllun Dysgu Cymraeg (09-02-2015)

Taith y Dathlu

Taith y Dathlu


Hoffet ti ymweld â’r Wladfa? Ai eleni yw y cyfle i wireddu breuddwyd?
Mae cyfle i fynd ar daith i Batagonia yng nghwmni awdurdod ar y maes a thrwy hynny gyfrannu at y Cynllun Dysgu Cymraeg


Y Tywysydd
Ganwyd a magwyd Elvey MacDonald yn y Wladfa a bu’n byw yna hyd 1965 pan ddaeth i Gymru. Mae yn awdurdod ar hanes y Wladfa ac yn awdur llyfrau Yr hirdaith (Gomer, 1999) sy'n adrodd hanes sefydlu'r Wladfa gan ganolbwyntio ar fywyd un o'i phrif sylfaenwyr, Edwin Cynrig Roberts – ei hen daid ; ei hunangofiant Llwch ( Y Lolfa, 2009) a golygydd ar gais y Llyfrgell Genedlaethol Dyddiadur Mimosa (Gwasg Carreg Gwalch, ) - dyddiadur y gwladfawr ifanc o Abergele, Joseph Seth Jones. Y llynedd golygodd a chyfrannodd i Cymdeithas Cymru-Ariannin 1939-2014 (Cymdeithas Cymru-Ariannin, 2014)

Taith y Dathlu: 29 Hydref-12 Tachwedd 2015

Wedi cychwyn nos Iau 29 Hydref 2015, byddwch yn treulio diwrnodau yn Buenos Aires, Esquel a Chwm Hyfryd, cyn mynd ymlaen i’r Gaiman, Trelew, Dolavon, Rawson a Thir Halen, yn Dyffryn Camwy a Phorth Madryn. Dyna esgyrn y daith - ond mae llawer mwy na hynny iddi. Rydym yn cynnig cyfle i edmygu rhai o olygfeydd trawiadol De’r Amerig ac i ymweld â’r mannau sy’n perthyn i hanes cyffrous y gwladfawyr, yn ogystal â chyfarfod â nifer o’u disgynyddion. Hefyd, cawn fwynhau enghreifftiau o rai o ffrydiau diwylliannol y wlad, megis swyn ei dawnsio gwerin neu osgeiddrwydd y tango dinesig (ac ymarfer y tango mewn dosbarth difyr a hwyliog, os ydych yn dymuno hynny!). Ond, wrth gwrs, mae llawer mwy na tango i’w fwynhau yn yr Ariannin, ac yn enwedig yn y Wladfa. Gwnawn bob ymdrech hefyd i fod yn hyblyg er mwyn cynnig y cyfle gorau i chi fwynhau rhai o'r digwyddiadau a gynhelir i ddathlu 150 mlwyddiant y Wladfa, ac mae'n bosib y bydd angen i ni addasu amserlen ein taith i wneud hynny. Gall trefn y digwyddiadau newid yn unol ag amgylchiadau lleol. Trosglwyddir elw’r daith i Gymdeithas Cymru-Ariannin, fydd yn ei ddefnyddio i hyrwyddo Cynllun yr Iaith Gymraeg yn Chubut*.

Mae’r prisiau yn cynnwys cludiant; llety; mynediad i bob atyniad; pob pryd bwyd sydd wedi’i nodi mewn coch (gweler y manylion llawn yn y rhaglen sydd ar gael o’r cyfeiriad isod); Tystiolaeth sawl teithiwr yw: “Dyma wyliau gorau mywyd!”.

Yn ôl Dafydd Wigley: "Dwi'n edrych mlaen yn arw at fynd eto i'r Wladfa yng nghwmni Elvey: mae o'n nabod y wlad ei phobl a'u hanes ac o fod wedi byw dros hanner ei oes yng Nghymru, mae o hefyd yn gwybod am yr agweddau sydd o ddiddordeb mwyaf i ymwelwyr â Phatagonia. Yn sicr ddigon, fe ddysgaf llawer mwy wrth fynd gydag ef eleni."

Am fwy o wybodaeth, anfonwch at:
Elvey MacDonald, Haulfan, Maes Carrog, Llanrhystud, Ceredigion. SY23 5AL
01974 202052 ElveyMac@aol.com

Detholiad o’n haddewidion ni i chi:
01) Mae ein prisiau yn holl gynhwysfawr (a does dim angen i chi boeni am unrhyw sioc yn y print mân);
02) Awn â chi i fannau hanesyddol a hudolus nad oes neb arall yn eu dangos, ac yn esbonio’u perthnasedd i hanes y Wladfa;
03) Wedi cyrraedd Patagonia, byddwch yng nghwmni siaradwyr Cymraeg gydol Taith y Dathlu nes gadael y Wladfa;
04) Ni yw’r unig drefnwyr sy’n cefnogi Eisteddfod y Wladfa yn ddi-dor er 1996;
05) Rydym o hyd ar gael i ateb unrhyw gwestiwn ac i fod o gymorth i chi gydol y daith;

*Cynllun yr Iaith Gymraeg yn Chubut: sefydlwyd yn 1997 i hyrwyddo’r gwaith o ddysgu Cymraeg yn y dalaith. Fe’i noddir gan Lywodraeth Cymru, ac fe’i gweinyddir gan Swyddfa Cymru y Cyngor Prydeinig, gyda chefnogaeth Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd; Cronfa Mari a Pryderi a Chymdeithas Cymru-Ariannin. Gwelir adroddiad diweddaraf y Cynllun yma http://www.cymru-ariannin.com/uploads/adroddiad_2014.pdf.








Cyfrol anhepgor am y Cymry ym Mhatagonia—yn rhad ac am ddim! (09-02-2015)

Eirionedd Baskerville

Eirionedd Baskerville


Yn 1865 hwyliodd ychydig dros 150 o Gymry o Lerpwl gyda’r bwriad o sefydlu Cymru newydd radical a Chymraeg ym Mhatagonia. Yr oedd yn ddechrau ar antur a fyddai’n ddylanwadol yn hanes Cymru ac Ar

Er na ddatblygodd y Wladfa yn union ar hyd y llinellau yr oedd yr arloeswyr cynnar wedi gobeithio, y mae’r diwylliant Cymreig yn dal yn elfen bwysig yn hunaniaeth Chubut. Y mae’r Gymraeg yn parhau yn iaith fyw yno. Gall fod cynifer â 5,000 o bobl Patagonia yn siarad Cymraeg heddiw; ond yr hyn sy’n fwy rhyfeddol byth yw bod y blynyddoedd diwethaf wedi gweld adfywiad syfrdanol yn y diddordeb yno mewn pethau Cymreig, gyda llawer yn mynychu dosbarthiadau dysgu Cymraeg a rhai ysgolion bellach yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â’r Sbaeneg. Ar ben hynny, y mae ysbryd arloesol, aberth a delfrydau’r Gwladfawyr cynnar yn parhau i ysbrydoli heddiw, nid yn unig yng Nghymru ac Ariannin ond ymhell y tu hwnt i’w ffiniau.

Fel rhan o ddathliadau 150 mlwyddiant sefydlu’r Wladfa Gymreig yn Chubut, y mae Cymdeithas Cymru-Ariannin wedi cyhoeddi Cydymaith i’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia gan Eirionedd A. Baskerville. Y mae ar ffurf geiriadur bywgraffyddol ac yn cynnwys erthyglau am dros ddeugain o arloeswyr cynnar y Wladfa a’u disgynyddion. Cyhoeddiad electronig ydyw ac y mae ar gael i’r cyhoedd yn rhad ac am ddim ar wefan Cymdeithas Cymru-Ariannin:

Y bwriad yw ychwanegu cofnodion pellach o bryd i’w gilydd ar unigolion, sefydliadau a phynciau amrywiol yn ymwneud â’r Wladfa. Am fod y Cydymaith yn gyhoeddiad electronig, bydd modd hefyd ddiwygio’r cofnodion presennol yn ôl y galw. Dylid anfon awgrymiadau am ychwanegiadau a chywiriadau at yr awdur i’r cyfeiriad ebost hwn: nonbaskerville@btinternet.com

Mae Eirionedd A. Baskerville yn gyn-aelod o staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn Ysgrifennydd Cymdeithas Hanes Ceredigion. Y mae’n arbenigo ar hanes teuluoedd ac yn un o’n prif arbenigwyr ar hanes teuluoedd y Wladfa..

Mae’r Cydymaith hwn yn fwynglawdd o wybodaeth am bob agwedd ar y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia ac yn gyfeirlyfr anhepgor i bawb sy’n ymddiddori yn y bennod nodedig hon yn hanes Cymru ac Ariannin.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r awdur, Eirionedd Baskerville (nonbaskerville@btinternet.com) neu ag Ysgrifennydd Cymdeithas Cymru-Ariannin, Ceris Gruffudd (Rhoshelyg@btinternet.com).

mwy


Arweinydd Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (03-02-2015)

Nia Lloyd Jones

Nia Lloyd Jones


Oherwydd amodau personol, mae John S Davies wedi tynnu’n ôl rhag arwain Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru eleni yn Eglwys Gadeiriol Llandaf yng Ngorffennaf ac ar daith y Côr i Buenos Aires a Thala

Ond mae Tŷ Cerdd wrth ei bodd i ddatgelu y bydd Nia Llewelyn Jones o staff cerddorol Eglwys Gadeiriol Caerloyw wedi derbyn ein gwahoddiad i arwain Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn ystod y flwyddyn bwysig yma. Mae Nia yn gynorthwywraig i Gyfarwyddwr Cerdd y Gadeirlan, Adrian Partington, ac yn arweinydd ar Gôr Ieuenctid y Gadeirlan. Mae Nia hefyd yn Arweinydd Datblygu Canu yn yr Eglwys Gadeiriol â chyfrifoldeb arbennig am y cantorion ifanc.

Dywedodd Cyfarwyddwr Tŷ Cerdd, Gwyn L Williams:

‘Rydym wrth reswm wedi tristau ag ymadawiad John S Davies yn arweinydd Côr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru. Ond mae hwn yn cyflwyno cyfle i’n cantorion ifanc i elwa o egni a brwdfrydedd y cerddor talentog ifanc Nia Llewelyn Jones sydd eisoes wedi profi ei gwerth o fewn cymuned gorawl y DU. Mae ei gwaith rhagorol gyda staff cerddorol Cadeirlan Caerloyw wedi denu sylw i’w doniau ac mae Nia yn gweithio yn gyson gyda Simon Hasley â chorau sydd yn gysylltiedig â City of Birmingham Symphony Orchestra a’r London Symphony Orchestra. Mae Tŷ Cerdd yn gyffrous i’w chael wrth y llyw ar gyfer 2015.
mwy


‘A’i chi yw criw yr Urdd, yr holl ffordd o Gymru?’ (27-01-2015)

Profiadau Lleu Bleddyn o Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth, fu allan gyda thaith Urdd Gobaith Cymru yn Hydref 2014

‘A’i chi yw criw yr Urdd, yr holl ffordd o Gymru?’
Daeth llais henaidd o ddrws tŷ y digwyddom ei basio. Roedd hi’n gyfnod siesta felly roedd y strydoedd yn dawel iawn yn y Gaiman. Roedd hanner y criw hefyd wedi penderfynu manteisio ar y cwsg ychwanegol ganol dydd. Roedden ni, yr hanner arall, wedi penderfynu heicio fyny mynydd uwchlaw’r Gaiman yn yr haul tanboeth ganol dydd yng nghhwmni athrawon ‘Menter Patagonia’, Eluned Jones ac Iwan Madog.
Roedd pen dwy ddynes yn gwyro allan o ddrws eu cartref. Felly fe gymro ni hoe o’n siwrnai nôl i Ganolfan Arturo Roberts i sgwrsio â nhw yng nghysgod eu cartref. Mrs Owena Owen a Mrs Ethel Williams oedd ei henwau ac Ethel yn dathlu ei phen blwydd yn 90 yr wythnos ganlynol. Daeth deigryn i’w llygaid pan ddechreuom ganu Pen blwydd Llawen (Pen blwydd Hapus ym Mhatagonia) iddi yn ogystal ag ambell emyn Cymraeg.
Er i mi fod yn paratoi am flwyddyn gyfan yn hel arian, trwy redeg hanner marathon a chynnal amryw o ddigwyddiadau, ar y trydydd dydd yn y Wladfa y sylweddolais yn wir pa mor lwcus oeddwn i gael ymweld â’r wlad bell yma a finne mor ifanc. Doedd Owena nag Ethel erioed wedi bod yng Nghymru a’r ddwy yn medru siarad Cymraeg ac yn falch o’i thraddodiadau. Roedd teulu gan y ddwy yma yng Nghymru ond er bod eu chwiorydd nhw bellach wedi marw, doedd run o’r ddwy wedi bod yn eu priodasau na’u hangladdau. Ond eto roedd y ddwy mor ddiolchgar o gael siarad â ni yn y Gymraeg, a sôn am eu cysylltiadau.
Darlun bach iawn oedd hyn o ba mor groesawgar oedd pobl y Wladfa. Roedden nhw’n gwirioni wrth gael cyfle i siarad Cymraeg â ni. Tybiaf mai cwrdd â’r henoed oedd un o’r uchafbwyntiau i mi yn yr Wladfa - hyd yn oed yn fwy na dysgu sut i ddawnsio gwerin a’r Tango mewn twmpathau dawns.
Oherwydd roedd ein sgyrsiau, boed y ddwy ddynes yma, Eluned Gonzalez neu Elis Williams yn cynnig darlun clir o ba mor anodd oedd bywyd yn y wlad trydydd byd yma. Doedd statws y Gymraeg ddim gwell yno na beth ydy hi yma gyda’r Sbaeneg yn aml yn oruwch i’r Gymraeg yno. Yn wir roedd cenhedlaeth gyfan yno oedd heb allu fawr iawn o’r Gymraeg. Er i ni gwrdd ag amryw o bobl ifanc oedd a awydd am y Gymraeg yn y Gaiman a Threfelin, lleiafrif oedden nhw. Er roedd gwaith caled Menter Patagonia a’r Urdd yn amlwg wedi cael effaith, gyda’r plant yn gwirioni â ni wrth i ni ymweld ag ysgolion a chwrdd â phlant a bobl ifanc o bob oedran.
Wrth fynychu Steddfod y Wladfa yn nhalaith Chubut, daeth yn amlwg i mi bod bwriad gwreiddiol Michael D Jones wedi ei gwireddu, sef i greu cofnod o draddodiadau bydd yn para am byth. Am ddeuddydd roedd y Gymnasiwm yn llawn dop yn gwrando a chystadlu yn yr Eisteddfod. Roedd corau teulu, adrodd Cymraeg, Sbaeneg ac hefyd adrodd Gaucho. Roedd corau capel, alaw werin, dawnsio gwerin a chystadleuaeth y gadair yn boblogaidd dros ben.
Byddai’n anghywir i mi ddod nôl i Gymru a dweud bod pawb yn y Wladfa yn medru siarad Cymraeg. Ond yr hyn a ddaeth yn amlwg i mi yn yr Eisteddfod wrth wylio’r cystadlaethau yma ac hefyd tra’n canu Calon Lân yn y Gymraeg a’r Sbaeneg mewn gwasanaeth yng Nghapel Bethel yn Nhrefelin, oedd bod yna falchder yn eu cysylltiadau tu hwnt i Fôr yr Iwerydd ac fod eu traddodiadau Cymraeg nhw mor gryfed, os nad yn gryfach nag y mae nhw yma yng Nghymru.
Bu’r profiadau yn rai bythgofiadwy a hoffwn gymryd y cyfle yma i estyn diolch enfawr i bawb gyfranodd at fy nhaith. Diolch yn fawr iawn.
Lleu Bleddyn, Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth

Cyhoeddwyd ym mhapur bro Y Blewyn Glas, Rhagfyr 2014

Lleu yn y Wladfa


Lleu yn gwirfoddoli yng Ngholeg Camwy
Lleu a rhai o griw yr Urdd gyda Mrs Ethel Williams a Mrs Owena Owen






Enillydd Profiad Tom Gravell 2015 yn Llanymddyfri (18-01-2015)

j

j


Mae Jeremias Knobel o Esquel wedi cyrradd Llanymddyfri am dymor.




Gwyl Mimosa Cymdeithas Etifeddiaeth Cymry Glannau Mersi (16-01-2015)


APÊL GŴYL MIMOSA LERPWL Mai 29-31 2015





MIMOSA Y WLADFA
1865 2015
Bwriadwn fel Cymry Lerpwl trwy gyfrwng Cymdeithas Etifeddiaeth Cymry Glannau Mersi gynnal Gŵyl Mimosa fel rhan o ddathliadau pwysig a hynny o nos Wener Mai 29 i bnawn Sul, Mai 31, 2015. Gan fod y llong hwyliau Mimosa wedi gadael porthladd Lerpwl yn 1865 am Borth Madryn, bwriadwn fel Cymdeithas:

1. Gosod Cofeb sylweddol i gofio hynny mewn man cyfleus ar lan Afon Mersi. Cyst y Gofeb £5,000 i’w chynllunio a’i gosod yn ei lle ar gyfer y dadorchuddio mewn seremoni bwysig bnawn Sadwrn, Mai 30, 2015 am 3 o’r gloch y pnawn.

2. Trefnu rhaglen uchelgeisiol at y penwythnos: cyfarfodydd a chyflwyniad o ‘Ysbryd y Mimosa’ (o waith Tim Baker), a chroesawu Côr Ysgol Gymraeg Yr Hendre, Trelew, Y Wladfa, i’n plith i ganu.

Byddwn felly yn ddiochgar am roddion tuag at y gofeb a’r dathliadau, i’w anfon i’r Cadeirydd, Dr D Ben Rees, 32 Garth Drive, Allerton, Lerpwl/Liverpool, L18 6HW, erbyn Mai 28 2015.

Nodir eich cyfraniad yn y papur bro ac yn ‘Llawlyfr y Dathlu’. Dylid gwneud sieciau’n daladwy i ‘Gymdeithas Etifeddiaeth Cymry Glannau Mersi/Merseyside Welsh Heritage Society’. Mae angen oddeutu £8,000 arnom.

Yn ddiolchgar,
Dr D Ben Rees (Cadeirydd)
Ms Rachel Gooding (Trysorydd)
Dr Arthur Thomas (Ysgrifennydd)

mwy


Patagonia 2015 - Darganfod. Cyfrannu. Rhannu. (15-01-2015)

Mae Casgliad y Werin Cymru yn wefan arbennig ar gyfer hanes Cymru a'i phobl.

Yn ystod 2015 maent am gasglu eitemau sy'n berthnasol i Batagonia a'r dathliadau 150 mlynedd o ymsefydlu y Wladfa Gymraeg. Os oes gennych ddiddordeb neu os ydych yn adnabod rhywun a fyddai a diddordeb, gweler isod.

mwy


Patagonia’n Galw (13-01-2015)

Mynyddoedd yr Andes

Mynyddoedd yr Andes



Mae 17 o bobl ifanc o bob cwr o Gymru bellach wedi eu dewis ar gyfer y sioe ‘Mimosa’, sydd yn brosiect ar y cyd rhwng yr Urdd a Clwyd Theatr Cymru; Theatr ar Gyfer Pobl Ifanc. Byddant yn gwe


Bydd y cynhyrchiad yn dilyn hanes y Cymry cyntaf deithiodd i Batagonia i gychwyn bywyd newydd 150 o flynyddoedd yn ôl. Bydd yn cael ei lwyfannu am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau gyda’r criw yn teithio allan i Batagonia yr wythnos ganlynol i fynd a’r cynhyrchiad ar daith yn y Wladfa am bythefnos.

Tim Baker yw Cyfarwyddwr y cynhyrchiad a Dyfan Jones yw’r Cyfarwyddwr Cerdd. Bydd y cynhyrchiad yn cychwyn yn y Gwanwyn gyda’r pedwar actor proffesiynol yn unig, cyn i’r criw ifanc o Gymru a Phatagonia ymuno dros yr haf yn barod am y daith i’r Ariannin.

Cafodd y bobl ifanc gyfarfod ei gilydd am y tro cyntaf ddechrau Rhagfyr yn Clwyd Theatr Cymru gan gael cyfle i ddysgu dwy o’r caneuon fydd yn rhan o’r cynhyrchiad, dan arweiniad Dyfan Jones y Cyfarwyddwr Cerdd. Yn ôl Dyfan, “Mi ydym ni yn lwcus iawn gyda’r criw sydd gennym ni, maen nhw i gyd gyda’r goreuon. Mi oeddem wedi rhoi dipyn o amser iddyn nhw ddysgu dwy gân, ond mi oeddent wedi eu dysgu mewn dim. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr i weithio ymhellach gyda nhw.”

Gobaith Tim Baker, Cyfarwyddwr y cynhyrchiad, gafodd hefyd gyfle i gwrdd â’r criw yn Glwyd Theatr Cymru, yw y gall y bobl ifanc chwarae rhan ganolog wrth ddatblygu’r cynhyrchiad. Meddai “Dwi’n mawr obeithio y gall eu syniadau hwy fod yn rhan o’r peth hefyd – hynny ydy, mae tri chwarter y stori yn hanesyddol, ond mae yna gyfle o ran y diweddglo iddyn nhw gael rhoi eu stamp eu hunain. Gallwn hefyd wrth gwrs cael safbwynt y bobl ifanc o Batagonia o ran sut y dylai’r ddrama orffen gan gyd-ddyfeisio gyda’n gilydd.”

