Newyddion


Enillwyr Medi 2021 Y Clwb Cyfeillion (08-10-2021)

Dyma enillwyr Medi y Clwb Cyfeillion

1 £100 Rhif 293 Elizabeth Jane Williams, Pwllheli
2. £ 75 Rhif 63 Peter Wyn Roberts, Tynygongl
3. £ 50 Rhif 270 Meira Chapman, Meifod.Dychwelodd yr arian i'r gronfa.Diolch
4. £ 25 Rhif 151 Bob Puw, Caerdydd

Ail gychwynodd y Clwb ym Medi. Gwobrau o £100, £75, £50 a £25 ym Mhwyllgorau Gwaith Medi a Chwefror, Nadolig a Gŵyl y Glaniad.
Y tâl ymuno yw £10 y flwyddyn._Sieciau yn daladwy i `CYMDEITHAS CYMRU-ARIANNIN` i’w hanfon i’r Hyrwyddwr – Eleri Roberts 12 Maesypandy, Llanuwchllyn, Y Bala, Gwynedd LL23 7TR eleriproberts@hotmail.com cyn 31 Awst 2021.

Mae modd talu trwy BACS Côd didoli cyfrif y Clwb Cyfeillion yw 20-35-47 a rhif y cyfrif yw 43627314. Os bydd pobl yn talu trwy BACS, mae'n bwysig cofio mai cyfrif busnes yw hwn ac, efallai, na fydd y cysylltnod yn cael ei adnabod. Cymdeithas Cymru-Ariannin yw enw'r cyfrif.



Enillwyr Gwyl y Glaniad 2021 Clwb Cyfeillion (24-07-2021)

Dyma enillwyr Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin Gwyl y Glaniad 2021


1 £100 Rhif 240 Glynn Morris, Sale
2. £ 75 Rhif 70 Gwerfyl Arthur. Llanuwchllyn ( Dychwelodd yr arian i’r gronfa. Diolch)
3. £ 50 Rhif 213 Alun G. Moseley, Baglan
4. £ 25 Rhif 59 Hafwen John, Y Bala
Bydd y clwb yn ail gychwyn ym mis Medi. Gwobrau o £100, £75, £50 a £25 ym Mhwyllgorau Gwaith Medi a Chwefror, Nadolig a Gŵyl y Glaniad.
Y tâl ymuno yw £10 y flwyddyn._Sieciau yn daladwy i `CYMDEITHAS CYMRU-ARIANNIN` i’w hanfon i’r Hyrwyddwr – Eleri Roberts 12 Maesypandy, Llanuwchllyn, Y Bala, Gwynedd LL23 7TR eleriproberts@hotmail.com cyn 31 Awst 2021.

Mae modd talu trwy BACS Côd didoli cyfrif y Clwb Cyfeillion yw 20-35-47 a rhif y cyfrif yw 43627314. Os bydd pobl yn talu trwy BACS, mae'n bwysig cofio mai cyfrif busnes yw hwn ac, efallai, na fydd y cysylltnod yn cael ei adnabod. Cymdeithas Cymru-Ariannin yw enw'r cyfrif.


Enillwyr Nadolig 2020 Clwb Cyfeillion (15-07-2021)

Dyma enillwyr Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin


1 £100 Rhif 318 Lloyd a Llywela Jones, Bethania, Llan-non
2. £ 75 Rhif 270 Myra Chapman Pontrobert ( Dychwelodd yr arian i’r gronfa. Diolch)
3. £ 50 Rhif 74 Edward a Beti Rowlands. Llanuwchllyn
4. £ 25 Rhif 297 Gwyn Hopkins Llanelli
Enillwyr Chwefror 2021
1 £100 Rhif 10 Des a Helen Davies, Blaen-ffos
2 £75 Rhif 287 Richard Gammon, Pen-y-bont ar Ogwr
3 £50 Rhif 144 Ceinwen Edwards, Moelfre, Croesoswallt
4. £ 25 Rhif 221 Irwyn M. Jones, Llanuwchllyn

Hyrwyddwr:​ – Elvira Moseley, 41 Baglan Heights, Baglan, Port Talbot, SA12 8UF elviram42@hotmail.com


Enillwyr Medi 2020 Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin. (28-09-2020)

Dyma enillwyr Medi 2020 Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin

. Tynnwyd y rhifau buddugol ym Mhwyllgor Gwaith 26 Medi 2020 ar ZOOM

£100 Rhif 2. Wyn Thomas, Llandyfriog
£75 Rhif 297. Gwyn Hopkins, Llangennech
£50 Rhif 372. Joyce Jones, Llandinam
£25 Rhif 354. Sian Rees, Llanybydder
​Hyrwyddwr:​ – Elvira Moseley, 41 Baglan Heights, Baglan, Port Talbot, SA12 8UF elviram42@hotmail.com


Newyddion o Eisteddfod AmGEN (02-08-2020)

cystadleuaeth

cystadleuaeth


Dyma beth newyddion gyhoeddwyd dydd Iau

Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin. Enillwyr Gorffennaf 2020

Tynnwyd y gwobrau gan y Llywydd a’r Trefnydd ar fideo o flaen y Pwyllgor ar 4 Awst ym Maglan

£100 (Rhif 254) Robert John Roberts, Amlwch
£75 (Rhif 213) Alun Moseley, Baglan
£50 (Rhif 239) Mai Williams, Llandudno
£25 (Rhif 179) Eirwen Richards, Basaleg, Casnewydd

Bydd y clwb yn ail gychwyn ym Mhwyllgor Gwaith Medi. Gwobrau o £100, £75, £50 a £25 ym Mhwyllgorau Gwaith Medi a Chwefror, Nadolig a Gŵyl y Glaniad.
Y tâl ymuno yw £10 y flwyddyn._Sieciau yn daladwy i `CYMDEITHAS CYMRU-ARIANNIN` i’w hanfon i’r Hyrwyddwr – Elvira Moseley, 41 Baglan Heights, Baglan, Port Talbot, SA12 8UF elviram42@hotmail.com cyn 31 Awst 2020.
Penderfynwyd hefyd eleni - gan nad oes raffl – roi pedair rhodd o £25 i aelodau fel gwobrau teyrngarwch. Dyma y pedwar enillydd a dynwyd gan Elvira a Menna George:
Eleri Roberts, Llanuwchllyn
John Roberts, Y Ffôr
Eirlys Davies, Glynarthen, Llandysul
Carol Moseley, Baglan

CYSTADLEUAETH 2021

Fel y gwyddoch, dwi’n siwr, ers Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1978 mae Cymdeithas Cymru-Ariannin wedi cynnig cystadleuaeth ysgrifenedig yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer rhai o’r Wladfa ac sydd yn dal i fyw yn Ariannin. (Un flwyddyn cafwyd atgofion llafar ar dâp). Cyhoeddwyd tri detholiad o’r cynnyrch ar hyd y blynyddoedd - Atgofion o Batagonia; gol. R. Bryn Williams (Gwasg Gomer, 1980) Byw ym Mhatagonia; gol. Guto Roberts a Marian Elias Roberts (Gwasg Gwynedd, 1993) (mae'r ddau lyfr allan o brint) a Bywyd yn y Wladfa - detholiad o gynnyrch 1978- ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r cyffiniau 2009.
Gan na fyddai cystadleuaeth i Wladfawyr oherwydd y sefyllfa bresennol penderfynwyd cynnal y gystadleuaeth hon.
CYSTADLEUAETH I RAI SYDD WEDI BYW YN Y WLADFA AR HYD EU HOES AC YN DAL I FYW YN YR ARIANNIN
Creu ffilm fer, rhwng 3-5 munud o hyd, gyda sylwebaeth Gymraeg, drwy ddefnyddio ffôn, tabled neu gamera, sy’n cynnig argraff o fywyd yn yr Ariannin gyfoes
Gwobr: £100
Beirniad: Dion Wyn Hughes
Dyddiad cau: 1 Mehefin 2021 – y ceisiadau i’w gyrru d/o yr Ysgrifennydd,
Ceris Gruffudd. Rhos Helyg, 23 Maesyrefail, Penrhyn-coch, ABERYSTWYTH, Ceredigion
SY23 3HE 01970 828017 Ceris.Gruffudd@googlemail.com
Byddwn yn cyhoeddi yr enillydd ac yn dangos y cynnyrch yn yr Eisteddfod yn Nhregaron yn Awst 2021


Colli Rhodri Dafydd (21-06-2020)

Roedd yn drist clywed am farwolaeth Rhodri Dafydd, Capel Garmon, a fu farw wedi brwydr ddewr yn 41 mlwydd oed

Bu’n gweithio i Cyngor Cefn Gwlad Cymru; roedd yn olygydd y cylchlythyr Llygad Barcud (Cymdeithas Ted Breeze Jones) ac yn golofnydd Byd Natur ym mhapur bro yr Odyn lle nodir “Bu’n gyfrifol am y golofn ers 2014 ac roedd ei ddawn ysgrifennu a’i frwdfrydedd ar y pwnc yn amlwg yn ei erthyglau. Roedd yn gallu rhannu ei wybodaeth eang mewn ffordd dealladwy a diddorol.” Cydymdeimlwn yn ddiffuant iawn gyda’i briod Eleri, ei blant Mabli, Miri a Twm a gyda’r teulu oll. Yn dilyn ymweliad a’r Wladfa cafwyd sgwrs gyda chymorth sleidiau o natur a bywyd gwyllt Patagonia ganddo ym mhabell Cymru-Ariannin yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 2009 a chyhoeddodd ddwy erthygl addysgiadol yn rhifynnau Pasg a Haf 2007 o Llygad Barcud am fywyd gwyllt Patagonia.


Ysgoloriaeth Patagonia 2020 / Cyfarfod i drafod sefydlu cangen Cymdeithas Cymru-Ariannin (29-02-2020)

Cynhelir cyfarfod dydd Llun Mawrth2il lle cynhelir seremoni cyhoeddi enillydd Ysgoloriaeth Patagonia 2020 a drefnir gan Gyngor Tref Ffestiniog.

Efeilliodd y Cyngor yn swyddogol gyda Threfrawson (Rawson) ym Mhatagonia yn 2015, ac ers 2016, mae Cyngor Tref Ffestiniog wedi bod yn cynnig ysgoloriaeth i unigolyn ifanc deithio i'r Wladfa er mwyn cryfhau'r berthynas rhwng y ddwy dref.

Cynhelir y seremoni am 6.30 yr hwyr ar nos Lun, Mawrth 2il yn Siambr Cyngor Tref Ffestiniog, 5 Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog, LL41 3ES. Yn dilyn y seremoni, darperir lluniaeth ysgafn a chyfle i gymdeithasu. Eleni, bwriedir manteisio ar y digwyddiad er mwyn cynnal cyfarfod i drafod sefydlu cangen Cymdeithas Cymru-Ariannin. Gall y gangen fod ar gyfer ardal eang fel Meirionnydd er enghraifft, cylch y papur Llafar Bro neu ardal Cyngor Tref Ffestiniog.

Edrychir ymlaen at weld cynifer yn mynychu'r seremoni eleni.


Cyfle newydd i fyfyrwyr ymweld a'r Ariannin (22-02-2020)

Mae cyfle newydd i fyfyrwyr o Aberystwyth ymweld â’r Ariannin fel rhan o gynllun teithio rhyngwladol sydd yn cael ei gynnig gan y Cyngor Prydeinig.

Yr Ariannin yw’r wlad ddiweddaraf i gael ei hychwanegu at restr cyrchfannau teithio cynllun Cymru Fyd-eang Darganfod y Cyngor Prydeinig, ac mae’n agored i israddedigion o Gymru sydd yn astudio mewn Prifysgol yng Nghymru ac yn dymuno ehangu eu gorwelion.

Bu Lucy Trotter, darlithydd yn Ysgol Addysg Prifysgol Aberystwyth, yn flaenllaw yn y broses o sicrhau fod yr Ariannin yn cael ei chynnwys ar y rhestr.

Dywedodd: “Mae cynnwys yr Ariannin ar y rhestr yn arwyddocaol oherwydd fe fydd yn cyfnerthu a chryfhau cysylltiadau Prifysgol Aberystwyth â Phatagonia, yn ogystal â chynyddu cyfleoedd i fyfyrwyr o incwm llai i deithio.”

Mae Lucy Trotter yn gwneud astudiaeth anthropolegol o Wladfa’r Ymsefydlwyr yn Chubut fel y mae hi heddiw ar gyfer doethuriaeth o’r LSE (London School of Economics).

Ym 1865 mudodd 153 o ddynion a menywod o Gymru i’r Ariannin ar gwch y Mimosa i sefydlu’r Wladfa.

Heddiw mae tua 5,000 o siaradwyr Cymraeg ym Mhatagonia ac mae Cymreictod yn rhan o fywyd dyddiol yno.

Mae gan Brifysgol Aberystwyth gysylltiad agos â Phatagonia, ac mae dau fyfyriwr yn teithio o Batagonia i Aberystwyth yn flynyddol i gwblhau’r Cwrs Haf Cymraeg.

Yn ogystal, mae nifer o ymchwilwyr ac academyddion o amryw adrannau yn gweithio ar Batagonia neu ar faterion yn ymwneud â’r Ariannin.

Ychwanegodd Lucy: “Rwyf wrth fy modd fod yr Ariannin yn cael ei chynnwys fel cyrchfan gan gynllun Cymru Fyd-Eang Darganfod y Cyngor Prydeinig. O fewn y Brifysgol, rydym wedi sefydlu grŵp rhyngddisgyblaethol o arbenigwyr sydd yn weithgar mewn ymchwil ar Batagonia, America Ladin a Chymru, a gobeithiaf y bydd ein myfyrwyr yn manteisio ar y profiad hwn.”

Cydlynwyd y cynnig i gynnwys yr Ariannin fel cyrchfan gan Marian Gray, Pennaeth Cyfleoedd Byd-eang Prifysgol Aberystwyth a Cathy Piquemal, Rheolwr Datblygu Ysgol Haf a Rhaglenni Byr.

Mae Cymru Fyd-eang Darganfod wedi ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Prydeinig Cymru a Cymru Byd-eang, er mwyn cynyddu’r nifer o israddedigion sy’n hanu o Gymru mewn Prifysgol yng Nghymru sydd yn ymgymryd â phrofiadau tramor rhyngwladol fel rhan o’u hastudiaethau.

Nod y rhaglen yw chwalu rhwystrau o ran cyfranogiad drwy gynnig lleoliadau tymor byr a chefnogi costau byw.

Mae Cymru Fyd-eang Darganfod yn cynnig teithiau i 36 o wledydd yn cynnwys UDA, Canada, Siapan, EAU, Qatar, India, Tseinia a Fietnam a ledled yr Undeb Ewropeaidd. Am fwy o wybodaeth ac am restr lawn o’r gwledydd, ewch i: https://wales.britishcouncil.org/cymru-fyd-eang-darganfod

Dyddiad cau ar gyfer y cyfnod ariannu yw dydd Llun 2 Mawrth 2020.

Am y ffurflenni cais perthnasol a gwybodaeth ychwanegol cysylltwch â Cathy Piquemal 01970 622864/ crp@aber.ac.uk

Am wybodaeth bellach ynglŷn â theithio i’r Ariannin a Phatagonia cysylltwch â Lucy Trotter lut22@aber.ac.uk
mwy


Enillwyr Nadolig 2019 Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin. (15-12-2019)

Dyma enillwyr Gwobrau Nadolig 2019 Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin.

Tynnwyd y gwobrau ym Mhwyllgor Gwaith Medi y Gymdeithas yn Aberystwyth ar 28 Medi

£100 (Rhif 209) Huldah M. George, Aberteifi
£75 (Rhif 8) Bethan a Dyfed Davies, Mynachlog-ddu
£50 (Rhif 32) Siân Jones, Crymych
£25 (Rhif 12) David a Janet Morgan, Bae Colwyn

Hyrwyddwr – Elvira Moseley, 41 Baglan Heights, Baglan, Port Talbot, SA12 8UF elviram42@hotmail.com



Cyflwyno rhodd (24-10-2019)

Cyflwyno rhodd

Cyflwyno rhodd


Y Parchg Eirian Wyn Lewis ar ran Pwyllgor Gwaith Cymdeithas Cymru-Ariannin yn cyflwyno rhodd o £1,000 i María Angélica Evans ar gyfer Ysgol Gymraeg y Gaiman Diolch i Iestyn Hughes am y llun




Enillwyr Medi 2019 Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin. (29-09-2019)

Dyma enillwyr Medi 2019 Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin.



