Newyddion


Newyddion o Ddyffryn Camwy Mehefin 2013 (11-06-2013)

Prysurdeb ym mhentrefi'r Dyffryn

Dyma ni yn ein trydydd mis yn Nyffryn Camwy, ac mae ‘na 'chydig o hanes i’w adrodd.

Buon ni mewn dwy Gymanfa Ganu Cymdeithas Dewi Sant yn ddiweddar. Ym mis Ebrill, cawson ni ein croesawu yng Nghymanfa Ganu Capel Carmel, Dolavon gan gynulleidfa ddiddan a niferus. Roedd yn bleser gweld sawl wyneb cyfarwydd yn ogystal â rhai newydd yno. Roedden ni’n ddiolchgar am y cyfle i gael cymryd rhan yn yr addoliad ac am gael sôn am y dosbarthiadau Cymraeg a’r sesiynau siarad yn y Dyffryn.

Cynhaliwyd Cymanfa mis Mai ar yr 11eg o’r mis. Y tro yma, ymgasglodd pawb yng Nghapel Nasareth, Drofa Dulog. Braf iawn oedd cael gweld yr adeilad bychan prydferth yma allan yn y dyffryn dan ei sang. Unwaith eto, braf oedd cael cyd-addoli a mwynhau’r canu hyfryd.

Cymeron ni ran yn Oedfa Diolchgarwch yng Nghapel Bethel, Gaiman ym mis Ebrill. Braf iawn oedd cael pawb ynghyd i wasanaeth Cymraeg. Roedd nifer fawr yn cyfrannu i’r gwasanaeth - yn unawdwyr ac yn grwpiau. Penderfynwyd bryd hynny y byddai’r gwasanaethau Cymraeg yn parhau ar hyd misoedd y gaeaf. Esyllt (Nest Roberts) oedd yn gyfrifol am drefnu’r cyfarfod gweddi nesa ar Fai'r 26ain. Defnyddiodd Esyllt emyn enwog Eifion Wyn ‘Ein Tad Moliannwn Di’ fel thema i’r gwasanaeth, ac unwaith yn rhagor cafodd nifer ohonon ni gyfle i gyfrannu i’r addoliad. Dyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar rŵan at y cyfarfod gweddi nesa a fydd yn cael ei gynnal ym Methel ddydd Sul, Mehefin 30ain am 6pm. Rhisiart (Arwel) sy’n gyfrifol am drefnu a’r thema fydd ‘Cyfeillgarwch’. Croeso cynnes i bawb fel arfer.

Dros yr Ŵyl Banc ddiwedd Ebrill, cynhaliwyd Noson Gyri a gemau ym Mhlas y Coed y Gaiman. Roedd hi'n noson brysur iawn i'r rhai a goginiodd, ond yn bleserus dros ben i bawb a ddaeth yno i ymlacio a chymdeithasu. Gwych oedd gweld ymateb y rhai oedd yn blasu Cyri am y tro cyntaf! Roedd digon o ddewis o fwyd ar gael – o’r melys a llysieuol i rai ychydig yn ‘boethach’ o ran blas. Diolch yn fawr iawn i'r cogyddion.
Trueni nad ydy’r gair ‘picante’ yn bodoli yn Gymraeg i ddisgrifio bwyd ‘poeth’ yn de? Ond wedi dweud hynny, efallai y dylen ni ei fabwysiadu a dechrau defnyddio’r term ‘bwyd picantaidd’. Ydych chi’n cytuno?

Bellach, mae sesiynau Sgwrsio yn cael eu cynnal yn wythnosol yn Nhrelew (pnawn Mercher am 5yh ac eto am 7yh), Gaiman (Nos Fawrth am 8yh) a Dolavon (Nos Lun am 5.30yh). Yn ychwanegol, cynhelir sesiwn anffurfiol ym Mhorth Madryn unwaith y mis a dyn ni’n edrych ymlaen yn arw i weld y criw yng Nghanolfan Toschke eto nos Wener y 14eg o Fehefin.

Hefyd, fel arbrawf newydd, cynhelir cwrs Ysgrifennu Anffurfiol
bob pythefnos yn nhŷ Camwy ar nosweithiau Mawrth. Y syniad yn fras ydy rhoi mwy o hyder i bobl ysgrifennu yn Gymraeg - yn negeseuon e-bost, yn gardiau pen-blwydd ac ati - at ffrindiau neu gydnabod yng Nghymru.
Gobeithio cawn ddatblygu ar hyn yn y dyfodol, fel modd o gynnig rhywbeth amgen i’r rhai sy ddim eisiau dilyn cwrs ffurfiol yn Gymraeg.


Llongyfarchiadau i Virgina Steinkamp a Cinthia Zamarreño o’r Dyffryn ar ennill ysgoloriaeth i fynd i Gymru eleni. Bydd y ddwy ohonynt yn dilyn Cwrs Uwch a rhan o Gwrs Meistroli ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae cyrsiau Canolfan Cymraeg i Oedolion yn boblogaidd iawn bob blwyddyn ac felly rydyn ni'n siŵr y bydd Virginia a Cinthia yn manteisio ar bob cyfle i ddysgu a chymdeithasu trwy gyfrwng iaith y nefoedd. Yn ogystal â'r ddwy ferch o'r Dyffryn rydyn ni'n hapus iawn dros Estela, Ivana a Sara o'r Andes, bydd y pump yn gynrychiolaeth arbennig o'r Wladfa.