Yn ôl Sian Rogers, Cyfarwyddwr Ieuenctid a Chymuned yr Urdd, “Dwi’n edrych ymlaen i gydweithio gyda Tim Baker a chriw Clwyd Theatr Cymru ar y prosiect arloesol yma. Mae’r criw bellach wedi cyfarfod ei gilydd, ac mae’n braf fod gennym ystod oedran, yr ieuengaf yn 15 oed a’r hynaf yn 22. Mae cyfnod prysur o flaen y criw nawr yn codi arian cyn eu bod yn dod i wersyll preswyl yng Nglan-llyn ddiwedd Gorffennaf i ymarfer.”

Bydd y sioe i’w gweld yn Theatr y Maes Eisteddfod Genedlaethol Meifod a’r Gororau a hefyd mewn lleoliad yng Nghaerdydd.

Y bobl ifanc sydd wedi eu dewis yn rhan o Theatr Patagonia yw:-
Eryri
Steven Williams, Llanberis (18 oed) a Sion Elwyn Parry, Bethel (17 oed)
Steven Williams, “Mae hwn yn gyfle gwych – dwi’n astudio celfyddydau perfformio yng Ngholeg Menai ar hyn o bryd felly mae’r cyfle yma yn ddelfrydol – cael bod yn rhan o gynhyrchiad cenedlaethol a theithio i ochr arall y byd i berfformio.”

Môn
Carwyn Jones, Carreglefn (15 oed) + Gwion Morris Jones (15 oed) Brynteg – Ysgol Syr Thomas Jones
Carwyn Jones, “ Dyma’r tro cyntaf erioed i’r daith yma gael ei chynnig a dwi’n ei weld yn rhywbeth da i’w wneud at y dyfodol. Dwi’n edrych ymlaen yn ofnadwy”
Gwion Morris Jones, “Dwi’n meddwl y bydd yn brofiad da iawn ac mi ydw i yn edrych ymlaen i gyfarfod pobl newydd sydd efo’r un diddordebau â ni a chael mynd i Batagonia i gael gweld sut maen nhw yn byw yna.”

Dinbych
Ysgol Glan Clwyd - Elena Llinos Brown (16 oed)
Ysgol Brynhyfryd - Elan Meirion (15 oed), Gruffudd Ifan Mckee (15 oed), Steffan Wilson-Jones (17 oed) ac Alys Mari Winstanley (16 oed)
Gruffudd, “Mae hwn yn gyfle bythgofiadwy nad ydw i yn mynd i’w gael eto – mi oedd rhaid i mi ei gymryd achos dwi yn mwynhau canu ac actio yn fawr. Dwi hefyd yn edrych ymlaen at gael siarad Cymraeg gyda phobl ifanc yr un oed â ni ar ochr arall y byd.”
Elena, “Mae angen i ni godi £2,900 yr un i gael mynd ar y daith ac mae busnesau lleol wedi bod yn help mawr, a’r ysgolion cynradd ac uwchradd wedi fy helpu i godi arian. Mae’n broses hir a dwi ond newydd ddechrau ond mi ydym yn bwriadu cynnal taith gerdded i fyny’r Wyddfa, sesiwn pacio bagiau mewn archfarchnad ac mae gennym gyngerdd gyda Rhys Meirion a Robert Arwyn yng Nghapel y Tabernacl fis Ionawr.”

Meirionnydd / Maldwyn
Glain Rhys (16 oed) Ysgol y Berwyn + Harri Hughes (17 oed) Ysgol Bro Hyddgen
Glain, “Pan ges i’r e-bost yn dweud fy mod wedi fy newid i fod yn rhan o’r cast mi oeddwn i yn hapus iawn. Mae gennym dipyn o waith casglu arian ac un digwyddiad sydd gennym ar y gweill ydy noson Westend pan fydd criw lleol yn cynnal noson yn canu caneuon allan o sioeau cerdd adnabyddus. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at y cyfle.”

Conwy / Fflint
Rebecca Ryder (17 oed) Ysgol y Creuddyn a Miriam Powell-Davies (17 oed) Ysgol Maes Garmon
Rebecca, “Dwi’n edrych ymlaen i gael mynd allan i Batagonia i berfformio, cael gwneud ffrindiau newydd a chael siarad Cymraeg trwy’r amser ochr arall i’r byd.”
Miriam, “Mi oedd rhai o fy ffrindiau wedi bod ar y daith arferol gyda’r Urdd blwyddyn diwethaf a phan nes i glywed eu bod yn cynnal taith theatrig roedd yn swnio yn berffaith. Mi fydd mynd i Batagonia ei hun yn andros o gyffrous ond mi fyddwn hefyd yn cael gweithio efo criw newydd ffresh a chreu darn newydd gwych.”

Caerfyrddin / Sir Benfro
Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin - Carys Haf (19 oed) a Sara Mair (21 oed) gwreiddiol o Caio a Gwyndaf Lewis(20 oed) gwreiddiol o Efail-wen, ger Crymych
Gwyndaf Lewis, “Mi ydw i yn edrych ymlaen i berfformio a gwneud sioe gerdd, a nawr bo ni wedi cyfarfod unwaith mae’r cyfan i weld yn fwy real – rydym ar fin cychwyn ar rhywbeth cyffroes iawn. Mi ydym ni yn cael gwneud sioe ac ar ben hynny, yn cael teithio i ochr arall y byd – sydd yn anhygoel!”

Rhondda Cynon Taf
Guildford School of Acting – James Owen Morgan (21 oed) yn wreiddiol o Aberdâr
James Morgan “Mi ydw i yn actio ers pan ydw i’n ifanc, gan gychwyn yn y Coliseum yn Aberdâr – mi oedd gen i athrawes wych yn Ysgol Gyfun Rhydywaun wnaeth fy helpu i fynd ymlaen i Goleg Drama. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at y daith i Batagonia ac i fod yn rhan o’r cynhyrchiad cyffroes yma. Mi fuodd fy chwaer allan ym Mhatagonia yn 2008 felly byddaf yn siŵr o ddwyn dipyn o syniadau ganddi hi o ran codi y £2,900 ydym ni angen.”

Dyma y pump o'r Wladfa fydd yn rhan o'r Cynllun.
Lisa Hughes, 19 oed o’r Gaiman . Mae Lisa newydd orffen fel disgybl yng Ngholeg Camwy yn y Gaiman ac yn cymryd blwyddyn allan. “Dwi'n hapus iawn fy mod i wedi cael fy newis i Brosiect Mimosa. Dwi’n gwerthfawrogi'r fraint o gyd-weithio gyda phobl ifanc yr Urdd 150 o flynyddoedd ers i'r Cymry cyntaf gyrraedd y Wladfa.”

Gonzalo Lizama, 19 oed o’r Gaiman, sydd yn astudio yn Adran y Celfyddydau Perfformio, Prifysgol Genedlaethol y Celfyddydau, Buenos Aires. “Dw i'n edrych ymlaen lawer i gydweithio gyda pawb. Bydd yn brofiad arbennig i ni”

Ryan Lloyd, 17 oed o Esquel disgybl ar ei flwyddyn olaf yn Ysgol 735, Esquel. “Dwi´n falch iawn o gael y cyfle i fynd i Gymru”

Guillermo Thomas, 23 oed o’r Gaiman ; Myfyriwr sydd wedi gorffen dilyn cwrs tair blynedd o Theatr Cerdd ond yn parhau efo’i gwrs biocemeg. “Bydd cymryd rhan yn nathliadau'r canmlwyddiant a hanner yn fraint ac yn bleser. Mae'r prosiect hwn yn galluogi i mi gyflawni nifer o gyrchnodau yr hoffwn eu cyflawni, sef cael y cyfle i deithio i Gymru, gwella fy Nghymraeg, profi a bod yn rhan o'r diwylliant Cymraeg a chreu cysylltiadau a chyfeillgarwch newydd.”

Michael Winter, 16 oed o Esquel, disgybl ar ei flwyddyn olaf yn Ysgol 735, Esquel. “Pan o'n i hogyn bach, ro'n i eisiau bod yn actor. Es i ymlaen gyda bywyd fel feiolinydd, ond mae dal cornel yn fy nghalon i actio. O'n i ddim yn disgwyl cyfle fel hwn... dw i'n ddiolchgar iawn... ac yn gyffrous!”

Dyma y rhai a ddewiswyd o'r Wladfa


Michael
Guillermo
Lisa
Ryan

Gonzalo




A'r rhai a ddewiswyd yng Nghymru


Beca Ryder
Carwyn a Gwion
Miriam
Glain a Harri

James
Sara Mair, Carys Haf a Gwyndaf
Steffan, Elena, Elan, Alys a Gruffudd
Steven a Sion





Cerddwn Ymlaen Patagonia 2015 (31-12-2014)

Yn dilyn ymweliad diweddar Cerddwn Ymlaen a'r Wladfa, cadarnhawyd y trefniadau ar gyfer eu taith gerdded noddedig i Batagonia rhwng Tachwedd 17eg a'r 27ain 2015.

"Rydym wedi derbyn gwahoddiad gan Bwyllgor Dathlu 150 yr Andes i ddod a chant a hanner o bobl o Gymru i gerdded a chymeryd rhan yn y dathliadau swyddogol i nodi cant a hanner o flynyddoedd o'r Wladfa ym Mhatagonia."

"Byddwn yn cerdded yn ol troed ein cyndeidiau a groesodd y paith i ddarganfod Y Cwm Hyfryd wrth fon Yr Andes ac a sefydlodd tref Trevelin. Mae'r llwybyr yn troelli drwy'r anialwch ac yn ymylu ar rai o'r tiriogaethau mwyaf trawiadol a godidog unrhywle ar y blaned. Mae'r ardal hefyd yn doreithiog o fywyd gwyllt - yn adar, anifeiliaid a phlanhigion.

Bydd gofyn i bawb sydd am ymuno a'r daith gyfrannu isafswm o £4,000 yr un a gall hynny fod yn daliad personol, arian wedi ei godi yn elusennol, nawdd masnachol neu gyfuniad o'r rhain. Bydd yr elw wedi talu y costau yn cael ei rannu rhwng Ysgol Gymraeg yr Andes, i hyrwyddo addysg Gymraeg yn y Wladfa a Chronfa Elen, i hyrwyddo rhoi organau yng Nghymru."

"Yn ystod y daith byddwn yn creu Cor Cerddwn Ymlaen a fydd yn perfformio gyda Rhys Meirion yng Nghyngerdd Penblwydd Trefelin ar ddiwedd yr wythnos. Bydd nifer o drigolion Cymraeg eu hiaith yn ymuno hefo'r cerddwyr ar y daith a bydd y gymuned leol hefyd yn ymuno a'r criw yn y gwersyll bob nos."

"Mae'r Gymraeg wedi edwino ym Mhatagonia ond mae yna gnewyllyn gweithgar o bobl yn ceisio creu adfywiad. Bydd cael cant a hanner o bobl Cymru yn ymuno hefo'r dathliadau pwysig yma yn rhoi hwb anferth i'w hymdrechion ac yn creu cysylltiad cryf o'r newydd rhwng Patagonia a Chymru a fydd yn parhau drwy'r genhedlaeth nesaf."

"Gwahoddwn bawb sydd a diddordeb i ymuno a'r daith i gofrestru eu diddordeb yn y man cyntaf drwy law gwefan Teithiau Tango- www.teithiautango.co.uk neu drwy gysylltu ar y ffon -01970 631737. Mae hwn yn gyfle unigryw i gymryd rhan mewn taith arbennig iawn a fydd yn brofiad bythgofiadwy, a fydd yn codi arian gwerthfawr iawn i ddwy elusen bwysig ac yn rhoi hwb anferth i siaradwyr Cymraeg y Wladfa wrth iddyn nhw ddathlu can mlynedd a hanner o 'fod yma o hyd'"


Rhys Meirion. Prif Gerddwr
Eryl Vaughan Trefnydd
Aled Rees Teithiau Tango





mwy


Enillwyr Clwb Cyfeillion Rhagfyr 2014 (19-12-2014)

Dyma enillwyr Rhagfyr Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin a dynnwyd yn y Pwyllgor Gwaith ar 27 Medi :2014

Dyma enillwyr Rhagfyr Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin a dynnwyd yn y Pwyllgor Gwaith ar 27 Medi :2014

£60 Rhif 117 Eleri Roberts, Pontypridd
£50 Rhif 124 Eifiona Hewitt, Pontypridd
£40 Rhif 38 John a Kathleen Roberts, Pwllheli
£30 Rhif 272 Iorwerth a Blodwen Davies, Pen-y-bont ar Ogwr
£25 Rhif 67 Ann Edwards, Y Bala
£20 Rhif 225 Alun Jones, Caerdydd
£10 Rhif 206 Menna M. George, Pontarddulais

Pe hoffai rhywun ymuno â’r Clwb - £10 y flwyddyn, er hyrwyddo gwaith Cymdeithas Cymru-Ariannin i roi cymorth i fudiadau ac achosion Cymraeg ym Mhatagonia, cysylltwch gyda’r Trefnydd, Elvira Moseley, Elvira Moseley, 41 Baglan Heights, Baglan, Port Talbot,SA12 3UF gan wneud sieciau yn daladwy i 'CYMDEITHAS CYMRU-ARIANNIN Tynnir gwobrau bum gwaith y flwyddyn - Gorffennaf, Medi, Rhagfyr, Chwefror a Mai



Y Daith Gefeillio i Batagonia (11-12-2014)

Hanes taith Sara Jones, Ysgol Pentreuchaf yn ôl i'r Wladfa.

Roedd hi'n wib ar y naw i orffen pacio a pharatoi popeth cyn cychwyn am y maes awyr. Cysgais yr holl ffordd o Lundain i Buenos Aires ond aeth pethau o chwith wedyn ar ôl ffendio bod yr awyren i Drelew wedi cael ei gohirio oherwydd tywydd garw a finnau'n gorfod cysgu yn y maes awyr dros nos.

Gyda'r holl groeso a chyfeillgarwch ar ôl cyrraedd Trelew, roeddwn yn teimlo fel nad oeddwn wedi gadael o gwbwl a hynny i gyd yn Gymraeg! Treuliwyd y tridiau cyntaf yn gweld hen ffrindiau yn Nhrelew a Gaiman, yn bwyta a chymdeithasu. Roedd y gefeillio rhwng y ddwy ysgol yn destun siarad mawr gyda chefnogaeth gref o bob cyfeiriad. (Roedd hi'n lwcus ein bod wedi cyrraedd yr amser yma gan fod Ysgol yr Hendre wedi newid trefniadau eu taith i Gymru flwyddyn nesaf nawr fel eu bod yn gallu bod yn bresennol ym Mhenwythnos Patagonia ar y 6ed a 7fed Mehefin 2015!) Cefais gwmni Sioned Jones, yr athrawes Gymraeg sydd yn Ysgol yr Hendre ar hyn o bryd, i groesi'r paith i Gwm Hyfryd, lle tebyg iawn i Gymru, gyda mynyddoedd a chaeau gwyrdd. Cawsom gyfle i gyfarfod a Gaucho Cymraeg yn chwarae accordion, dysgu sut i wneud alfajores a'r diod mate, cael gwers Sbaeneg yng nghwmni criw yr Urdd, crwydro i Nant y Fall, Los Tulipanes a gweld bedd Malacara, y ceffyl dewr. Diolch yn fawr iawn i Clare a Victor am gael aros gyda nhw.

Pnawn Iau cyrhaeddodd Luned, Karen a Morgan faes awyr Trelew. Roedd llu o weithgareddau wedi cael eu cynllunio ar eu cyfer, ond fel y mae hi yn yr Ariannin, mae popeth yn gallu newid ar y funud olaf! Yn y bore aethom i weld Ysgol Fabanod yr Hendre a chael cyfle i ddod i adnabod rhai o athrawon yr ysgol. Yna cawsom daith ar fws o amgylch ffermydd ac ardal y Gaiman. Y gair Cymraeg cyntaf welwch chi wrth gyrraedd Gaiman yw ‘Croeso’ a dyma'n union gawsom ni gan Ana Chiabrando wrth gyrraedd. Buom yn crwydro stryd Michael D Jones ac yn ymweld a'r siop fara ac ia, ‘Siop Bara’ yw ei henw henw hefyd! Ceisiodd Morgan brynu hufen ia mewn Sbaeneg ac yna sylweddoli bod merch y siop yn siarad Cymraeg! Cawsom fynd o amgylch Bryn Crwn, Lle Cul gan weld dau gapel ac ymweld ag un o ysgolion y dalaith gyda Esyllt Nest Roberts, sydd wedi ei magu yn Y Ffor ond yn awr yn byw yn Gaiman. Cawsom ginio blasus yng Nghwalia Lan gyda Luned Gonzalez, sydd yn cael ei hadnabod fel brenhines y Gaiman, cyn mynd i Ffair Wyddoniaeth yn Ysgol yr Hendre.

Cefais fy nghyfweld gan Luned Gonzalez, sydd yn cyflwyno rhaglen "Gymraeg", ar Radio Chubut i sgwrsio am y gefeillio a gwaith Luned Rhys Parri. Ar ddiwedd y rhaglen bydd criw yn mynd i gaffi'r Touring am sgwrs Gymraeg i drafod hynt a helyntion pawb! Dilynwyd hyn gyda sosial yn Ysgol yr Hendre pan gawsom gyfle i gyflwyno gwaith y plant a'r flitsgerdd, a grewyd gan blant Ysgol Pentreuchaf gyda Myrddin ap Dafydd, mewn ffram.

Heddiw rydym yn edrych ymlaen i fynd i Punta Tombo i weld y pengwiniaid.

Fel enw siop yn y Gaiman, ‘De Todo un Poco’ – dyma 'ddipyn bach o bobeth' i chi.

Aeth tair athrawes o’r ysgol â ni i Punta Tombo i weld y pengwiniaid oedd newydd ddychwelyd o Frasil, yn dilyn yr haul. Hwn ydi un o’r trefi pengwiniaid mwyaf yn y byd. Roedd cannoedd ohonynt yn cerdded, dodwy a gorwedd ar hyd y lle. Roeddym i gyd wedi dotio. Yng nghanol y pengwiniaid roedd cannoedd o tuca tuca, math o lygod bach, yn rhedeg. Cawsom swper yn nhŷ Angelica a chefais innau’r cyfle i gyfarfod ei merch, Lowri, a gafodd ei geni y diwrnod oeddwn i’n gadael Patagonia ddwy flynedd yn ôl. Rhwng 9 ac 11 o’r gloch ydi amser swper yn yr Ariannin felly, fel y gallwch ddychmygu, roeddem ni ar lwgu erbyn hynny!
Bore wedyn cawsom daith i El Doradillo i weld y morfilod oedd yn nofio’n agos i’r lan. Ym Mhorth Pyramides cawsom fynd ar gwch i ganol y morfilod. Biti garw fy mod i’n sâl môr! Ymlaen wedyn i Benrhyn Valdes i weld gwanacos, mara (math o ysgyfarnog), gaucho a cheffylau gwyllt, morloi a morlewod. Gorffenwyd y daith ym Mhorth Madryn, lle glaniodd yr ymfudwyr cyntaf o Gymru, a chawsom weld yr ogofau fu’n gartref iddynt a’r amgueddfa sy’n croniclo’r hanes.

Cynhaliodd Luned Rhys Parri y gweithdy celf cyntaf yn Ysgol yr Hendre y diwrnod canlynol. Roedd pawb wedi edrych ymlaen yn arw am hyn a chawsom ein croesawu gyda mate, y te traddodiadol. Yna aeth Ricardo Irianni, ffermwr a pherchenog busnes tebyg i Wynnstay, â ni o gwmpas Dolafon i weld ei fferm, y capeli a Llain Las, sef cartref Nel Fach y Bwcs. Y noson honno cawsom ymweld ag Amgueddfa’r Gaiman cyn mynd i wrando ar ymarfer Côr y Gaiman.

Roedd pawb yn dathlu diwrnod y traddodiadau y dydd canlynol a chawsom fynd i Ysgol Fabanod Moreno am wledd o ganu a dawnsio traddodiadol. Cafodd Karen a Morgan gyfle i ymweld â’r amgueddfa ddeinosoriaid ac yn y pnawn cynhaliwyd y gweithdy celf olaf yn Ysgol yr Hendre. Cafodd gwaith prosiect gefeillio yr ysgol ei gyflwyno i ni i’w ddychwelyd i Gymru gyda’r gwaith celf gorffenedig. Cafodd Morgan gyfle i ostwng y faner ar ddiwedd y dydd a chael cyfle i ddysgu dipyn o Sbaeneg gyda’r plant. Hola che! Cael te wedyn ym Mhlas y Coed, tŷ te Ana Chiabrando, yn y Gaiman. Llond hambwrdd o frechdanau, jam, cacennau a llond tebot o de gyda chwpanau. Blasus iawn! Yn anffodus roedd Morgan mewn gwersi Cymraeg gydag Iwan Madog! Mae’n anodd coelio fod gennym le i fwyta ychwaneg ond aethom i dŷ Esyllt Nest Roberts, a arferai fyw yn Y Ffôr, wedyn i gael swper.