Tynnwyd y gwobrau ym Mhwyllgor Gwaith Medi y Gymdeithas yn Aberystwyth ar 28 Medi

£100 (Rhif 298) Madge Huws, Pwllheli
£75 (Rhif 286) Richard Gammon, Pen-y-bont ar Ogwr
£50 (Rhif 139) Gwerfyl Thomas, Efailisaf
£25 (Rhif 141) Eleri Gwyndaf, Caerdydd

Hyrwyddwr – Elvira Moseley, 41 Baglan Heights, Baglan, Port Talbot, SA12 8UF elviram42@hotmail.com


Raffl flynyddol Cymdeithas Cymru-Ariannin (16-08-2019)

Diolch i bawb gefnogodd raffl Cymdeithas Cymru-Ariannin

Tynnwyd y tocynnau buddugol y pnawn yma a’r enillwyr oedd
£200 Phil Davies, Tal-y-bont, Ceredigion
£100 Gethin Hughes, Aberystwyth
£50 Shirley Williams, Caerdydd
£25 Eluned Grandis, Llanddarog
£25 John Wynne Jones Biwmares


Enillwyr Gorffennaf 2019 Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin. (30-07-2019)

Dyma enillwyr Gorffennaf 2019 Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin.

Tynnwyd y gwobrau yng Ngŵyl y Glaniad ar 27 Gorffennaf 2019 yn Llambed

£100 (Rhif 340) Jois Snelson, Dinbych
£75 (Rhif 164) Arwyn Owen, Beddgelert
£50 (Rhif 70) Arthur Jones, Llanuwchllyn
£25 (Rhif 182) Emyr Gwyn Evans, Y Tymbl

Bydd y clwb yn ail gychwyn ym Mhwyllgor Gwaith Medi. Gwobrau o £100, £75, £50 a £25 ym Mhwyllgorau Gwaith Medi a Chwefror, Nadolig a Gŵyl y Glaniad.
Y tâl ymuno yw £10 y flwyddyn._Sieciau yn daladwy i `CYMDEITHAS CYMRU-ARIANNIN` i’w hanfon i’r Hyrwyddwr – Elvira Moseley, 41 Baglan Heights, Baglan, Port Talbot, SA12 8UF elviram42@hotmail.com cyn 31 Awst 2019.


Ysgoloriaethau i ddysgwyr o’r Wladfa (05-07-2019)

Mae tair ysgoloriaeth, gwerth £2,000 yr un, wedi eu dyfarnu i ddysgwyr o Batagonia gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, i’w helpu i astudio’r Gymraeg yng Nghymru dros yr haf.

Bydd Judith Ellis, Sybil Hughes a Florencia Zaldegui o Batagonia yn treulio mis yn astudio cyrsiau dwys ym Mhrifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Caerdydd, sef dau o ddarparwyr cwrs y Ganolfan Genedlaethol. Fe weinyddir yr ysgoloriaethau mewn cydweithrediad â’r Cyngor Prydeinig a Chymdeithas Cymru-Ariannin.
Bydd Judith yn dilyn cwrs Canolradd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae hi’n gweithio yn ysgol Gymraeg Ysgol y Cwm, Trevelin yn nhalaith Chubut, Patagonia ar hyn o bryd, ac yn edrych ymlaen at gael defnyddio mwy o’i Chymraeg yn y gwaith yn dilyn y cwrs haf.
Meddai Judith, “Dw i’n edrych ymlaen at wella fy Nghymraeg. Dw i eisiau dod i adnabod y wlad lle roedd fy nheulu yn arfer byw a dod i wybod mwy am ei hanes hefyd. Wrth ddod ar y cwrs haf yn Aberystwyth dw i’n gobeithio gallu cyfarfod â phobl o Gymru a dysgu mwy o Gymraeg er mwyn medru defnyddio’r iaith yn yr ysgol yn Nhrevelin. Dwi’n edrych ymlaen at ddweud yr hanes wrth blant bach Ysgol y Cwm lle dw i’n dysgu fel athrawes.”
Bydd Sybil Hughes hefyd yn treulio amser ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae Sibyl yn gweithio yn Ysgol Feithrin Gymraeg y Gaiman, sydd hefyd yn nhalaith Chubut. Mae ganddi ddiddordeb mewn cyfieithu, felly yn ystod ei chyfnod yng Nghymru bydd hi’n treulio amser ar y cwrs Cymraeg Proffesiynol yn y Brifysgol.
Ym Mhrifysgol Caerdydd y bydd Florencia Zaldegui yn mynychu’r cwrs haf. Yn wreiddiol o dalaith Rio Negro, ar gyrion gogleddol y Wladfa, mae hi erbyn hyn yn athrawes chwaraeon yn y Gaiman. Ers symud i’r Gaiman tua pum mlynedd yn ôl mae hi wedi mwynhau dysgu’r iaith. Enillodd hi ysgoloriaeth yr Urdd y llynedd, a bu’n byw yng Nghymru am fis ac yn gwirfoddoli gyda’r Urdd.
Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:
“’Dyn ni’n llongyfarch y tair ar eu llwyddiant, ac yn edrych ymlaen at eu croesawu yma i Gymru dros yr haf. ’Dyn ni’n ymfalchïo yn y berthynas unigryw sydd rhwng Cymru a’r Wladfa, ac yn falch iawn o fedru cynnig cymorth i sicrhau bod y Gymraeg yn parhau yn rhan o fywyd cymunedau ym Mhatagonia.”



GŴyl y Glaniad (04-07-2019)

Cynhelir yr Ŵyl eleni yng Nghlwb Rygbi Llanbedr Pont Steffan dydd Sadwrn 27 Gorffennaf

Bydd adloniant gan Nest Jenkins – merch ifanc dalentog o Ledrod sydd yn fyfyrwraig yn astudio’r gyfraith a’r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Nest yn gyfarwydd ag eisteddfodau – bu’n cystadlu fel telynores a hefyd ar siarad cyhoeddus a llefaru ar hyd y blynyddoedd. Mae’n gyflwynydd rhaglen radio Cymraeg ar radio Prifysgol Caerdydd a hi yw Cadeirydd Maes B Eisteddfod Ceredigion 2020.

Bu yn y Wladfa tra yn yr ysgol efo’r Urdd ac mae’n ffodus yn cael ymweld eto eleni – fel un o enillwyr ysgoloriaethau Santander Prifysgol Caerdydd. Mae disgwyl y bydd nifer o’r Wladfa yn bresennol.

Diolch i Judith Jones am gytuno i ddosbarthu y tocynnau. Llongyfarchiadau iddi hi a Martin Pugh ar eu priodas yn ystod y flwyddyn.

Byddwn yn cyfarfod yn y Clwb Rygbi am 13.00. Rhaid archebu a thalu am docyn cyn dydd Gwener Gorffennaf 19 oddi wrth Judith Jones, Glascoed, Ffordd Pontrhydfendigaid, Tregaron, Ceredigion SY25 6JD. Pris y tocyn yw £13.00 (hanner pris i blant ysgol) Cofiwch yrru amlen a stamp i dderbyn y tocyn. Nodwch hefyd os ydych angen bwyd llysieuol / figan, bwyd heb gluten. Dylid gwneud sieciau allan i Gymdeithas Cymru-Ariannin. Bydd Judith yn falch o glywed am unrhyw Wladfawyr fydd yn debygol o fynychu; ei rhif ffôn yw 07512 663122. Os ydych am aros yn yr ardal a chrwydro yr ardal mae digon o ddewis – Abaty Ystrad Fflur / Pentre Bach (Sali Mali)/ bydd y Parchg Goronwy Evans yn pregethu yn Soar y Mynydd am 2.00 dydd Sul. Gellir cael manylion am lefydd aros yn y ddolen isodond mae y llety yn llawn eisoes ym Mhentre Bach!
mwy


Maer Aberteifi yn Dadorchuddio Plac Gefeillio (02-09-2018)

Dadorchuddio plac 1

Dadorchuddio plac 1



Dadorchuddiodd Maer Aberteifi, John Adams-Lewis, blac ar wal yng Nghei y Tywysog Siarl, Aberteifi, ddydd Gwener, 31 Awst, i nodi bod y dre wedi'i gefeillio â Threvelin, ym Mhatagonia.


Roedd John a'i wraig, Morina, ar eu hail dymor fel Maer a Maeres Aberteifi pan sefydlwyd y gefeillio 13 mlynedd yn ôl. Yn rhinwedd y swydd honno gwahoddwyd John i arwyddo'r ddogfen gefeillio yn swyddogol yn Nhrevelin ar 25 Tachwedd, 2005.
Ymhlith y rhai a fynychodd y seremoni ddydd Gwener, a drefnwyd o dan nawdd Pwyllgor Gefeillio Aberteifi / Trevelin, oedd y ffermwr ifanc o Drevelin, Alejandro Jones. Yn hwyrach y noson honno ymddangosodd fel unawdydd ar lwyfan cyngerdd yng nghastell Aberteifi gyda'r tenoriaid Rhys Meirion ac Aled Wyn Davies, ynghyd â thelynorion ifanc o Glwb Telyn y Castell.
Cyflwynir elw'r gyngerdd i hyrwyddo Ysgol y Cwm, yr ysgol Gymraeg newydd a agorwyd yn Nhrevelin ddwy flynedd yn ôl.








Buddugwyr raffl (13-08-2018)

Raffl

Raffl


Diolch i bawb werthodd ac a brynodd docynnau raffl Cymdeithas Cymru-Ariannin eleni;diolch i Menna George am ei threfnu, a Gareth Lewis dynnodd y buddugwyr yn y babell prynhawn Sadwrn

LLONGYFARCHIADAU i'r 5 enillydd

£200 Dafydd Wigley, Bontnewydd;

£100 Wyn Rees, Yr Amwythig;

£50 Margaret Roberts, Y Bala;

£25 Mrs Catrin Hughes, Gaerwen;

£25 Mrs C Thomas, Y Bontfaen.


Cyswllt Cantorion â Phatagonia (30-07-2018)

Cynhelir cyngerdd arbennig yng Nghastell Aberteifi ddiwedd y mis i gefnogi ysgol Gymraeg newydd - ysgol sydd dros 7,000 o filltiroedd i ffwrdd ym Mhatagonia.

Penderfynodd yr artistiaid, Rhys Meirion, Aled Wyn Davies, Alejandro Jones ac aelodau o Glwb Telyn Castell Aberteifi, roi eu gwasanaeth yn rhad ac am ddim er mwyn i'r elw gael ei gyflwyno i hyrwyddo dyfodol Ysgol y Cwm, a agorwyd ddwy flynedd yn ôl yn Nhrevelin, tre fechan wrth droed mynyddoedd uchel yr Andes.
Cynhelir y gyngerdd ar nos Wener, 31 Awst am 7.00 o’r gloch o dan nawdd Pwyllgor Gefeillio Aberteifi / Trevelin, Patagonia.
Y mae Rhys Meirion yn enw cyfarwydd iawn yn Y Wladfa fel mewn gwledydd eraill drwy'r byd. Bu'n canu ar ddwy gylchdaith yno eisoes. Ac yntau'n gyn-athro cyn dechrau ar ei yrfa fel unawdydd proffesiynol, nid rhyfedd fod ganddo ddiddordeb dwfn mewn hyrwyddo addysg Gymraeg ym Mhatagonia. Cyflwynwyd elw un cylchdaith y bu arni i helaethu ysgol Gymraeg arall yn Y Wladfa, sef Ysgol yr Hendre yn Nhrelew.
Bu ail denor y gyngerdd, Aled Wyn Davies, hefyd ar ymweliadau â Phatagonia. Ef oedd yr unawdydd gwadd gyda Chôr Godre'r Aran ar gylchdaith lwyddiannus o dair wythnos yn Y Wladfa.
Yr oedd Aled wedi hen ennill enwogrwydd iddo'i hun ar lwyfannau'r byd pan gafodd wahoddiad gan Rhys Meirion yn 2014 i ymuno ag ef ac Aled Hall fel aelod o Tri Thenor Cymru.
Er y galw cyson amdano fel unawdydd rhyngwladol, y mae Aled yn dal i ffermio yn ei gartref yn Llanbryn-mair.
Ffermio yw gwaith beunyddiol unawdydd arall y gyngerdd, Alejandro Jones,
ond yn Nhrevelin, Patagonia, y mae ei fferm ef. Y mae'n ddisgynnydd i'r anturiaethwr enwog John Daniel Evans, a oedd yn un o'r 153 o Gymry a hwyliodd ar fwrdd y Mimosa o Lerpwl yn 1865 i sefydlu gwladfa Gymreig ym Mhatagonia.
Sbaeneg yw iaith gyntaf Alejandro, ond dysgodd ganu alawon Cymraeg gyda'i dat-cu pan oedd yn blentyn ifanc. Ers iddo ddod i Gymru am y tro cyntaf yn 2005 mae wedi dysgu a gloywi'i Gymraeg.
Aelodau o Glwb Telyn Castell Aberteifi fydd offerynwyr y gyngerdd. Fe'i ffurfiwyd bedair blynedd yn ôl gan y delynores Meinir Heulyn, a gafodd y syniad o'i sefydlu ar ôl gweld y castell ar ei newydd wedd.
Y mae'r clwb telyn eisoes wedi cael llwyddiant yn yr Ŵyl Gerdd Dant a gynhaliwyd yn Llandysul y llynedd.
Pris tocynnau i'r gyngerdd yw £10; plant £5. Gellir eu harchebu o Theatr Mwldan, Aberteifi. Ffôn: 01239 621200. Neu ar-lein: mwldan.co.uk


Artistiaid


Dau denor
Alejandro






Enillwyr Gorffennaf 2018 Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin. (29-07-2018)

Dyma enillwyr Gorffennaf 2018 Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin.



Tynnwyd y gwobrau yng Ngŵyl y Glaniad ar 28 Gorffennaf 2018 yn y Bala
£100(Rhif 14)Mari ac Iwan, Caernarfon
£75 (Rhif 109) Rhian Davies, Trawsfynydd
£50 (Rhif 119) Sian Jones, Pontypridd
£25 (Rhif 301) Gwyndaf Lloyd Hughes, Llanrug




Plac i Nodi Gefeillio (23-07-2018)

Plac Aberteifi

Plac Aberteifi


Mae man wedi'i neilltuo ar wal yng nghei Y Tywysog Siarl, Aberteifi, i osod plac arbennig i nodi'r gefeillio rhwng y dre â Threvelin, tre fechan yng nghesail mynyddoedd uchel yr Andes ym Mhatagonia

Cyflwynir y plac yn rhodd gan Faer a Maeres Aberteifi, John Adams-Lewis a'i wraig Morina, ar ran Pwyllgor Gefeillio Aberteifi / Trevelin, Patagonia.
Ffurfiwyd y gefeillio rhwng y ddwy dre nôl yn 2005, ond dyma fydd y tro cyntaf i blac dwyieithog, gyda geiriau Cymraeg a Sbaeneg, i nodi'n gyhoeddus yn Aberteifi y berthynas barhaol sy'n bodoli rhyngddynt. Y mae un eisoes wedi'i ddadorchuddio yn Nhrevelin.
John Adams-Lewis, ac yntau ar ei ail dymor fel Maer Aberteifi bryd hynny, a arwyddodd y ddogfen gefeillio yn swyddogol dair blynedd ar ddeg yn ôl.
'Rwy'n cofio'n iawn', medd John, sy'n Faer am y pedwerydd tro eleni, 'y prynhawn hwnnw pan dderbyniais alwad ffôn gan Arturo Lowndes, ffrind i mi ym Mhatagonia, yn gofyn a fyddai gan Aberteifi ddiddordeb mewn gefeillio â Threvelin. Rhoddes i'r cynnig o flaen cyngor y dre a chytunwyd ar hynny yn galonnog. Cefais y fraint o arwyddo'r ddogfen yn gyfreithiol yn Nhrevelin ar 25 Tachwedd, 2005. Dwy flynedd yn ddiweddarach estynnodd cyngor y dre wahoddiad i Faer a Maeres Trevelin, Dr Carlos Mantegna a'i wraig, i ymweld ag Aberteifi, pryd cawson nhw groeso mawr yma.
'Gan wybod fod gen i ddiddordeb mewn hedfan', medd John, (mae wedi adeiladu 2 awyren ei hun ac mae'n eu hedfan yn aml) 'fe drefnodd Carlos drip i fi a Morina mewn hofrennydd yn perthyn i fyddin ei wlad, a buom yn treulio awr ddiddorol yn hedfan dros yr Andes, Cwm Hyfryd, y paith, a hyd yn oed dros y ffin yn Chile. Buodd e'n brofiad diddorol iawn.'
Ar ôl nifer o ymweliadau answyddogol â Phatagonia ar ôl y gefeillio yn 2005, mae John a Morina wedi gwneud llu o ffrindiau yn y Wladfa. Mae gan Morina berthynas yn Nhrelew - Elena Arnold, sy'n 90 oed eleni. 'Finch oedd ei chyfenw cyn priodi', medd John, 'ac mae'n hanu o deulu o Langoedmor a hwyliodd ar y Mimosa yn 1865, gyda 150 o wŷr, gwragedd a phlant, i sefydlu gwladfa Gymreig ym Mhatagonia. Ar ôl un aelod o'r teulu yr enwyd Sgwâr Finch yn Aberteifi, sy'n weddol agos i'r man lle byddwn yn dadorchuddio plac y gefeillio.'
Dadorchuddir y plac ar 31 Awst. Y noson honno cynhelir cyngerdd arbennig yn y castell gyda'r tenorion enwog Rhys Meirion ac Aled Wyn Davies, Alejandro Jones, y canwr poblogaidd o Batagonia, a grŵp o delynorion ifanc o fro Teifi yn cymryd rhan.
Bydd elw'r noson yn mynd i gynnal yr ysgol Gymraeg newydd, Ysgol y Cwm, a agorwyd yn Nhrevelin yn 2016, menter y mae Pwyllgor Gefeillio Aberteifi / Trevelin, o dan lywyddiaeth Y Parchedig Eirian Wyn Lewis, wedi bod yn ei chefnogi ers cyn agor yr ysgol.