Ymweliad Llinos Daniel oedd un o'r uchafbwyntiau i ddosbarthiadau Cymraeg i blant yn y Gaiman yn ystod mis Mai. Cafodd sawl disgybl gyfle i gymryd rhan yn y gweithdy telyn a gynhaliwyd yn Ysgol Gerdd y Gaiman. Diolch i Llinos am sesiwn a agorodd llygaid mwy nag un person. Mae llawer o blant yn awyddus i ddysgu chwarae'r delyn nawr, daeth y delyn yn rhodd arbennig gan ‘Gwdihŵ’ (cyfeilles o Gymru) i drigolion y dyffryn ym Mhatagonia. Bydd y delyn yn aros yma yn Ysgol Yr Hendre a bydd cyfle i wneud cais i’w benthyg hefyd. Mae pawb yn ddiolchgar dros ben am dderbyn adnodd mor werthfawr a chreadigol.

Hefyd ar ymweliad â’r dyffryn yn ddiweddar oedd Amy Dolben. Ar ôl cyfnod yn gwirfoddoli yn yr Andes, daeth Amy draw i’r dyffryn i gynorthwyo yn Ysgol yr Hendre ac i fynychu pob math o ddigwyddiadau Cymraeg yn Nhrelew a’r Gaiman fel ei gilydd. Roedd yn bleser ei chael hi gyda ni yn yr ardal a dw i’n siŵr bod pawb yn dymuno’n dda iddi gan ei bod ar drothwy dechrau astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt ym mis Hydref.

Sandra De Pol a Rhisiart Arwen


Newyddion o'r Andes Mehefin 2013 (11-06-2013)

Prysurdeb yn Esquel a Threvelin

Noson Siôn a Siân Esquel

Cafwyd noson llawn sbort a sbri nos Sadwrn diwethaf wrth i ni ddarganfod faint mae cyplau Esquel yn ei wybod am ei gilydd. Diolch i Luis a Soraya a Marcelo a Glenda am fod mor barod i gymryd rhan ac ymuno’n yr hwyl. Marcelo a Glenda gafodd y nifer fwyaf o atebion a oedd yn cyfateb ac felly nhw wnaeth ennill y siocled blasus o Dulzuras de Esquel!!! Noson Siôn a Siân Trevelin fydd nesaf!

Ymweliadau

Dw i wrth fy modd yn ymweld â phobl hŷn yr ardal gydag Isaías – cael sgwrs am hyn a’r llall, rhoi’r byd yn ei le a chlywed eu hanesion a hynny mewn Cymraeg mor loyw. Yn ddiweddar rydym ni wedi ymweld â Lizzie Freeman ac Edith Wyn. Edrychaf ymlaen at ymweld â mwy o bobl yn ystod y misoedd nesaf.

Skype
Cafodd Imanol a Jere o ddosbarth Wlpan 1 Esquel gyfle i sgwrsio â chriw o fechgyn Ysgol Gyfun y Strade, Llanelli ar Skype yn ddiweddar. Roeddwn i’n athrawes Ffrangeg a Sbaeneg i Jacob Morris, Luke Thomas a Cory Owens yn y Strade y llynedd, ac felly roedd hwn yn gyfle gwych i fechgyn Esquel ymarfer eu Cymraeg ac i fois Llanelli ymarfer eu Sbaeneg! Maen nhw’n edrych mlaen i sgwrsio gyda’i gilydd eto cyn bo hir!
Cylch Ti a Fi
Hyfryd yw gweld cynifer o blant bach yn dod gyda’u rhieni i’r Cylch Ti a Fi yn Esquel. Mae’n cynnig cyfle i rieni/gwarchodwyr fwynhau chwarae gyda'r plant a chymdeithasu mewn awyrgylch Gymreig ac mae’n rhoi cyfle i’r plant fwynhau chwarae gyda phob math o deganau, canu a gwrando ar storiau, coginio, peintio a gwneud ffrindiau bach newydd! Mae croeso i unrhywun ymuno â’n criw bach hapus ni!

Dawnsio Gwerin
Cynhelir Clwb Dawnsio Gwerin hynod lwyddiannus bob nos Lun a bob nos Fawrth dan arweiniad Jessica Jones yn Ysgol y Felin, Trevelin. Mae deg o blant yn dawnsio bob nos Lun rhwng 7:30 ac 8:30 a thro’r oedolion yw hi ar nos Fawrth. Rydym ni wrthi’n ymarfer ar gyfer cyngerdd Gŵyl y Glaniad ar hyn o bryd – bydd yr oedolion yn perfformio ‘Aberdaugleddau’ ac ‘Hoffedd ap Hywel’ a’r plant yn dawnsio ‘Cylch Sircasian’. Diolch i Jessica am ein hyfforddi.

Digwyddiadau:

Oedfaon - Cafwyd oedfa yn Nghapel Bethel Trevelin ac yng Nghapel Seion Esquel ym mis Mai. Bydd yr oedfa nesaf yng Nghapel Bethel ar y 30ain o Fehefin a gofynnwn yn garedig i bawb, yn ôl yr arfer, ddod â rhywbeth i rannu er mwyn i ni allu fwynhau te a sgwrs gyda’n gilydd yn y festri ar ôl y gwasanaeth. Yn yr un modd, bydd te yn y Ganolfan yn dilyn yr oedfa nesaf yn Nghapel Seion ar y 4ydd o Awst.

Eisteddfod Puerta del Sol – Bydd nifer o blant Ysgol Gymraeg Esquel a Threvelin yn cystadlu yn Eisteddfod Puerta del Sol a fydd yn cael ei chynnal yn Neuadd y dref yn Nhrevelin ar ddydd Mawrth yr ail o Orffennaf. Pob dymuniad da iddyn nhw i gyd!