Aethom yn ôl i’r Gaiman y bore wedyn i gael taith o gwmpas lle gydag Eluned Jones, athrawes Gymraeg gyda’r Cyngor Prydeinig. Aeth â ni i weld y tŷ cyntaf i’w adeiladu yn y Gaiman, sef tŷ David Roberts, ac Amgueddfa Cartre’r Bardd. Cawsom ginio gyda Luned Gonzalez, brenhines y Gaiman. Hwyl oedd mynd drwy dwnel hir ar y ffordd i bwynt uchaf y Gaiman lle roedd cerflun anferth, newydd o Gennin Pedr. Roeddem ni’n gallu gweld gwlad o Gaiman o’n cwmpas. Fel clo bendigedig i’n hymweliad daeth twr o ffrindiau atom am ginio yng Ngwalia Lân. Trist iawn oedd ffarwelio efo pawb ar ôl y fath groeso.

Cael a chael fuodd hi i ddal yr awyren y bore canlynol ar ôl i’r larwm beidio a chanu! Ar ôl cyrraedd Buenos Aires bu raid i ni gyfarfod ag Ayelen Borgatti a Mary Godward o’r Cyngor Prydeinig i drafod y gefeillio.

Braf iawn oedd glanio’n ôl yn saff ar dir Cymru ar ôl profiad bythgofiadwy! Fedra i ddim dechrau diolch i bawb am eu holl amser, trefniadau, gwesteio a thripiau a gawsom i wneud y daith yma mor llwyddiannus. Diolch, diolch, diolch o galon ar ein rhan ni i gyd!
mwy


Telyn i'r Wladfa (08-12-2014)

Ar drothwy dathlu canrif-a-hanner ers sefydlu’r Wladfa ym Mhatagonia, mae cynllun ar y gweill i godi arian i yrru dwy delyn newydd o Gymru i’r Wladfa i roi hwb ymarferol i gadw’r traddodiadau c

Yn 2015, byddwn yn dathlu canmlwyddiant-a-hanner sefydlu’r Wladfa yn 1865 ym Mhatagonia. Roedd yn gynllun dewr gan griw o bobl o Gymru a oedd yn chwilio am fywyd gwell ar ochr arall y byd. Bu raid i’r sefydlwyr wynebu anhawsterau mawr ac nid yw’n llai na gwyrth fod y Gymraeg a’r diwylliant Cymreig yn dal yn fyw yno heddiw. Cludodd Michael D. Jones delyn deires Gymreig i’r Wladfa yn y 19eg ganrif, ac fe’i cedwir yn Amgueddfa’r Gaiman, Patagonia. Mae’n dangos pwysigrwydd canu’r delyn i’r sefydlwyr cynnar.

I gychwyn yr apel, cynigiodd Les Harpes Camac, y cwmni telynau o Ffrainc, nawdd hael i brynu unrhyw delyn o’u catalog, os gall yr apel godi’r arian cyfatebol.

Y delynores, Elinor Bennett sydd yn trefnu’r prosiect gyda chefnogaeth staff a chyfarwyddwyr Canolfan Gerdd William Mathias. Mae’n apelio at bawb a gafodd wersi telyn yn y gorffennol, yng Nghymru, neu tu hwnt, i gyfrannu swm fechan tuag at y prosiect. Bydd symiau mawr o £150 – i nodi’r penblwydd 150 – yn gymorth mawr i gyrraedd y targed o godi £10,000 erbyn Ionawr 18fed 2015.

Elinor Bennett

Meddai Elinor : “Mi fyddai’n wych petaem fel telynorion, a rhai sy’n caru’r delyn, yn gallu prynu telynau newydd i alluogi plant i gynnal traddodiad cerddorol yn y Wladfa. Bum yn breuddwydio ers rhai blynyddoedd am sicrhau telynau modern o ansawdd uchel i blant a phobl Patagonia, a theimlaf mai wrth inni ddathlu penblwydd Y Wladfa yn gant-a-hanner yw’r amser addas i droi’r freuddwyd yn realiti. Mae dwy delynores yn cynnig gwersi telyn ym Mhatagonia, ond mae’n dasg annodd i sicrhau offerynnau addas i’w disgyblion. Fy ngobaith yw codi digon o arian i brynu dwy delyn – un i’r gymuned Gymreig yn Nyffryn Camwy, a’r llall i’r gymdeithas yng Nghwm Hyfryd yn yr Andes.

“Apeliaf at bawb a gafodd wersi telyn erioed i’m helpu i gyrraedd y nod. Dros y chwarter canrif ddiwethaf, derbyniodd miloedd o blant wersi telyn ledled Cymru. Gobeithiaf y bydd y mwyafrif ohonynt yn falch o’r cyfle i gyfrannu swm fechan i helpu cadw’r diwylliant Cymraeg yn fyw yn yr Ariannin. Mae ”telynorion” yn cynnwys pawb a gafodd wersi telyn erioed, eu rhieni a hefyd caredigion y delyn yng Nghymru a thu hwnt.

“Yn ogystal a bod yn weithred symbolaidd bydd hyn yn ffordd ymarferol iawn i gefnogi’r gwaith anhygoel a wneir gan lawer o unigolion yn y Wladfa i gadw’r diwylliant Cymraeg yn fyw. “

GYDA’N GILYDD, FE ALLWN !
Am fwy o fanylion - ac i gyfrannu cliciwch isod

mwy


YR ORSEDD I NODDI CADAIR RYNGWLADOL EISTEDDFOD Y WLADFA (13-11-2014)

Camila Irianni a David Gravell

Camila Irianni a David Gravell


Gorsedd y Beirdd yn noddi Cadair RHyngwladol Eisteddfod y Wladfa 2015

Braf yw cyhoeddi bod Gorsedd y Beirdd wedi derbyn gwahoddiad i noddi cystadleuaeth y Gadair Rhyngwladol yn Eisteddfod y Wladfa y flwyddyn nesaf, gyda haelioni David Gravell o Lanelli’n ein galluogi i gynnig cefnogaeth i Eisteddfod, sy’n rhan mor bwysig o genhadaeth yr Orsedd a Chymry Cymraeg.

Meddai Penri Tanad, Cofiadur yr Orsedd, “Mae Gorsedd y Beirdd yn gefnogwyr brwd o Eisteddfod y Wladfa, ac yn falch o’r cyfle i gefnogi’r digwyddiad Cymraeg mwyaf ym Mhatagonia, sy’n cael ei gynnal yn flynyddol ers 1965. Mae cael cyfle i noddi’r Gadair Ryngwladol yn 2015 – blwyddyn sydd mor bwysig yn hanes y Wladfa – yn anrhydedd i ni yma yng Nghymru, a rydym yn dra diolchgar i David Gravell am ei haelioni er mwyn ein galluogi i fod yn rhan o ddathliadau’r Wladfa yn y fath fodd.

“Mae gan deulu’r Gravells berthynas agos gyda’r Wladfa ers blynyddoedd, ac roedd tad David, Tom, yn ymwelydd rheolaidd â’r ardal. Ers 2003, mae’r teulu wedi ariannu ysgoloriaeth arbennig flynyddol, Ysgoloriaeth Tom Gravell, er mwyn galluogi myfyriwr o Batagonia i ddod draw i Gymru i astudio yng Ngholeg Llanymddyfri am dymor.

“Mae’r gefnogaeth atodol yma drwy alluogi’r Orsedd i noddi’r Gadair Ryngwladol yn arwydd arall o cysylltiad pwysig sydd rhwng y teulu â’r Wladfa a diolch am eu cefnogaeth eleni a thrwy’r blynyddoedd.”

Mae ymroddiad a chefnogaeth David Gravell i’r Brifwyl yn hysbys i lawer hefyd. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae miloedd o bunnoedd wedi’i gasglu tuag at gronfeydd lleol Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr ac Eisteddfod Maldwyn a’r Gororau y flwyddyn nesaf, diolch i rodd o gar newydd sbon gan gwmni David, Gravells, i’w gynnig fel gwobr raffl.

Yn y llun gwelir cyn enillydd Ysgoloriaeth Llanymddyfri - Camila Irianni gyda David Gravell yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gar eleni yn Llanelli.


Sgwrs ddarlledwyd ar Radio 4 (11-11-2014)



Traddodwyd sgwrs yn y gyfres 'Four Thought' gan yr Athro E. Wyn James ar y Wladfa ar Radio 4 yn ddiweddar. Mae'r darllediad i'w glywed ar wefan Radio 4 o hyd, ac mae podlediad ohoni ar gael hefyd i'w lawr-lwytho. Penderfynodd cynhyrchydd y rhaglen anfon talfyriad o'r sgript i'w gyhoeddi'n erthygl ar wefan BBC News Magazine y bore ar ôl y darllediad. Roedd yr ymateb yn ddigon o ryfeddod - cafwyd 122,000 o 'page views' erbyn amser cinio y bore hwnnw (y 15fed erthygl fwyaf poblogaidd ar wefan y BBC y bore hwnnw!), ac erbyn diwedd y dydd hon, hi oedd y 5ed uchaf o erthyglau'r wefan a rannwyd ag eraill yn ystod y dydd. Mae hefyd wedi ei chyfieithu i'r Sbaeneg.
BBC Radio 4: ‘Four Thought’, Series 4
‘Migration, Separation and Wales’ (E. Wyn James)
Darlledwyd gyntaf: 15 Hydref 2014

Gweler hefyd
BBC News Magazine
‘Viewpoint: The Argentines who speak Welsh’ (E. Wyn James)
http://www.bbc.co.uk/news/magazine-29611380

mwy


Disgynnydd Michael D. Jones yn mynd a rhodd i Batagonia (13-10-2014)


Bydd un o ddisgynyddion Michael D. Jones, y gwr a arweiniodd y fintai gyntaf allan i Batagonia, yn teithio i’r Wladfa gyda’r Urdd ar y 22 o Hydref, gyda rhodd gan ei theulu yng Nghymru i’w theul

Mae Nel Bere, sydd yn 18 oed ac yn fyfyrwraig yng Ngholeg Meirion Dwyfor Pwllheli, yn or or or wyres i Michael D. Jones. Bydd yn cyflwyno llun o Michael D. Jones, sydd yn rhodd gan ei hewythr Alun Owen, i Amgueddfa’r Gaiman fel rhan o ddathliadau 150 mlynedd y Wladfa.
Dywedodd Nel, “Gofynnodd fy ewythr Alun os y byddwn yn fodlon mynd a’r rhodd i’r amgueddfa a’i gyflwyno i gyfyrderes fy nain, sef Luned Gonzalez, sydd yn byw ym Mhatagonia. Mi fuodd fy nain ym Mhatagonia yn ymweld â’i theulu ac ers pan oeddwn i yn fach, dwi wedi bod yn ymwybodol o’r gymuned arbennig yma ym mhen arall y byd sydd yn siarad Cymraeg. A rwan, diolch i’r Urdd, dwi’n cael y cyfle i ymweld â’r man y gwnaeth fy hen hen hen daid fentro iddo 150 mlynedd yn ôl.”
Bydd Nel yn teithio i Batagonia gyda 24 o bobl ifanc eraill o bob rhan o Gymru – caiff y daith ei threfnu gan yr Urdd a Mentrau Iaith Cymru. Byddant yn gadael Heathrow ar y 22 o Hydref, gan dreulio amser yn Nhrelew, Esquel a Buenos Aires cyn dychwelyd adref ar y 5 Tachwedd. Tra ym Mhatagonia byddant yn ymweld gyda’r Ysgol Feithrin Gymraeg, cael cyfle i gymdeithasu gyda phobl ifanc Archentaidd sy’n siarad Cymraeg ac yn cystadlu yn Eisteddfod y Wladfa.
Roedd rhaid i’r 25 o bobl ifanc godi £2,400 yr un i fynd ar y daith, ac mae pob un wedi llwyddo i gyrraedd eu targed trwy gynnal amryw o weithgareddau codi arian fel trefnu twrnament golff, raffl, te bach a chyngherddau. Dyma fydd y tro cyntaf i bobl ifanc Cymru gyfan gael gwahoddiad, gan ei fod yn y gorffennol wedi bod yn wahoddiad i’r De a’r Gogledd bob yn ail.
Yn ôl Lleucu Sion, Cydlynydd Ieuenctid Cenedlaethol yr Urdd ac Arweinydd y Daith, “Rydym wedi cyfarfod y 25 o bobl ifanc sydd yn dod ar y daith eleni dair gwaith yn y misoedd diwethaf ac maent yn griw brwdfrydig sydd yn edrych ymlaen yn arw at y daith! Mae’n wych ein bod yn gallu cynnig y cyfle yma i Gymry Cymraeg – cyfle unigryw iddynt gwrdd â phlant a phobl ifanc sydd wedi eu magu mewn diwylliant gwahanol ochr arall y byd, ond yn rhannu eu iaith arbennig hwy.”



Ymweliad â bedd ewythr yn ysgogi cân (07-10-2014)

Angladd Beriah

Angladd Beriah


Cafodd Arwyn Thomas ei ysgogi i ysgrifennu y gerdd 'Nid gofyn pam' yn dilyn ymweliad â bedd ei ewythr

Tybed glywsoch chi y Sesiwn Fach ar Radio Cymru dydd Sul? Roedd grŵp newydd - Sorela, o Ben-bont Rhydybeddau, ger Penrhyn-coch yn canu tair cân fely prif westai y rhaglen. Roedd un gân yn ymwneud â Phatagonia ac am deulu Arwyn Thomas, un o aelodau y Gymdeithas.

Ysgrifennodd Arwyn – mab y Parchg Trebor Mai Thomas - y gân ar ôl ei ymweliad diwethaf â’r Gaiman. Fe ddarganfu ddarlun o angladd ei ewythr Beriah mewn hen lyfr yn Amgueddfa’r Gaiman. Roedd y llyfr yn gasgliad o hen luniau o'r ymfudwyr. Bu farw Beriah ar ôl damwain gyda cheffyl yn 13 oed yn 1933. Cafodd sioc i ddechrau gan fod y darlun mor drist, ond roedd hefyd yn ei lenwi gyda balchder. Nid oedd neb yn y teulu yn cofio’r llun.

Yn y llun gwelri ei Daid a Nain a’i ewythr Arwyn. Roedd y teulu yn byw ym Mryn Gwyn ar fferm o'r enw Boncyn.
Gellir gwrando eto ar y rhaglen eto amser cinio dydd Gwener am 12.30 neu mae y trac yma

mwy


Gwefan - Patagonia (03-10-2014)

Cyhoeddi adnodd addysgol newydd

A hithau'n 150 o flynyddoedd ers i'r Cymry cyntaf ymsefydlu yn y Wladfa, pa ffordd well i ddathlu'r achlysur na chyhoeddi adnodd addysgol tairieithog rhad ac am ddim, i bontio plant Cymru a Phatagonia?
Yn yr uned gyntaf, cyflwynir tirwedd, hanes a thraddodiadau'r ddwy genedl.
Mae'r adrannau cyntaf i'w gweld yn fyw ar wefan isod Bydd deunydd ychwanegol yn dod yn hwyrach yn y flwyddyn.


mwy


Enillwyr Clwb Cyfeillion Medi 2014 (28-09-2014)

Tynnwyd Enillwyr Medi ym mhwyllgor gwaith y Gymdeithas dydd Sadwrn diwethaf.

Dyma enillwyr Medi 2014 Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin. Tynnwyd y rhifau buddugol o flaen cyfarfod y Pwyllgor Gwaith dydd Sadwrn 27 Medi yn Aberystwyth

£60 Rhif 233 Mair Thomas, Llangefni
£50 Rhif 308 Iorwerth Gruffudd Jones, Abermaw
£40 Rhif 132 Geraint Francis Roberts, Rhuthun
£30 Rhif 107 Lisa Jane Davies, Corwen
£25 Rhif 281 Gomer Davies, Bangor
£20 Rhif 154 Joan Williams, Caerdydd
£10 Rhif 142 J.W. Jones, Blaenau Ffestiniog



Cyhoeddi cyfrol i ddathlu 75 mlynedd y Gymdeithas (04-09-2014)


Ddechrau Awst cyhoeddwyd Cymdeithas Cymru-Ariannin 1939-2014

Elvey MacDonald Cymdeithas Cymru-Ariannin 1939-2014 Cymdeithas Cymru-Ariannin, 2014. 56t. £5

Eleni mae Cymdeithas Cymru-Ariannin yn dathlu ei phen blwydd yn 75 oed, ac i gyd-fynd â’r garreg filltir hon mae’r gymdeithas wedi cyhoeddi cyfrol arbennig sy’n bwrw golwg yn ôl dros dri chwarter canrif o’i gweithgarwch. Ceir yn Cymdeithas Cymru-Ariannin 1939-2014 ddetholiad o ysgrifau a gyhoeddwyd yn 1989 yn wreiddiol, yn ogystal ag ambell gyfraniad ychwanegol. Diddorol dros ben oedd darllen am brofiadau’r unigolion hyn o Gymru a'r Wladfa – Ivonne Owen, y Parchg Eirian Wyn Lewis, Cathrin Williams, Mari Emlyn ac Elvey MacDonald – a dysgais dipyn am hanes y gymdeithas ei hun hefyd, megis y ffaith mai ei henw gwreiddiol oedd ‘Cymdeithas Cymry Ariannin’. Ond buaswn wedi gwerthfawrogi pennod agoriadol i'r gyfrol ar hanes y gymdeithas er mwyn cael gwell dealltwriaeth o'r hanesion personol hyn, a theimlwn y byddai cynnwys rhywfaint o luniau yn cryfhau'r ysgrifau gan gynnig darlun mwy byw a chyflawn i ni o brofiadau'r awduron. Felly pleser oedd cyrraedd y bennod 'Hanes Sefydlu'r Gymdeithas' gan Eiddwen Humphreys, sy'n olrhain cychwyniadau’r gymdeithas yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 1939 a'i gweithgarwch dros y degawdau dilynol. Dyma gofnod hanesyddol gwerthfawr, ac mae’n drueni nad oes dilyniant iddo sy’n ymdrin â gwaith Cymdeithas Cymru-Ariannin ers hynny. Fodd bynnag, sonnir mewn penodau eraill am rai agweddau ar ei gweithgarwch diweddar, megis Cynllun Dysgu Cymraeg Chubut, anfon pregethwyr a chystadlaethau’r Eisteddfod Genedlaethol i Wladfawyr, gan adlewyrchu diwydrwydd y gymdeithas dros yr hanner canrif diwethaf.

Wrth i ni nesáu at ganmlwyddiant a hanner ers sefydlu'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia, diddorol iawn oedd darllen adroddiad Valmai Jones ar ddathliadau'r canmlwyddiant yn 1965 mewn nifer o leoliadau ar hyd a lled Cymru a'r Wladfa - a Llundain - trwy gyfrwng amryw ddigwyddiadau a gweithgareddau cyffrous. Dyma hwb ar gyfer dathliadau'r 150 y flwyddyn nesaf, ac mae crynodeb Elvey MacDonald o’r hyn y gellir ei ddisgwyl yng Nghymru yn 2015 yn sicr o ennyn diddordeb a chyffro!
Dyma gyfrol werthfawr sy'n rhoi trosolwg i'r darllenydd o fwrlwm gweithgarwch Cymdeithas Cymru-Ariannin dros y 75 mlynedd diwethaf, boed gan y darllenydd hwnnw gysylltiad personol â'r Wladfa a'r gymdeithas ai peidio. Trwy gyfres o ysgrifau gafaelgar ac adran luniau fywiog, dyma gyflwyniad gwerthfawr i’r berthynas dra phwysig honno sy’n parhau rhwng Cymru a'r Wladfa. Mae'n rhaid ystyried a fyddai'r berthynas honno cyn gryfed ag y mae hi heddiw oni bai am waith parod a diflino'r gymdeithas hon. Boed iddi barhau felly, fel y gallwn ymhen 25 mlynedd ddarllen am lwyddiannau pellach Cymdeithas Cymru-Ariannin.

Lois Dafydd

Gellir cael copiau trwy eich siop leol neu oddi wrth yr Ysgrifennydd.



Patagonia 2014 - Criw’n paratoi ar gyfer profiadau gwych (11-08-2014)

Carys, Rhian a Jemma fydd yn mentro i Batagonia gyda’r criw yn yr hydref, diolch i’r Urdd a Mentrau Iaith Cymru

Carys, Rhian a Jemma fydd yn mentro i Batagonia gyda’r criw yn yr hydref, diolch i’r Urdd a Mentrau Iaith Cymru


Criw o aelodau yr Urdd yn paratoi mynd ar daith i Batagonia.

Bydd Hydref 22 yn ddyddiad arbennig i 25 o aelodau’r Urdd, wrth iddynt gychwyn ar eu taith i Batagonia diolch i gydweithio rhwng Urdd Gobaith Cymru a Mentrau Iaith Cymru. Yn eu mysg bydd Rhian Eleri Floyd, Ysgol Gyfun Aberaeron; Carys Mair Jones o Ysgol Bro Pedr a Jemma Hennighan o Ysgol Penglais

Byddant ym Mhatagonia am 10 diwrnod, ac yn ogystal â chael blas o ddiwylliant Archentaidd-Gymreig y wlad wrth i’r trigolion baratoi i ddathlu 150 o flynyddoedd ers i’r Cymru cyntaf gyrraedd y wladfa, byddant yn gwneud gwaith gwirfoddol megis cynorthwyo yn yr Ysgol Feithrin, sesiynau adeiladu tîm yng Ngholeg Camwy ac
ymweld â’r henoed yn yr ardal sy’n siarad Cymraeg.