Bore coffi yn Aberteifi er budd Ysgol y Cwm (11-03-2018)

Bore coffi Aberteifi

Bore coffi Aberteifi


Bu'n rhaid gohirio y bore coffi fwriadwyd ei gynnal ar ddydd Gwyl Ddewi oherwydd y tywydd. Fe'i cynhaliwyd ar Fawrth 8fed.

Meirion Jones, yr artist enwog o Aberteifi, a'i wraig Joanna, oedd gwesteion y Bore Coffi a gynhaliwyd yn y Tabernacl, Aberteifi, dydd Iau Mawrth 8fed, digwyddiad a drefnwyd gan Bwyllgor Gefeillio Aberteifi / Trevelin, Patagonia.
Bu Meirion ar ddau ymweliad â Phatagonia a bu'n sôn am y tebygrwydd a welodd rhyngddi â Chymru, ac am ei brofiadau wrth grwydro a chwrdd â chymeriadau diddorol yn y Wladfa.
Bydd yr elw a wnaed o'r Bore Coffi yn mynd tuag at gynnal yr ysgol Gymraeg newydd a agorwyd yn Nhrevelin ddwy flynedd yn ôl. Nid yw Ysgol y Cwm yn derbyn unrhyw gefnogaeth ariannol gan lywodraeth y wlad, ac felly mae angen parhaus arni am roddion i brynu offer a chyfarpar i'r dosbarthiadau sy'n ehangu'n sylweddol.
Breuddwyd y rhai a sefydlodd Ysgol y Cwm yw y bydd, maes o law, yn datblygu i fod yn ganolfan Gymraeg, nid yn unig i dros 200 o blant, ond yn ogystal i oedolion yr ardal honno o'r Andes.
Yn y llun gwelir, o'r chwith, y Parchg Eirian Wyn Lewis, cadeirydd Pwyllgor Gefeillio Aberteifi / Trevelin, Meirion Jones, Joanna Jones ac Isaias Grandis, brodor o Drevelin sy'n byw yn awr yn Llanddarog, Sir Gaerfyrddin.




Enillwyr Mawrth 2018 Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin. (11-03-2018)


Dyma enillwyr Mawrth 2018 Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin. Tynnwyd y rhifau buddugol ym Mhwyllgor Gwaith 10 Mawrth 2018 yn Aberystwyth



£100 Rhif 261 Kathleen M. Roberts, Y Ffôr
£75 Rhif 286 Richard Gammon, Pen-y-bont ar Ogwr
£50 Rhif 96 Twm Prys ac Alwen Jones, Llangybi, Pwllheli
£25 Rhif 346 Joan M. Thomas, Llangynnwr



Ysgoloriaethau i ddysgwyr o’r Wladfa (01-02-2018)

Ysgol Haf 2017

Ysgol Haf 2017



Mae tair ysgoloriaeth, gwerth £2,000 yr un, ar gael i ddysgwyr o Batagonia astudio’r Gymraeg yng Nghymru dros haf 2018.



Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy’n ariannu’r ysgoloriaethau, a fydd yn galluogi tri pherson o’r Wladfa i dreulio mis yn dilyn cwrs gyda Phrifysgol Caerdydd neu Brifysgol Aberystwyth, dau o ddarparwyr y Ganolfan Genedlaethol.
Mae gofyn i’r dysgwyr sy’n gwneud cais am ysgoloriaeth fod ar lefel Canolradd o leiaf a’u bod wedi gwneud ymrwymiad pendant eisoes i ddysgu’r iaith. Gweinyddir yr ysgoloriaethau gan y Cyngor Prydeinig. Mae’r ffurflen gais ar gael o wefan y Cyngor Prydeinig https://wales.britishcouncil.org/rhaglenni/addysg/prosiect-yr-iaith-gymraeg. Bydd yn rhaid ei llenwi a’i dychwelyd at iepwales@britishcouncil.org erbyn 1 Mawrth 2018.
Yn dilyn cyfnod yng Nghymru yn gwella’u sgiliau iaith, bydd disgwyl i’r dysgwyr fynd ati i ddefnyddio’r Gymraeg ar ôl dychwelyd adref, gan gyfrannu at fywyd Cymraeg y Wladfa, yn weithgareddau neu ddosbarthiadau.
Un sydd wedi elwa o ysgoloriaeth fel hon yw Noe Sanchez Jenkins sy’n gweithio fel athrawes yn Ysgol Gymraeg yr Andes, ac a dreuliodd fis ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2017.
Meddai Noe:

“Dysgais i lawer ar y cwrs haf am Gymru, ei hanes, ei barddoniaeth, ei diwylliant a’i hiaith. Ro’n i wrth fy modd yn Aberystwyth, ac roedd cyfle i ni ddefnyddio’r Gymraeg yn yr holl weithgareddau. Roedd y cwrs yn ddiddorol iawn ac fe wnes i ffrindiau â dysgwyr eraill o nifer o wledydd megis Japan, Awstria a Ffrainc.

“Y peth gorau am y cwrs oedd bod yn rhaid i ni ddefnyddio’r Gymraeg drwy’r amser! Roedd hi hefyd yn braf iawn cael bod yng Nghymru lle bu fy nghyndeidiau yn byw.”

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

“Ry’n ni’n gyffrous iawn i gynnig y tair ysgoloriaeth yma i bobl o’r Wladfa sy’n awyddus i ddod i Gymru i ddysgu ac i wella’u Cymraeg. Ry’n ni’n ymfalchïo yn y berthynas unigryw sydd rhwng Cymru a’r Ariannin, ac yn falch iawn o fedru cynnig cymorth i sicrhau bod y Gymraeg yn parhau yn rhan o fywyd cymunedau ym Mhatagonia.”
Diwedd
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Hawys Roberts, Prif Swyddog Cyfathrebu y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar 01970 621565 neu hawys.roberts@dysgucymraeg.cymru



Dysgwr y Flwyddyn 2017 - Ysgol Gymraeg y Gaiman (20-12-2017)

Dysgwr y Flwyddyn 2017 - Ysgol Gymraeg y Gaiman

Dysgwr y Flwyddyn 2017 - Ysgol Gymraeg y Gaiman


Cyflwyno Tlws Dysgwyr y Flwyddyn 2017 - rhodd y Fns Hazel Charles Evans i Ysgol Gymraeg Gaiman Ysgol Feithrin Meira Jones yn cyflwyno un i Carolina Fuentes Williams - B 2 - a Jenny Jones athrawes gyda




Un o enillwyr Llythyr at Sion Corn (16-12-2017)

Llongyfarchiadau i Mary Jane Jones Treorci, Chubut ac Ysgol Gymraeg y Gaiman - un o enillwyr cystadleuaeth Llythyr Siôn Corn ar "Prynhawn da" (S4C)

Roedd y gystadleuaeth wedi ei threfnu gan Wasg Gomer a'r wobr yw llyfr newydd Tudur Dylan 'Siôn Corn a'r anrheg gorau un'
Cafodd hefyd dedi yn gwisgo crys-t Cymru fel anrheg gan yr ysgol a chafodd ei chyflwyno yn yr acto.
Ei brawd Peter Alan Jones gafodd ei wobwyo gydag ail wobr 'Dysgwr y flwyddyn' yr Ysgol a Carolina o flwyddyn 2 enillodd y wobr gyntaf. Mae'r gwobrau yn cael eu rhoi gan Hazel Charles Evans, Llandybїe yn flynyddol.

Yn y llun gwelir Mary Jane yn gwylio Sion Corn yn darllen ei llythyr ar Prynhawn Da.

Llythyr buddugol


Mary Jane
Y Llythyr





Enillwyr Rhagfyr 2017 Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin (15-12-2017)

Dyma enillwyr Rhagfyr 2017 Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin.

Tynnwyd y rhifau buddugol ym Mhwyllgor Gwaith 23 Medi 2017 yn Aberystwyth

£100 Rhif 162. Mici Plwm, Pwllheli
£75 Rhif 49. Pedr McMullen, Sir Benfro
£50 Rhif 81. Huw a G.M. Roberts,
Llanuwchllyn
£25 Rhif 145. Anna Wyn Roberts, Y Fenni



Llongyfarchiadau i Sara Borda Green, Trevelin, ar ennill cadair Eisteddfod y Wladfa eleni (14-11-2017)

Mae Sara yn cwblhau gradd uwch yn Ysgol y Gymraeg, Caerdyd ar hyn o bryd. Hi enillodd cadair Eisteddfod Trevelin 2017 hefyd.

Ar y ffin: croeso
(All other passports)

O hen vynyddoedd Cymru,
Dros voroedd llydain pell,
I gadw‘n hiaith i vynu,
A gwneuthur cartrev gwell.
(R. J. Berwyn)


Pe bawn i’n Eluned
pe bai’r tonnau wedi siglo ‘nghrud
pe bai’r gwymon wedi'u plethu ‘ngeiriau
gyda halen y dyfnder mud,

byddai’r sêr yn f’arwain
i bob man yr af
ar garlam llongau beiddgar
i wyllt Walia - yma a thraw.

Pe bawn i’n Bryn
a chân y glaw’n gogleisio’r llech
i ddeffro boreuon Gwynedd
cyn imi fod yn ddeg,

pe bai’r nos yn drwch o wylliaid
pe bai gennyf farch coch chwim
‘i groesi’r paith a’i feithderau llwm’
i gludo ymylon deuoliaeth drwm,

byddai’r sêr yn dangos imi’r
llwybr llaethog i ddod adref,
ble bynnag y bo - yma neu draw.

Pe bawn i’n Irma
a chawn chwarae gyda’r geiriau
mor hawdd â’r gwynt yn y poplys
fel tannau ger y ffermdai,

pe cawn weu cwlwm tyn a glymai
Gwalia Wen wrth Wlad y Glaniad,

byddai’r sêr yn ffurfio croes
‘lle cyferfydd cyfandiroedd’: pont
a grwydrem weithiau
yma a thraw - a thraw ac yma.

***

Enw syml roddwyd imi
enw arall i ‘ngalw’n syth
gan yr heddwas ar y ffin
wrth gamu mewn i’r Ymerodraeth
nid oes coron ar fy mhasbort
nid oes sêr ychwaith
maent yn dawnsio mewn cylch aur
ar faner yr Undeb
ymhell oddi wrthyf, draw dros y môr
mae gwlad yr
haul ariannaidd sydd ar y clawr
ond
pan ddymunaf
gallaf groesi ar gefn geiriau
Eluned, Bryn ac Irma -
weithiau yma, tybed draw.


Sara Borda Green























Enillwyr Medi 2017 Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin. (28-09-2017)

Tynnwyd y gwobrau ym Mhwyllgor Gwaith y Gymdeithas yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ar 23 Medi 2017.

Dyma enillwyr Medi 2017 Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin. Tynnwyd y rhifau buddugol ym Mhwyllgor Gwaith y Gymdeithas ar 23 Medi 2017 yn Aberystwyth
£100 (Rhif 35) Nant Roberts, Llanrug
£75(Rhif 328) Rhiannon Mercer, Brynsiencyn
£50 (Rhif 44) Gwyn a Marina Morgan, Abertawe
£25 (Rhif 128) Ceri Mair Jones, Caerdydd




R. J. Berwyn Cymdeithas Cymru-Ariannin / Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017 (23-08-2017)

Diolch i Sara Borda Green am adael i ni gyhoeddi ei sgwrs ar R J Berwyn a draddododd yn ein Cyfarfod Blynyddol ym Modedern

Wrth i mi roi y tegell trydan ymlaen i wneud paned ar fore Gŵyl y Glaniad eleni, dechreuais fyfyrio am fore’r Glaniad. Yn benodol, roeddwn yn trio dychmygu’r amgylchiadau ar y Mimosa yn ystod yr oriau diwethaf cyn gadael y llong. Yn arbennig, ei wneud o o safbwynt bachgen oedd, ar y pryd, bron yr un oed â mi heddiw. Bachgen a elwid R. J. Berwyn yn ddiweddarach. Beth oedd ei feddwl cyntaf wrth agor ei lygaid ar yr wythfed ar hugain o Orffennaf, 1865? A oedd yn gyffrous? A oedd yn ofni? A oedd ei deimladau’n gymysgedd o'r ddau? A oedd yn difaru'r penderfyniad i ymuno â'r fenter honno? Neu a oedd yn llawn egni a gobaith?
Mae gwaith ymchwil Eirionedd Baskerville, yn ogystal â hunangofiant Fred Green ‘Pethau Patagonia’, wedi bod o gymorth i mi allu cael cipolwg ar fywyd fy hen hen daid, Richard Jones Berwyn. Ganwyd yn 1837 mewn tŷ o’r enw Brynhyfryd, rhwng Llangollen a Chorwen (t. 10), ac yn amlwg, roedd yn berson chwilfrydig, gweithgar ac anturus. Mynychodd ysgol yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog lle daeth hefyd yn ddisgybl-athro pan roedd ond yn 15 oed (t. 10). Yn ei arddegau aeth i Lundain er mwyn hyfforddi i fod yn athro (t. 10). Bu'n gweithio fel cyfrifydd a gyda’r nos fe ddysgai pobl a oedd yn awyddus i ddysgu Cymraeg; hefyd, roedd yn gyfrannwr rheolaidd i'r wasg ar bwnc ymfudiad i Batagonia mewn cyhoeddiadau fel Baner ac Amserau Cymru, ac roedd yn ohebydd i'r Herald a’r Ddraig Goch (t. 11). Heblaw hynny, roedd yn arfer trefnu cyngherddau yn Llundain (t. 11).
Aeth Berwyn i‘r Unol Daleithiau yn 1863 am resymau iechyd, ond ar ôl cyrraedd Efrog Newydd sylweddolodd nad oedd yn hapus gyda sefyllfa’r ymfudo Cymreig yno (t. 11). Am y rheswm hwnnw, dychwelodd i Gymru a bu'n gweithio fel cyfrifydd i dalu am ei daith ar y Mimosa (t. 11). Yn 1868 priododd Elizabeth Pritchard, gweddw Thomas Pennant Evans ('Twmi Dimol') a mam Arthur a Gwladys. Pan ddaeth yr amser i gael plant a dewis enw ar bob un, penderfynwyd dilyn trefn llafariaid yr wyddor - Alwen, Einion, Ithel, Owain, Urien, Wyn ac Ynver. Ac ar ôl cwblhau’r llafariaid, parhawyd gyda’r cytseiniaid: Bronwen, Ceinwen, Dilys, F[f]est, Gwenonwy ac Helen, a fu farw yn ystod ei phlentyndod (Baskerville 2014, tt. 12-13). Yn ‘Cydymaith i’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia’ mae Mrs. Baskerville yn dweud hyn amdano:

Fe’i disgrifiwyd fel un o’r gwŷr galluocaf a fu yn y Wladfa. Roedd yn ŵr amryddawn, bonheddig a chymwynasgar. Llanwodd nifer o swyddi yn y Wladfa. Bu’n Ysgrifennydd y Cyngor a’r Llys Rhaith, cofrestrydd genedigaethau, priodasau a marwolaethau, trengholydd, ceidwad y porthladd, prif weinyddwr y llythyrdy, rheolwr swyddfa’r tywydd, golygydd Y Brut (‘newyddur’ cyntaf Patagonia), a melinydd. Bu’n athro ysgol yn Rawson, ac ef oedd awdur Gwerslyvr cyntav i ddysgu darllen Cymraeg at wasanaeth ysgolion y Wladva. Berwyn oedd llyfrwerthwr cyntaf y Wladfa, ac roedd ganddo siop yn Nhrerawson yn gwerthu detholiad da o lyfrau. Yn hynafiaethydd a llenor, ysgrifennai i gylchgronau a phapurau newydd Cymreig a Seisnig ac i bapur newydd ym Muenos Aires dan y ffugenw ‘Monteblanchi’, cyfieithiad i’r Eidaleg o ‘Berwyn’. Ymddangosodd ei ysgrif, ‘Gwib i Chili’, yn Cymru O. M. Edwards yn 1905. Cyhoeddodd almanaciau yn flynyddol o 1884 hyd 1905 a chasglodd gronfa o eiriau gwladfaol, ond collwyd ei gofnodion a’i ysgrifau hanesyddol yn llifogydd 1899. (tt. 11-12)

Yn ‘Pethau Patagonia’ cyfeiria fy nhaid at y trychineb hwn fel hyn:

Gorfu i bawb ffoi i’r bryniau am loches, a difrodwyd Trerawson yn llwyr. Collodd Berwyn ei holl bapurau, ei gofrestrau manwl a’i gofnodion a’i holl waith am y pedair blynedd ar hugain y bu yn y Wladfa, ac yn ôl tystiolaeth fy mam effeithiodd hyn yn drwm arno. Ymhen amser ceisiodd ailffurfio rhestr o’r manylion megis mordaith y Mimosa a’r fintai gyntaf, y priodasau, y genedigaethau a’r marwolaethau oddi ar ei gof ond nid oedd honno ond y ganfed ran o’r hyn a gollwyd yn y gorlif mawr (2015, t. 27)

Fodd bynnag, goroesodd ei gerdd i blant am Ŵyl y Glaniad hyd heddiw:

Wi, wi, am Wyl y Glaniad,
Mae mwyniant dros y wlad.
Beth yw yr wyl a’r glaniad?
O ! d’eydwch i ni, nhad.