Dymuno’n dda – Bydd criw Ysgol Gymraeg Trevelin, yn diwtoriaid ac yn fyfyrwyr, yn mynd allan am bryd o fwyd yr wythnos nesaf er mwyn dymuno’n dda i Sara, Estela ac Ivana, y dair a fydd yn teithio i Gymru cyn bo hir i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Pob llwyddiant a siwrnai ddiogel iddyn nhw ac i ferched y Dyffryn.

Eluned Owena Evans



Cyngherddau yn y Gaiman a Threlew (09-06-2013)

Penwytnos prysur cerddorol o gyngherddau yn Nyffryn Camwy!

Cawsom noson i´w chofio yn y Gaiman yn mwynhau cyngerdd ardderchog wedi ei drefnu gan Ysgol Gerdd y Gaiman yn neuadd yr Eglwys Fethodistaidd yn Heol John Caerenig Evans. Yn agor y cyngerdd roedd parti merched Ysgol Gerdd y Gaiman dan arweiniad Edith MacDonald a chyfeiliant Hector Ariel. I ddilyn canodd parti "Raigue" o Drelew dan arweiniad Karina Torres. I gloi y cyngerdd daeth parti o Rawson i´r llwyfan: parti "Santa Cecilia" dan arweiniad Fernanda Defea ac Alicia Ferrari yn cyfeilio. Roedd cynulleidfa niferus yn mwynhau y canu a gobeithio cewn ragor o gyngherddau tebyg ar hyd y flwyddyn. Yn arwain y noson ac yn cyflwyno diolchiadau roedd Gladys Thomas, prifathrawes Ysgol Gerdd y Gaiman.

Nos Wener Mehefin y 7fed cafwyd cyngerdd godidog yn neuadd "Teatro Verdi" yn Nhrelew. Roedd y cyngerdd wedi ei drefnu gan "Gylch Cymraeg Trelew" er budd Ysgol yr Hendre dan y nod: "Mawr a mân yn dod at ein gilydd i ganu". I ddechreu roedd plantos iau yr ysgol yn canu amryw o ganeuon i gyfeiliant eu hathrawes Judith Jones. Dechreu gwych! I ddilyn roedd plant y dosbarthiadau cynradd yn canu amrywiaeth o ganeuon dan arweiniad egniol Catrin Morris i gyfeiliant Rhisiart Arwel efo´r gitár a Hector Ariel efo´r piano. Daeth parti merched "Surazul" i ganu ac ar ei ôl parti meibion Cymdeithas Dewi Sant Trelew dan arweiniad Daniel Garavano. Parti newydd sbon ydy hwn a chafodd pob cymeradwyaeth gan y gynulleidfa. Daeth parti "Blue Angels" i ddilyn, parti fu yn canu yn yr wythdegau ac wedi ail ddechreu yn ddiweddar. Yna, pedwarawd "Hogia´r Whilber" daeth i´r llwyfan a chanu amryw o ganeuon a gorfod canu un ychwanegol gan gymaint oedd y galwad. Yn cloi y cyngerdd roedd côr cymysg Ysgol Gerdd y Gaiman yn canu dan arweiniad Marli Pugh. Yn arwain y cyngerdd oedd Susana Celano - Spaeneg - a Sandra De Pol - Cymraeg. Yn ystod y noson trosglwyddwyd tusw o flodau i Catrin Morris a María Laura de Hughes roedd yn dathlu eu pen blwydd y diwrnod hwnnw ac un i Tegai Roberts a ddathlodd ei phen blwydd y diwrnod cynt. Roedd y neuadd dan ei sang ac yn y gynulleidfa gwelwyd is-raglaw y dalaith, sef y bonwr César Gustavo Mac Karthy. Llongyfarchiadau i´r trefnwyr a´r rhai fu yn cymryd rhan.




Taith yr Urdd 2013 (02-06-2013)

Criw Urdd 2013

Criw Urdd 2013


Cyhoeddi enwau y rhai fydd yn mynd ar ymweliad â'r Wladfa gyda'r Urdd fis Hydref/Tachwedd eleni