Roedd angen i’r bobl ifanc godi £2,400 yr un, ac mae pob un wedi llwyddo i gyrraedd eu targed.

Yn ôl Jemma Hennighan sy’n astudio Lefel A yn Ysgol Penglais, Aberystwyth. “Mae'r profiad o fod yn rhan o’r criw sy’n paratoi ar gyfer y daith hyd yn hyn wedi bod yn wych. Gwnaethon ni ddechre yng Nghaerdydd gan gwrdd â phawb ac wedyn aethom ati fel criw i gerdded Yr Wyddfa gan godi arian ar gyfer y daith.

“Dwi’n joio cwrdd â phawb, mae'r cwmni yn wych! Dwi’n edrych ymlaen at fis Hydref rŵan gan gyfri pob diwrnod. Bydd y profiad yn siŵr o fod yn un bythgofiadwy yn enwedig cael canu mewn côr pen arall i’r byd! Dwi wedi gwneud ffrindiau newydd o bob pen i’r wlad ac wedi mwynhau gweithio gyda'r Urdd. Mae hi'n bleser cael bod yn rhan o daith 2014!” meddai Jemma.

Yn ôl Lleucu Siôn, o’r Urdd fydd yn arwain y daith ym Mhatagonia: “Mae’r daith i Batagonia yn gyfle gwych i bobl ifanc gael profiad unigryw a bythgofiadwy gyda chriw o gyfoedion yr un oed. Mae teithiau’r gorffennol wedi bod yn llwyddiant ysgubol, felly rydym yn mawr obeithio y bydd y daith eleni yn agoriad llygad i’r bobl ifanc ac yn cynnig profiadau anhygoel fydd ar gof a chadw am byth. Diolch i griw Mentrau Iaith am eu cefnogaeth wrth drefnu’r daith, ac mae cyfraniad y criw sy’n gweithio allan ym Menter Patagonia yn amhrisiadwy i ni wrth gadarnhau’r manylion cyn yr hydref. Rydym yn edrych ymlaen at gyrraedd yno wrth i’r trigolion baratoi ar gyfer eu dathliadau 150 o flynyddoedd.


Enillwyr Raffl y Gymdeithas 2014 (10-08-2014)

Bu Alejandro Jones o Drevelin yn diddanu cynulleidfa cyn tynnu y tocynnau raffl buddugol.

Diolch i bawb a werthodd ac a brynodd docynnau raffl Cymdeithas Cymru-Ariannin eleni. Mae arian y raffl yn gymorth i dalu am ein pabell flynyddol yn yr Eisteddfod. Tynnwyd y rhifau buddugol brynhawn Sadwrn ola’r Ŵyl gan Alejandro Jones, Trevelin. .

Dyma’r enillwyr:
£200 Judith Millard, Abertawe
£100 Mona Owens , Aberffraw
£50 Nia Williams, Llandyrnog
£25 Iestyn Tilsley, Caerdydd
£25 Rhys Jones, Y Felinheli




Gwladychwyr Cymreig Patagonia yn destun trafod yn yr Eisteddfod Genedlaethol (31-07-2014)


Am y tro cyntaf eleni, fe fydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal Darlith Flynyddol E.G. Bowen yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli (1-9 Awst) a fydd yn edrych ar sut y gwnaeth gwladychwyr Cymre


Am y tro cyntaf eleni, fe fydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal Darlith Flynyddol E.G. Bowen yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli (1-9 Awst) a fydd yn edrych ar sut y gwnaeth gwladychwyr Cymreig Patagonia addasu i lifogydd a sychder o 1865 hyd at heddiw.
Bydd y ddarlith o'r enw 'Llifogydd, sychder ac addasu yng nghymdeithas hydrograffig y Wladfa Gymreig, Patagonia', yn cael ei thraddodi gan Dr Hywel Griffiths o Aberystwyth a bydd yn edrych ar y rhyngwynebau rhwng y gwladychwyr Cymreig, eu diwylliant ac yr amgylchedd wrth iddynt gael eu gorfodi i addasu i eithafion hinsoddol annisgwyl.
Cynhelir y ddarlith ar ddydd Gwener 8 Awst ym mhabell Prifysgol Aberystwyth yn Eisteddfod Genedlaethol o 12pm ymlaen.
Eglurodd Dr Griffiths o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol, "Drwy edrych ar lythyron, ysgrifau a llenyddiaeth greadigol y gwladychwyr Cymreig cynnar gallwn ail-greu cronoleg o lifogydd a sychder yn yr ardal a sut wnaethant addasu i'w hamgylchedd newydd.
"Mae cyfweliadau ag ymchwil archifol gyda siaradwyr Cymraeg yng nghymunedau Patagonia hefyd yn amlygu pwysigrwydd profiadau'r sefydlwyr yng Nghymru a'u hatgofion diwylliannol wrth iddynt ganfod tirwedd newydd a'i gymharu â'r amgylchedd yng Nghymru a oedd yn fwy cyfarwydd iddynt.
"Roedd llifogydd yn arbennig o gyffredin yn y blynyddoedd cynnar pwysig hynny yn dilyn sefydlu’r Wladfa, ac ar droad yr ugeinfed ganrif, ond drwy harneisio a rheoleiddio afonydd ar gyfer dyfrhau roedd modd iddynt sefydlu cymuned amaethyddol lewyrchus."
Mae'r ddarlith wedi cael ei sefydlu er cof am yr Athro E. G. Bowen, daearyddwr rhyngwladol o fri oedd â diddordeb arbennig mewn daearyddiaeth ffisegol a daearyddiaeth gymdeithasol Cymru.
Roedd Bowen, a aned yng Nghaerfyrddin, yn aelod o staff academaidd yr Adran Daearyddiaeth ac Anthropoleg yn Aberystwyth ym 1929, ac roedd yn dal i ysgrifennu a darlithio yn y Brifysgol hyd at ei farwolaeth yn 1983.




Pabell y Gymdeithas yn yr Eisteddfod Genedlaethol (29-07-2014)

Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau yn y babell gydol yr wythnos

Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Sir Gâr
Pabell Cymdeithas Cymru-Ariannin Safle 1117-1118

Yn y babell yn ystod yr wythnos
Sadwrn 2.00 David ac Indeg Gravell yn agor y babell

Llun 10.30 Cwmni @tebol yn cyflwyno deunyddiau addysgol Gwladfaol
2.00 Rebeca White yn trafod dylanwad yr iaith Gymraeg arni & gwaith efo Pwyllgor Dathlu 150

Mawrth 10.30 Elvira Moseley - yn trafod bwydydd traddodiadol Patagonia
2.00 Y Parchg Eirian Wyn Lewis yn siarad am Eluned Morgan

Mercher 2.00 Grŵp gwerin o wlad y Basg Bitartean

Iau 10.30 Fabio Tito Lewis canu a dawnsio/ Ann-Marie – siarad am weithio draw
prynhawn Parti 75 oed yn dilyn y Cyfarfod Blynyddol – gweler isod

Gwener 2.00 Eluned Evans Grandis ac Isaias Grandis yn trafod eu gwaith yn yr Andes gyda’r Fenter a’r Ysgol Gymraeg

Sadwrn 2.30 Alejandro Jones, Trevelin yn rhoi cân neu ddwy a thynnu y raffl

Dydd Llun 4 Awst yn Seremoni’r Orsedd am 11.00
bydd Isaias Grandis, Trevelin - Dysgwr y Flwyddyn 2012 - yn cael ei urddo

Dydd Mercher 6 Awst ym Mhabell Maes D 15.40-16.00
Cyfle i weld fideo a chlywed rhaglen radio pobl ifanc y Gaiman wnaethpwyd dan ofal Iwan Madog .

Dydd Iau 7 Awst Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas ym Mhabell y Cymdeithasau 2 14.00 – 15.30 D.S. ar yr amser
Cyfarfod dan ofal Llywydd y Gymdeithas - Y Parchg Eirian Wyn Lewis gyda Sandra De Pol a Rhisiart Arwel (Cynllun Dysgu Cymraeg 2013). Croesawu ymwelwyr o'r Wladfa; crynhoad o feirniadaeth cystadleuaeth y Wladfa gan yr Athro Robert Owen Jones.

Dydd Gwener 8 Awst ym mhabell Prifysgol Aberystwyth (Uned LL13) am 12.00 traddodir Darlith Flynyddol E.G. Bowen gan Dr Hywel Griffiths “Llifogydd, sychder ac addasu yng nghymdeithas hydrograffig y Wladfa Gymreig, Patagonia”.

Ar werth yn y babell –
Cyhoeddiad newydd y Gymdeithas - Cymdeithas Cymru-Ariannin 1939-2014 Elvey Mac Donald (Gol.) £5.00

Rene Griffiths Ramblings of a Patagonian £12;

CD Hector a Marcelo - Griffiths & Mac Donald la rama verde (2012) £10

Bathodynnau metal baneri Cymru ac Ariannin. £1.50;

Testament Newydd/ Salmau Cymraeg-Sbaeneg. £12.00


Mae pabell gan lywodraeth talaith Chubut ar y maes eleni – rhif 1104.



Enillwyr Clwb Cyfeillion Gorffennaf 2014 (27-07-2014)

Dyma enillwyr Gorffennaf 2014 Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin. Tynnwyd y rhifau buddugol yng Ngŵyl y Glaniad yn y Bala

£60 Rhif 139 Gwerfyl Thomas, Pen-y-bont ar Ogwr
£50 Rhif 138 Ann Owen Vaughan, Llangernyw
£40 Rhif 363 Ann Jones, Waunfawr, Caernarfon
£30 Rhif 163 Helen Prosser, Tonyrefail
£25 Rhif 176 Eiry Jenkins, Gors-las
£20 Rhif 269 Gwyneth Carey, Rhuthun
£10 Rhif 244 Huw John Hughes, Porthaethwy



Cyfarchion Ysgol Feithrin y Gaiman i Fudiad Ysgolion Meithrin (04-06-2014)

A hithau´n wythnos Dathlu Ysgolion Meithrin yma ein dymuniad yw cyfarch holl blantos Ysgolion Meithrin Cymru. Dyma ni i gyd yn sefyll o flaen yr ysgol feithrin yn y brif stryd. Dewch i siarad Cymrae

29 /Mai 2014
CYFARCHION PLANT Y WLADFA,
I BLANT BACH CYMRU BELL,
YMDRECHU YN EIN GWERSI,
I DDYSGU´R IAITH YN WELL.

Pob dymuniad da oddi wrthym i gyd.
Rwy´n gweithio gyda´r staff, y rhieni a´r plant ers mis Chwefror ac wedi cael croeso mawr yma. Mae Iwan Madog, Menter Patagonia yn gweithio yn yr Ysgol hefyd.
Eluned Jones, Swyddog Datblygu´r Cymraeg

Ysgol Feithrin y Gaiman


Ysgol Feithrin y Gaiman 1
Ysgol Feithrin y Gaiman 2
Ysgol Feithrin y Gaiman 3
Ysgol Feithrin y Gaiman 4



mwy


Cytundeb Cyfnewid Diwylliannol (01-06-2014)

Arwyddo cytundeb cyfnewid diwylliannol yn Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014

Ddoe – 31ain o Fai - ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Meirionnydd ym mhresenoldeb Efa Gruffudd Jones ar ran Urdd Gobaith Cymru, Máximo Pérez Catán - Maer Tref Trelew, a`r Bonwr Rolando Griffiths ar ran Cymdeithas Eisteddfod Y Wladfa arwyddwyd Cytundeb Cyfnewid Diwylliannol sy`n cynnwys pob gweithgaredd ym myd y celfyddydau sy`n rhan o Eisteddfod Yr Urdd ac Eisteddfod y Wladfa.
Amcan y cytundeb yw atgyfnerthu ac ymestyn y dolennau diwylliannol sy`n nodweddiadol o`r ddwy wlad, yng Nghymru ac yn y Wladfa, ac annog, datblygu a chynnal yr iaith Gymraeg . Drwy’r cytundeb bydd enillwyr unigol cystadlaethau cerddoriaeth a llefaru yn y Gymraeg yn cael y cyfle i gystadlu yn Eisteddfodau`r Urdd yng Nghymru (hyd at 25 oed) ac yn yr un modd bydd enillwyr unigol yng Nghymru yn cael cystadlu yn un o Eisteddfodau’r Wladfa.
Mae`r ddau fudiad yn cytuno i gynnal y cytundeb hwn tra bydd sefyllfa gymdeithasol ac economaidd y ddwy wlad yn caniatáu hynny. Cytunir hefyd i ailystyried unrhyw agwedd o`r cytundeb sydd angen sylw pellach.
Arwyddwyd y cytundeb gan Lywydd Pwyllgor Eisteddfod y Wladfa, Rolando Griffiths; Maximo Perez Catan, Maer Tref Trelew, a Phrif Weithredwr yr Urdd Efa Gruffudd-Jones. Tynnwyd y llun ar ôl iddynt ddod oddi ar y llwyfan, yng nghwmni Efa Gruffudd-Jones (Prif Weithredwr yr Urdd) a Dyfrig Davies (Cadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod).


Arwyddo cytundeb


Arwyddo cytundeb. Llun: Tegwyn Roberts



Ymweliad Dirprwyaeth o Drelew (24-05-2014)

Bydd Dirprwyaeth yn dod i Gymru o Drelew, Chubut, yr wythnos nesaf.


Diben y daith yw
1) cryfhau'r cysylltiadau rhwng Trelew a Chaernarfon a Chymru gyfan
2) hyrwyddo Eisteddfod y Canmlwyddiant a Hanner yn Nhrelew.

Ymysg y ddirprwyaeth bydd Hogia’r Wilber – pedwarawd - Billy, Hector, Marcelo a Roberto – sydd wedi recordio i gwmni Sain fel 4 Patagonia), Llywydd Cymdeithas Dewi Sant Trelew a Llywydd Eisteddfod y Wladfa, (Eisteddfod de Chubut) ac aelodau eraill o'r gymdeithas Gymraeg, Maer Trelew ac awdurdodau eraill o'r dref, Cyfarwyddwr Amgueddfa Deinosoriaid Trelew lle mae esgyrn deinosor mwya'r byd yn gorffwys a chynrychiolwyr ym maes twristiaeth.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Catrin Morris de Junyent,
07512 130787 morrisjunyent@gmail.com neu trelew150patagonia@gmail.com

mwy


Enillwyr Clwb Cyfeillion Mai (17-05-2014)

Tynnwyd y rhifau buddugol dydd Sadwrn 17 Mai 2014.

Dyma enillwyr y Clwb Cyfeillion am fis Mai – Tynnwyd yr enwau ym Mhwyllgor Gwaith y Gymdeithas Sadwrn 17 Mai


£60 Rhif 238 Meic a Bet Jones, Llanddaniel
£50 Rhif 123 Elliw Richards, Caerdydd
£40 Rhif 59 Hafwen John, Y Bala
£30 Rhif 247 Beti Jones, Pwllheli
£25 Rhif 197 Eirlys a Jeff Thomas, Caerfyrddin
£20 Rhif 96 Twm Prys ac Alwen Jones, Llangybi
£10 Rhif 237 Eluned Lee, Llangristiolus.

Pe hoffai rhywun ymuno â’r Clwb - £10 y flwyddyn, er hyrwyddo gwaith Cymdeithas Cymru-Ariannin i roi cymorth i fudiadau ac achosion Cymraeg ym Mhatagonia, cysylltwch gyda’r Trefnydd, Elvira Moseley, Elvira Moseley, 41 Baglan Heights, Baglan, Port Talbot,SA12 3UF gan wneud sieciau yn daladwy i 'CYMDEITHAS CYMRU-ARIANNIN Tynnir gwobrau bum gwaith y flwyddyn - Gorffennaf, Medi, Rhagfyr, Chwefror a Mai.



Creu cyfrif YouTube Menter Patagonia - y Dyffryn (10-03-2014)


Cyfrif lle gallwch weld digwyddiadau Menter Patagonia y Dyffryn


Mae Iwan Madog wedi creu cyfrif YouTube er mwyn uwchlwytho lluniau a fideos o weithgareddau'r Dyffryn fel bod pawb yn gallu eu gweld a'u mwynhau ble bynnag y maen nhw. Ewch i 'Menter Patagonia Y Dyffryn' ar YouTube! - gweler y ddolen isod


mwy


Enillwyr Clwb Cyfeillion Mawrth (10-03-2014)

Tynnwyd y rhifau buddugol dydd Sadwrn diwethaf.

Dyma enillwyr y Clwb Cyfeillion am fis Mawrth – tynnwyd yr enwau ym Mhwyllgor Gwaith y Gymdeithas Sadwrn 8fed Mawrth (ohiriwyd o Chwefror oherwydd y tywydd)

£ 60. Rhif 330 Philip Dyfrig Morgan, Sir Rhydychen
£ 50 Rhif 348 J. Wyn Thomas, Caerfyrddin
£ 40 Rhif 233 Mair Thomas, Ynys Môn
£ 30 Rhif 139 Gwerfyl Thomas. Pen-y-bont ar Ogwr.
£ 25 Rhif 182 Emyr Gwyn Evans, Llanelli
£ 20 Rhif 318 Lloyd a Llywela Jones. Ceredigion
£ 10 Rhif 168 Meinir Boyns, Blaenau Ffestiniog.

Pe hoffai rhywun ymuno â’r Clwb - £10 y flwyddyn, er hyrwyddo gwaith Cymdeithas Cymru-Ariannin i roi cymorth i fudiadau ac achosion Cymraeg ym Mhatagonia, cysylltwch gyda’r Trefnydd, Elvira Moseley, Elvira Moseley, 41 Baglan Heights, Baglan, Port Talbot,SA12 3UF gan wneud sieciau yn daladwy i 'CYMDEITHAS CYMRU-ARIANNIN Tynnir gwobrau bum gwaith y flwyddyn - Gorffennaf, Medi, Rhagfyr, Chwefror a Mai



Creu cyfrif YouTube Menter Patagonia - yr Andes (04-03-2014)

Cyfrif lle gallwch weld digwyddiadau Menter Patagonia yr Andes

Mae Eluned Owena Evans wedi creu cyfri YouTube er mwyn uwchlwytho lluniau a fideos o holl weithgareddau'r Andes fel bod pawb yn gallu eu gweld a'u mwynhau ble bynnag y maen nhw. Mae dau yno'n barod; un o weithgareddau Gŵyl Ddewi Esquel a Threvelin - lle y gwelwch drigolion Trevelin ac Esquel ac ambell un arall yn dymuno Gŵyl Ddewi Hapus i chi), a bydd yn uwchlwytho nifer yn ystod y flwyddyn. Ewch i 'Menter Patagonia Yr Andes' ar YouTube! - gweler y ddolen isod


mwy


Gefeillio dwy ysgol (26-02-2014)

Ysgol Pentre-uchaf, ger Pwllheli, Gwynedd yn gefeillio gyda Ysgol yr Hendre, Trelew, Chubut Ariannin

Mae pwysau ar ysgolion y dyddiau yma i ehangu gorwelion plant drwy rannu profiadau dinasyddiaeth byd-eang. Mae'r Cyngor Prydeinig yn cynnig grant 'Connecting Classrooms' i wneud hyn drwy efeillio gydag ysgol dramor. Dymuniad pawb yn Ysgol Pentre-uchaf oedd cael cysylltiad gydag ysgol o Batagonia felly, pan ddaeth Sara Pierce Jones yn athrawes i'r ysgol ym mis Medi, a hithau newydd dreulio blwyddyn yn Ysgol yr Hendre, Trelew, penderfynwyd cynnal diwrnod lansio i ddechrau'r broses o efeillio gyda nhw. Cyd-ddigwyddiad hapus oedd i Alcira Williams, athrawes o Ysgol yr Hendre, fod yng Nghymru ar yr amser yma a chael bod yn rhan o'r lansio. Cychwynwyd y diwrnod, fel yn Ysgol yr Hendre, drwy godi baner yr Ariannin. Roedd gweithgareddau'r diwrnod yng ngofal Tami Barma Pritchard yn dysgu salsa; Sara Pierce Jones ac Alcira Williams yn sôn am Ysgol yr Hendre a hanes y Mimosa; Eamon Fullalove, cyn-brif gogydd Jamie Oliver, yn coginio cacen ddu ac empanadas; Myrddin ap Dafydd yn cynnal gweithdy i greu cerdd gefeillio. (Erbyn hyn, mae'r gerdd gefeillio wedi ei phrintio a'i fframio, gydag un ar ei ffordd i Ysgol yr Hendre a'r llall yn cael ei harddangos yn Ysgol Pentre-uchaf.) Amser cinio cafwyd pryd o fwyd Archentaidd wedi'i goginio gan staff y gegin - 'Muy Rico' (Blasus Iawn)! Gan fod adnoddau mor brin yn ysgolion y Wladfa, mae Ysgol Pentre-uchaf wedi cyflwyno pedwar gliniadur i Ysgol yr Hendre, un i'r Gaiman ac un i Ysgol Gymraeg yr Andes fydd yn ei gwneud yn bosib i'r plant skypio ei gilydd a rhannu profiadau.