Dydd gwyl pen blwydd y Wladva,
O! coviwch hyn, vy mhlant,
Pan ddaeth y Cymry yma,
A’n rhiv tri hanner cant.

O b’le y daethoch yma?
O ! d’eydwch i ni, nhad;
A pham y myn’soch Wladva
Ym Mhatagonia wlad?

O hen vynyddoedd Cymru,
Dros voroedd llydain pell,
I gadw ‘n hiaith i vynu,
A gwneuthur cartrev gwell.

Wel, caru wnawn y Wladva,
Ddewisiodd mam a nhad;
A gwnawn eu cartrev yma
Yn cartref o voddhad.

A charwn iaith ein mamau,
A devion pur ein tad.
I ninau anwyd yma-
O ! dyma’n hanwyl wlad

Bu farw Richard Jones Berwyn yn wyth deg mlwydd oed yn ei gartref, Bod Arthur, ar fore Nadolig 1917. Ond ar fore’r wythfed ar hugain o Orffennaf, 1865, ac yntau’n wyth ar hugain mlwydd oed, nid oedd yn gwybod beth oedd o'i flaen: nid oedd rhestr o swyddi -na phlant- eto. Y cyfan oedd ganddo oedd ei gariad at ei famiaith, ei brofiad ym myd addysg a'i ddymuniad am fywyd gwell i’r genhedlaeth nesaf. Ond fel yn nameg y pysgod a'r pum torth, cafodd yr hyn yr oedd ar gael ei luosogi, ac fe wasanaethodd filoedd yn ddiweddarach. Hawdd yw anghofio pa mor ifanc oedd y rhai oedd ar y fintai gyntaf wrth edrych ar y lluniau sy’n dangos wynebau â barfau hir a chrychau dwfn. Anodd yw dychmygu caledi blynyddoedd cynnar y Wladfa, a'r ansicrwydd ynglŷn â'r hyn y byddai'r dyfodol yn ei ddwyn. Gwyn eu byd y rhai sy'n barod i aberthu cysur pan fo angen.
Yn hyn o beth roeddwn i'n myfyrio bythefnos yn ôl wrth i mi eistedd i weithio ar y gliniadur, gyda phaned cynnes wrth fy ochr. Roeddwn i’n meddwl hefyd am y llinell anweledig sy'n rhedeg oddi wrthyf trwy Mary, Fred a Gwenonwy, hyd at Richard- ac ymhellach yn ôl. Ac roeddwn yn tybio y buaswn yn ffrindiau da gyda Richard. Rwy’n amau -a gobeithio- hynny.

Sara Borda Green
10 Awst 2017

LLYFRYDDIAETH
● Baskerville, E. 2014. Cydymaith i’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia [Ar-lein]. Ar-gael: http://www.cymru-ariannin.com/uploads/cydymaith_ir_wladfa_gymreig_ym_mhatagonia.pdf [Gwelwyd: 8 Awst 2017]
● Green, F. 2015. Pethau Patagonia. Yn: Elias M. a Roberts E. N. gol. Pethau Patagonia. Atgofion Gwladfäwr. Gwasg Carreg Gwalch: Llanrwst



Clwb Cyfeillion Cymru-Ariannin (15-08-2017)

Dyma enillwyr Gorffennaf y Clwb dynnwyd yng Ngŵyl y Glaniad yn Aberteifi ddiwedd Gorffennaf.


1, £100. Rhif 18. Tom James, Cwm-ann.
2. £75. Rhif 120. Carys Davies, Ton-teg.
3. £50. Rhif 275. Jan Edwards, Llangefni.
4. £25. Rhif 149. Macsen Pickenpack. Aberhonddu.

Os nad eisoes yn aelod, beth am gefnogi y gwaith o hyrwyddo'r Gymraeg yn y Wladfa trwy ymuno gyda Chlwb Cyfeillion Cymru-Ariannin.

Bydd y cylch nesaf yn dechrau ym Medi felly cysylltwch rhag blaen os am ymaelodi. Daw incwm rheolaidd i’r Gymdeithas o’r Clwb sydd yn ein galluogi i gefnogi mudiadau ac achosion Cymreig yn y Wladfa ond bu lleihad yn yr aelodaeth yn ddiweddar. Os oes rhywun am ymuno gellir gwneud hynny trwy anfon £10 i’r Hyrwyddwr (Y Fns Elvira Moseley. 41 Baglan Heights, Baglan, Port Talbot, SA12 8UF) cyn 31 Awst 2017. Tynnir gwobrau bedwar gwaith y flwyddyn.



Angen strategaeth newydd i gysylltu â Chymry dramor (14-08-2017)

Rhun ap Iorwerth

Rhun ap Iorwerth


Mewn darlith ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys Môn, mae’r Aelod Cynulliad lleol wedi galw am strategaeth glir gan Lywodraeth Cymru i gysylltu â’r diaspora Cymreig. Dywedodd y gallai

Wrth draddodi araith flynyddol Undeb Cymru a’r Byd, dywedodd yr AC, sy’n cadeirio’r Grwp Trawsbleidiol yn y Cynulliad, ‘Cymru Rhyngwladol’:

“Mae Cymru wedi bod yn hael ei hallforion, a’i glo, ei llechi, ei haearn wedi gadael marc ym mhedwar ban byd, ond yr allforion y gallwn ni fanteisio arnyn nhw o hyd ydi’n pobl ni.”

Cymharodd sefyllfa Cymru gydag Iwerddon a’r Alban, sydd â strategaethau clir ar gysylltu â’i halltudion. Ers 2014 mae gan Lywodraeth Iwerddon Weinidog sydd yn gyfrifol am ddatblygu’r berthynas gyda Gwyddelod dramor. Mae Llywodraeth Yr Alban wedi cynnal dau brosiect ‘Homecoming Scotland’ i annog Albanwyr alltud i ailgysylltu a’u mamwlad.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth bod Llywodraeth Cymru yn gwneud ymdrechion mewn nifer o wahanol ffyrdd i adeiladu cysylltiadau dramor, yn cynnwys gyda Chymry alltud, ond yn ol AC Ynys Môn, mae angen strategaeth glir i glymu’r cyfan ynghyd a gosod amcanion pendant:

“Rydan ni angen ein Homecoming Scotland ein hunain, rydan ni angen ein Gweinidog Diaspora fel sydd gan Iwerddon. Rydan ni angen cymryd hyn o ddifri, i ddangos y tu hwnt i amheuaeth ein bod ni’n gweld hyn fel blaenoriaeth.”


Raffl Eisteddfod 2017 (14-08-2017)

Diolch i bawb gefnogodd ein raffl Eisteddfod eleni.
Tynnwyd y rhifau buddugol brynhawn Sadwrn. Dyma'r enillwyr.




£200 Gruff Roberts, Aberhonddu
£100 Mair Thomas, Llangefni
£50 G. Thomas, Yr Wyddgrug
£25 Dr D D R Williams, Sgeti
£25 Alun O. Davies, Caersallog (Salisbury)


Y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia: gwledd o wylio ar YouTube (08-06-2017)

Yn 2015 dathlwyd carreg filltir fawr yn hanes y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia, sef 150 mlwyddiant ei sefydlu yn 1865. I nodi hyn, cynhaliwyd cynhadledd ryngwladol ar hanes a sefyllfa gyfoes y Wladfa

Un o’r pethau nodedig am y gynhadledd hon oedd bod tua hanner y siaradwyr wedi eu geni a’u magu yn Ariannin. Dyma’r tro cyntaf i gynifer o arbenigwyr o Gymru ac Ariannin ddod ynghyd i drafod y Wladfa, a bu’n gyfle gwych i gael golwg ar y Wladfa, ddoe, heddiw ac yfory, trwy lygaid pobl o ddwy ochr Môr Iwerydd.

Bellach mae papurau’r gynhadledd – 14 ohonynt – ar gael ar sianel YouTube Prifysgol Caerdydd.

https://www.youtube.com/playlist?list=PLPxx37uA8RSKxlcgaGyBHbM3thMDz1bdu

Traddodwyd rhai yn Gymraeg a rhai yn Saesneg, ynghyd ag un yn Sbaeneg. Dyma restr ohonynt yn ôl enwau’r siaradwyr, yn nhrefn yr wyddor:

Eirionedd Baskerville: Richard Jones Berwyn: gŵr amryddawn, bonheddig a chymwynasgar

Walter Ariel Brooks: Y Drafod: prif bapur newydd Cymraeg y Wladfa, 1891–2015

David Leslie Davies: ‘Holl daith yr anialwch i gyd’: profiad y Gwladfãwyr cynharaf

E. Wyn James: Eluned Morgan a Diwygiad 1905

Bill Jones: Cymru, Patagonia ac ymfudo

Vilma Nanci Jones: Galés patagónico: estampas de una biografía casi sesquicentenaria

Nadine Laporte: Gamechangers: the women who made Y Wladfa possible

Esyllt Nest Roberts de Lewis: Cyfrolau’n siarad: dirgelion llyfrgell Coleg Camwy, Y Gaiman

Llŷr Gwyn Lewis: Darllen y map: ysgrifennu creadigol yn y Wladfa

Geraldine Lublin: ‘Wi, wi, am Ŵyl y Glaniad’: y gymuned Gymreig yn Chubut a dathliad yr 28ain o Orffennaf

Elvey MacDonald: ‘Ffarwél i ddociau Lerpwl’

David Williams: Non-Welsh immigration into the Welsh Settlement in Patagonia during the first nine years of its history (1865–74)

Fernando Williams: An agricultural oasis in Patagonia: cultural and political implications of the irrigation network built by the Welsh in the Chubut Valley

Guillermo Williams: Representations of the Welsh Settlement and its cultural heritage in Chubut’s educational and historical literature

Bydd y papurau hyn o ddiddordeb arbennig i’r sawl sy’n ymddiddori mewn materion yn ymwneud â Chymru ac Ariannin, ond byddant o ddiddordeb ehangach hefyd. Roedd sefydlu’r Wladfa yn antur arwrol ac iddi arwyddocâd rhyngwladol yn ogystal â chenedlaethol, ac mae hanes a datblygiad y Wladfa yn codi pob math o gwestiynau diddorol a pherthnasol ynghylch hunaniaeth ac ymfudo yn gyffredinol.

Trefnwyd y gynhadledd gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymry America (sy’n rhan o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd) mewn cydweithrediad â Chymdeithas Cymru-Ariannin ac Adrannau Diwylliant y 18fed a’r 19eg Ganrif ac Ethnoleg ac Astudiaethau Gwerin Cymdeithas Cyn-Fyfyrwyr Prifysgol Cymru. Derbyniwyd cymorth hael hefyd gan Brifysgolion Santander.



'Alawon Rhagfyr y Mwnt' (10-05-2017)


Cerdd fuddugol Cadair Eisteddfod Trevelin 2017, gan Sara Borda Green




Cadair Eisteddfod Trevelin 2017 (10-05-2017)

Cadair Trevelin

Cadair Trevelin


Llongyfarchiadau Sara Borda Green

Llongyfarchiadau i Sara Borda Green ar ennill Cadair Eisteddfod Trevelin ar y 30ain o Ebrill.

Mae Sara yn wreiddiol o Drevelin ond yn astudio cwrs MA ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd. Derbyniodd ei brawd, Enrique y wobr ar ei rhan.



Neges o'r Gaiman (01-03-2017)

Mirain

Mirain


Ysgol Gymraeg y Gaiman yn penodi athrawes o Gymru

Annwyl ffrindiau yn y Wladfa ac yng Nghymru,

Ysgrifennwn atoch ar ddechrau blwyddyn addysgol newydd ac ar ddechrau prosiect cyffrous i ni yn Ysgol Gymraeg y Gaiman. Diolch i’ch haelioni a’ch cefnogaeth chi - sydd wedi cytuno i gyfrannu’n ariannol at ein prosiect newydd - rydym yn falch iawn o fedru cyhoeddi ein bod wedi llwyddo i benodi athrawes o Gymru i ddod i’n hysgol ni eleni.

Daw Mirain Dafydd yn wreiddiol o ogledd Cymru ond cafodd ei magu yng Nghaerdydd. Graddiodd o Brifysgol Glasgow yn 2013 cyn treulio blwyddyn yn gynorthwy-ydd dysgu mewn ysgol gynradd Gymraeg yng Nghaerdydd. Yna cwblhaodd gwrs i fod yn athrawes Saesneg ail-iaith cyn cael swydd mewn prifysgol yn Beijing, Tsieina. Ar ôl hynny bu’n dysgu plant o oedran meithrin-uwchradd yn Hanoi, Vietnam. Fel y gwelwch felly mae ganddi gymwysterau dysgu ail-iaith eang, drwy fod wedi mynychu gweithdai a chyrsiau hyfforddi, yn ogystal â phrofiad helaeth o ddysgu ail-iaith i blant, a phrofiad o hyfforddi myfyrwyr. Bydd Mirain yn cyrraedd y Gaiman yn ystod wythnos gyntaf mis Mawrth ac fe hoffem ddymuno’n dda iddi yn ystod ei chyfnod yn y Wladfa.

Hoffem bwysleisio na fyddai ein breuddwyd i benodi athrawes o Gymru i ddod i’r ysgol eleni wedi cael ei gwireddu heb eich haelioni chi, Gyfeillion Ysgol Gymraeg y Gaiman. Bydd eich cyfraniadau misol gydol y flwyddyn yn mynd tuag at gostau gweinyddol megis fisa ac yswiriant, lletya a biliau, a thâl yr athrawes. Bydd yr athrawes yn paratoi cylchlythyr chwarterol i chi fel Cyfeillion er mwyn i chi ddod i wybod am holl weithgareddau’r ysgol gydol y flwyddyn.

Wrth gwrs, un gost fawr ar ddechrau’r prosiect yw tocyn teithio Mirain yma i’r Gaiman. Yr ydym yn hynod ddiolchgar i Aled ac Angeles Rees (Aberystwyth), ‘Teithiau Tango’, am roi tocyn teithio rhyngwladol dwy ffordd i Mirain. Fel y gwyddoch, mae ‘Teithiau Tango’ yn gefnogol iawn i brosiectau Cymraeg yn y Wladfa ac yn gweithio’n ddiwyd iawn i hyrwyddo’r Wladfa ar ddwy ochr yr Iwerydd. Mae ein diolch yn fawr iawn felly i Aled ac Angeles a’u cwmni teithio am eu cefnogaeth i’n prosiect.

Hoffem hefyd ddiolch i Brian Williams am gyfraniad hael i dalu am y tocynnau teithio mewnol. Mae yntau wedi bod yn gefnogol iawn i ni yma yn y Wladfa ers blynyddoedd.

Hoffem ddiolch hefyd i Lois Dafydd, Caerdydd am ei gwaith gweinyddol ar ran y prosiect yng Nghymru.

Wrth gwrs, os ydych yn gwybod am unrhyw un arall a hoffai ymuno â phrosiect newydd Cyfeillion Ysgol Gymraeg y Gaiman, byddem yn hynod ddiolchgar o glywed ganddynt. Cyswllt yng Nghymru: loisdafydd@live.co.uk / cyswllt yn y Wladfa: esylltnest@yahoo.co.uk

Unwaith eto, diolch yn fawr i chi am bob cefnogaeth tuag at ein hymdrechion i hyrwyddo’r Gymraeg a’r diwylliant yma yn y Wladfa. Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach, peidiwch oedi cyn cysylltu.