23 Hydref – 5 Tachwedd 2013, bydd 20 o bobl ifanc o ogledd Cymru yn cael y cyfle i fynd ar daith unigryw i Batagonia gydag Urdd Gobaith Cymru a Mentrau Iaith Cymru.
Tra ym Mhatagonia, byddant yn gwneud gwaith gwirfoddol megis cynnal sesiynau yn yr Ysgol Feithrin Gymraeg, gwaith adeiladu tîm yng Ngholeg Camwy a chystadlu yn Eisteddfod y Wladfa. Byddant hefyd yn cael blas o’r diwylliant unigryw Gymreig yno.
Bydd angen i’r bobl ifanc godi £2,250 yr un ar gyfer y daith, ac maent eisoes wedi bod yn cynnal gweithgareddau megis coginio brecwast yn y neuadd gymunedol, sialens triathlon a raffl fawr.
Y 20 person ifanc fydd yn mynd ar y daith mis Hydref 2013 fydd
- Bethan Sian Hale o Ysgol Creuddyn ac Erin Gwyn Rossington o Ysgol Dyffryn Conwy
- Catrin Darlington a Llio Fflur Davies o Ysgol Morgan Llwyd a Tomos Gwyn o Ysgol Maes Garmon
- Cerys Lois Jones, Guto Dafydd Jones, Lois Clwyd Hughes a Undeg Steffan o Ysgol Brynhyfryd
- Elin Haf Tomos, Erin Ynyr, Gwen Angharad Thomas a Huw Owen o Ysgol Brynrefail
- Lisa Erin Owen a Marged Gwenllian o Ysgol y Berwyn
- Steffan Lloyd Owen o Ysgol David Hughes ac Owain Arwel Hughes o Ysgol Syr Thomas Jones
- Gweno Erin Ywain, Lois Angharad Evans a Lora Angharad Lewis o Goleg Meirion Dwyfor
Y staff fydd yn mynd gyda’r criw fydd Eryl Williams a Branwen Haf o’r Urdd a Ceri Phillips o Fenter Iaith Conwy.
Yn ôl Eryl Williams, Swyddog Datblygu Môn fydd yn arwain y daith ym Mhatagonia, “Mae’r daith hon yn gyfle gwych i bobl ifanc gael profiad unigryw a bythgofiadwy. Mae amryw ohonynt heb fod ar awyren o’r blaen, heb sôn am hedfan i ochr arall y byd!
“Mae’n wych ein bod yn cydweithio gyda’r Mentrau Iaith i drefnu’r daith, ac mae cyfraniad y criw sy’n gweithio allan ym Menter Patagonia yn amhrisiadwy. Rydym wedi cyfarfod y criw i gyd gyda’i gilydd am y tro cyntaf dros y penwythnos yng Nglan-llyn, a’r gobaith yw y gallwn gyfarfod unwaith neu ddwy eto cyn y daith i bawb ddod i adnabod ei gilydd yn well.”
Un o’r criw sydd yn mynd ar y daith yw Bethan Sian Hale o Ysgol y Creuddyn. Dywedodd, “Un o’r rhesymau oeddwn i eisiau mynd allan i Batagonia eleni ydy am fod gen i deulu yn Nhrelew a’r Gaiman – mi wnaethant symud i’r Wladfa tua deng mlynedd yn ôl, a rwy’n gobeithio y caf gyfle i’w cyfarfod yna.”
Ychwanegodd Meirion Davies, o Fenter Iaith Conwy, “Mae’r daith flynyddol hon, sydd wedi ei threfnu ar y cyd gyda’r Urdd, yn gyfle gwych i bobl ifanc weld pa mor werthfawr yw’r Gymraeg a rhoi blas iddynt o ddiwylliant unigryw Patagonia. Rydym yn gweld, ar ôl y daith, fod amryw o’r bobl ifanc yn fwy parod i ddefnyddio eu Cymraeg yn gymdeithasol ar ôl dod nol i Gymru. Mae cynnig cyfleoedd fel hyn i bobl ifanc yn amhrisiadwy.”



Minieisteddfodau Dyffryn Camwy (22-05-2013)

Hanes Minieisteddfod Ysgol Camwy a dyddiadau rhai Dolavon a Bethel

Cynhalwyd Micro-Eisteddfod Ysgol Camwy dydd sadwrn y 18fed o Fai yn neuadd Ysgol Cynradd 100. Roedd y lle yn llawn a llawer o blantos yn cystadlu yn frwd. Pleser oedd gwrando ar Mercedes Meza White Blwyddyn 1 Ysgol Camwy yn arwain yr Eisteddfod yn Gymraeg a Spaeneg. Mae hi yn gyn-ddisgybl Ysgol yr Hendre ac yn teithio yn ddyddiol o Drelew i Ysgol Camwy. Roedd Elin Glyn Williams, Sandra de Pol ac Esyllt Roberts yn beirniadu yr adrodd yn Gymraeg a´r dawnsio gwerin. Rhaid llongyfarch y pwyllgor disgyblion a drefnodd yr eisteddfod a´r athrawon bu yn gweithio i baratoi y plant. Edrychwn ymlaen nawr i Minieisteddfod Dolavon ar y 29ain o Fehefin, a Minieisteddfod Bethel ar y 6ed o Orffennaf.


Enillwyr Mai y Clwb Cyfeillion (20-05-2013)

Tynnwyd y rhifau ym Mhwyllgor Gwaith Mai

Dyma enillwyr Mai 2013 Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin. Tynnwyd y rhifau buddugol ar ddiwrnod Pwyllgor Gwaith mis Mai
£60 Rhif 217 Geraint Tilsley, Caerdydd
£50 Rhif 196 Keith ac Eira Phillips, Caerfyrddin
£40 Rhif 288 Richard Garmon, Pen-y-bont ar Ogwr
£30 Rhif 254 Robin Roberts, Amlwch
£25 Rhif 341 Gwyn a Sally Rees, Ceredigion
£20 Rhif 295 Ifor Glyn a Nêst Tudur, Betws y Coed
£10 Rhif 25 Mair a Winzie Richards, Llanbedr Pont Steffan



Newyddion o'r Andes (20-05-2013)

Newyddion diweddar o'r Andes oddi wrth Eluned Owena Evans

Llongyfarchiadau – Mae’n bleser cyhoeddi bod tair o Drevelin sef Estela Jones, Ivana Mansilla a Sara Borda Green wedi cael cynnig lle ar Gwrs Haf Canolfan Cymraeg i Oedolion Prifysgol Caerdydd eleni. Llongyfarchiadau gwresog i’r dair. Edrychwn ymlaen at gael dathlu gyda hwy cyn iddyn nhw gychwyn ar eu taith ddiwedd Mehefin.

Amy Dolben – Bu Amy Dolben yn gwneud gwaith gwirfoddol gyda ni yma’n yr Andes yn ddiweddar. Bu’n cynorthwyo yn y gwersi Cymraeg yn ogystal â rhoi’r fideos sydd yn llyfrgell y Ganolfan yn Esquel mewn trefn yn barod i’w trosglwyddo ar DVDs. Dymunwn yn dda iddi wrth iddi dreulio amser yn y Dyffryn a phob hwyl iddi ym Mhrifysgol Caergrawnt yn yr Hydref.