Bydd ychwaneg o weithgareddau yn cael eu cynnal yn ystod y flwyddyn gydag un dathliad enfawr yn 2015 i gyd-fynd â glaniad y Mimosa 150 mlynedd yn ôl.

Diolch i'r rhai gynhaliodd y gweithdai a gwneud y diwrnod lansio'n llwyddiant; i Karen Jones am ei holl gymorth yn trefnu ac i'r noddwyr - Derwen Llŷn, Spar ac Asda.

Cyn y diwrnod bu Iwan Madog, Garndolbenmaen yn yr ysgol i roi cyflwyniad i'r plant. Treuliodd Iwan ddwy flynedd yn dysgu Cymraeg a gweithio gyda Menter Patagonia yn yr Andes. Mae o newydd ddychwelyd am flwyddyn – i weithio y tro yma yn Nyffryn Camwy.
Dymuniadau gorau i Sioned Jones, sydd newydd gyrraedd Trelew i ddechrau ar ei gwaith fel athrawes Gymraeg yn Ysgol Yr Hendre, ac edrychwn ymlaen i gydweithio gyda hi ar y prosiect yma.

Dathliadau Gefeillio yn Ysgol Pentre-uchaf


Ysgol Pentre-uchaf 1
Ysgol Pentre-uchaf 2
Ysgol Pentre-uchaf 3
Ysgol Pentre-uchaf 4

Ysgol Pentre-uchaf 5




mwy


Cymdeithas Cymru Ariannin – Cangen y De Nos Fercher , Chwefror 12fed. (15-02-2014)

Cangen y De yn cyfarfod yng nghwmni Rhisiart a Sandra

Cafwyd noson hwyliog er gwaetha’r gwynt stormus yng nghwmni Rhisiart Arwel a Sandra De Pol fu’n trafod ac yn darlunio eu hanes yn y Wladfa tra’n dysgu yno am flwyddyn. Roedd profiadau’r ddau ohonynt yn ddifyr a diddorol ac fel bonws cawsom wledd o ganu alawon Ariannin ar y gitar gan Rhisiart, a llu o ddarluniau ar gyfrifiaduron y ddau ohonynt.
Diolchodd Walter Brooks yn gynnes iddynt a hefyd llongyfarch Bob Puw ar ei ben blwydd ‘pwysig’ beth amser yn ôl a Gwilym Roberts ar ei ben blwydd y noson honno! Roedd y canu’n wefreiddiol!
Diolchwyd hefyd i Miriam Tilsley am baratoi’r lluniaeth – bara brith blasus a phice bach.

Croesawu Rhisiart a Sandra - Cyfarfod Cangen y De








Cor Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn bwriadu nodi pen blwydd sefydlu'r Wladfa yn 150 mlwydd oed (10-12-2013)

Mae Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru hefyd yn bwriadu nodi pen-blwydd sefydlu'r Wladfa, gyda thaith i Buenos Aires a Phatagonia yn 2015. Yn dilyn ei chwrs preswyl haf arferol ym mis Gorffennaf, bydd

Bydd y CCIC yn cael ei arwain gan eu Cadeirydd, John S. Davies MBE. Un o brif gyfarwyddwyr corawl Cymru, mae Mr Davies yn adnabyddus ac yn ennyn parch am ei waith gyda Chôr Ieuenctid Sir Benfro, Cantorion John S. Davies a Gŵyl Gerdd Ryngwladol Abergwaun. Rydym yn bwriadu gwahodd arweinydd o’r Ariannin i rannu’r dasg o lywio cyfeiriad y côr ac mae trafodaethau eisoes wedi cychwyn gyda llysgenhadaeth yr Ariannin yn Llundain i wahodd cerddor addas i wireddu hyn.

Dywedodd John S. Davies, "Mae hwn yn gyfle cyffrous i gymryd ein cantorion ifanc gorau i Hemisffer y De, a dilyn taith y Mimosa 150 mlynedd yn ôl. Rwy'n edrych ymlaen at rannu'r arwain gyda chyfarwyddwr corawl yr Ariannin, yng Nghymru a'r Ariannin . "

Mae Cyfarwyddwr Tŷ Cerdd, Gwyn L. Williams wedi cael ei wahodd gan Ŵyl Encuentros i ymweld â'r Ariannin ym mis Mai 2014. Yn Buenos Aires, bydd yn cynnal gweithdai a pherfformiadau corawl, a bydd hefyd yn cael y cyfle i edrych ar y posibilrwydd o Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn perfformio mewn amryw o leoliadau, gan gynnwys y Teatro Colón yn Buenos Aires
mwy


Enillwyr Clwb Cyfeillion Rhagfyr (07-12-2013)

Dyma yr enillwyr a dynnwyd ym Mhwyllgor Gwaith Sadwrn 28 Medi 2013

Dyma enillwyr Rhagfyr Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin a dynnwyd yn y Pwyllgor Gwaith ar 28 Medi :2013

£ 60 Rhif 246 Marilyn Lewis, Pwllheli
£ 50 Rhif 213 Alun G. Moseley. Caerdydd
£40 Rhif 160 Gwilym Roberts. Caerdydd
£30 Rhif 315 Hawys G. James. Rhondda
£25 Rhif 240 Glyn Morris, Sale
£20 Rhif 161 Gina a Gareth Miles, Pontypridd
£10 Rhif 297 Gwyn Hopkins, Llanelli.


Pe hoffai rhywun ymuno â’r Clwb - £10 y flwyddyn, er hyrwyddo gwaith Cymdeithas Cymru-Ariannin i roi cymorth i fudiadau ac achosion Cymraeg ym Mhatagonia, cysylltwch gyda’r Trefnydd, Elvira Moseley, Elvira Moseley, 41 Baglan Heights, Baglan, Port Talbot,SA12 3UF gan wneud sieciau yn daladwy i 'CYMDEITHAS CYMRU-ARIANNIN Tynnir gwobrau bum gwaith y flwyddyn - Gorffennaf, Medi, Rhagfyr, Chwefror a Mai



Noson cangen y De (06-12-2013)

Cangen y De yn dathlu'r Nadolig

Nos Iau, Rhagfyr 5ed bu Cangen y De yn dathu'r Nadolig yn eu dull traddodiadol trwy gael cyrri yn yr Eurasian, Caerdydd. Cafwyd noson hwyliog bleserus a blasus tu hwnt. Fe ddaeth pawb a anrheg gwerth £1 i'w roi yn sach y Santa Cudd. Enillodd Eleri Roberts y llinell goll i'r limerig a osodwyd gan Mrs. Eleri Rogers.

Cyfarfod Dathlu'r Nadolig Cangen y De


cyri Nadolig 1
cyri Nadolig 2





Ymweliad â Phatagonia yn Ysbrydoli Antur Newydd i Alun yr Arth (02-12-2013)

Cyhoeddi antur ddiweddaraf Alun yr Arth

Yr wythnos hon cyhoeddir antur ddiweddaraf Alun yr Arth gan Wasg y Lolfa. Patagonia yw lleoliad y stori y tro hwn, wrth i Alun yr Arth fynd ati i greu awyren i gario dŵr o Gymru i diroedd sych Patagonia. Mae’r gyfrol wedi ei chyflwyno i Mabon, Idris, Esyllt a Cristian - teulu o Batagonia, sy’n ddilynwyr mawr o’r gyfres. Ysbrydolwyd Morgan Tomos i ysgrifennu’r stori wedi i’w fam, Cadi Tomos, ymweld â’r Wladfa a chwrdd â’r teulu wrth gerdded ar y stryd nid nepell o’r Gaiman. Yn y llyfr Mabon ac Idris yw enwau’r ddau gwanco, ffrindiau Alun, a Cristian yw enw’r condor sy’n cario Alun am ran o’r daith i’r Wladfa, ac mae Esyllt yn ddeinasor blin.
Dywedodd Morgan Tomos
“Bydd Alun yr Arth yn wastad wrth ei fodd yn gwneud ffrindiau newydd. Ac er iddo hel syniadau eithaf twp, eisiau helpu mae o a dweud helo mawr. Mae Patagonia ben arall y byd ond mae Alun yr Arth yn gweld mai tebyg yw pawb ac eto’n ddiddorol o wahanol.”
Mae Cyfres Alun yr Arth wedi datblygu i fod yn un o hoff gyfresi plant Cymru. Erbyn hyn, o weld yr ymateb gwych a gafwyd i’r llyfr gan blant Ysgol Feithrin y Gaiman wedi i Esyllt Nest ddarllen y stori iddynt, mae’n ymddangos fod Alun yn dipyn o ffefryn ochr arall i’r byd hefyd.

Pris Alun yr Arth ym Mhatagonia yw £2.95

Cyhoeddi Alun yr Arth ym Mhatagonia


Clawr
Mabon ac Idris o Batagonia gyda chopi o lyfr newydd Alun yr Arth
Alun yr Arth yn cyflwyno copi o Alun yr Arth ym Mhatagonia i Esyllt Nest






Dathlu Nadolig (02-12-2013)

Edrych ymlaen am y Nadolig

Darllenwch erthygl Michael Edgar Winter sydd yn 'Y Cymro' yr wythnos hon - rhifyn 27ain o Dachwedd
mwy


Swper dathlu (29-10-2013)

Cangen Môn ac Arfon o Gymdeithas Cymru-Ariannin yn dathlu 25 eu bodolaeth

Nos Wener 25 Hydref yng Nghanolfan Reolaeth Prifysgol Bangor cafwyd swper i ddathlu 25 mlynedd o fodolaeth Cangen Môn ac Arfon o Gymdeithas Cymru-Ariannin. Bu’n noson ddifyr iawn gyda thros 40 yno’n mwynhau pryd o fwyd yng nghwmni ein gŵr gwâdd, Arfon Gwilym, fu’n sôn am ei ymweliad â’r Wladfa a chanu nifer o ganeuon gwerin. Yn ystod y noson rhoddwyd blodau i dair fu gyda’r gymdeithas o’r dechrau un ac i’r ysgrifennydd sydd wedi bod yn ei swydd drwy gydol y 25 mlynedd.

Cyfarfod Dathlu 25 mlynedd Cangen Môn ac Arfon


Aelodau yn mwynhau
3 fu yno o’r dechrau ac sy’n dal i ddod - Eirian Larsen, Olwen Jones, a Nia Wyn Williams gyda C Williams - un o'r sylfaenwyr. Y sylfaenwyr eraill oedd Ken Jones, Robin Roberts, a Sian Gwenllian.
Arfon Gwilym yn diddanu
Cathrin Williams wedi derbyn blodau






Pacio bag i Batagonia (17-10-2013)

Criw yr Urdd 2013

Criw yr Urdd 2013



Dydd Mercher, 23 Hydref bydd 21 o bobl ifanc o ogledd Cymru yn cychwyn ar daith unigryw i Batagonia gydag Urdd Gobaith Cymru a Mentrau Iaith Cymru.


Byddant ym Mhatagonia am 10 diwrnod, ac yn ogystal â chael blas o ddiwylliant Archentaidd-Gymreig y wlad, mi fyddant yn gwneud gwaith gwirfoddol megis cynorthwyo yn yr Ysgol Feithrin, sesiynau adeiladu tîm yng Ngholeg Camwy ac ymweld â’r henoed yn yr ardal sydd yn siarad Cymraeg.

Roedd angen i’r bobl ifanc godi £2,250 yr un, ac mae pob un wedi llwyddo i gyrraedd eu targed. Ymysg y gweithgareddau a gynhaliwyd i godi arian roedd triathlon, noson gomedi gyda Tudur Owen, noson blasu gwin Archentaidd a thaith gerdded i fyny’r Wyddfa.

Bydd disgyblion o Ysgol y Creuddyn, Ysgol Dyffryn Conwy, Ysgol Morgan Llwyd, Ysgol Maes Garmon, Ysgol Brynhyfryd, Ysgol Brynrefail, Ysgol y Berwyn, Ysgol David Hughes, Ysgol Syr Thomas Jones a Choleg Meirion Dwyfor ar y daith gyda thri aelod o staff sef Eryl Williams a Branwen Haf o’r Urdd a Ceri Phillips o Fenter Iaith Conwy.

Un o’r criw sydd yn mynd ar y daith yw Lois Angharad o Goleg Meirion Dwyfor. Dywedodd, “Un o’r rhesymau oeddwn i eisiau mynd i Batagonia oedd am fod gen i deulu yno. Mae fy nain wedi bod ddwywaith, ac rwyf wedi cyfarfod y teulu yng Nghymru, ond byddwn yn hoffi gweld ffordd maen nhw yn byw. Mae fy nheulu yn byw yn y Gaiman, ac mae fy nain wedi eu ffonio yn barod i ddweud fy mod ar fy ffordd!”

Yn ôl Eryl Williams, Swyddog Datblygu Môn fydd yn arwain y daith ym Mhatagonia, “Mae’r daith hon yn gyfle gwych i bobl ifanc gael profiad unigryw a bythgofiadwy. Mae’n wych ein bod yn cydweithio gyda’r Mentrau Iaith i drefnu’r daith, ac mae cyfraniad y criw sy’n gweithio allan ym Menter Patagonia yn amhrisiadwy.”

Ychwanegodd Meirion Davies, Cyfarwyddwr Datblygu Menter Iaith Conwy, “Mae’r daith flynyddol hon, sydd wedi ei threfnu ar y cyd gyda’r Urdd, yn gyfle gwych i bobl ifanc weld pa mor werthfawr yw’r Gymraeg a rhoi blas iddynt o ddiwylliant unigryw Patagonia. Rydym yn gweld, ar ôl y daith, fod amryw o’r bobl ifanc yn fwy parod i ddefnyddio eu Cymraeg yn gymdeithasol ar ôl dod nol i Gymru. Mae cynnig cyfleoedd fel hyn i bobl ifanc yn amhrisiadwy.”


Enillwyr Clwb Cyfeillion Medi (30-09-2013)

Dyma yr enillwyr a dynnwyd ym Mhwyllgor Gwaith Sadwrn 28 Medi 2013

Dyma enillwyr Medi Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin a dynnwyd yn y Pwyllgor Gwaith ar 28 Medi :2013

£60 Rhif 385 Eira a Gwilym Williams Caerdydd
£50 Rhif 58 Dilys Thomas Conwy
£40 Rhif 285 Angharad Grugulid Wolverhampton
£30 Rhif 288 Richard Gammond Pen-y-bont ar Ogwr
£25 Rhif 78 Owain Siôn Gwent Y Bala
£20 Rhif 237 Eluned Lee Ynys Môn
£10 Rhif 52 David Roberts Lerpwl

Pe hoffai rhywun ymuno â’r Clwb - £10 y flwyddyn, er hyrwyddo gwaith Cymdeithas Cymru-Ariannin i roi cymorth i fudiadau ac achosion Cymraeg ym Mhatagonia, cysylltwch gyda’r Trefnydd, Elvira Moseley, Elvira Moseley, 41 Baglan Heights, Baglan, Port Talbot,SA12 3UF gan wneud sieciau yn daladwy i 'CYMDEITHAS CYMRU-ARIANNIN Tynnir gwobrau bum gwaith y flwyddyn - Gorffennaf, Medi, Rhagfyr, Chwefror a Mai



Cywydd diolch i Luned Gonzalez (07-09-2013)

Dyma gywydd diolch i Luned Gonzalez gyfansoddwyd gan Karen Owen a Mererid Hopwood tra ar ymweliad yn ddiweddar


mwy


Wythnos brysur yn y babell (13-08-2013)

Cafodd y Gymdeithas wythnos brysur yn yr Eisteddfod

Agorwyd y babell fore Sadwrn cyntaf gan Gadeirydd y Cyngor Sir, y Cynghorydd Raymond Bartley.
Daeth rhai o’r criw aiff allan efo’r Urdd draw i dynnu eu raffl – roedd yn gyfle iddynt gyfarfod rhai o’r myfyrwyr sydd draw o’r Wladfa.
Bore Mercher cafwyd sesiwn ym Maes D dan gadeiryddiaeth y Fns Hazel Charles Evans. Bu’n siarad a holi Liliana Wiliiams, Nefyn; Miriam Jones Tilsley, Caerdydd a thair sydd draw o’r Wladfa ar gwrs Cymraeg Caerdydd - Cinthia Zamareno, y Gaiman; Sara Borda Green, Trevelin a Virginia Steinkamp, Trelew. Yn dilyn cafodd Sara ei chyfweld ar Good evening Wales ar Radio Wales,
Dydd Iau oedd diwrnod y Cyfarfod Blynyddol pan gafwyd ymweliad a chyfarchion yn Gymraeg gan Mariano Enrico o Lysgenhadaeth Ariannin yn Llundain yn dangos cefnogaeth i’r Gymdeithas, Siaradwyr y cyfarfod eleni oedd Lois Dafydd ac Iwan Madog oedd allan am y ddwy flynedd ddiwethaf gyda Menter Patagonia,
Dallenodd y Fns Nans Rowlands feirniadaeth, Cyhoeddwyd mai’r buddugol oedd y brawd a’r chwaer – Esther Evans de Hughes, Esquel yn gyntaf aac yn ennill gwobr o £120 a Nantlais Evans, Bariloche yn ail (gwobr o £80). Mae’r feirniadaeth a’r gwaith buddugol i’w gweld yng nghyfrol y Cyfansoddiadau.
Yn dilyn cynhaliwyd parti i ddathlu mai yn Ninbych yn Eisteddfod Genedlaethol 1939 y sefydlwyd y Gymdeithas. Torrwyd cacen a gafwyd yn rhodd gan y Parch Wayne Roberts gan Elan Jones, Lerpwl, un o Lywyddion Anrhydeddus y Gymdeithas.

Wythnos brysur


Tynnu raffl yr Urdd
Sesiwn Maes D
Cinthia Zamareno
Y gynulleidfa yn cyrraedd i'r Cyfarfod Blynyddol

Iwan Madog yn annerch
Lois Dafydd yn annerch
Elan Jones yn torri'r gacen
Parti yn y babell

Prysurdeb y babell
Cacen y dathlu





Carwyn Jones yn ymweld â Phabell Cymdeithas Cymru Ariannin ar faes yr Eisteddfod. (12-08-2013)

Prif Weinidog Cymru yn cael gwybodaeth am Dathlu 2015


Ar fore ddydd Llun, Awst 5 bu Carwyn Jones Prif Weinidog Cymru yn ymweld â phabell Cymdeithas Cymru Ariannin.

Mae’r paratoadau tuag at 2015 wedi bod yn fyrlymus ers rhai blynyddoedd ac wrth i’r flwyddyn fawr agoshau, mae’r pwyllgor dathlu yn edrych ymlaen tuag at galendr llawn.

Meddai Marc Philips, llywydd y Pwyllgor Dathlu “Roedd yn fraint cael ymweliad gan y Prif Weinidog ar ddiwrnod cyntaf y brifwyl. Mi fydd hyn yn werthfawr iawn i ysgogi rhai i fod yn rhan o’r dathlu yn ystod 2015”

Ymweliad y Prif Weinidog


Carwyn Jones ar ymweliad
Carwyn Jones yn siarad gyda Dafydd Wigley ac Elvey MacDonald
Carwyn Jones yn siarad gyda Dafydd Wigley ac Elvey MacDonald





Enillwyr raffl (10-08-2013)

Bethany Celyn, Dinbych, yn tynnu rhifau ein raffl flynyddol.

Diolch i bawb a werthodd ac a brynodd docynnau raffl Cymdeithas Cymru-Ariannin. Mae arian y raffl yn gymorth i dalu am ein pabell flynyddol yn yr Eisteddfod. Tynnwyd y rhifau buddugol brynhawn Sadwrn ola’r Ŵyl gan Bethany Celyn, Dinbych – enillydd yr Unawd o Sioe Gerdd i rai dros 19 oed ac un a fu ar ymweliad â’r Wladfa gydag Urdd Gobaith Cymru ychydig flynyddoedd yn ôl.

Dyma’r enillwyr:
£200 Ela Owen, Pen-y-bont-fawr
£100 Nia Owen, Llangynog
£50 Anna Wyn Roberts, Aberhonddu
£25 R.J. Roberts, Abergele
£25 Dilwen Roderick, Llanbedr Pont Steffan


Enillwyr (07-08-2013)

Brawd a chwaer yn ennill gwobr!