Yn gywir,

Ysgol Gymraeg y Gaiman a Phwyllgor Dosbarthiadau Cymraeg y Gaiman

Bydd Mirain Dafydd yn siarad ar Raglen Aled Hughes ar Radio Cymru bore yfory - 2 Mawrth


Colli Eirionedd (04-02-2017)

Eirionedd

Eirionedd


Daeth y newydd trist ar 27 Ionawr am farwolaeth Eirionedd A. Baskerville, Penygeulan, Abermagwr, Aberystwyth.

Yn gyn-aelod o staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru, bu Eirionedd yn Ysgrifennydd Cymdeithas Hanes Ceredigion ac roedd yn aelod o Bwyllgor Dathlu 2015 Cymdeithas Cymru-Ariannin. Roedd yn arbenigo ar hanes teuluoedd ac yn un o’n prif arbenigwyr ar hanes teuluoedd y Wladfa. Ar ymweliad â’r Wladfa ym 1996 darganfu fod ganddi deulu yno; er mai yn y Rhondda y magwyd Eirionedd roedd teulu ei mam (cyfenw James) yn hanu o Geredigion – yr un teulu â theulu James Nant-y-moch; aeth John Morgan James, Aberpeithnant, Ponterwyd i’r Wladfa ar y Vesta ym 1886.

Ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru gwelir Rhestr o lawysgrifau, llythyrau a thraethodau ymchwil yn ymwneud â'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia a luniwyd gan Eirionedd https://www.llgc.org.uk/cy/gwybodaeth-i/ymchwilwyr/rhestrau-darllen/patagonia/
Cyhoeddodd bennod Welsh emigrants to Patagonia. Yn The family and local history handbook 6th ed. :G R Specialist Information Services. 2002, 129-131.
Ar gyfer 2015 paratodd Cydymaith i’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia – ceir fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wefan Cymdeithas Cymru-Ariannin. Mae’r gwaith yma – yn ôl yr Athro Wyn James “ yn fwynglawdd o wybodaeth am bob agwedd ar y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia ac yn gyfeirlyfr anhepgor i bawb sy’n ymddiddori yn y bennod nodedig hon yn hanes Cymru ac Ariannin."
Yn ystod haf 2015 cyhoeddodd Patagonia 150 : yma i aros. (Y Lolfa) a ddisgrifir fel “ Golwg trwy lygad y camera ar fywyd yno ddoe a heddiw. Ceir ffotograffau o archifau a chasgliadau'r Llyfrgell Genedlaethol, ynghyd â lluniau lliw yn cymharu llefydd a digwyddiadau, diwydiannau ac adloniant wedi eu tynnu gan frodorion a Chymry sydd wedi teithio i'r Wladfa ar sawl achlysur. Cyfrol dathlu Cymreictod yno heddiw.”
Bu hefyd yn hynod weithgar yn ei chymuned – roedd yn flaenor yn Henaduriaeth Ceredigion a Gogledd Penfro a bu’n golygu papur bro y Ddolen am flynyddoedd.
Estynnwn ein cydymdeimlad â Derek, Heledd a Pryderi yn eu colled.
Ceris Gruffudd, Ysgrifennydd Cymdeithas Cymru-Ariannin

Ar wahân i'r golled bersonol y mae marwolaeth Eirionedd yn ei olygu
i Derek, Heledd a Pryderi, perthnasau eraill a chyfeillion agos iddi, rydym ninnau fel Cymdeithas a llawer o bobl eraill yn Nyffryn Camwy a Chwm Hyfryd wedi colli un a roddodd flynyddoedd o waith gwirfoddol ac ymroddedig iawn i ledaenu gwybodaeth am hanes y Wladfa. Byddwn yn gweld eisiau
ei gwybodaeth drylwyr, ei chefnogaeth barod a'i chwmni cyfeillgar.
Delyth ac Elvey MacDonald, Llanrhystud

Roedd bob amser yn ymateb yn syth i unrhyw ebost am wybodaeth am gysylltiadau teulu. Ei chyfraniad, yn wir, yn amhrisiadwy. Glory a John Roberts, Waunfawr, Caernarfon.



Dysgwr y Flwyddyn y Wladfa 2016 (07-11-2016)

Noe

Noe


Am yr ail flwyddyn yn olynol cynhaliwyd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod y Wladfa yn Ariannin.

Enillydd eleni oedd Noe Jenkins o Esquel. Dyma ran o feirniadaeth y beirniaid – Ann-Marie a Tito Lewis.
“ Merch ifanc, 23 oed, ydy Noe sydd o dras Cymreig ac yn falch iawn o hynny. Fe fu iddi greu argraff arnom gyda'i brwdfrydedd tuag at y Gymraeg. Mae ganddi syniadau clir am rol y Gymraeg yn ei bywyd - wrth ei bodd yn cynorthwyo gyda phlant bach yn Ysgol Gymraeg yr Andes, tra hefyd yn astudio'r cwrs Pellach ei hunan. Hoffai un diwrnod i gael y cyfle i ddod i Gymru gan fanteisio ar bopeth yno, ac yn sicr byddwn ninnau wrth ein boddau yn ei chroesawu. Roedd safon ei Chymraeg yn hyfryd ac roedd yn sgwrsio'n rhugl ac yn ddigon rhwydd yn yr iaith. “
Roedd Aaron Jenkins o Aberpennar aeth ar y Mimosa i’r Wladfa ym 1865 yn hen hen daid i Noe. Dymuniadau gorau iddi!



Cyngerdd Dathlu'r Nadolig (31-10-2016)


Dethlir y gefeillio rhwng Aberteifi a thref fechan yng nghanol ysblander mynyddoedd uchel Yr Andes ym Mhatagonia mewn cyngerdd arbennig yng Nghapel Mair, Aberteifi, ar nos Sul, 11 Rhagfyr.



Mae'n addas mai disgyblion o ysgolion cynradd ac uwchradd y dre fydd yn cymryd rhan yn y gyngerdd, ynghyd â Chôr Crymych a'r Cylch o dan arweiniad Angharad Jones, oherwydd bydd elw'r noson yn mynd tuag at gynnal ysgol Gymraeg newydd a agorwyd yn Nhrevelin, Patagonia, yn gynharach eleni.

Trefnir cyngerdd 'Dathlu'r Nadolig' gan Bwyllgor Gefeillio Aberteifi / Trevelin. Bydd y noson yn dechrau am 7.00. £5 fydd y tâl i oedolion wrth y drws, tra bydd mynediad am ddim i blant. Bydd tocynnau ar werth yn ogystal yn siop Awen Teifi, ynghyd â swyddfeydd D M B Davies a Delwyn Griffiths yn Aberteifi.

Yn Ysgol y Cwm, Trevelin, mae'r plant yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg a Sbaeneg. Roedd hi'n fenter uchelgeisiol i agor trydedd ysgol Gymraeg yn Y Wladfa ac mae gwir angen arni am gymorth ariannol er mwyn cwblhau'r gwaith adeiladu ac i brynu cyfarpar ar gyfer y plant. Adeg dechrau'r fenter bu'n rhaid i'r gymuned Gymraeg yn Nhrevelin werthu plotiau o dir a fu'n eiddo i'r ymfudwyr cynnar ganrif a hanner yn ôl. Breuddwyd y rhai a'i sefydlodd yw y bydd yr ysgol ymhen amser yn sicrhau parhad i'r iaith yn Yr Andes.

Y mae'r pwyllgor gefeillio eisoes wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau yn lleol er mwyn cefnogi'r ysgol. Yn ddiweddar cyflwynwyd rhodd o £1,000 i hyrwyddo'r gwaith o'i chynnal.











O Ddolawen i Ddolavon (06-10-2016)

Elenya

Elenya




Mae Elenya Havard Griffiths, o Ddeganwy, sy’n ddisgybl 17eg oed yn Ysgol y Creuddyn, Bae Penrhyn, ger Llandudno, yn un o’r rhai a ddewiswyd i fynd ar daith yr Urdd i Batagonia yr Hydref yma.


Roedd William Hughes yn ymwneud â chystadleuthau yn yr eisteddfodau tua diwedd y 19eg a dechrau’r 20fed ganrif, a daeth yn fardd coronog a chadeiriol cyn cael ei ddyrchafu yn Archdderwydd. Bydd Elenya yn cyflwyno tlws o lechen a wnaethpwyd yng ngweithdy Inigo Jones, y Groeslon, sef ‘Tlws Coffa Glan Caeron, W. H. Hughes, Llandwrog Uchaf ”, gyda baneri Cymru a’r Wladfa arno
Cyn ymadael â Chymru tua 1880 roedd Glan Caeron yn gweithio yn swyddfa’r chwarel o dan adain y bardd Alafon, a phwy a ŵyr nad yma y creuwyd ei ddiddordeb mewn barddoni. Mab i Hugh Hughes, Tanyfron ydoedd a brawd i David Hughes, Dolawen, a fu’n adnabyddus ym maes llên ac fel daearegwr llwyddiannus. Ef oedd hen daid nain Elenya. Ffarweliodd Glan Caeron â’i deulu a Siop Bwlch y Llyn, Cesarea ar y 4ydd o Fai 1881 a chyrraedd Buenos Aires ar y 1af o Fehefin. Glaniodd ym Mhort Roca, 48 milltir o’r Wladfa. Bu’r daith i Rawson yn flinedig ac ysig iddo. Cyflogodd fel gwas fferm am bedair blynedd ac yna bu’n athro yn dysgu’r Cymry bach am dair blynedd. Gwasanaethodd wedyn Gwmni Rheilffordd ym Mhorth Madryn a thra’n gweithio yno cyfarfu ag Annie Brunt, merch â’i gwreiddiau yn Llanidloes. Bu iddynt gartrefu yn Nolavon a chenhedlu naw o blant. Gorlifodd yr Afon Camwy sawl gwaith a’r teulu yn colli eu cartref dan y llifogydd. Rhaid oedd iddo droi at ffermio unwaith eto a daeth llwyddiant i’w safon byw. Derbyniodd gynnig o Swyddfa Addysg Buenos Aires i fynd i ddysgu plant yr Indiaid yn Foto Cahuel ac yno y derbyniodd y newydd am farwolaeth ei frawd David yn Cesarea. Yn ei eiriau ei hun, wrth sgwennu adref dywedodd “Sbaeneg yw iaith swyddogol yr ysgol a fy mara a chaws ond y Gymraeg yw fy nghariadiaith”.
Enillodd 5 o gadeiriau yn eisteddfodau’r Wladfa a hiraetha am adref yn un o’i gerddi pan glyw cloch Eglwys Llanllyfni oedd wedi’i chludo i’r Wladfa:

‘Hynafol gloch Llanllyfni,
Oes hiraeth arnat ti
Am Arfon hardd fynyddig,
Am Gymru gysegredig?
Mae hiraeth arnaf fi.’

Bu farw Glan Caeron ar Fawrth 26, 1926, yn y Wladfa a’i frawd, David, ar Chwefror 5ed, yn Cesarea. Mae ei fedd ym mynwent Carmel.

Mae sawl aelod o deulu Glan Caeron yn dal i siarad Cymraeg ynghyd â tho ifanc, sef y bumed genhedlaeth. Bydd Elenya yn cystadlu yn yr Eisteddfod a chyfarfod â llawer o’i theulu sydd â’u gwreiddiau yn Cesarea. Mae’n edrych ymlaen yn fawr at drosglwyddo’r Tlws Coffa.





Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin. (25-09-2016)

Dyma'r enillwyr diweddaraf.

Dyma enillwyr Medi 2016 Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin. Tynnwyd y rhifau buddugol cyn dechrau Pwyllgor Gwaith mis Medi.
353 Eirlys Lewis, Rhydaman £100
41 Hazel Charles Evans, Llandybïe £75
109 Rhian Davies, Trawsfynydd £50
351 Beryl Vaughan, Llanerfyl £25



Oes gennych chi ddiddordeb mynd i Batagonia i rannu eich dawn gerddorol? (13-08-2016)


Mae Cymdeithas Cymru-Ariannin yn awyddus i glywed gan arbenigwyr Canu Gwerin a Cherdd Dant ar gyfer cyfres o weithdai hyfforddiant yn y ddwy ddisgyblaeth yn y dyfodol agos.



Y syniad craidd yw i’r arbenigwr/wraig gynnal un gweithdy ym mhob un o’r prif leoliadau - Trelew, Gaiman, Esquel a Threvelin - dros gyfnod o ryw dair wythnos i fis.
Bydd mynychwyr y gweithdai yn gyfuniad o athrawon cerdd, oedolion a myfyrwyr cerddoriaeth.
Gwahoddir unigolion sydd â diddordeb i anfon llythyr neu e-bost yn amlinellu eu syniadau, eu profiad a’u cymwysterau at Ysgrifennydd y Gymdeithas:
Ceris Gruffudd, Rhos Helyg, 23 Maesyrefail Penrhyn-coch. ABERYSTWYTH Ceredigion SY23 3HE
01970 828017 Ceris.Gruffudd@gmail.com
cyn Medi 1af.





Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llysgenhadaeth yr Ariannin (11-08-2016)

Llysgennad

Llysgennad


Mewn seremoni ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau dydd Mawrth 2 Awst cyflwynodd Llysgennad yr Ariannin rodd gwerthfawr o lyfrau’n ymwneud â Phatagonia i’w hychwanegu at y cas

Meddai’r Llysgennad, R. Carlos Sersale di Cerisano: “Mae perthynas Cymru â’r Ariannin yn un mor eithriadol o bwysig i’r ddwy wlad, ac y mae tystiolaeth o hynny i’w weld yn amlwg ar Faes yr Eisteddfod heddiw. Mae’r ewyllys da sy’n bodoli rhwng y ddwy wlad yn rhywbeth i’w drysori ac y mae medru rhoi rhodd fel hyn i’r Llyfrgell Genedlaethol yn gydnabyddiaeth o’r berthynas unigryw sy’n bodoli rhyngom”.

Wrth gyflwyno copi cain o lun Kyffin Williams o’r ‘Machlud dros Ddyffryn Camwy’ i’r Llysgennad er mwyn nodi’r achlysur hwn dywedodd Rhodri Glyn-Thomas, Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol:
“Mawr yw ein dyled i lysgenhadaeth yr Ariannin am eu haelioni a’u hewyllys da tuag at y Llyfrgell a phobl Cymru. Mae heddiw’n rhannol yn ddathliad pellach o ddycnwch y Cymry a’r Gymraeg i oroesi yn wyneb helbulon a chaledi o bob math. Diolch i bobl yr Ariannin am y croeso twymgalon y mae’r Cymry sy’n teithio i Batagonia wedi’i brofi dros nifer o genedlaethau, ac am eu hewyllys da tuag at y Gymraeg”.

Cyfarfod y Llysgennad


Dafydd ac Elinor Wigley a Sandra De Pol yn cyfarfod y Llysgennad
Cyfarfod cyflwyno anrhegion yn y Lle Hanes





Myfyriwr Pensaernïaeth o’r Canolbarth yn ennill Ysgoloriaeth Genedlaethol (09-08-2016)

Efa Lois Thomas

Efa Lois Thomas



Mae myfyriwr pensaernïaeth o’r Canolbarth wedi ennill ysgoloriaeth am ei dyluniad uchelgeisiol ar gyfer canolfan i goffau'r ymfudwyr o Gymru hwyliodd i Batagonia.


Enillodd Efa Lois Thomas o Aberystwyth y blaen ar wyth ymgeisydd arall gan gipio Ysgoloriaeth Bensaernïaeth £1,500 yr Eisteddfod Genedlaethol, a gefnogir gan Gomisiwn Dylunio Cymru.



Amcan yr ysgoloriaeth, sy’n agored i'r sawl dan 25 oed o Gymru neu â chysylltiad â Chymru, yw rhoi cyfle i’r ymgeisydd mwyaf addawol i ledaenu ei ddealltwriaeth o bensaernïaeth greadigol.



Enillodd yr ysgoloriaeth gyda’i chynnig am Ganolfan Ddiwylliannol Gymreig mewn adeilad newydd yn Maryland Street, Lerpwl. Roedd ei chynllun ar gyfer ffasâd yr adeilad yn ymgorffori patrymau a ysbrydolwyd gan batrymau carthenni traddodiadol, gan gynnwys rhai a chludwyd gan y Cymry hwyliodd i Batagonia o Lerpwl yn 1865.



Meddai Efa Lois Thomas: “Roedd derbyn galwad ffôn yn rhoi gwybod i mi fy mod wedi ennill yr ysgoloriaeth yn dipyn o sioc – doeddwn i ddim yn disgwyl hynny.