Ebrill 30 - Ar Ebrill 30ain 1902 dewisodd y Cymry cynnar, trwy bleidlais, mai rhan o’r Ariannin fyddai Cwm Hyfryd ac nid rhan o Chile. Gyda Benett a Dianne, disgyblion Ysgol Gymraeg Trevelin bob ochr i mi yn y wisg draddodiadol Gymreig, yr oedd yn anrhydedd dal baner Cymru mewn seremoni arbennig a gynhelir bob blwyddyn yn Ysgol 18, sy’n lle allweddol nid yn unig yn hanes y Wladfa ond yn hanes yr Ariannin ei hun. Ar ol te blasus iawn, aethom i Neuadd y dre i fwynhau cyngerdd arbennig a oedd wedi’i threfnu i ddathlu’r diwrnod hanesyddol hwn. Hyfryd oedd treulio’r diwrnod yng nghwmni Elin Glyn, athrawes Ysgol yr Hendre a oedd wedi dod i’r Andes i dreulio’r penwythnos hir.

Noson Lawen - Cafwyd Noson Lawen yn Neuadd y dre yn Nhrevelin ddechrau mis Mai, gydag Isaías ac Eluned yn ei harwain. Yr oedd y neuadd dan ei sang a gwnaeth bawb fwynhau'r arlwy a oedd wedi'i baratoi ar eu cyfer. Aethpwyd ar daith gerddorol a theatrig o Gymru i'r Ariannin ac agorwyd y noson gyda Chôr Trevelin a wnaeth ein diddanu gyda 'repetoire' o gerddoriaeth De Americanaidd ac Ewropeaidd ymysg pethau eraill. Cafwyd eitem gerddorol arbennig gan artist lleol - Miguel Trafipan, gitarydd sydd hefyd yn athro offerynnau llinynnol. Yn perfformio gydag ef oedd Alberto neu Toti Mansilla, sydd wedi teithio'r byd (o Fecsico i Frasil i Baris) yn chwarae'r bandoneón. Y mae'n dad i Ivana, un o'n myfyrwyr ni yn Ysgol Gymraeg Trevelin sydd wedi'i dewis yn un o dair o Drevelin i deithio i Gymru i astudio'r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd fis nesaf. Pleser oedd croesawu'r 'Lighthouse Theatre' o’r Mwmbwls yn ôl i'n plith ar ôl eu hymweliad diwethaf yma yn 2011. Diolch yn fawr i Llinos Daniel, Adrian Metcalfe a Sonia Beck am ddangos eu doniau theatrig a cherddorol i ni a hynny'n deirieithog. Cafwyd perfformiadau cofiadwy iawn gan 'Gotango' hefyd - grŵp a sefydlwyd yn gymharol ddiweddar. Criw o athrawon ydyn nhw sy'n arbenigo yn y ddawns Archentaidd hon. Wrth i'r noson ddod i ben, perfformiodd 'Surco Dúo' gan ganu'n y Gymraeg ac yn Sbaeneg. Mae Alejandro a Leonardo Jones yn wynebau cyfarwydd yn Neuadd tref Trevelin a braf oedd clywed iddyn nhw gael llwyddiant yn ddiweddar mewn cystadleuaeth daleithiol. Perfformiodd Amy Dolben i gloi'r noson. Canodd gân ar y trwmped a oedd yn adnabyddus i bawb - 'Calon Lân'.
Diolch i bawb a wnaeth ein cynorthwyo i sicrhau bod y noson yn un llwyddiannus dros ben.

Oedfa Capel Bethel (Mai 19eg) – Er gwaetha’r oerfel heddiw, daeth criw bach ohonom at ein gilydd i ddathlu’r Sulgwyn yng Nghapel Bethel Trevelin gydag Isaías ac Eluned yn arwain yr oedfa. Diolch i Arturo Lowndes am gyfeilio ac i Mary Green am ein harwain mewn gweddi. Bydd yr oedfa nesaf yng Nghapel Bethel ar y 30ain o Fehefin a gofynnwn yn garedig i bawb, yn ôl yr arfer, ddod â rhywbeth i rannu er mwyn i ni allu fwynhau te a sgwrs gyda’n gilydd yn y festri ar ôl y gwasanaeth. Bydd oedfa yng Nghapel Seion Esquel am 5 o’r gloch ddydd Sul nesaf (Mai 26ain).

Llais yr Andes – Pwy ‘di pwy???? Cofiwch gystadlu!

Hogia’r Wilber – Cafodd trigolion Esquel a Threvelin eu diddanu dros y penwythnos mewn dwy gyngerdd gan Hogia’r Wilber o’r Gaiman. Gwefreiddiwyd y gynulleidfa yn Neuadd y dref yn Nhrevelin ac yng Nghanolfan Ddiwylliant y Melipal yn Esquel gan berfformiadau Roberto Jones, Marcelo Roberts, Héctor MacDonald a Billy Hughes. Diolch yn fawr iawn ar ran pawb yn yr Andes a dewch yn ôl yn fuan!

I orffen hoffwn ddymuno pob dymuniad da i bawb a fydd yn sefyll arholiadau Canolradd / Mynediad / Sylfaen yn ystod yr wythnosau nesaf yn y Ganolfan yn Esquel.

Eluned Owena Evans


Deunydd a lluniau Gwladfaol (15-05-2013)

Straeon a lluniau o'r Wladfa

Mae gwefan BBC Cymru yn arwain heddiw efo lluniau o Batagonia http://www.bbc.co.uk/cymru/ - gweler hefyd ddetholiad o luniau Tom Griffiths yn y ddolen isod
mwy


Llais yr Andes (03-05-2013)

Rhifyn diweddaraf ar gael!