Llongyfarchiadau i Esther Evans, Esquel ar ennill y wobr gyntaf a Nantlais Evans, Bariloche ar ddod yn ail yn y gystadleuaeth ar gyfer pobl y Wladfa. Nans Rowlands oedd yn beirniadu.Cystadleuaeth Cymdeithas Cymru-Ariannin Gwobr Goffa Shan Emlyn


Swydd ddysgu yn Ysgol yr Hendre, Trelew (06-08-2013)

Mae angen athro/athrawes ar Ysgol yr Hendre, Trelew

Ysgol yr Hendre -Trelew
Patagonia – Yr Ariannin

Rydym yn chwilio am athrawes/athro Cymraeg, sydd wedi derbyn hyfforddiant ar gyfer addysgu mewn Ysgol Gynradd i weithio am 10 mis yn Ysgol yr Hendre yn ninas Trelew ym Mhatagonia. Bydd y tymor gwaith yn cychwyn ar ddiwedd mis Chwefror 2014 ac yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2014, gyda phythefnos o wyliau ym Mis Gorffennaf.
Mae Ysgol yr Hendre yn cynnig gwersi trwy gyfrwng y Sbaeneg yn ogystal â thrwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r gallu i siarad Sbaeneg yn fanteisiol ond nid yn rheidrwydd. Ystod oed y disgyblion yw 3 i 12, ond nid ydynt yn siarad Cymraeg gartref. Mae’r system addysg ym Mhatagonia yn wahanol iawn i’r drefn o addysgu sy’n bodoli yng Nghymru. Yr ydym felly yn chwilio am berson brwdfrydig, sydd yn hoffi gweithio gyda phlant, ac sy’n abl i weithio’n hyblyg mewn amryw o wahanol sefyllfaoedd.
Bydd y sawl a benodir yn cyd-weithio gydag athrawesau eraill yr ysgol, a disgwylir iddi/iddo fod yn barod i ymgymryd â gwahanol weithgareddau allgyrsiol gyda phlant yr ysgol, fel Eisteddfodau a nosweithiau llawen.
Bydd y diwrnod gwaith yn cychwyn am 8 y bore ac yn gorffen am 4 y pnawn. Darperir cinio canol dydd yn yr ysgol.
Bydd yr ysgol yn talu am docyn awyren o Lundain i Drelew. Telir cyflog athrawes ar raddfa tâl y Wladfa. Darperir llety a bwyd.
Os oes gennych chi ddiddordeb yn y swydd, neu os ydych chi am dderbyn mwy o fanylion cysylltwch â’r ysgol a/neu anfonwch eich CV at: ysgolyrhendre@gmail.com
Dyddiau cau i ymgeiswyr: Tachwedd 15fed 2013



Gweithgareddau y Babell (04-08-2013)

Agor y babell ac ymwelwyr

Bore Sadwrn bu y Cynghorydd Raymond Bartley, Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, yn agor y babell

Ymhlith ymwelwyr ar y diwrnod cyntaf oedd Alun Rawson Williams - gŴr a anwyd yn Rawson, Chubut ond symudodd y teulu yn ôl i Gymru.

Dydd Mercher 7 Awst ym Mhabell Maes D 10.00-11.00

Dysgwyr y Wladfa Y Fns Hazel Charles Evans yn holi rhai fanteisiodd ar ddysgu Cymraeg yn y Wladfa. D.S. ar yr amser


Dydd Iau 8 Awst Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas ym Mhabell y Cymdeithasau 2 13.30-15.00

Cyfarfod blynyddol yn cael ei gadeirio gan Lywydd y Gymdeithas - Y Parchg Eirian Wyn Lewis gyda Lois Dafydd ac Iwan Madog (Gweithwyr Menter Patagonia 2012). Croesawu ymwelwyr o'r Wladfa; crynhoad o feirniadaeth cystadleuaeth y Wladfa gan Nans Rowlands.

Agor y babell


Baner Cymru-Ariannin
Baner Dathlu 150
Alun Rawson Williams yn ymweld
Dr Wyn James a'r Archdderwydd Christine ar ymweliad.





Brodor o’r Wladfa - Walter Brooks yn dechrau’i waith (02-08-2013)

Yn ystod Wythnos Eisteddfod Genedlaethol 2013, mi fydd Walter Ariel Brooks yn dechrau ar ei waith fel cydlynydd y dathliadau sefydlu’r Wladfa ers 150 o flynyddoedd.


Yn wreiddiol o Comodoro Rivadavia, Chubut, Patagonia, mae Walter nawr yn byw yng Nghaerdydd ers 10 mlynedd, wedi astudio ym Mhrifysgol Caerdydd ac newydd orffen ei ddoethuriaeth yno ar y Drafod.

Meddai Walter “Mae 2015 yn prysur agoshau a dwi’n edrych ymlaen yn fawr iawn i weithio tuag at y dathlu. Mae digon o syniadau ar y gweill a dwi’n barod i droi popeth i mewn i realiti”

Mi fydd Walter ar faes yr Eisteddfod ar ddydd Llun a dydd Iau i groesawu unrhyw syniadau newydd neu am sgwrs.

Am wybodaeth pellach, neu i gyflwyno syniadau, anfoner at Hywel Roberts, 29 Dorset Street, Grangetown, Caerdydd. CF11 6PS, neu dewch draw i’n gweld ni ar faes yr Eisteddfod.

Tel: 07761 826975 e-bost: dathlu2015@hotmail.co.uk






Agor stondin a digwyddiadau (02-08-2013)

Digwyddiadau yn y Steddfod

Bydd Raymond Bartley, Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, yn agor y babell fore Sadwrn am 10.30.

Dydd Mercher 7 Awst ym Mhabell Maes D 10.00-11.00

Dysgwyr y Wladfa Y Fns Hazel Charles Evans yn holi rhai fanteisiodd ar ddysgu Cymraeg yn y Wladfa. D.S. ar yr amser


Dydd Iau 8 Awst Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas ym Mhabell y Cymdeithasau 2 13.30-15.00

Cyfarfod blynyddol yn cael ei gadeirio gan Lywydd y Gymdeithas - Y Parchg Eirian Wyn Lewis gyda Lois Dafydd ac Iwan Madog (Gweithwyr Menter Patagonia 2012). Croesawu ymwelwyr o'r Wladfa; crynhoad o feirniadaeth cystadleuaeth y Wladfa gan Nans Rowlands.




Cronfa Coron Eisteddfod Genedlaethol 2015 (02-08-2013)

Cymdeithas Cymru-Ariannin yn comisiynu coron

Penderfynodd Pwyllgor Gwaith Cymdeithas Cymru-Ariannin roi coron Eisteddfod Genedlaethol 2015 yn enw Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin. Byddwn yn comisiynu coron gan John Price, Machynlleth, gwneuthurwr coronau Wrecsam 2011 a Maldwyn a'r Gororau (Meifod) 2003, ac un sydd wedi ymweld â'r Wladfa.

Yn hytrach na defnyddio ein cronfa bresennol rydym yn gwahodd cyfraniadau ariannol gan aelodau, cyfeillion a chan unrhyw un sydd â diddordeb. Mae hyn yn rhan o ddathliadau 150 mlynedd Y Wladfa ym Mhatagonia. Amcangyfrifir bod angen casglu tua £2,000, ac a wnaiff unrhyw un sydd yn dymuno cefnogi anfon eu cyfraniad i'r Trysorydd*, yn daledig i Gymdeithas Cymru-Ariannin, (neu wneud taliad uniongyrchol i ‘Cymdeithas Cymru-Ariannin’, côd didoli 20-35-47, rhif y cyfrif 20150223) gan nodi yn glir 'Cyfraniad Coron 2015' ar y taliadau, os gwelwch yn dda?

Diolch yn fawr i chi ymlaen llaw am eich cefnogaeth arferol.

Mae teulu y ddiweddar Fns Aur Roberts, Llanuwchllyn yn rhoi y wobr ariannol yng nghystadleuaeth y Goron er cof amdani.



* Gareth Tilsley, Talerddig, Ffordd Hwfa, BANGOR LL57 2BN



Awydd mynd i ddysgu Cymraeg i'r Wladfa? (29-07-2013)

Cyhoeddodd y Cyngor Prydeinig fanylion tair swydd

Mae'r Cyngor Prydeinig yn chwilio am athrawon profiadol o Gymru i fynd allan i ddysgu Cymraeg ym Mhatagonia rhwng Mawrth a Rhagfyr 2014. Bydd angen i’r ymgeiswyr fod a nifer o flynyddoedd o brofiad o ddysgu Cymraeg ar lefel Gynradd, Uwchradd neu Oedolion.

Am fwy o fanylion a ffurflen gais gweler y ddolen isod.
mwy


Gŵyl y Glaniad 2013 (28-07-2013)

Cymdeithas Cymru-Ariannin yn dathlu yn Aberteifi

Daeth llond neuadd o aelodau a chyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin ynghyd dydd Sadwrn 27 Gorffennaf i ddathlu Gŵyl y Glaniad yn Aberteifi – achlysur wedi ei drefnu gan Bwyllgor Gefeillio Aberteifi- Trevelin.
Croesawyd pawb i’r Neuadd gan Gadeirydd y Gymdeithas – Menna George- sy’n frodor o Aberteifi, a chafwyd cyfarchion gan y Cynghorydd John Adams-Lewis – Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion a’r Parchedig Gynghorydd Gwynfi Jenkins, Maer Aberteifi.
Teithiodd aelodau o Fôn, Gwynedd, Clwyd, Caerdydd a Sir Gaerfyrddin i’r dathliad ac roedd hefyd nifer o Wladfawyr yn bresennol - Benito a Beatrice Jones, Edith MacDonald ac Oscar Arnold a Hector Ariel MacDonald – i gyd o’r Gaiman. Hefyd myfyrwyr sydd ar y cwrs Cymraeg yng Nghaerdydd - Cinthia Zamareno, y Gaiman; Sara Borda Green, Trevelin, Virginia Steinkamp, Trelew, Estella Alicia Jones ac Ivana Mariel Mansilla Trevelin sydd ar gwrs Cymraeg Caerdydd dan y Cynllun a Guillermo Williams, Buenos Aires ( ond yn wreiddiol o Comodoro Rivadavia) - sydd ar y cwrs dan nawdd Prifysgol Caerdydd.
Yn dilyn derbyn cyfarchion o’r Wladfa cafwyd pryd blasus o fwyd ac adloniant swynol gan Beti a Siân, Login – cyn aelodau o’r grwpiau Perlau Taf a Beca.
Rhoddwyd hamperi hyfryd o gynnyrch Cymreig yn rhodd gan y trefnwyr fel gwobrau raffl ac enillwyd y rhain gan Marjorie Bowyer, Caerdydd; Eleri Roberts, Llanuwchllyn; y Parchg Gwynfi Jenkins, Aberteifi a Mary Price, Machynlleth.

Gŵyl y Glaniad 2013


Y gynulleidfa
Athrawon yr Andes Elen Davies 2001/2, Hazel Charles Evans,1997/99 a 2004/5, Iwan Madog 2012/3 a Nesta Davies 2002/3
Gwladfawyr ar ymweliad.






Enillwyr Gorffennaf y Clwb Cyfeillion (27-07-2013)

Tynnwyd y rhifau yng Ngŵyl y Glaniad yn Aberteifi

Dyma enillwyr Gorffennaf 2013 Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin. Tynnwyd y rhifau buddugol yng Ngŵyl y Glaniad yn Aberteifi
£60 Rhif 149 Macsen Pickenpack, Aberhonddu
£50 Rhif 159 Gwilym Roberts, Caerdydd
£40 Rhif 11 Mary Jones, Aberporth
£30 Rhif 61 Cintia Jones, Staines
£25 Rhif 140 John M Edwards, Aberhonddu
£20 Rhif 304 Anne Innes, Yr Eglwysnewydd, Caerdydd
£10 Rhif 82 Gareth Roberts, Y Bala



Mini-Eisteddfod Bethel (07-07-2013)

Mini-Eisteddfod lwyddiannus!

Cafwyd Mini-eisteddfod Bethel hwyliog a llwyddiannus. Roedd yr Hen Gapel dan ei sang. Digon o waith i´r beirniaid Rhisiart Arwel (canu), Nivia Owen(adrodd), Sonia Baliente (canu) a Nelcis Jones(adrodd). Beirniad llenyddiaeth Gymraeg oedd Esyllt Roberts de Lewis a chafodd Gweneira Davies a Glenda Thomas wobrau gyntaf. Braf oedd croesawu Tomás Hughes o Choele-choel (Luis Beltrán) a´r darpar feddygeon Gwion Williams o Gaernarfon a Tomos Williams o Bwllheli. I gloi y noson roedd Marli yn arwain côr cymysg y Gaiman (allan o gystadleuaeth) ac ymunodd y beirniaid canu efo´r côr. Llongyfarchiadau i´r pwyllgor gweithgar wnaeth drefni y noson ac edrychwn ymlaen i´r Mini Bethel nesaf ar y 28 o Fehefin, 2014.

Mini-Eisteddfod Bethel 2013


Gladys Thomas yn arwain côr plant yr Ysgol Gerdd
Mirna Jones yn arwain côr ifanc yr Ysgol Gerdd





Oedfa ym Methel (02-07-2013)

Oedfa nos Sul 30 Mehefin yn y Gaiman

Cafwyd oedfa Gymraeg am 6 nos Sul ym Methel, y Gaiman. Roedd yr oedfa wedi ei threfnu gan Rhisiart Arwel ar y thema "Cyfeillgarwch" ac roedd yr emynau yn cyfeirio at y thema ddewiswyd. Judith Jones oedd yn cyfeilio. Roedd amryw yn cymryd rhan: Gladys Thomas, Benito Jones, Sylvia Baldor, Ariela Gibbon, Glenda Thomas, Judith Jones, Esyllt Roberts gyda Rhisiart yn arwain y cwrdd. Er bod amryw o´r ffyddloniaid yn absennol oherwydd annwyd roeddem yn 15 yn yr oedfa. Braf oedd croesawu Gwion o Gaernarfon a Tomos o Bwllheli sydd yn astudio Meddyginiaeth yn Lerpwl. Byddant yma am tua mis yn cael profiad yn yr ysbyty Zonal yn Nhrelew


Gwersi Cymraeg i staff y swyddfa dwristiaeth. (26-06-2013)

Gwersi Cymraeg

Gwersi Cymraeg


Dau o Fenter Patagonia yn rhoi gwersi.

Mae Rhisiart Arwel a Sandra De Pol wedi dechrau rhoi dosbarth Cymraeg i´r rhai sydd yn gweithio yn y swyddfa dwristiaeth yn y Gaiman. Mae y dosbarth ar fore dydd Mawrth yn y swyddfa.


Clwb yr Ifanc ym Methel, y Gaiman. (23-06-2013)

Clwb yr ifanc ym Methel Gaiman

Clwb yr ifanc ym Methel Gaiman




Sadwrn Mehefin 22ain
Cafodd rhai o drigolion y Gaiman sydd yn byw ar ben eu hunain syrpreis ddymunol gyda´r nos heddiw. Daeth rhai o bobol ifanc sydd yn cwrdd ar nos sadwrn yn Hen Gapel Bethel a swper iddynt: amlen o gawl, sudd, dwy "quiche" fechan, bara a phwdin. Roeddent wedi bod yn paratoi y bwyd a wedyn wedi rhannu yn grwpiau i fynd a´r pecynnau bwyd i´r cartrefi. Amgáeir lun o un cynrychiolaeth. Diolch yn fawr i´r ifanc am gofio am y bobol h^yn.
HWRÊ! Mae y dydd yn dechreu ymestyn er bod y gaeaf wedi dechreu yn swyddogol ddoe.



Hanes Michael D. Jones ar ‘Britain’s Secret Homes ar ITV1 heno. (21-06-2013)

Bydd deunyddiau o Archifau Prifysgol Bangor yn ymddangos ar gyfres newydd ‘Britain’s Secret Homes ar ITV1 heno.

150 o flynyddoedd yn ôl roedd Bodiwan, Y Bala, yn gartref i'r Parchedig Michael D Jones. Ac yntau wedi cael hen ddigon ar y gormes roedd yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig yn ei ddioddef yn ei famwlad, penderfynodd greu 'Cymru Newydd' ar draws y moroedd. Dewiswyd Dyffryn Camwy, ardal denau ei phoblogaeth ym Mhatagonia, ar gyfer y wladfa. Yn 1865, hwyliodd y Mimosa o Lerpwl am yr Ariannin gydag oddeutu 160 o ddynion, merched a phlant o Gymru ar ei bwrdd. Dioddefodd yr ymfudwyr cynnar galedi fel sychder a llifogydd yn y wladfa ond, er gwaethaf popeth, fe wnaethant ffynnu ac, yn rhyfeddol, hyd heddiw mae disgynyddion yr ymfudwyr gwreiddiol yn dal i fyw ym Mhatagonia ac yn siarad Cymraeg

Gan Archifau Prifysgol Bangor y mae’r casgliad mwyaf y tu allan i Lyfrgell Genedlaethol Cymru o ddeunydd yn ymwneud â'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Bydd lluniau o Michael D Jones, yr ymsefydlwyr cyntaf ac ymsefydlwyr yng Nghwm Hyfryd, a ddarperir gan Brifysgol Bangor, yn ymddangos ar y rhaglen heno.


Mwy o newyddion o'r Dyffryn (21-06-2013)

Bethesda 2

Bethesda 2


Cymanfa Ganu, Taith i Gymru a Chyfarfod Gweddi

Cymanfa Ganu
Cafwyd Cymanfa Ganu i´w gofio yn Nghapel Bethesda heddiw, Mehefin 15fed, a chynnal agoriad swyddogol y ganolfan newydd sydd wedi cael ei chodi ger y capel. Roedd y Gymanfa dan nawdd Cymeithas Dewi Sant. Yn arwain y canu roedd Rebeca White, Gladys Thomas a Marli Pugh a Lis Suárez de Jones wrth yr organ. Cafwyd darlleniad gan Antonella Herrero, hanes y capel gan Ricardo Irianni, neges gan Irma Roberts de Williams. Mi wnaeth Valeria Lloyd, Liliana Lloyd ac Irma R. de Williams arwain mewn gweddi. Bu y cyhoeddiadau a´r diolchiadau dan ofal Liliana Lloyd a Susana Pritchard. Casglwyd yr offrwm gan aelodau o´r Ysgol Sul. Roedd cynrychiolaeth o ysgol Bethesda yn bresennol yn cario banner Ariannin. Trosglwyddodd Ivonne Owen, fel trysorydd yr Undeb Eglwysi, ddogfennau yn ymwneud a´r ganolfan newydd gan ddiolch i´r pwyllgor ifanc fu yn gyfrifol am drefni y gwaith. Cawsant ddod i´r llwyfant a chael clap gwresog gan y gynnulleidfa. Codwyd y ganolfan efo arian gafwyd yn rhodd gan lywodraeth talaith Chubut. Yna bu gair gan Irma (Nené) Williams yn cofio am ei phlentyndod yn y capel. Wrth i´r gynulleidfa adael roeddem yn canu Rachie a phawb yn ymgynnull o flaen y ganolfan newydd ger y capel. Cafwyd gair a gweddi gan y parch Carlos Ruiz i agor y ganolfan yn swyddogol a chydganwyd y Fendith tra roedd Eileen James de Jones, Brinley Roberts ac Erni Pritchard yn datod y rhuban ac agor y drws. Pawb yn cerdded fewn i´r lle wedyn i fwynhau paned o de poeth a danteithion oedd wedi cael eu paratoi gan bwyllgor y capel. Yn wir, pnawn i´w gofio.
(Mae oedfa yn Spaeneg bob trydydd sul ym Methesda ac Ysgol Sul ("hora feliz") bob pnawn Sadwrn am 3 dan arweiniad Valeria a Liliana Lloyd efo dros 20 o blant yn mynychu.)

Taith i Gymru
Diolch i bawb ddaeth i Dŷ Camwy neithiwr i ffarwelio â Cinthia a
Virginia sy ar fin gadael am Gymru yr wythnos nesa ma i ddilyn cyrsiau
Uwch yng Nghwrs Haf Canolfan Cymraeg i Oedolion Prifysgol Caerdydd.
Pob lwc i'r ddwy, siwrnau sâff ichi a dan ni'n edrych ymlaen i glywed
eich hanesion ar ôl ichi ddychwelyd adre.

Cyfarfod Gweddi Bethel y Gaiman
Cynhelir y cyfarfod gweddi nesa nos Sul y 30ain o Fehefin am 6pm.
Thema'r gwasanaeth fydd 'cyfeillgarwch'. Diolch i bawb sy eisoes wedi
cytuno cymryd rhan yn y gwasanaeth. Croeso cynnes i bawb.


Rhisiart Arwel


Newyddion o Ddyffryn Camwy Mehefin 2013 (11-06-2013)

Prysurdeb ym mhentrefi'r Dyffryn

Dyma ni yn ein trydydd mis yn Nyffryn Camwy, ac mae ‘na 'chydig o hanes i’w adrodd.

Buon ni mewn dwy Gymanfa Ganu Cymdeithas Dewi Sant yn ddiweddar. Ym mis Ebrill, cawson ni ein croesawu yng Nghymanfa Ganu Capel Carmel, Dolavon gan gynulleidfa ddiddan a niferus. Roedd yn bleser gweld sawl wyneb cyfarwydd yn ogystal â rhai newydd yno. Roedden ni’n ddiolchgar am y cyfle i gael cymryd rhan yn yr addoliad ac am gael sôn am y dosbarthiadau Cymraeg a’r sesiynau siarad yn y Dyffryn.

Cynhaliwyd Cymanfa mis Mai ar yr 11eg o’r mis. Y tro yma, ymgasglodd pawb yng Nghapel Nasareth, Drofa Dulog. Braf iawn oedd cael gweld yr adeilad bychan prydferth yma allan yn y dyffryn dan ei sang. Unwaith eto, braf oedd cael cyd-addoli a mwynhau’r canu hyfryd.