“Rwy’n angerddol ynglŷn â hanes a chwedlau Cymru, a byddaf yn aml yn dylunio pethau sy’n tarddu o’m profiadau personol o fod yn Gymraes.



“Bydd yr ysgoloriaeth yn fy nghaniatáu i ehangu fy ngwybodaeth o bensaernïaeth ac i ddilyn y lefel nesaf o hyfforddiant a chyflawni gradd Meistr mewn Pensaernïaeth.”



Mae’r fyfyrwraig 21 oed newydd gwblhau BA yn Ysgol Bensaernïaeth Lerpwl ym Mhrifysgol Lerpwl. Bydd hi’n gweithio ar leoliad gyda chwmni penseiri Austin-Smith:Lord cyn dychwelyd i’r brifysgol.



Pan fydd hi wedi ennill cymwysterau llawn mae Efa yn gobeithio defnyddio ei sgiliau yng Nghymru gyda’i golygon ar ryddhau potensial adfer adeiladau segur.



Meddai un o’r detholwyr, Trevor Skempton: “Mae Efa Lois Thomas yn ifanc ac yn dal yn fyfyriwr gradd. Aeth i’r afael â mater cyndyn ac weithiau lletchwith yr alltudiaeth Gymreig yn Lerpwl, gyda’i chynnig.



“Eglurder pensaernïol syml ei gweledigaeth o ganolfan ddiwylliant, gyda symbolaeth berthnasol yn hytrach na dawn neu soffistigeiddrwydd technegol, ynghyd â syniad ar gyfer arddangosfa fechan o gadeiriau seremonïol, wedi’u gosod yng nghornel sgwâr o gyfnod Sioraidd, perswadiodd ni i ddyfarnu’r ysgoloriaeth eleni iddi hi.”



Ychwanegodd Carole-Anne Davies, Prif Weithredwr Comisiwn Dylunio Cymru: “Mae meithrin talent yn flaenoriaeth i’r Comisiwn ac unwaith eto rydyn ni wrth ein bodd gweld Efa Lois Thomas yn ennill yr Ysgoloriaeth Bensaernïaeth.



“Yn ôl yr arfer, cyflwynwyd ystod gystadleuol o gynigion ar gyfer yr ysgoloriaeth ac rydym yn falch o allu chwarae rhan fach mewn datblygu potensial y ferch ifanc ddawnus hon. Dyma fawr obeithio gweld Efa yn chwarae ei rhan mewn cryfhau dyfodol dylunio yng Nghymru.


Enillwyr raffl yr Eisteddfod (07-08-2016)

Tynnwyd raffl flynyddol y Gymdeithas brynhawn Sadwrn yn yr Eisteddfod

Dyma enillwyr y raffl

£200 Sarah East,Treforus.
£100 E. Jones, Dwyran,
£50 Derek Baskerville, Abermagwr.
£25 Nans Rowlands, Trawsfynydd.
£25 Einir Williams, Aberffraw.


Ennill Cystadleuaeth y Wladfa (07-08-2016)

Enillydd cystadleuaeth ar gyfer rhai o'r Wladfa

Llongyfarchiadau i Sion (Juan Carlos) Davies, y Gaiman, am ddod yn 1af yn y gystadleuaeth ar gyfer rhai o'r Wladfa yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni. Y beirniad oedd Walter Brooks.


Pabell Cymdeithas Cymru-Ariannin 304-5 Eisteddfod Genedlaethol 2016 (28-07-2016)

Dyma nifer o bethau sydd ymlaen yn ein pabell, ar y maes a'r teledu yn ystod yw wythnos nesaf


Digwyddiadau dyddiol
Dydd Llun 2-3.00:Llŷr Gwyn Lewis yn sôn am weithdy ysgrifennu creadigol gynhaliodd tra yn y Wladfa
Dydd Mercher: 12.00 20 mlynedd o'r Cynllun Dysgu Cymraeg dan ofal Rhisiart Arwel (bydd Alun Davies, y Gweinidog Addysg, yn bresennol)
14.00 Mari Emlyn, Cyfarwyddwr Artistig Galeri yn rhoi cefndir prosiect “Perthyn”(Bu’r artist a’r gwehydd tecstiliau Cefyn Burgess ar breswyliad ym Mhatagonia ddwywaith o fewn y flwyddyn ddiwethaf - diolch i grant Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Bydd agoriad arddangosfa’r gwaith unigryw hwn yn Safle Celf Galeri, Caernarfon am 2 o’r gloch, brynhawn Sul y 14eg o Awst.) Bydd yr arddangosfa yn Safle Celf Galeri tan y 23ain o Fedi. Yn dilyn yr arddangosfa bydd Cefyn mewn partneriaeth gyd Parc Pendine yn cynnal gweithdai yn Ysgol yr Hendre Caernarfon ac yng nghartref nyrsio Bryn Seiont er mwyn clymu’r gwaith a wnaed yn Ysgol yr Hendre Trelew gyda ysgol yng Nghaernarfon.
Dydd Iau: Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas o 2.00-3.30 ym Mhabell y Cymdeithasau 2 gyda dathliad i ddilyn yn y Babell
Dydd Gwener: 2-3.00 sesiwn wedi'i hanelu at bobl ifanc wedi'i rhannu'n ddwy 1. Steffan Phillips, Aberteifi a Chaerdydd yn sôn am ei gyfnod yn gwirfoddoli 2. Eurgain, Nia a Tomos o griw Urdd 2015 yn rhannu eu profiadau
Dydd Sadwrn: 2-3.00 Cân neu ddwy gyda Brigyn a thynnu'r raffl
Hefyd ar y Maes
Maes D Dydd Mercher 1.00 Lois Dafydd yn cyflwyno sesiwn o holi Brigyn am y CD 'Dulog' (a chân fach); 'dewch â'ch cwestiynau'
Pabell Prifysgol Caerdydd
Dydd Iau 15.00-18.00 Dangosiad y ffilm ‘Patagonia’, gyda thrafodaeth yn dilyn ynglŷn â’r themâu amrywiol o’r ffilm. Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, a bydd lluniaeth ysgafn.
Y Panel fydd Dr Mirain Rhys, Cydymaith Ymchwil Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) yn cadeirio; Rhiannon Marks – Darlithydd, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd; Dr Rhian Hodges – Darlithydd, Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Bangor; Yr Athro Pwyll ap Siôn – Athro mewn Cerddoriaeth, Ysgol Cerddoriaeth, Prifysgol Bangor; Mr Steffan Phillips - Cynhyrchydd Annibynnol, Caerdydd Ar ôl gwylio’r ffilm, mae pob aelod o’r panel yn cael 5 munud i gyflwyno eu barn - sy’n treiddio o gynnwys y ffilm a’u profiadau yn y maes, ac yna mae cyfnod o 30 munud ar gael i gael trafodaeth gyda’r gynulleidfa. Mae’n gyfle gwych i drafod pynciau cyfoes yn y byd ymchwil, a chael barn unigolion o bob math o gefndiroedd.
Mae digwyddiadau ‘sciScreen’ eisoes wedi bod yn hynod o lwyddiannus ar nifer o wahanol bynciau dros y misoedd diwethaf, a nhw fydd y cyntaf i gymryd y profiad i ddigwyddiad tu allan i’r Brifysgol, felly mae’n amser cyffrous iawn. Am fwy o wybodaeth gweler :
Dydd Gwener 14:00-15:00 Yr Athro E. Wyn James: 'John Owen y Fenni ac Eluned Morgan o'r Wladfa' Golwg ar John Owen (1867-1960), un o gynheiliad bywyd Cymraeg Gwent, a'i berthynas ag Eluned Morgan, y llenor o'r Wladfa.
Undeb Cymru a’r Byd safle 301-3
Nos Sul 31 Gorffennaf Caiff Y Bnr Walter Ariel Brooks arweinydd eleni ei gyflwyno yn y Gymanfa Ganu.
Dydd Iau 4 Awst 10.30 Cyfarfod Blynyddol yr Undeb ym Mhabell yr Undeb.
11.30- 1.30 Y ddarlith flynyddol: Dr Sian Rhiannon Williams ‘Cofiwch ni at y cyfeillion: mudo o’r Gymraeg yn yr hen Sir Fynwy‘ yn cael ei ddilyn gan dderbyniad ym Mhabell y Cymdeithasau 2.

Ar y teledu
Nos Lun 9.30 Rhaglen deledu Cadair Dic nôl i'r Gaiman ar S4C

Clwb Cyfeillion Cymru-Ariannin
Caiff y Clwb ei gynnal er hyrwyddo gwaith Cymdeithas Cymru-Ariannin i roi cymorth i fudiadau ac achosion Cymraeg ym Mhatagonia. Ni fu cynnydd yn yr arian swyddogol gawn ar gyfer y Cynllun Dysgu yn y blynyddoedd diwethaf ac ni fyddai modd i’r Gymdeithas gynnal ei chefnogaeth ar yr un raddfa heb gymorth amrhisiadwy yr arian a gesglir trwy’r Clwb Cyfeillion.
Penderfynwyd newid dyddiad ail gychwyn y Clwb a bydd y flwyddyn eleni yn cychwyn ar y 1af o Fedi 2016. Mae'r tâl ymuno a'r Cyfeillion yn dal i fod yn £10 y flwyddyn a thynnir gwobrau bedair gwaith y flwyddyn - Medi, Rhagfyr, Chwefror a Gŵyl y Glaniad. Gellir gwneud sieciau yn daladwy i 'CYMDEITHAS CYMRU-ARIANNIN i'w hanfon i’r Ysgrifennydd neu'r Hyrwyddwr - Elvira Moseley, 41 Baglan Heights, Baglan, Port Talbot, SA12 3UF cyn 31ain Awst 2016.



.











Enillwyr Mai 2016 Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin. (14-05-2016)

Dyma enillwyr Mai 2016 Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin. Tynnwyd y rhifau buddugol ym Mhwyllgor Gwaith Mai 14 2016 yn Aberystwyth




£60 Rhif 83 159 Gwilym Roberts, Caerdydd

£50 Rhif 212 Carol Moseley, Baglan

£40 Rhif 250 Gwenda Wynne, Betws y Coed


£30 Rhif 101 Geraint Rowlands, Dolgellau


£25 Rhif 211 Elvira Moseley, Baglan


£20 Rhif 245 Heulwen Griffith, Porthaethwy


£10 Rhif 365 Edith Jones, Dinbych



'Trysorau' Cymru (12-05-2016)


Cyhoeddwyd yn ddiweddar bod y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, er mwyn dathlu treftadaeth unigryw Cymru, wedi lansio ymgyrch arloesol sy’n amlygu pum ‘trysor’ Cymreig o bob cwr o’r byd. Er


Drwy brosiectau sy’n dathlu’r iaith Gymraeg, canu gwerin traddodiadol, chwedlau Celtaidd hynafol (a mwy diweddar), a threftadaeth Gymreig, mae’r pum grŵp hyn - o Batagonia, Llundain, Ohio, Pontypridd a Wrecsam - yn gweithio i hyrwyddo hunaniaeth falch ac arbennig Cymru.

Drwy ymuno â’n cymuned fyd-eang o ddyngarwyr, fe allwch gefnogi’r pum trysor hyn i wneud hyd yn oed mwy o effaith.

Os, gyda’n gilydd, cyrhaeddwn ein targed o £5,000, dyfarnir wedyn grant prosiect o £2,000 i bob un grŵp i’w helpu i barhau â’u gwaith rhagorol.

Ac os rhagorwn ar ein targed o £5,000, rhoddir yr holl roddion eraill yn syth i’n Cronfa i Gymru (ac fe gânt arian cyfatebol bunt am bunt drwy’n Her Arian Cyfatebol Fawr), gan ddatblygu ffynhonnell gynaliadwy o gyllid ar gyfer elusennau a grwpiau cymunedol Cymreig bychain.

Felly, ble bynnag yn y byd yr ydych, ymunwch â’n cymuned fyd-eang o ddyngarwyr cyn yr 31ain o Fai, 2016 drwy roddi i Gylch Rhoi Byd-eang cyntaf Cymru yma. https://campaign.justgiving.com/charity/communityfoundationinwales/globalgivingcircle?dm_t=0,0,0,0,0


Map http://www.fundforwales.org.uk/eng/online

Mae modd gweld mwy am y Cynllun ar y ddolen isod a gellir cyfrannu trwy Just Giving

mwy


Enillwyr Chwefror 2016 Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin. (27-02-2016)


Tynnwyd y gwobrau ym Mhwyllgor Gwaith y Gymdeithas ar 27 Chwefror 2016 yn Aberystwyth


Dyma enillwyr Medi 2015 Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin. Tynnwyd y rhifau buddugol ym Mhwyllgor Gwaith y Gymdeithas ar 27 Chwefror 2016 yn Aberystwyth

£60 Rhif 32 Sian Jones, Eglwyswrw
£50 Rhif 103 Nans Rowlands, Trawsfynydd
£40 Rhif 272 Iorwerth a Blodwen Davies, Pen-y-bont ar Ogwr
£30 Rhif 68 Mary Price, Machynlleth
£25 Rhif 298 Madge Hughes, Pwllheli
£20 Rhif 388 Iona Webster, Conwy
£10 Rhif 354 Sian Rees, Llanybydder



Dadorchuddio plac yn Aberdâr (04-12-2015)

Cynhaliwyd digwyddiad llwyddiannus yng nghapel Siloa Aberdâr fore Sadwrn 28 Tachwedd.

Daeth tyrfa deilwng ynghyd ar fore tymhestlog iawn. Rhoddodd David Leslie Davies, trefnydd cynllun y plac eleni a'r apêl i'w gyllido, groeso i bawb ac yna ychydig sylwadau am gefndir yr ymfudwyr a ymadawodd â'r ardal ym 1865. Wedyn canodd Côr Cytgord yn hyfryd iawn hen emyn ymadawol a ganwyd yno ym 1875 cyn i fintai o Gwmaman fynd i'r Wladfa ac ymsefydlu gyda'i gilydd ac yng nghwmni eu cyn-weinidog (John Caerenig Evans) gan ffurfio cnewyllyn poblogaeth Y Gaiman.

Yna siaradodd Elvira ac Elvey am eu hynafiaid a ymadawodd â'r cylch i
hwylio ar y 'Mimosa' a chyflwynodd disgyblion Ysgol Gyfun Rhydywaun eu heitemau yn gampus: adroddiad y gerdd 'Yr Afon' gan Mary Green a dwy gân oddi wrth unawdydd ifanc a llais hyfryd, ganddi, Megan Jones, Cwmdâr. Nesaf, cafwyd gair gan Elfed Bowen (is-lywydd) ar ran Cymdeithas Hanes Cwm Cynon a Susan Jenkins (golygydd) ar ran pwyllgor y papur bro Clochdar cyn i D.L. Davies ddiolch yn ffurfiol wrth bawb a gwahodd Elvey ac Elvira ymlaen i ddadorchuddio'r plac fel uchafbwynt y bore.

I derfynu, canwyd 'Hen Wlad fy Nhadau' yn rymus, mewn pedwar llais
cyfoethog, gan y dyrfa gyda Marcus Williams (pennaeth Cerdd yn
Rhydywaun) yn arddangos mawredd organ-bib y capel. Wedyn aeth pawb am
de a danteithion i'r festri. Bu llawer yn ddigon caredig i ddweud y
bu'r achlysur yn bleser a mwynhad mawr.

D.L. Davies

Dadorchuddo plac


Plac y Wladfa
Elvey ac Elvira wrth y plac





Gwobrau disgyblion mwyaf addawol y Wladfa (29-11-2015)

Mae’n fwriad gan Hazel Charles Evans roi tlws a swm o $50 dolar i’r disgybl mwyaf addawol o ran siarad Cymraeg sy’n mynychu dosbarthiadau Cymraeg, gan ddechrau eleni. Bydd yn gwneud hyn dros y

Gwelir yn y lluniau Hazel Charles Evans yn cyflwyno’r gwobrau i’r disgyblion buddugol ac un disgybl o bob sefydliad sydd wedi gwneud ymdrech arbennig. Cytunwyd am eleni gyflwyno gwobr Ysgol y Cwm Trevelin i grwp yr arddegau. Bwriedir y flwyddyn nesaf gyflwyno system wobrwyo am siarad Cymraeg yn Ysgol y Cwm.

Ysgol yr Hendre, Trelew - Bianca Parise yn fuddugol a Valentina Montenegro am yr ymdrech orau.

Ysgol Gymraeg Gaiman - Carolina Martinez Evans yn fuddugol a Mary Janne Jones am yr ymdrech orau.

Ysgol 24 Luis Fontana, Esquel - Gonzalo Cardenas yn fuddugol a Zara Martinez am yr ymdrech orau.

Dosbarth yr arddegau yn Nhrevelin - Maent yn dangos brwdfrydedd cyson mewn gweithgareddau Cymraeg o bob math yn cynnwys dawnsio gwerin ac eisteddfodau.