Dyma rifyn Mai 2013 o'r papur bro Llais yr Andes
mwy


Croesawu Sandra a Rhisiart (22-04-2013)

Croesawu Rhisiart a Sandra

Croesawu Rhisiart a Sandra


Digwyddiadau yn y Dyffryn

Cafwyd penwythnos pleserus a phrysur yn y Dyffryn yn ddiweddar. Dechreuodd y cyfan nos Wener Ebrill 19eg gyda ‘sosial croeso’ yn Nhrelew. Daeth nifer ynghyd i groesawu Sandra a Rhisiart mewn noson ddifyr dros ben ar safle Moreno, Ysgol yr Hendre. Diolch i bawb am y croeso, am eu gwaith paratoi ac am ddod â danteithion mor flasus i’w mwynhau! Cafwyd dipyn o hwyl yn hel atgofion a chwerthin yn ystod yr ymgomio’n hir.
Wedyn, am 4 o’r gloch ddydd Sadwrn Ebrill 20fed, daeth criw sylweddol ynghyd i ddathlu yng Nghapel Carmel Dolavon ar gyfer y Gymanfa fisol. Diolch i Rebecca White am ei gwaith trefnus am drefnu’r cyfan.


Newyddion o'r Andes (22-04-2013)

Tri digwyddiad diweddar - Ebrill 2013

Noson Sbort Sadwrn Esquel:
Cafwyd noson hwylus iawn yn Esquel nos Sadwrn diwethaf wrth i griw o ryw ugain ohonom ni ddod at ein gilydd i fwynhau chwarae gemau dwl megis rholio lemwns ar hyd y llawr gyda phensil, canu carioci (da iawn Silvia a Clare), bwyta pot o jam llaeth mewn 30 eiliad (bu Marina a Gregorio’n ddewr iawn) a’m ffefryn i, gweld Lizzie ac Amy ein gwirfoddolwraig o Gaerdydd yn stwffio malws melys (marshmallows) i’w cegau gan ddweud ‘Cwningen dew’! Braf iawn oedd gweld wynebau o Drevelin yn y Ganolfan a chyffrous iawn oedd darganfod fod Amy’n perthyn i rai ohonynt!

Noson Swshi Trevelin:
Bwyd oedd canolbwynt y weithgaredd a drefnwyd gan Menter Patagonia yn Nhrevelin nos Wener diwethaf – swshi blasus iawn, a diolch yn fawr iawn i Isaías am ei help llaw yn y gegin! Er nad oedd llawer yn awyddus i fwyta’u swshi ar y clustogau a osodwyd ar y llawr (ar wahân i Ivana a Llew), roedd pawb yn ysu am gael defnyddio’r gweill bwyta a phrofi’r Sake!!! Ar ôl llenwi’n boliau gyda’r swshi a llond bwrdd o gacennau bychain o bob lliw a llun, cafwyd gwers origami cyn gorffen y noson gyda thipyn o garioci! またあとで会いましょう!
Eluned Owena Evans

Cwrdd Diolchgarwch Capel Bethel Trevelin a Chapel Seion Esquel:
Trefnodd Eluned a fi gwrdd Diolchgarwch yng Nghapel Bethel Trevelin ac hefyd yng Nghapel Seion Esquel yn ddiweddar. Roedd hi’n hyfryd gweld y ddau gapel wedi’u haddurno gyda rhoddion i roi diolch i Dduw am ei haelioni a’i ddaioni. Diolch yn fawr iawn i bawb a wnaeth ddod ac a gymerodd ran a braf oedd gweld Amy ac Haydn, ein hymwelwyr o Gymru hefyd. Diolch hefyd i Eluned am ei chymorth mawr. Fe fydd yr oedfa nesa yng Nghapel Bethel ddiwedd y mis. Dewch i dreulio awr gyda ni yn y capel prydferth hwn yn canu’n y Gymraeg ac yn addoli gyda’n gilydd!
Isaías Grandis


Caneuon Cowbois Rhos Botwnnog gyfansoddwyd ym Mhatagonia (18-04-2013)

Cyfle i wrando ar y caneuon

Chwaraewyd caneuon gyfansoddodd Cowbois Rhos Botwnnog ym Mhatagonia y llynedd ar Radio Cymru neithiwr - 17/4/13 - ar raglen Lisa Gwilym. Gellwch wrando eto ar y ddolen isod.Gwrandewch a mwynhewch
mwy


Athrawes o'r Wladfa yn arsylwi yng Nghymru (15-04-2013)

Patricia Ramos o Dir Halen gyda rhai o ddisgyblion Bl. 7 Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth lle bu'n arsylwi am dair wythnos. Ar y chwith gwelir athrawes gofrestru y dosbarth a Phennaeth Hanes yr ysg

Patricia Ramos o Dir Halen gyda rhai o ddisgyblion Bl. 7 Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth lle bu'n arsylwi am dair wythnos. Ar y chwith gwelir athrawes gofrestru y dosbarth a Phennaeth Hanes yr ysg


Patricia Ramos o Dir Halen fu yng Nghaerdydd ac Ysgol Gyfun Penweddig yn ddiweddar

Treuliodd Patricia Ramos - athrawes o'r Wladfa - gyfnod yng Nghymru yn ddiweddar. Gwelir ei hanes ar wefan Ysgol Gyfun Penweddig
mwy


Cinio Blynyddol Cymdeithas Dewi Sant Trelew (14-04-2013)

Adroddiad am y cinio blynyddol ar Ebrill 13eg

Ar nos Sadwrn Ebrill 13eg cynhalwyd swper blynyddol Cymdetihas Dewi Sant Trelew. Cafwyd noson hwyliog ac Arturo Lowndes oedd y person gafodd ei anrhydeddu y flwyddyn yma. Bu ef yn byw yn Comodoro Rivadavia yn briod a Rosa Jones ac yn weithgar yng Nghymdeithas Dewi Sant y dref honno. Erbyn hyn mae wedi ymddeol a mae ef a Rosa yn byw mewn fferm yn agos i Drevelin. Llongyfarchiadau gwresog. Roeddem yn troi am adref bell wedi dau o´r gloch y bore ond oedd llawer yn dal i ddawnsio yn egniol yn nghanol y neuadd.