Cymeron ni ran yn Oedfa Diolchgarwch yng Nghapel Bethel, Gaiman ym mis Ebrill. Braf iawn oedd cael pawb ynghyd i wasanaeth Cymraeg. Roedd nifer fawr yn cyfrannu i’r gwasanaeth - yn unawdwyr ac yn grwpiau. Penderfynwyd bryd hynny y byddai’r gwasanaethau Cymraeg yn parhau ar hyd misoedd y gaeaf. Esyllt (Nest Roberts) oedd yn gyfrifol am drefnu’r cyfarfod gweddi nesa ar Fai'r 26ain. Defnyddiodd Esyllt emyn enwog Eifion Wyn ‘Ein Tad Moliannwn Di’ fel thema i’r gwasanaeth, ac unwaith yn rhagor cafodd nifer ohonon ni gyfle i gyfrannu i’r addoliad. Dyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar rŵan at y cyfarfod gweddi nesa a fydd yn cael ei gynnal ym Methel ddydd Sul, Mehefin 30ain am 6pm. Rhisiart (Arwel) sy’n gyfrifol am drefnu a’r thema fydd ‘Cyfeillgarwch’. Croeso cynnes i bawb fel arfer.

Dros yr Ŵyl Banc ddiwedd Ebrill, cynhaliwyd Noson Gyri a gemau ym Mhlas y Coed y Gaiman. Roedd hi'n noson brysur iawn i'r rhai a goginiodd, ond yn bleserus dros ben i bawb a ddaeth yno i ymlacio a chymdeithasu. Gwych oedd gweld ymateb y rhai oedd yn blasu Cyri am y tro cyntaf! Roedd digon o ddewis o fwyd ar gael – o’r melys a llysieuol i rai ychydig yn ‘boethach’ o ran blas. Diolch yn fawr iawn i'r cogyddion.
Trueni nad ydy’r gair ‘picante’ yn bodoli yn Gymraeg i ddisgrifio bwyd ‘poeth’ yn de? Ond wedi dweud hynny, efallai y dylen ni ei fabwysiadu a dechrau defnyddio’r term ‘bwyd picantaidd’. Ydych chi’n cytuno?

Bellach, mae sesiynau Sgwrsio yn cael eu cynnal yn wythnosol yn Nhrelew (pnawn Mercher am 5yh ac eto am 7yh), Gaiman (Nos Fawrth am 8yh) a Dolavon (Nos Lun am 5.30yh). Yn ychwanegol, cynhelir sesiwn anffurfiol ym Mhorth Madryn unwaith y mis a dyn ni’n edrych ymlaen yn arw i weld y criw yng Nghanolfan Toschke eto nos Wener y 14eg o Fehefin.

Hefyd, fel arbrawf newydd, cynhelir cwrs Ysgrifennu Anffurfiol
bob pythefnos yn nhŷ Camwy ar nosweithiau Mawrth. Y syniad yn fras ydy rhoi mwy o hyder i bobl ysgrifennu yn Gymraeg - yn negeseuon e-bost, yn gardiau pen-blwydd ac ati - at ffrindiau neu gydnabod yng Nghymru.
Gobeithio cawn ddatblygu ar hyn yn y dyfodol, fel modd o gynnig rhywbeth amgen i’r rhai sy ddim eisiau dilyn cwrs ffurfiol yn Gymraeg.


Llongyfarchiadau i Virgina Steinkamp a Cinthia Zamarreño o’r Dyffryn ar ennill ysgoloriaeth i fynd i Gymru eleni. Bydd y ddwy ohonynt yn dilyn Cwrs Uwch a rhan o Gwrs Meistroli ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae cyrsiau Canolfan Cymraeg i Oedolion yn boblogaidd iawn bob blwyddyn ac felly rydyn ni'n siŵr y bydd Virginia a Cinthia yn manteisio ar bob cyfle i ddysgu a chymdeithasu trwy gyfrwng iaith y nefoedd. Yn ogystal â'r ddwy ferch o'r Dyffryn rydyn ni'n hapus iawn dros Estela, Ivana a Sara o'r Andes, bydd y pump yn gynrychiolaeth arbennig o'r Wladfa.


Ymweliad Llinos Daniel oedd un o'r uchafbwyntiau i ddosbarthiadau Cymraeg i blant yn y Gaiman yn ystod mis Mai. Cafodd sawl disgybl gyfle i gymryd rhan yn y gweithdy telyn a gynhaliwyd yn Ysgol Gerdd y Gaiman. Diolch i Llinos am sesiwn a agorodd llygaid mwy nag un person. Mae llawer o blant yn awyddus i ddysgu chwarae'r delyn nawr, daeth y delyn yn rhodd arbennig gan ‘Gwdihŵ’ (cyfeilles o Gymru) i drigolion y dyffryn ym Mhatagonia. Bydd y delyn yn aros yma yn Ysgol Yr Hendre a bydd cyfle i wneud cais i’w benthyg hefyd. Mae pawb yn ddiolchgar dros ben am dderbyn adnodd mor werthfawr a chreadigol.

Hefyd ar ymweliad â’r dyffryn yn ddiweddar oedd Amy Dolben. Ar ôl cyfnod yn gwirfoddoli yn yr Andes, daeth Amy draw i’r dyffryn i gynorthwyo yn Ysgol yr Hendre ac i fynychu pob math o ddigwyddiadau Cymraeg yn Nhrelew a’r Gaiman fel ei gilydd. Roedd yn bleser ei chael hi gyda ni yn yr ardal a dw i’n siŵr bod pawb yn dymuno’n dda iddi gan ei bod ar drothwy dechrau astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt ym mis Hydref.

Sandra De Pol a Rhisiart Arwen


Newyddion o'r Andes Mehefin 2013 (11-06-2013)

Prysurdeb yn Esquel a Threvelin

Noson Siôn a Siân Esquel

Cafwyd noson llawn sbort a sbri nos Sadwrn diwethaf wrth i ni ddarganfod faint mae cyplau Esquel yn ei wybod am ei gilydd. Diolch i Luis a Soraya a Marcelo a Glenda am fod mor barod i gymryd rhan ac ymuno’n yr hwyl. Marcelo a Glenda gafodd y nifer fwyaf o atebion a oedd yn cyfateb ac felly nhw wnaeth ennill y siocled blasus o Dulzuras de Esquel!!! Noson Siôn a Siân Trevelin fydd nesaf!

Ymweliadau

Dw i wrth fy modd yn ymweld â phobl hŷn yr ardal gydag Isaías – cael sgwrs am hyn a’r llall, rhoi’r byd yn ei le a chlywed eu hanesion a hynny mewn Cymraeg mor loyw. Yn ddiweddar rydym ni wedi ymweld â Lizzie Freeman ac Edith Wyn. Edrychaf ymlaen at ymweld â mwy o bobl yn ystod y misoedd nesaf.

Skype
Cafodd Imanol a Jere o ddosbarth Wlpan 1 Esquel gyfle i sgwrsio â chriw o fechgyn Ysgol Gyfun y Strade, Llanelli ar Skype yn ddiweddar. Roeddwn i’n athrawes Ffrangeg a Sbaeneg i Jacob Morris, Luke Thomas a Cory Owens yn y Strade y llynedd, ac felly roedd hwn yn gyfle gwych i fechgyn Esquel ymarfer eu Cymraeg ac i fois Llanelli ymarfer eu Sbaeneg! Maen nhw’n edrych mlaen i sgwrsio gyda’i gilydd eto cyn bo hir!
Cylch Ti a Fi
Hyfryd yw gweld cynifer o blant bach yn dod gyda’u rhieni i’r Cylch Ti a Fi yn Esquel. Mae’n cynnig cyfle i rieni/gwarchodwyr fwynhau chwarae gyda'r plant a chymdeithasu mewn awyrgylch Gymreig ac mae’n rhoi cyfle i’r plant fwynhau chwarae gyda phob math o deganau, canu a gwrando ar storiau, coginio, peintio a gwneud ffrindiau bach newydd! Mae croeso i unrhywun ymuno â’n criw bach hapus ni!

Dawnsio Gwerin
Cynhelir Clwb Dawnsio Gwerin hynod lwyddiannus bob nos Lun a bob nos Fawrth dan arweiniad Jessica Jones yn Ysgol y Felin, Trevelin. Mae deg o blant yn dawnsio bob nos Lun rhwng 7:30 ac 8:30 a thro’r oedolion yw hi ar nos Fawrth. Rydym ni wrthi’n ymarfer ar gyfer cyngerdd Gŵyl y Glaniad ar hyn o bryd – bydd yr oedolion yn perfformio ‘Aberdaugleddau’ ac ‘Hoffedd ap Hywel’ a’r plant yn dawnsio ‘Cylch Sircasian’. Diolch i Jessica am ein hyfforddi.

Digwyddiadau:

Oedfaon - Cafwyd oedfa yn Nghapel Bethel Trevelin ac yng Nghapel Seion Esquel ym mis Mai. Bydd yr oedfa nesaf yng Nghapel Bethel ar y 30ain o Fehefin a gofynnwn yn garedig i bawb, yn ôl yr arfer, ddod â rhywbeth i rannu er mwyn i ni allu fwynhau te a sgwrs gyda’n gilydd yn y festri ar ôl y gwasanaeth. Yn yr un modd, bydd te yn y Ganolfan yn dilyn yr oedfa nesaf yn Nghapel Seion ar y 4ydd o Awst.

Eisteddfod Puerta del Sol – Bydd nifer o blant Ysgol Gymraeg Esquel a Threvelin yn cystadlu yn Eisteddfod Puerta del Sol a fydd yn cael ei chynnal yn Neuadd y dref yn Nhrevelin ar ddydd Mawrth yr ail o Orffennaf. Pob dymuniad da iddyn nhw i gyd!

Dymuno’n dda – Bydd criw Ysgol Gymraeg Trevelin, yn diwtoriaid ac yn fyfyrwyr, yn mynd allan am bryd o fwyd yr wythnos nesaf er mwyn dymuno’n dda i Sara, Estela ac Ivana, y dair a fydd yn teithio i Gymru cyn bo hir i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Pob llwyddiant a siwrnai ddiogel iddyn nhw ac i ferched y Dyffryn.

Eluned Owena Evans



Cyngherddau yn y Gaiman a Threlew (09-06-2013)

Penwythnos prysur cerddorol o gyngherddau yn Nyffryn Camwy!

Cawsom noson i´w chofio yn y Gaiman yn mwynhau cyngerdd ardderchog wedi ei drefnu gan Ysgol Gerdd y Gaiman yn neuadd yr Eglwys Fethodistaidd yn Heol John Caerenig Evans. Yn agor y cyngerdd roedd parti merched Ysgol Gerdd y Gaiman dan arweiniad Edith MacDonald a chyfeiliant Hector Ariel. I ddilyn canodd parti "Raigue" o Drelew dan arweiniad Karina Torres. I gloi y cyngerdd daeth parti o Rawson i´r llwyfan: parti "Santa Cecilia" dan arweiniad Fernanda Defea ac Alicia Ferrari yn cyfeilio. Roedd cynulleidfa niferus yn mwynhau y canu a gobeithio cewn ragor o gyngherddau tebyg ar hyd y flwyddyn. Yn arwain y noson ac yn cyflwyno diolchiadau roedd Gladys Thomas, prifathrawes Ysgol Gerdd y Gaiman.

Nos Wener Mehefin y 7fed cafwyd cyngerdd godidog yn neuadd "Teatro Verdi" yn Nhrelew. Roedd y cyngerdd wedi ei drefnu gan "Gylch Cymraeg Trelew" er budd Ysgol yr Hendre dan y nod: "Mawr a mân yn dod at ein gilydd i ganu". I ddechreu roedd plantos iau yr ysgol yn canu amryw o ganeuon i gyfeiliant eu hathrawes Judith Jones. Dechreu gwych! I ddilyn roedd plant y dosbarthiadau cynradd yn canu amrywiaeth o ganeuon dan arweiniad egniol Catrin Morris i gyfeiliant Rhisiart Arwel efo´r gitár a Hector Ariel efo´r piano. Daeth parti merched "Surazul" i ganu ac ar ei ôl parti meibion Cymdeithas Dewi Sant Trelew dan arweiniad Daniel Garavano. Parti newydd sbon ydy hwn a chafodd pob cymeradwyaeth gan y gynulleidfa. Daeth parti "Blue Angels" i ddilyn, parti fu yn canu yn yr wythdegau ac wedi ail ddechreu yn ddiweddar. Yna, pedwarawd "Hogia´r Whilber" daeth i´r llwyfan a chanu amryw o ganeuon a gorfod canu un ychwanegol gan gymaint oedd y galwad. Yn cloi y cyngerdd roedd côr cymysg Ysgol Gerdd y Gaiman yn canu dan arweiniad Marli Pugh. Yn arwain y cyngerdd oedd Susana Celano - Spaeneg - a Sandra De Pol - Cymraeg. Yn ystod y noson trosglwyddwyd tusw o flodau i Catrin Morris a María Laura de Hughes roedd yn dathlu eu pen blwydd y diwrnod hwnnw ac un i Tegai Roberts a ddathlodd ei phen blwydd y diwrnod cynt. Roedd y neuadd dan ei sang ac yn y gynulleidfa gwelwyd is-raglaw y dalaith, sef y bonwr César Gustavo Mac Karthy. Llongyfarchiadau i´r trefnwyr a´r rhai fu yn cymryd rhan.




Taith yr Urdd 2013 (02-06-2013)

Criw Urdd 2013

Criw Urdd 2013


Cyhoeddi enwau y rhai fydd yn mynd ar ymweliad â'r Wladfa gyda'r Urdd fis Hydref/Tachwedd eleni

23 Hydref – 5 Tachwedd 2013, bydd 20 o bobl ifanc o ogledd Cymru yn cael y cyfle i fynd ar daith unigryw i Batagonia gydag Urdd Gobaith Cymru a Mentrau Iaith Cymru.
Tra ym Mhatagonia, byddant yn gwneud gwaith gwirfoddol megis cynnal sesiynau yn yr Ysgol Feithrin Gymraeg, gwaith adeiladu tîm yng Ngholeg Camwy a chystadlu yn Eisteddfod y Wladfa. Byddant hefyd yn cael blas o’r diwylliant unigryw Gymreig yno.
Bydd angen i’r bobl ifanc godi £2,250 yr un ar gyfer y daith, ac maent eisoes wedi bod yn cynnal gweithgareddau megis coginio brecwast yn y neuadd gymunedol, sialens triathlon a raffl fawr.
Y 20 person ifanc fydd yn mynd ar y daith mis Hydref 2013 fydd
- Bethan Sian Hale o Ysgol Creuddyn ac Erin Gwyn Rossington o Ysgol Dyffryn Conwy
- Catrin Darlington a Llio Fflur Davies o Ysgol Morgan Llwyd a Tomos Gwyn o Ysgol Maes Garmon
- Cerys Lois Jones, Guto Dafydd Jones, Lois Clwyd Hughes a Undeg Steffan o Ysgol Brynhyfryd
- Elin Haf Tomos, Erin Ynyr, Gwen Angharad Thomas a Huw Owen o Ysgol Brynrefail
- Lisa Erin Owen a Marged Gwenllian o Ysgol y Berwyn
- Steffan Lloyd Owen o Ysgol David Hughes ac Owain Arwel Hughes o Ysgol Syr Thomas Jones
- Gweno Erin Ywain, Lois Angharad Evans a Lora Angharad Lewis o Goleg Meirion Dwyfor
Y staff fydd yn mynd gyda’r criw fydd Eryl Williams a Branwen Haf o’r Urdd a Ceri Phillips o Fenter Iaith Conwy.
Yn ôl Eryl Williams, Swyddog Datblygu Môn fydd yn arwain y daith ym Mhatagonia, “Mae’r daith hon yn gyfle gwych i bobl ifanc gael profiad unigryw a bythgofiadwy. Mae amryw ohonynt heb fod ar awyren o’r blaen, heb sôn am hedfan i ochr arall y byd!
“Mae’n wych ein bod yn cydweithio gyda’r Mentrau Iaith i drefnu’r daith, ac mae cyfraniad y criw sy’n gweithio allan ym Menter Patagonia yn amhrisiadwy. Rydym wedi cyfarfod y criw i gyd gyda’i gilydd am y tro cyntaf dros y penwythnos yng Nglan-llyn, a’r gobaith yw y gallwn gyfarfod unwaith neu ddwy eto cyn y daith i bawb ddod i adnabod ei gilydd yn well.”
Un o’r criw sydd yn mynd ar y daith yw Bethan Sian Hale o Ysgol y Creuddyn. Dywedodd, “Un o’r rhesymau oeddwn i eisiau mynd allan i Batagonia eleni ydy am fod gen i deulu yn Nhrelew a’r Gaiman – mi wnaethant symud i’r Wladfa tua deng mlynedd yn ôl, a rwy’n gobeithio y caf gyfle i’w cyfarfod yna.”
Ychwanegodd Meirion Davies, o Fenter Iaith Conwy, “Mae’r daith flynyddol hon, sydd wedi ei threfnu ar y cyd gyda’r Urdd, yn gyfle gwych i bobl ifanc weld pa mor werthfawr yw’r Gymraeg a rhoi blas iddynt o ddiwylliant unigryw Patagonia. Rydym yn gweld, ar ôl y daith, fod amryw o’r bobl ifanc yn fwy parod i ddefnyddio eu Cymraeg yn gymdeithasol ar ôl dod nol i Gymru. Mae cynnig cyfleoedd fel hyn i bobl ifanc yn amhrisiadwy.”



Minieisteddfodau Dyffryn Camwy (22-05-2013)

Hanes Minieisteddfod Ysgol Camwy a dyddiadau rhai Dolavon a Bethel

Cynhalwyd Micro-Eisteddfod Ysgol Camwy dydd sadwrn y 18fed o Fai yn neuadd Ysgol Cynradd 100. Roedd y lle yn llawn a llawer o blantos yn cystadlu yn frwd. Pleser oedd gwrando ar Mercedes Meza White Blwyddyn 1 Ysgol Camwy yn arwain yr Eisteddfod yn Gymraeg a Spaeneg. Mae hi yn gyn-ddisgybl Ysgol yr Hendre ac yn teithio yn ddyddiol o Drelew i Ysgol Camwy. Roedd Elin Glyn Williams, Sandra de Pol ac Esyllt Roberts yn beirniadu yr adrodd yn Gymraeg a´r dawnsio gwerin. Rhaid llongyfarch y pwyllgor disgyblion a drefnodd yr eisteddfod a´r athrawon bu yn gweithio i baratoi y plant. Edrychwn ymlaen nawr i Minieisteddfod Dolavon ar y 29ain o Fehefin, a Minieisteddfod Bethel ar y 6ed o Orffennaf.


Enillwyr Mai y Clwb Cyfeillion (20-05-2013)

Tynnwyd y rhifau ym Mhwyllgor Gwaith Mai

Dyma enillwyr Mai 2013 Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin. Tynnwyd y rhifau buddugol ar ddiwrnod Pwyllgor Gwaith mis Mai
£60 Rhif 217 Geraint Tilsley, Caerdydd
£50 Rhif 196 Keith ac Eira Phillips, Caerfyrddin
£40 Rhif 288 Richard Garmon, Pen-y-bont ar Ogwr
£30 Rhif 254 Robin Roberts, Amlwch
£25 Rhif 341 Gwyn a Sally Rees, Ceredigion
£20 Rhif 295 Ifor Glyn a Nêst Tudur, Betws y Coed
£10 Rhif 25 Mair a Winzie Richards, Llanbedr Pont Steffan



Newyddion o'r Andes (20-05-2013)

Newyddion diweddar o'r Andes oddi wrth Eluned Owena Evans

Llongyfarchiadau – Mae’n bleser cyhoeddi bod tair o Drevelin sef Estela Jones, Ivana Mansilla a Sara Borda Green wedi cael cynnig lle ar Gwrs Haf Canolfan Cymraeg i Oedolion Prifysgol Caerdydd eleni. Llongyfarchiadau gwresog i’r dair. Edrychwn ymlaen at gael dathlu gyda hwy cyn iddyn nhw gychwyn ar eu taith ddiwedd Mehefin.

Amy Dolben – Bu Amy Dolben yn gwneud gwaith gwirfoddol gyda ni yma’n yr Andes yn ddiweddar. Bu’n cynorthwyo yn y gwersi Cymraeg yn ogystal â rhoi’r fideos sydd yn llyfrgell y Ganolfan yn Esquel mewn trefn yn barod i’w trosglwyddo ar DVDs. Dymunwn yn dda iddi wrth iddi dreulio amser yn y Dyffryn a phob hwyl iddi ym Mhrifysgol Caergrawnt yn yr Hydref.

Ebrill 30 - Ar Ebrill 30ain 1902 dewisodd y Cymry cynnar, trwy bleidlais, mai rhan o’r Ariannin fyddai Cwm Hyfryd ac nid rhan o Chile. Gyda Benett a Dianne, disgyblion Ysgol Gymraeg Trevelin bob ochr i mi yn y wisg draddodiadol Gymreig, yr oedd yn anrhydedd dal baner Cymru mewn seremoni arbennig a gynhelir bob blwyddyn yn Ysgol 18, sy’n lle allweddol nid yn unig yn hanes y Wladfa ond yn hanes yr Ariannin ei hun. Ar ol te blasus iawn, aethom i Neuadd y dre i fwynhau cyngerdd arbennig a oedd wedi’i threfnu i ddathlu’r diwrnod hanesyddol hwn. Hyfryd oedd treulio’r diwrnod yng nghwmni Elin Glyn, athrawes Ysgol yr Hendre a oedd wedi dod i’r Andes i dreulio’r penwythnos hir.