Braint o’r mwyaf yw cael danfon y canlyniadau. Rydym i gyd yma yn y Wladfa yn gwerthfawrogi y cyfraniad cyson y mae Hazel Charles Evans yn gwneud ers blynyddoedd i sicrhau dyfodol y Gymraeg yma. Diolch yn fawr iawn.


Eluned Jones,
Swyddog Datblygu’r Gymraeg,
Cynllun yr Iaith Gymraeg ym Mhatagonia.

Enillwyr


Ysgol yr Hendre, Trelew
Ysgol 24 Luis Fontana, Esquel
Dosbarth yr arddegau yn Nhrevelin
Ysgol Gymraeg y Gaiman





Brigyn yn rhyddhau CD - Dulog (26-11-2015)

Brigyn

Brigyn


Blwyddyn yn unig ers rhyddhau yr albwm lwyddiannus 'Brigyn 4', bydd y ddau frawd Ynyr ac Eurig Roberts yn cyhoeddi CD newydd sbon arall ar y 5ed o Ragfyr eleni, o'r enw 'Dulog'.


Pam 'Dulog'?

Mae'r albwm wedi ei henwi ar ôl y creadur bach sydd i'w weld yn troedio'r tiroedd ym Mhatagonia. Mae Patagonia yn thema amlwg yn yr albym - gyda chyfeiriadau uniongyrchol at hanes ddiddorol y Wladfa mewn caneuon fel 'Malacara', 'Ana', 'Dôl y Plu', a 'Pentre sydyn'.

Bydd y CD yn cyflawni blwyddyn arbennig o ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu Y Wladfa Gymreig.

Ceir ymddangosiad arbennig iawn ar yr albwm gan ddau frawd arall, Alejandro a Leonardo Jones, o Drevelin yn yr Andes. Bu Alejandro a Leonardo yn rhan o "Her Cylchdaith Cymru" gyda Rhys Meirion a nifer eraill dros yr haf. Rhwng y teithio, mi fuon nhw yn y stiwdio gyda Brigyn; gyda'r ddau set o frodyr yn cyd-ganu yn y Gymraeg, a'r Sbaeneg!


Wedi ei blethu drwy'r albym, mae sŵn y Bandoneon sy'n cael ei chwarae'n gelfydd gan Nicolas Avila o Batagonia, a ddaeth draw i Gymru yn unswydd yn ystod mis Gorffennaf eleni i deithio led-led y wlad fel rhan o'r grŵp Brigyn.


Yn ogystal, mae'r ddeuawd 'Ffenest' gyda Casi Wyn – sydd wedi dod yn enw cyfarwydd iawn yn y byd cerddoriaeth gyfoes. Mae ei chaneuon yn aml i'w clywed ar BBC Radio Cymru ac ar BBC Radio 1 yn ddiwedar.


Chwaraewyd un gân newydd o'r CD am y tro cyntaf nos Fercher, 18 Tachwedd ar raglen Lisa Gwilym, C2 BBC Radio Cymru. Mi fydd mwy yn cael ei chwarae ar raglen Idris Morris Jones, Sesiwn Fach, bnawn Sul 29 Tachwedd.

Gyda'r CD yn y siopau cyn y Nadolig – gallwch ddisgwyl clywed mwy o ganeuon newydd 'Dulog' ar donfeddi'r radio ac ar y teledu dros y misoedd nesaf. Mae y CD - fel CD's eraill Brigyn ar y label Gwynfryn

Er gwybodaeth:

18+25 Tachwedd ~ Cân newydd yn cael ei chlywed am y tro cyntaf ar C2 BBC Radio Cymru

29 Tachwedd ~ Mwy o ganeuon o'r CD i'w clywed ar Sesiwn Fach, BBC Radio Cymru

27 Tachwedd ~ Gyg yng Nghlwb Rygbi Pen-y-Bont ar Ogwr

5 Rhagfyr ~ CD wedi cyrraedd y siopau

12 Rhagfyr ~ Y Stiwdio Gefn, S4C

14 Rhagfyr ~ Heno, S4C

20 Rhagfyr ~ Gig yng Nghapel Salem, Treganna, Caerdydd

+ Taith i'w gyhoeddi yn y flwyddyn newydd...


Cysylltu:

e-bost: info@brigyn.com

rhifau ffôn: 07712280758 / 07855648036

Brigyn - Dulog


Malacara
Dulog



mwy


Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC i ymweld â De America (09-10-2015)

Bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn cynnal ei thaith fwyaf uchelgeisiol drwy dreulio tair wythnos yn Ne America yn ystod yr hydref

Cyfnod preswyl o wythnos i ddathlu Patagonia 150, gan roi'r cyfle i gymunedau lleol wneud cerddoriaeth ochr yn ochr â cherddorion proffesiynol y Gerddorfa, a diweddu gyda dau gyngerdd gala wedi eu perfformio mewn warws gwlân wedi ei drosi'n arbennig.

Yn ystod yr hydref eleni, bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn cychwyn ar un o'i theithiau mwyaf uchelgeisiol hyd yn hyn, gan hedfan a theithio ar y ffordd i Dde America. Dros gyfnod o dair wythnos, bydd y Gerddorfa'n perfformio mewn neuaddau cyngerdd yn yr Ariannin, Chile ac Uruguay. Ochr yn ochr â hyn, bydd BBC NOW yn gweithio gyda chymunedau ledled Patagonia, yn ystod cyfnod preswyl o wythnos i nodi 150 mlynedd ers sefydlu'r Wladfa yno. Daw'r cyfnod preswyl ym Mhatagonia i ben â dau berfformiad gala mewn hen warws gwlân sy'n cael ei drawsnewid i fod yn neuadd gyngerdd yn arbennig ar gyfer cyngherddau BBC NOW, ac a fydd yn ddiweddarach yn cynnal Eisteddfod flynyddol y dref. Mae'r gerddorfa wedi bod yn rhan fawr o'r gwaith o adfywio'r warws, a'r nod yw gadael etifeddiaeth barhaol ar gyfer cerddoriaeth a'r celfyddydau yn y rhanbarth fel ei fod yn gweithredu fel catalydd ar gyfer newid.

Rhwng 22 a 30 Hydref, bydd y delynores Catrin Finch, yr arweinydd Grant Llewellyn a deuddeg aelod o BBC NOW yn teithio 12,000km i dreulio wythnos mewn trefi yn nhalaith Chubut yn yr Ariannin i weithio gyda thros 1000 o blant o ysgolion a grwpiau cymunedol ym Mhatagonia. Drwy berfformio a chynnig gweithdai a dosbarthiadau meistr, bydd y cerddorion yn gweithio gydag ysgolion a chymunedau mewn trefi fel Porth Madryn, Rawson, Trelew, Trevelin, Esquel a Gaiman. Mynediad cyfyngedig sydd gan lawer o'r trefi mewn ardaloedd anghysbell at weithgarwch diwylliannol proffesiynol, ac mae'r cyfnod preswyl o wythnos yn cynnig cyfle unwaith mewn oes i weithio gyda cherddorion clasurol / cerddorfaol proffesiynol. Bydd BBC NOW hefyd yn darparu "cerddorion ar alwad" a fydd wrth law i berfformio yn ystafelloedd byw a cheginau pobl na fydd yn gallu mynd i'r digwyddiadau cyhoeddus.

Bydd Catrin Finch yn cychwyn pethau yn Nhrevelin ac Esquel, lle bydd hi'n dysgu plant lleol sut i chwarae'r delyn, a hyd yn oed yn chwarae ar drenau La Trochita, rheilffordd gul Patagonia. Yn Rawson, bydd y cerddorion yn cael cwmni'r hwylusydd ysgolion arbennig Andy Pidcock, sy'n gweithio'n rheolaidd gyda BBC NOW ar ei gwaith arloesol yn y maes hwn, gan ddarparu gweithdai pwrpasol i ddisgyblion ysgolion arbennig. Ysgol yr Hendre yn Nhrelew oedd yr ysgol Gymraeg gyntaf ym Mhatagonia; yno, bydd Rheolwr Corws BBC NOW, Osian Rowlands, yn aduno â'i gyn-athrawes gerdd Catrin Heledd Morris, a ymfudodd i Batagonia bron i ddau ddegawd yn ôl ac sy'n dysgu yn yr ysgol hon erbyn hyn. Bydd yr Arweinydd Grant Llewellyn yn cynorthwyo ac yn hyfforddi arweinyddion Cerddorfa Ieuenctid INTA yn Nhrelew ochr yn ochr ag ymarferion cerddorion BBC NOW.

Hwn fydd y tro cyntaf i'r Gerddorfa fynd â'i gwaith dysgu ar daith ryngwladol. Nod y cyfnod preswyl o wythnos yw cynnig cyfle unwaith mewn oes i gymunedau'r Wladfa, cefnogi datblygiad cerddoriaeth a phartneriaethau yn Chubut a gadael etifeddiaeth barhaus. Bydd y gerddorfa lawn yn hedfan yno ar ddiwedd yr wythnos gyntaf i berfformio dau gyngerdd gala ar 30 Hydref yn Nhrelew - diweddglo'r wythnos ym Mhatagonia yn y warws gwlân wedi ei drosi.

Dywedodd Suzanne Hay, Pennaeth Dysgu a Phartneriaethau Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, "Nod y cyfnod preswyl hwn o wythnos o gerddoriaeth ym Mhatagonia yw cynnig cyfle unwaith mewn oes i gymunedau yn y Wladfa. Rydym eisiau gadael etifeddiaeth barhaol yng nghymunedau'r dalaith drwy greu cerddoriaeth, meithrin partneriaethau a rhoi cymorth arbenigol i helpu ffyniant y dreftadaeth gerddorol Gymreig gyfoethog sy'n dal i fodoli yn yr ardal hon. Rydym yn mynd ag elfennau gorau'r hyn rydym yn ei wneud yng Nghymru filoedd o filltiroedd ar draws yr Iwerydd, i'w rhannu â'r cymunedau hyn - ac rydym yn rhagweld y bydd yn brofiad yr un mor arwyddocaol i'n cerddorion ag y bydd i bobl Patagonia."

Bydd BBC NOW hefyd yn perfformio yn rhai o neuaddau cyngerdd gorau De America. Yn yr Ariannin, cynhelir dau gyngerdd yn Buenos Aires yn y Teatro Colon (2 a 4 Tachwedd), cyngerdd yn y Teatro El Círculo yn Rosario (5 Tachwedd) a'r Teatro del Libertador General San Martín yn Cordoba (6 Tachwedd). Yna, fe fydd y Gerddorfa'n teithio i CorpArtes yn Santiago, Chile (8 Tachwedd) a Teatro Solis ym Montevideo, Uruguay (11 Tachwedd). Mae'r daith nodedig hon yn cael ei rheoli gan Intermusica.

Ni fyddai'r daith yn bosibl heb gefnogaeth hael y Cyngor Prydeinig, Llywodraeth Cymru, BBC Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.

| #TaithNOW15 | #Patagonia150
mwy


Aelodau’r Urdd yn Teithio i Ochr Arall y Byd (06-10-2015)

criw i gyd

criw i gyd



Diwedd mis Hydref, bydd 25 o aelodau hŷn yr Urdd yn teithio i ochr arall y byd ar daith fythgofiadwy i Batagonia. Hon fydd yr ail daith i’r Urdd drefnu i Batagonia eleni, sy’n cyd-fynd gyda da


Mi fyddant yn treulio 10 niwrnod ym Mhatagonia (21 Hydref – 3 Tachwedd) ac yn gwneud gwaith gwirfoddol megis helpu yn yr ysgol feithrin Gymraeg, gweithgareddau adeiladu tîm ac ymweld gyda’r henoed sy’n siarad Cymraeg yno.
Cafodd y 25 eu dewis allan o dros 100 o geisiadau, gyda’r rhesymau am wneud cais yn amrywio – un wedi ei chyfareddu gyda straeon ei hathrawes ddosbarth am y Wladfa; un arall gyda theulu yno nad yw erioed wedi eu cyfarfod ac amryw yn dymuno mynd allan i gael blas o’r diwylliant a chynnig cymorth ac ysbrydoliaeth i’r bobl ifanc allan yno siarad Cymraeg.
Mae pawb wedi llwyddo i godi £2,400 yr un i fynd ar y daith. Roedd y gweithgareddau codi arian yn amrywio o gynnal cyngerdd a bore coffi yn yr ysgol i gael eu noddi i wneud sky-dive.
Un o’r bobl ifanc sydd yn teithio i Batagonia yw Sophie Georgina Allen o Ysgol Gyfun Gwynllyw. Meddai Sophie, “Dwi wastad yn ceisio gwthio fy hun a chreu profiadau newydd ym mhob agwedd o fy mywyd. Rydw i eisiau bod yn athrawes yn y dyfodol felly bydd y cyfle i weld cymdeithas a phlant Cymraeg dramor yn brofiad bythgofiadwy.”
Un arall yw Lowri Jones Williams o Ysgol Brynhyfryd. Dywedodd, “Mae’r daith yma yn gyfle ‘unwaith mewn bywyd’. Credaf fod dysgu am ddiwylliannau eraill o gwmpas y byd yn bwysig ond hefyd mae’n dangos i bobl sydd ym mhen draw’r byd am ein bywydau ni yng Nghymru.”
Bydd tri aelod o staff yr Urdd yn teithio gyda’r bobl ifanc o Gymru, gan gyfarfod swyddogion Menter Iaith Patagonia yno fydd yn eu tywys am y 10 niwrnod. Yn ôl Mared Jones, Swyddog Ieuenctid Caerffili sydd yn arwain y daith, “Mae gennym griw gwych eleni – mor frwdfrydig a hwyliog. Rydym wedi cynnal dau benwythnos iddynt ddechrau dod i adnabod ei gilydd ac mae pawb yn dod ymlaen yn wych. Bydd yn brofiad bythgofiadwy i’r bobl ifanc ac i ninnau hefyd.”
Ychwanegodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd, “Eleni, bydd 41 o bobl ifanc wedi cael cyfle i deithio i’r Wladfa gyda’r Urdd – aeth rhai ym mis Awst, ar daith gyda chynhyrchiad y Mimosa a nawr rydym yn cynnig y daith hon ar y cyd gyda Mentrau Iaith Cymru. Yn ystod y flwyddyn mae dros 500 o aelodau wedi cael cyfle i deithio i wledydd megis Ffrainc, yr Eidal a Chatalonia gyda’r Urdd. Profiadau fydd yn aros yn eu cof am byth.”



Newyddion o Drelew (29-09-2015)

Cefyn yn Ysgol yr  Hendre

Cefyn yn Ysgol yr Hendre


Mae Cefyn Burgess yn Nhrelew ar hyn o bryd yn gweithio ar brosiect 'Perthyn'.

Prosiect yw sy'n nodi Canmlwyddiant a Hanner y Cymry ym Mhatagonia a sut maent yn perthyn i'r tir, i'r iaith, i'r hinsawdd, i'r bobl frodorol, i'w hanes ac ati.

Dechreuodd y prosiect drwy geisio atgyfnerthu'r cysylltiadau rhwng Galeri, Caernarfon, a thref Trelew, gan gofio bod y ddwy dref wedi eu gefeillio eleni. Mae Cefyn wedi datblygu ar y syniadau gwreiddiol a bellach mae gan 'Perthyn' dair cangen.

Creu carthen i nodi'r Canlwyddiant a Hanner

Creu prosiect gyda disgyblion Ysgol yr Hendre Trelew a gobeithio Ysgol yr Hendre Caernarfon

Creu gwaith ynghylch capeli'r Wladfa.

Bydd y gwaith a wnaiff yn ymwneud â'r capeli a'r prosiect gydag Ysgol yr Hendre yn bwydo i waith y garthen fydd yn nodi'r Canmlwyddiant a Hanner.