Arddangosfa luniau (29-03-2013)

Lluniau o Batagonia ymhlith eraill mewn arddangosfa yn Nolgellau.

Cynhelir arddangosfa ffotograffau Tom Griffiths - yn cynnwys y Cyswllt Cymreig ym Mhatagonia - yng Nghaffi T.H.Roberts Dolgellau o 29 Mawrth hyd Fai 1af


Gweithio yn Nyffryn Camwy (25-03-2013)

Dymuniadau gorau i Sandra De Pol a Rhisiart Arwel, sydd yn gadael heddiw am y Gaiman lle byddant yn gweithio am flwyddyn i Gynllun yr Iaith Gymraeg yn Chubut.


mwy


Gŵyl Ddewi o gwmpas y byd (03-03-2013)

Cyfarchion yn Saesneg o Drelew ymhlith eraill

Cyfarchion gan Ana Chiabrando o Drelew ymysg eraill gan Gymry o gwmpas y byd ar raglen radio CJS News (Gorsaf Radio Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd)
mwy


Dylanwad Gwladfaol ar waith diweddaraf Karl Jenkins (02-03-2013)



Mae'r cyfansoddwr Karl Jenkins wedi arwyddo efo'r cwmni recordio Deutsche Grammophon
Yn ôl y cyfansoddwr mae dylanwad Patagonaidd i'w albym diweddaraf Adiemus Colores.
mwy


Athrawes yr Andes am 2013 (28-02-2013)

Dymuniadau gorau i Eluned Owena Evans, Llanddarog, fydd yn cyrraedd Esquel yfory lle bydd am flwyddyn yn gweithio i Gynllun yr Iaith Gymraeg yn Chubut.


mwy


Enillwyr Chwefror y Clwb Cyfeillion (20-02-2013)

Tynnwyd y rhifau ym mhwyllgor Chwefror.

Dyma enillwyr Chwefror 2013 Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin. Tynnwyd y rhifau buddugol ar ddiwrnod Pwyllgor Gwaith mis Chwefror.
£60 Rhif 167 Arthur Boyns, Blaenau Ffestiniog
£50 Rhif 105 Glyn a Gwenda Humphreys, Corwen
£40 Rhif 283 John Davies, Y Bontfaen
£30 Rhif 162 Mici Plwm, Pwllheli
£25 Rhif 169 John a Marina Adams Lewis, Aberteifi
£20 Rhif 3 Sion, Lisa a Dylan Penfold, Mynachlog-ddu
£10 Rhif 347 Gwyneth Parry, Llanberis



Sgwrs am y Drafod (20-01-2013)

Walter Brooks yn cael ei holi am y Drafod

Llongyfarchiadau i Walter Ariel Brooks ar gael ei ddoethuriaeth, Bu'n siarad am hanes y Drafod ar Raglen Dai Tomos heno - gellir clywed y haglen eto am nos Fawrth am 18.15 neu drwy gwrando eto
mwy


Deuddydd ym Muenos Aires? (20-01-2013)

Dyma awgrym yr Independent 19/1/2013 beth i'w wneud mewn 48 awr ym mhrifddinas yr Ariannin

Dyma awgrym yr Independent 19/1/2013 beth i'w wneud mewn 48 awr ym mhrifddinas yr Arianni
mwy


Seperado ar y teledu (18-12-2012)

Bydd y ffilm Seperado i'w gweld ar S4C nos Iau 27 Rhagfyr am 7.30


mwy


Ymchwilio i hanes Gwyl y Glaniad (16-12-2012)




mwy


Ennill cadair (25-11-2012)

Llongyfarchiadau i Dr David Williams, Trelew, ar ennill cadair Eisteddfod Trevelin neithiwr!




Dymuniadau gorau i Eisteddfod Trevelin 2012. (21-11-2012)






Genedigaeth (09-11-2012)

Eiry Miles yn cael merch fach.

Llongyfarchiadau i Eiry Miles (fu'n athrawes Gymraeg yn y Dyffryn yn 2003) a Dai Bryer ar enedigaeth merch fach - Angharad Llywarch - ar 30 Hydref, chwaer fach i Gwyn Llywarch; wyres i Phyllis a terry Bryer, Dinbych a Gina a Gareth Miles, Pontypridd


Gwen Humpreys (02-11-2012)

Marwolaeth Gwen Humphreys

Trist oedd clywed am farwolaeth Gwen Lunt Humphreys, Llanrwst, yn Hosbis Dewi Sant, Llandudno ar Hydref 9fed 2012. Bu Gwen yn gwirfoddoli fel athrawes Gymraeg yn Nyffryn Camwy ym 1996. Cydymdeimlwn a'i theulu.


Cystadleuaeth ddylunio Logo "150 Mlwyddiant y Wladfa" (30-10-2012)

Yn y ddolen isod gwelir cystadleuaeth gan Gymdeithas Dewi Sant, Trelew, i lunio logo 150 mlwyddiant y Wladfa.

Yn y ddolen isod gwelir cystadleuaeth gan Gymdeithas Dewi Sant, Trelew, i lunio logo 150 mlwyddiant y Wladfa.
mwy


Cadeirio 2012 (28-10-2012)

Llongyfarchiadau i Gwynedd Huws Jones,Llidiardau, Y Bala, ar ennill cadair Eisteddfod y Wladfa 2012. Gellwch ddilyn y seremoni ar y ddolen isod.