Noson Lawen - Cafwyd Noson Lawen yn Neuadd y dre yn Nhrevelin ddechrau mis Mai, gydag Isaías ac Eluned yn ei harwain. Yr oedd y neuadd dan ei sang a gwnaeth bawb fwynhau'r arlwy a oedd wedi'i baratoi ar eu cyfer. Aethpwyd ar daith gerddorol a theatrig o Gymru i'r Ariannin ac agorwyd y noson gyda Chôr Trevelin a wnaeth ein diddanu gyda 'repetoire' o gerddoriaeth De Americanaidd ac Ewropeaidd ymysg pethau eraill. Cafwyd eitem gerddorol arbennig gan artist lleol - Miguel Trafipan, gitarydd sydd hefyd yn athro offerynnau llinynnol. Yn perfformio gydag ef oedd Alberto neu Toti Mansilla, sydd wedi teithio'r byd (o Fecsico i Frasil i Baris) yn chwarae'r bandoneón. Y mae'n dad i Ivana, un o'n myfyrwyr ni yn Ysgol Gymraeg Trevelin sydd wedi'i dewis yn un o dair o Drevelin i deithio i Gymru i astudio'r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd fis nesaf. Pleser oedd croesawu'r 'Lighthouse Theatre' o’r Mwmbwls yn ôl i'n plith ar ôl eu hymweliad diwethaf yma yn 2011. Diolch yn fawr i Llinos Daniel, Adrian Metcalfe a Sonia Beck am ddangos eu doniau theatrig a cherddorol i ni a hynny'n deirieithog. Cafwyd perfformiadau cofiadwy iawn gan 'Gotango' hefyd - grŵp a sefydlwyd yn gymharol ddiweddar. Criw o athrawon ydyn nhw sy'n arbenigo yn y ddawns Archentaidd hon. Wrth i'r noson ddod i ben, perfformiodd 'Surco Dúo' gan ganu'n y Gymraeg ac yn Sbaeneg. Mae Alejandro a Leonardo Jones yn wynebau cyfarwydd yn Neuadd tref Trevelin a braf oedd clywed iddyn nhw gael llwyddiant yn ddiweddar mewn cystadleuaeth daleithiol. Perfformiodd Amy Dolben i gloi'r noson. Canodd gân ar y trwmped a oedd yn adnabyddus i bawb - 'Calon Lân'.
Diolch i bawb a wnaeth ein cynorthwyo i sicrhau bod y noson yn un llwyddiannus dros ben.

Oedfa Capel Bethel (Mai 19eg) – Er gwaetha’r oerfel heddiw, daeth criw bach ohonom at ein gilydd i ddathlu’r Sulgwyn yng Nghapel Bethel Trevelin gydag Isaías ac Eluned yn arwain yr oedfa. Diolch i Arturo Lowndes am gyfeilio ac i Mary Green am ein harwain mewn gweddi. Bydd yr oedfa nesaf yng Nghapel Bethel ar y 30ain o Fehefin a gofynnwn yn garedig i bawb, yn ôl yr arfer, ddod â rhywbeth i rannu er mwyn i ni allu fwynhau te a sgwrs gyda’n gilydd yn y festri ar ôl y gwasanaeth. Bydd oedfa yng Nghapel Seion Esquel am 5 o’r gloch ddydd Sul nesaf (Mai 26ain).

Llais yr Andes – Pwy ‘di pwy???? Cofiwch gystadlu!

Hogia’r Wilber – Cafodd trigolion Esquel a Threvelin eu diddanu dros y penwythnos mewn dwy gyngerdd gan Hogia’r Wilber o’r Gaiman. Gwefreiddiwyd y gynulleidfa yn Neuadd y dref yn Nhrevelin ac yng Nghanolfan Ddiwylliant y Melipal yn Esquel gan berfformiadau Roberto Jones, Marcelo Roberts, Héctor MacDonald a Billy Hughes. Diolch yn fawr iawn ar ran pawb yn yr Andes a dewch yn ôl yn fuan!

I orffen hoffwn ddymuno pob dymuniad da i bawb a fydd yn sefyll arholiadau Canolradd / Mynediad / Sylfaen yn ystod yr wythnosau nesaf yn y Ganolfan yn Esquel.

Eluned Owena Evans


Deunydd a lluniau Gwladfaol (15-05-2013)

Straeon a lluniau o'r Wladfa

Mae gwefan BBC Cymru yn arwain heddiw efo lluniau o Batagonia http://www.bbc.co.uk/cymru/ - gweler hefyd ddetholiad o luniau Tom Griffiths yn y ddolen isod
mwy


Llais yr Andes (03-05-2013)

Rhifyn diweddaraf ar gael!

Dyma rifyn Mai 2013 o'r papur bro Llais yr Andes
mwy


Croesawu Sandra a Rhisiart (22-04-2013)

Croesawu Rhisiart a Sandra

Croesawu Rhisiart a Sandra


Digwyddiadau yn y Dyffryn

Cafwyd penwythnos pleserus a phrysur yn y Dyffryn yn ddiweddar. Dechreuodd y cyfan nos Wener Ebrill 19eg gyda ‘sosial croeso’ yn Nhrelew. Daeth nifer ynghyd i groesawu Sandra a Rhisiart mewn noson ddifyr dros ben ar safle Moreno, Ysgol yr Hendre. Diolch i bawb am y croeso, am eu gwaith paratoi ac am ddod â danteithion mor flasus i’w mwynhau! Cafwyd dipyn o hwyl yn hel atgofion a chwerthin yn ystod yr ymgomio’n hir.
Wedyn, am 4 o’r gloch ddydd Sadwrn Ebrill 20fed, daeth criw sylweddol ynghyd i ddathlu yng Nghapel Carmel Dolavon ar gyfer y Gymanfa fisol. Diolch i Rebecca White am ei gwaith trefnus am drefnu’r cyfan.


Newyddion o'r Andes (22-04-2013)

Tri digwyddiad diweddar - Ebrill 2013

Noson Sbort Sadwrn Esquel:
Cafwyd noson hwylus iawn yn Esquel nos Sadwrn diwethaf wrth i griw o ryw ugain ohonom ni ddod at ein gilydd i fwynhau chwarae gemau dwl megis rholio lemwns ar hyd y llawr gyda phensil, canu carioci (da iawn Silvia a Clare), bwyta pot o jam llaeth mewn 30 eiliad (bu Marina a Gregorio’n ddewr iawn) a’m ffefryn i, gweld Lizzie ac Amy ein gwirfoddolwraig o Gaerdydd yn stwffio malws melys (marshmallows) i’w cegau gan ddweud ‘Cwningen dew’! Braf iawn oedd gweld wynebau o Drevelin yn y Ganolfan a chyffrous iawn oedd darganfod fod Amy’n perthyn i rai ohonynt!

Noson Swshi Trevelin:
Bwyd oedd canolbwynt y weithgaredd a drefnwyd gan Menter Patagonia yn Nhrevelin nos Wener diwethaf – swshi blasus iawn, a diolch yn fawr iawn i Isaías am ei help llaw yn y gegin! Er nad oedd llawer yn awyddus i fwyta’u swshi ar y clustogau a osodwyd ar y llawr (ar wahân i Ivana a Llew), roedd pawb yn ysu am gael defnyddio’r gweill bwyta a phrofi’r Sake!!! Ar ôl llenwi’n boliau gyda’r swshi a llond bwrdd o gacennau bychain o bob lliw a llun, cafwyd gwers origami cyn gorffen y noson gyda thipyn o garioci! またあとで会いましょう!
Eluned Owena Evans

Cwrdd Diolchgarwch Capel Bethel Trevelin a Chapel Seion Esquel:
Trefnodd Eluned a fi gwrdd Diolchgarwch yng Nghapel Bethel Trevelin ac hefyd yng Nghapel Seion Esquel yn ddiweddar. Roedd hi’n hyfryd gweld y ddau gapel wedi’u haddurno gyda rhoddion i roi diolch i Dduw am ei haelioni a’i ddaioni. Diolch yn fawr iawn i bawb a wnaeth ddod ac a gymerodd ran a braf oedd gweld Amy ac Haydn, ein hymwelwyr o Gymru hefyd. Diolch hefyd i Eluned am ei chymorth mawr. Fe fydd yr oedfa nesa yng Nghapel Bethel ddiwedd y mis. Dewch i dreulio awr gyda ni yn y capel prydferth hwn yn canu’n y Gymraeg ac yn addoli gyda’n gilydd!
Isaías Grandis


Caneuon Cowbois Rhos Botwnnog gyfansoddwyd ym Mhatagonia (18-04-2013)

Cyfle i wrando ar y caneuon

Chwaraewyd caneuon gyfansoddodd Cowbois Rhos Botwnnog ym Mhatagonia y llynedd ar Radio Cymru neithiwr - 17/4/13 - ar raglen Lisa Gwilym. Gellwch wrando eto ar y ddolen isod.Gwrandewch a mwynhewch
mwy


Athrawes o'r Wladfa yn arsylwi yng Nghymru (15-04-2013)

Patricia Ramos o Dir Halen gyda rhai o ddisgyblion Bl. 7 Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth lle bu'n arsylwi am dair wythnos. Ar y chwith gwelir athrawes gofrestru y dosbarth a Phennaeth Hanes yr ysg

Patricia Ramos o Dir Halen gyda rhai o ddisgyblion Bl. 7 Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth lle bu'n arsylwi am dair wythnos. Ar y chwith gwelir athrawes gofrestru y dosbarth a Phennaeth Hanes yr ysg


Patricia Ramos o Dir Halen fu yng Nghaerdydd ac Ysgol Gyfun Penweddig yn ddiweddar

Treuliodd Patricia Ramos - athrawes o'r Wladfa - gyfnod yng Nghymru yn ddiweddar. Gwelir ei hanes ar wefan Ysgol Gyfun Penweddig
mwy


Cinio Blynyddol Cymdeithas Dewi Sant Trelew (14-04-2013)

Adroddiad am y cinio blynyddol ar Ebrill 13eg

Ar nos Sadwrn Ebrill 13eg cynhalwyd swper blynyddol Cymdetihas Dewi Sant Trelew. Cafwyd noson hwyliog ac Arturo Lowndes oedd y person gafodd ei anrhydeddu y flwyddyn yma. Bu ef yn byw yn Comodoro Rivadavia yn briod a Rosa Jones ac yn weithgar yng Nghymdeithas Dewi Sant y dref honno. Erbyn hyn mae wedi ymddeol a mae ef a Rosa yn byw mewn fferm yn agos i Drevelin. Llongyfarchiadau gwresog. Roeddem yn troi am adref bell wedi dau o´r gloch y bore ond oedd llawer yn dal i ddawnsio yn egniol yn nghanol y neuadd.



Arddangosfa luniau (29-03-2013)

Lluniau o Batagonia ymhlith eraill mewn arddangosfa yn Nolgellau.

Cynhelir arddangosfa ffotograffau Tom Griffiths - yn cynnwys y Cyswllt Cymreig ym Mhatagonia - yng Nghaffi T.H.Roberts Dolgellau o 29 Mawrth hyd Fai 1af


Gweithio yn Nyffryn Camwy (25-03-2013)

Dymuniadau gorau i Sandra De Pol a Rhisiart Arwel, sydd yn gadael heddiw am y Gaiman lle byddant yn gweithio am flwyddyn i Gynllun yr Iaith Gymraeg yn Chubut.


mwy


Gŵyl Ddewi o gwmpas y byd (03-03-2013)

Cyfarchion yn Saesneg o Drelew ymhlith eraill

Cyfarchion gan Ana Chiabrando o Drelew ymysg eraill gan Gymry o gwmpas y byd ar raglen radio CJS News (Gorsaf Radio Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd)
mwy


Dylanwad Gwladfaol ar waith diweddaraf Karl Jenkins (02-03-2013)



Mae'r cyfansoddwr Karl Jenkins wedi arwyddo efo'r cwmni recordio Deutsche Grammophon
Yn ôl y cyfansoddwr mae dylanwad Patagonaidd i'w albym diweddaraf Adiemus Colores.
mwy


Athrawes yr Andes am 2013 (28-02-2013)

Dymuniadau gorau i Eluned Owena Evans, Llanddarog, fydd yn cyrraedd Esquel yfory lle bydd am flwyddyn yn gweithio i Gynllun yr Iaith Gymraeg yn Chubut.


mwy


Enillwyr Chwefror y Clwb Cyfeillion (20-02-2013)

Tynnwyd y rhifau ym mhwyllgor Chwefror.

Dyma enillwyr Chwefror 2013 Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin. Tynnwyd y rhifau buddugol ar ddiwrnod Pwyllgor Gwaith mis Chwefror.
£60 Rhif 167 Arthur Boyns, Blaenau Ffestiniog
£50 Rhif 105 Glyn a Gwenda Humphreys, Corwen
£40 Rhif 283 John Davies, Y Bontfaen
£30 Rhif 162 Mici Plwm, Pwllheli
£25 Rhif 169 John a Marina Adams Lewis, Aberteifi
£20 Rhif 3 Sion, Lisa a Dylan Penfold, Mynachlog-ddu
£10 Rhif 347 Gwyneth Parry, Llanberis



Sgwrs am y Drafod (20-01-2013)

Walter Brooks yn cael ei holi am y Drafod

Llongyfarchiadau i Walter Ariel Brooks ar gael ei ddoethuriaeth, Bu'n siarad am hanes y Drafod ar Raglen Dai Tomos heno - gellir clywed y haglen eto am nos Fawrth am 18.15 neu drwy gwrando eto
mwy


Deuddydd ym Muenos Aires? (20-01-2013)

Dyma awgrym yr Independent 19/1/2013 beth i'w wneud mewn 48 awr ym mhrifddinas yr Ariannin

Dyma awgrym yr Independent 19/1/2013 beth i'w wneud mewn 48 awr ym mhrifddinas yr Arianni
mwy


Seperado ar y teledu (18-12-2012)

Bydd y ffilm Seperado i'w gweld ar S4C nos Iau 27 Rhagfyr am 7.30


mwy


Ymchwilio i hanes Gwyl y Glaniad (16-12-2012)




mwy


Ennill cadair (25-11-2012)

Llongyfarchiadau i Dr David Williams, Trelew, ar ennill cadair Eisteddfod Trevelin neithiwr!




Dymuniadau gorau i Eisteddfod Trevelin 2012. (21-11-2012)






Genedigaeth (09-11-2012)

Eiry Miles yn cael merch fach.

Llongyfarchiadau i Eiry Miles (fu'n athrawes Gymraeg yn y Dyffryn yn 2003) a Dai Bryer ar enedigaeth merch fach - Angharad Llywarch - ar 30 Hydref, chwaer fach i Gwyn Llywarch; wyres i Phyllis a terry Bryer, Dinbych a Gina a Gareth Miles, Pontypridd


Gwen Humpreys (02-11-2012)

Marwolaeth Gwen Humphreys

Trist oedd clywed am farwolaeth Gwen Lunt Humphreys, Llanrwst, yn Hosbis Dewi Sant, Llandudno ar Hydref 9fed 2012. Bu Gwen yn gwirfoddoli fel athrawes Gymraeg yn Nyffryn Camwy ym 1996. Cydymdeimlwn a'i theulu.


Cystadleuaeth ddylunio Logo "150 Mlwyddiant y Wladfa" (30-10-2012)

Yn y ddolen isod gwelir cystadleuaeth gan Gymdeithas Dewi Sant, Trelew, i lunio logo 150 mlwyddiant y Wladfa.

Yn y ddolen isod gwelir cystadleuaeth gan Gymdeithas Dewi Sant, Trelew, i lunio logo 150 mlwyddiant y Wladfa.
mwy


Cadeirio 2012 (28-10-2012)

Llongyfarchiadau i Gwynedd Huws Jones,Llidiardau, Y Bala, ar ennill cadair Eisteddfod y Wladfa 2012. Gellwch ddilyn y seremoni ar y ddolen isod.

Llongyfarchiadau i Gwynedd Huws Jones,Llidiardau, Y Bala, ar ennill cadair Eisteddfod y Wladfa 2012. Gellwch ddilyn y seremoni ar y ddolen isod.
mwy


Dymuniadau gorau! (25-10-2012)

Dymuniadau gorau i Eisteddfod y Wlada am Wyl lewyrchus. Gellir dilyn darllediad byw ar y ddolen isod


mwy


To the ends of the earth (14-10-2012)

To the ends of the earth"
lawnsio cyfrol Saesneg gan Mair Davies, golygwyd gan Gwen Emyr
Siop Lyfrau Gristnogol a Chaffi yr Heath am 3pm
122 Ffordd yr Eglwys Newydd
Caerdydd


To the ends of the earth"
lawnsio cyfrol Saesneg gan Mair Davies, golygwyd gan Gwen Emyr
Siop Lyfrau Gristnogol a Chaffi yr Heath am 3pm
122 Ffordd yr Eglwys Newydd
Caerdydd


(14-10-2012)

"To the ends of the earth"
Launch of To the ends of the earth: Memories and recollections of a Welsh Missionary in Patagonia by Mair Davies, edited by Gwen Emyr
Heath Christian Bookshop and Coffee


"To the ends of the earth"
lawnsio cyfrol Saesneg gan Mair Davies, golygwyd gan Gwen Emyr
Siop Lyfrau Gristnogol a Chaffi yr Heath am 3pm
122 Ffordd yr Eglwys Newydd
Caerdydd



Pennod ar ddysgu Mathemateg yn y Wladfa (11-10-2012)

Bydd Gareth Ffowc Roberts yn llofnodi copïau o Mae Pawb yn Cyfrif yn siop Awen Menai, Porthaethwy, fore Sadwrn, 13 Hydref am 11 o'r gloch.

Mae pennod yn y gyfrol ar ddysgu Mathemateg trwy gyfrwng y Gymraeg yn y Wladfa.
Nos Wener bydd sgwrs am hyn ym Mangor - gweler digwyddiadau
mwy


Gwobrau Medi Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin (05-10-2012)

Dyma y rhifau a dynnwyd ar gyfer gwobrau Medi y Clwb Cyfeillion

1) 4. Mary E Mudd. Rhydaman £60
2)269 Gwyneth Carey Rhuthun £50
3)166 Dewi W.Williams Caerdydd £40
4)288 Richard Gammon Pen-y-bont ar Ogwr £30
5)347 Hywel Thomas Caerfyrddin £25
6) 372 Joyce Jones Powys £20
7) 360 Gareth Morgan Slough £10


(04-10-2012)






Darlith ar ddiwylliant printiedig Cymraeg yn y Wladfa (04-10-2012)

Darlith gan Walter Brooks yn Saesneg

23 Hydref 2012: Yng Nghaerdydd

Walter Brooks
'Welsh Print Culture in y Wladfa. The Role of Ethnic Newspapers in Welsh Patagonia, 1865-1933'

'Diwylliant Printiedig Cymraeg yn y Wladfa. Rôl Papurau Newydd Ethnig ym Mhatagonia, 1865-1933'*
Seminar Ymchwil Ysgol y Gymraeg
5.15pm, Ystafell 1.69, Adeilad y Dyniaethau, Prifysgol Caerdydd
*Traddodir y seminar hwn yn y Saesneg
mwy


(04-10-2012)

Bydd cyfweliad ar raglen Nia ar Radio Cymru prynhawn Dydd Mercher nesa - 10 Hydref - gyda rhai o griw yr Urdd fydd yn mynd allan yhen pythefnos




Pedair gwobr BAFTA i'r ffilm Patagonia (01-10-2012)

Mae'r ffilm Patagonia wedi ennill pedair gwobr BAFTA Cymru yn y Noson Wobrwyo neithiwr yng Nghaerdydd


mwy


Lansiad gwefan newydd (06-08-2012)

Lansiad y wefan newydd

Lansiad y wefan newydd


Lansiwyd gwefan newydd y Gymdeithas yn swyddogol ym mhabell y Gymdeithas ar 6ed o Awst 2012.

Cyflwynwyd y sesiwn gan Elvey McDonald (Llwydd Anrhydeddus y Gymdeithas, sy'n sefyll ar y chwith yn y llun). Wedyn dangoswyd y wefan newydd i'r gynulleidfa gan Nigel Callaghan o Dechnoleg Taliesin, a oedd yn gyfrifol am ddylunio'r wefan newydd (yn eistedd wrth y cyfrifiadur yn y canol).



Dathlu Gŵyl y Glaniad yn Ninbych, Gorffennaf 2012 (04-08-2012)

Parti Enfys yn diddanu, Gŵyl y Glaniad, Dinbych, 2012

Parti Enfys yn diddanu, Gŵyl y Glaniad, Dinbych, 2012


Daeth criw da ynghyd i ddathlu Gŵyl y Glaniad yng Nghlwb Rygbi Dinbych dydd Sadwrn 28 Gorffennaf.

Ar ôl mwynhau bwyd blasus baratowyd gan y Parchg Wayne Roberts cafwyd eitemau safonol gan barti Enfys (Hyfforddwraig: Leah Owen). Croesawyd rhai o'r Wladfa a chawsant gyfle i annerch y gynulleidfa. Diwrnod hynod lwyddiannus - diolch i gangen Clwyd am drefnu!


     

Dylunio a hostio'r wefan: Technoleg Taliesin Cyf.

Administration