Llongyfarchiadau i Gwynedd Huws Jones,Llidiardau, Y Bala, ar ennill cadair Eisteddfod y Wladfa 2012. Gellwch ddilyn y seremoni ar y ddolen isod.
mwy


Dymuniadau gorau! (25-10-2012)

Dymuniadau gorau i Eisteddfod y Wlada am Wyl lewyrchus. Gellir dilyn darllediad byw ar y ddolen isod


mwy


To the ends of the earth (14-10-2012)

To the ends of the earth"
lawnsio cyfrol Saesneg gan Mair Davies, golygwyd gan Gwen Emyr
Siop Lyfrau Gristnogol a Chaffi yr Heath am 3pm
122 Ffordd yr Eglwys Newydd
Caerdydd


To the ends of the earth"
lawnsio cyfrol Saesneg gan Mair Davies, golygwyd gan Gwen Emyr
Siop Lyfrau Gristnogol a Chaffi yr Heath am 3pm
122 Ffordd yr Eglwys Newydd
Caerdydd


(14-10-2012)

"To the ends of the earth"
Launch of To the ends of the earth: Memories and recollections of a Welsh Missionary in Patagonia by Mair Davies, edited by Gwen Emyr
Heath Christian Bookshop and Coffee


"To the ends of the earth"
lawnsio cyfrol Saesneg gan Mair Davies, golygwyd gan Gwen Emyr
Siop Lyfrau Gristnogol a Chaffi yr Heath am 3pm
122 Ffordd yr Eglwys Newydd
Caerdydd



Pennod ar ddysgu Mathemateg yn y Wladfa (11-10-2012)

Bydd Gareth Ffowc Roberts yn llofnodi copïau o Mae Pawb yn Cyfrif yn siop Awen Menai, Porthaethwy, fore Sadwrn, 13 Hydref am 11 o'r gloch.

Mae pennod yn y gyfrol ar ddysgu Mathemateg trwy gyfrwng y Gymraeg yn y Wladfa.
Nos Wener bydd sgwrs am hyn ym Mangor - gweler digwyddiadau
mwy


Gwobrau Medi Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin (05-10-2012)

Dyma y rhifau a dynnwyd ar gyfer gwobrau Medi y Clwb Cyfeillion

1) 4. Mary E Mudd. Rhydaman £60
2)269 Gwyneth Carey Rhuthun £50
3)166 Dewi W.Williams Caerdydd £40
4)288 Richard Gammon Pen-y-bont ar Ogwr £30
5)347 Hywel Thomas Caerfyrddin £25
6) 372 Joyce Jones Powys £20
7) 360 Gareth Morgan Slough £10


(04-10-2012)






Darlith ar ddiwylliant printiedig Cymraeg yn y Wladfa (04-10-2012)

Darlith gan Walter Brooks yn Saesneg

23 Hydref 2012: Yng Nghaerdydd

Walter Brooks
'Welsh Print Culture in y Wladfa. The Role of Ethnic Newspapers in Welsh Patagonia, 1865-1933'

'Diwylliant Printiedig Cymraeg yn y Wladfa. Rôl Papurau Newydd Ethnig ym Mhatagonia, 1865-1933'*
Seminar Ymchwil Ysgol y Gymraeg
5.15pm, Ystafell 1.69, Adeilad y Dyniaethau, Prifysgol Caerdydd
*Traddodir y seminar hwn yn y Saesneg
mwy


(04-10-2012)

Bydd cyfweliad ar raglen Nia ar Radio Cymru prynhawn Dydd Mercher nesa - 10 Hydref - gyda rhai o griw yr Urdd fydd yn mynd allan yhen pythefnos




Pedair gwobr BAFTA i'r ffilm Patagonia (01-10-2012)

Mae'r ffilm Patagonia wedi ennill pedair gwobr BAFTA Cymru yn y Noson Wobrwyo neithiwr yng Nghaerdydd


mwy


Lansiad gwefan newydd (06-08-2012)

Lansiad y wefan newydd

Lansiad y wefan newydd


Lansiwyd gwefan newydd y Gymdeithas yn swyddogol ym mhabell y Gymdeithas ar 6ed o Awst 2012.

Cyflwynwyd y sesiwn gan Elvey McDonald (Llwydd Anrhydeddus y Gymdeithas, sy'n sefyll ar y chwith yn y llun). Wedyn dangoswyd y wefan newydd i'r gynulleidfa gan Nigel Callaghan o Dechnoleg Taliesin, a oedd yn gyfrifol am ddylunio'r wefan newydd (yn eistedd wrth y cyfrifiadur yn y canol).



Dathlu Gŵyl y Glaniad yn Ninbych, Gorffennaf 2012 (04-08-2012)

Parti Enfys yn diddanu, Gŵyl y Glaniad, Dinbych, 2012

Parti Enfys yn diddanu, Gŵyl y Glaniad, Dinbych, 2012


Daeth criw da ynghyd i ddathlu Gŵyl y Glaniad yng Nghlwb Rygbi Dinbych dydd Sadwrn 28 Gorffennaf.

Ar ôl mwynhau bwyd blasus baratowyd gan y Parchg Wayne Roberts cafwyd eitemau safonol gan barti Enfys (Hyfforddwraig: Leah Owen). Croesawyd rhai o'r Wladfa a chawsant gyfle i annerch y gynulleidfa. Diwrnod hynod lwyddiannus - diolch i gangen Clwyd am drefnu!


     

Dylunio a hostio'r wefan: Technoleg Taliesin Cyf.

Administration