Mae eisoes wedi bod yng nghwmni llawer o bobl a gweithdai gwehyddu ac wedi ymweld â nifer o gapeli ac wedi dechrau ar ei brosiect gydag Ysgol yr Hendre. Edrychir ymlaen at ei groesawu'n ôl ym mis Ebrill, pan fydd yn parhau â'i waith.
mwy


Enillwyr Medi 2015 Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin. (27-09-2015)

Tynnwyd y gwobrau ym Mhwyllgor Gwaith y Gymdeithas ar 26 Medi 2015 yn Aberystwyth 26 Medi 2015 yn Aberystwyth

Dyma enillwyr Medi 2015 Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin. Tynnwyd y rhifau buddugol ym Mhwyllgor Gwaith y Gymdeithas ar 26 Medi 2015 yn Aberystwyth

£60 Rhif 375 Rhydwen E Williams, Saron, Llandysul

£50 Rhif 101 Geraint Rowlands, Llanelltyd

£40 Rhif 327 Gwenda Parry Lloyd, Corwen

£30 Rhif 88 Robin Glyn Jones, Llanuwchllyn

£25 Rhif 6 Y Parchg Howell Mudd, Rhydaman

£20 Rhif 224 Arwyn Jones, Blaen-plwyf, Aberystwyth

£10 Rhif 85 Gwenda Edwards, Bow Street



HIRAETH AM GYMRU (22-09-2015)

Hiraeth am Gymru

Hiraeth am Gymru


Cyhoeddi CD ddwyieithog

Bu’r Canon Aled Williams Llanllwni, Kees Huysmans LLanbed, Caryl Glyn Morris Aberaeron, Huw Davies Llangeitho , Lyndsay Cameron Tregaron, wythawd “Ffrindiau” â Neli Jones yn cyfeilio, yn brysur yn paratoi cryno ddisg ddwy ieithog o emynau dan y teitl HIRAETH AM GYMRU , dan arweiniad Gerald Morgan, Tregaron yn ddiweddar.
Cewch wrando ar hen ffefrynnau fel “Iesu, Iesu, Rwyt Ti’n Digon” ar Llwynbedw, Calon Lân, Mawlgan a Phantyfedwen er enghraifft, yn ogystal â phedwar emyn newydd o waith Gerald Morgan er cof am bedwar unigolyn : Dewi Sant, Henry Richard, Yr Arglwydd Geraint o Bonterwyd a Gerwyn Morgan, Trebannau, Cellan, yn cael eu canu gan y gwahanol unawdwyr, gyda deuawdau gan Aled Williams a Kees Huysmans a chanu pedwar llais gan “Ffrindiau.”
Dyma anrheg wreiddiol ar gyfer y Nadolig i bawb sy’n mwynhau canu emynau, neu i berthnasau a ffrindiau dros y ffin neu dramor sydd am ddwyn i gof atgofion o’u gorffennol.
Cenir un emyn yn dair ieithog – yn Gymraeg a Saesneg gan Huw Davies, Llangeitho ac yn Sbaeneg gan Caryl Glyn Morris. Bu Mary Green, Trevelin, wrthi’n trosi un o emynau Gerald Morgan ar gyfer y ddisg.
Bydd hanner elw’r gwerthiant yn mynd tuag at sicrhau parhâd addysg Gymraeg yn y Wladfa. Helpwch ni i’w helpu.
Cost: £5.99. Ar gael o Medical Hall a’r Swyddfa Bost yn Nhregaron neu drwy’r post oddi wrth:
Gerald Morgan, Hafod Wen, Pwllswyddog, Tregaron, Ceredigion, SY25 6JG.
Cost yn cynnwys cludiant: £ 7.50 - Sieciau yn daladwy i Gerald Morgan



Darganfod teulu yn Aberystwyth (14-08-2015)

Grisel Roberts gyda Huw Roberts

Grisel Roberts gyda Huw Roberts


Cynt y cyferfydd...

Mewn derbyniad yng Nghnanolfan y Celfyddydau ddydd Llun 3 Awst cafodd Grisel Roberts ei chroesawu i Gwrs Haf Cymraeg Canolfan Cymraeg I Oedolion Prifysgol Aberystwyth. Ei chais hi a ddaeth i’r brig a pheri iddi ennill yr ysgoloriaeth a oedd yn cael ei chynnig i ddysgwyr Cymraeg disglair o Batagonia am y tro cyntaf gan Brifysgol Aberystwyth.
Huw Roberts o Aberystwyth oedd y gitarydd ifanc dawnus a oedd yn rhoi datganiad cerddorol yn yr achlysur. Wrth ddweud gair wrth y gynulleidfa crybwyllodd Siôn Meredith, Cyfarwyddwr y Ganolfan Cymraeg i Oedolion, bod Grisel a Huw yn rhannu’r un cyfenw, a dweud dan chwerrthin efallai eu bod yn perthyn – fod ganddo ryw berthnasau a aeth allan yno.
Mentrwyd gofyn i Grisel wedyn a oedd yn gwybod pwy oedd ei hynafiaid o Gymru a aeth allan i Batagonia, ac yn wir wedi tipyn o sgwrs darganfu Huw fod Grisel yn wir yn perthyn iddo. Roedd dau hen hen daid iddynt yn frodyr. Aeth Benjamin Pugh Roberts allan i Batagonia tua 1886 gyda nifer o frodyr a chwiorydd iddo. Yr un a arhosodd ar ôl i ffermio fferm Gelligrafog yn ardal Rhydymain Dolgellau oedd Robert Pugh Roberts. Maes o law daeth Benjamin yn ffermwr llewyrchus yn ffermio Hafn Blodau yn ardal Esquel yn y Wladfa.
Mae Huw a Grisel yn orcheifnaint felly, hynny yw yn bedwerydd cefnder a chyfnither. Mae yn fyd bach on’d ydy!



Ysgoloriaeth Cwrs Haf Cymraeg i ddysgwyr o Batagonia 2015 (12-08-2015)

Grisel gyda'r Grwp

Grisel gyda'r Grwp


Athrawes Saesneg o’r Ariannin, sydd â gwreiddiau yng Nghymru ar ochr ei thad, yw enillydd yr ysgoloriaeth gyntaf i ddysgwyr Cymraeg o Batagonia i fynychu’r Cwrs Haf Cymraeg a gynhelir ym Mhrifys

Mae Grisel Roberts, sy’n byw yn Esquel, gefeilldref i Aberystwyth, wedi dysgu Cymraeg ar gyrsiau ym Mhatagonia ers 1998, gydag athrawon o Gymru. Mae hi hefyd wedi helpu dysgwyr eraill ym Mhatagonia. ‘Dw i'n meddwl ei bod hi’n bwysig iawn ein bod ni'n dysgu ein hiaith leiafrifol, a chymryd gofal o’n treftadaeth ddiwylliannol,’ meddai Grisel . ‘Mae'r Gymraeg yn rhan o’n diwylliant ni.’

Wrth ddod i Brifysgol Aberystwyth am fis, ei huchelgais yw siarad Cymraeg yn rhugl a chywir, er mwyn siarad gyda phobl eraill a dysgu Cymraeg i bobl eraill hefyd. ‘Dw i'n dwlu ar ieithoedd, gramadeg a ieithyddiaeth,’ meddai Grisel.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn noddi’r ysgoloriaeth newydd hon i ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia eleni, ac yn arbennig i ddathlu’r cysylltiad rhwng Aberystwyth ag Esquel yn nhalaith Chubut ym Mhatagonia.

Yn 2014, roedd 268 o oedolion yn dysgu Cymraeg ym Mhatagonia.

Mae tua 80 o ddysgwyr o Gymru a thu hwnt yn mynychu’r Cwrs Haf bob blwyddyn. Mae’r cwrs yn cynnig cyfle i ddysgwyr ar bob lefel, o ddechreuwyr i ddysgwyr profiadol, i wella eu sgiliau Cymraeg, a chymryd rhan mewn pob math o weithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn y llun uwchben yr erthygl gwelir Parry a Hazel Charles Evans, Llandybïe (Athrawes Gymraeg gyntaf Grisel yn Esquel), Marian Gray, Swyddog Rhyngwladol; Grisel Roberts; Yr Athro Stephen Tooth, Cymdeithas Pobl mewn Partneriaeth Aberystwyth- Esquel ; Lucy Taylor, Darlithydd Astudiaethau Lladin Americanaidd; Mercedes Mills Cymdeithas Pobl mewn Partneriaeth Aberystwyth- Esquel a Sion Meredith, Cyfarwyddwr Canolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru Prifysgol Aberystwyth.

Grisel


Grisel





Enillwyr Cystadleuaeth y Wladfa yn yr Eisteddfod Genedlaethol (12-08-2015)



Llongyfarchiadau i'r canlynol am ennill Cystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac yn dal i fyw yn Ariannin. Y testun eleni oedd Y Wladfa ddoe, heddiw ac yfory a'r beirniad oedd Shirley Williams, Caerdydd. Cyfyngwyd y gystadleuaeth i rai oedd wedi dysgu y Gymraeg fel ail iaith. Rhoddwyd £200 - Gwobr Goffa Shan Emlyn gan ei merched Elin Edwards a Mari Emlyn.
Dyfarniad:
1 £100 Sara Borda Green, Trevelin
Cydradd 2il £50 yr un i Ana Chiabrando, Trelew a
Sion Davies, Y Gaiman
Gwelir y gwaith ddaeth yn gyntaf yng nghyfrol y Cyfansoddiadau


The Patagonian Rifleman- Carlos Dante Ferrari (Tr. David Morgan) (11-08-2015)

Mae fersiwn Saesneg o 'El Riflero de Ffos Halen' ar gael ar Kindle yn unig ar y funud, ond mae 'na fersiwn Gymraeg gan Gareth Miles ar gael dan teitl 'Y Gaucho o'r Ffos Halen'. (Carreg Gwalch, 2

Mae'r nofel hon yn dilyn trychinebau a buddugoliaethau o un aelod o deulu gwladychwr ym Mhatagonia, o daith dros yr Iwerydd yn y Mimosa hyd at fforiad ardal yr Andes a'r llifogydd sydd wedi dinistrio eu cartefi a'u ffermydd, ac yn dogfennu ymdrech yr arloeswyr i gadw eu hiaith a'u hunaniaeth diwylliannol. Mae'r cymeriad canolog yn dysgu llwybro a hela gan y llwyth Tehuelche ac yn tystio eu erledigaeth nhw, mae'n cwrdd a'r fforiwr enwog Perito Francisco Moreno a hefyd a Butch Cassidy a'r Sundance Kid. Mae'n cael 'dwymyn yr aur' ac yn cymyd rhan efo Catrawd yr Reifflau'r Ariannin yn fforio ardal yr Andes o gwmpas Trevelin, ac yn cystadlu yn yr Eisteddfod. Ond mae'r llyfr hwn yn dipyn mwy na nofel gweithredoedd ac anturiaethau; mae ganddo fo ddimensiwn seicolegol hefyd sydd yn ymwneud a'i berthynas efo'i deulu a'r cymuned clos a mae o'n perthyn iddo fo. Mae hynna yn rhoi fframwaith cryf sy'n clymu elfennau amrywiol yr hanes. Trwy 'The Patagonian Rifleman', mae Carlos Dante Ferrari yn dangos ei serch wrth ei gymuned, gan sylfaenu ei hun ar sgyrsiau efo aelodau hyn, fel arfer Cymraeg eu hiaith, ac ar y ffynonellau hanesyddol, i'r hyn mae o'n cadw'n driw. Mae o'n ail-fywio heb sentimentaliaeth natur dyrys y cefngwlad a'r tlodi llwyr a oedd yr arloeswyr yn gorfod goresgyn ar gyfer goroesi.

YR AWDUR: Carlos Dante Ferrari

Ganwyd yr awdur yn Bryn Gwyn, Gaiman, Ariannin (1951). Gwobrwywyd am ei gerddoriaeth yn Sbaeneg yn Eisteddfod Chubut (Medal Aur yn 1967 a 1971 a Choron Arian yn 1987 a 1991). Mae rhai o'i gerddi wedi cael eu cynnwys ym mlodeugerddi 'Desde Chubut' (1994) a 'Poesia Fin de Siglo' (1997). Roedd 'El Riflero de Ffos Halen' yn un o bum nofel 'bwysig' gwobr 'La Nacion' yn 2001. Cyfieithwyd i'r Gymraeg gan Gareth Miles fel 'Y Gaucho o'r Ffos Halen' (Gwasg Carreg Gwalch, 2004) a datganwyd Nofel y Mis gan Gyngor Llyfrau Cymru ym mis Gorffennaf, 2004. Mae o newydd gyhoeddu ar Kindle 'Visiones en la Torre' ('Gweledigaethau yn y Twr'), 'Regiones de la Desmemoria' ( 'Rhanbarthau'r Anghof') a 'Ritual de Siesta' ('Ritual Siesta') (2015).

Y Cyfieithydd: David Morgan.

Mae'r cyfieithydd yn byw yn Nefyn, Gwynedd, ond yn 2006 treuliodd rhyw wyth mis yn yr Ariannin, yn enwedig ym Mhatagonia, a dyna lle darllenodd 'El Riflero de Ffos Halen' y tro cyntaf, ac adnabu'r awdur. Roedd yn athro Sbaeneg am flynyddoedd lawer ac mae ef wedi byw yn Sbaen, Colombia, Ciwba ac Ecwador. Mae ei waith cyfieithu yn cynnwys 'Through Spanish Eyes: Five accounts of a missionary experience in Sixteenth Century China', (with Gregory James), HKUST, 2004, a chydweithred efo Tong Man ar gyfieithiad o'r Tseineg o gyfres o lyfrau cerddoriaeth Wei Ya 'Wet Moon' (Fire Fly Co. Ltd, 2004). Mae ail gydweithred efo Tong Man wedi dilyn i erthygl (i'w chyhoeddi) ar gydgyfieithiad Hawkes-Minford o nofel glasurol Cao Xueqin 'The Story of the Stone' .('Hong Lou Meng').

mwy


Enillwyr Raffl y Gymdeithas 2015 (10-08-2015)

Bu Gwenan Gibbard yn canu ei thelyn a chanu i ddiddanu cynulleidfa cyn tynnu y tocynnau raffl buddugol.

Diolch i bawb a werthodd ac a brynodd docynnau raffl Cymdeithas Cymru-Ariannin eleni. Mae arian y raffl yn gymorth i dalu am ein pabell flynyddol yn yr Eisteddfod. Tynnwyd y rhifau buddugol brynhawn Sadwrn ola’r Ŵyl yn dilyn clywed cân neu ddwy gan Gwenan Gibbard.


Dyma’r enillwyr:
£200 Catrin a W Evans, Llanfairfechan
£100 Nans Rowlands, Trawsfynydd
£50 G. Thomas, Yr Wyddgrug
£25 Dr D D R Williams, Sgeti
£25 Gareth Roberts, Y Bala










Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau 2015 Awst 1af - 8fed (28-07-2015)

Cofiwch alw yn ein pabell - uned 313-314 fydd ar agor o leiaf rhwng 10 a 5 30 Sadwrn a Llun i Sadwrn

Dyma ddigwyddiadau fydd ymlaen yn y Babell

Sadwrn 2.00 Mimosa - detholiad o ganeuon y sioe gan griw yr Urdd/Theatr Clwyd - perfformiad yn Theatr y Maes am 3.30

Llun 11.00 Cyfle i gyfarfod yr awdur Eirionedd Baskerville Yma i aros

2.00 Mimosa - detholiad o ganeuon y sioe perfformiad yn Theatr y Maes am 3.30

Mawrth 2.00 Rhisiart Arwel

Mercher 2.00 Karen Owen a Mererid Hopwood y trafod eu cyfrol Glaniad

3.00 Arfon Gwilym a Sioned Webb '
.
Iau Yn dilyn y cyfarfod blynyddol PARTI dathlu 150

Gwener 11.00 Cyfle i gyfarfod yr awdur Cathrin Williams Y Wladfa yn dy boced

1.45 Côr Merched Edeyrnion

Sadwrn 3.30 Gwenan Gibbard y rhoi cân eu ddwy a thynnu y Raffl.

Hefyd ar y Maes

3 Dydd Llun 12.30 Bydd y ffilm Galesa - Roger Williams yn cael ei dangos yn Theatr S4C

3 Dydd Llun 2.30 Eirionedd Baskerville yn rhoi sgwrs am ei chyfrol Yma o hyd (Y Lolfa) Pabell LLGC

3 Dydd Llun 3.00 Caneuon gwerin Patagonia. Traddodir Darlith Goffa Amy Parry-Williams gan Dr Rhiannon Ifans ar 'Ganeuon Gwerin Patagonia' ym Mhabell y Cymdeithasau 1.

4 Dydd Mawrth 11.00-11.45 Elvey MacDonald Y Wladfa 1865-2015: dathlu beth? dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Y Babell Lên

5 Dydd Mercher 13.30-14.15 Argraffiadau o ddathliadau 150 yn y Wladfa - fideos dan ofal Sandra De Pol Maes D

5 Dydd Mercher 4.00 O Gymru i’r Wladfa: Awr gartrefol o gerddoriaeth o Gymru a’r Ariannin yng nghwmni Rhisiart Arwel a Gwenan Gibbard.
Seiniau’r gitâr a’r delyn yn uno i ddathlu 150 o flynyddoedd ers sefydlu’r Wladfa Gymreig. Y Lle Celf

6 Dydd Iau Amser i'w gadarnhau Profiadau Patagonia Dr Llŷr Gwyn Lewis yn cadeirio sesiwn yn holi myfyrwyr Ysgol Gymraeg Prifysgol Caerdydd am eu profiadau diweddar yn y Wladfa Stondin Prifysgol Caerdydd

6 Dydd Iau 10.30 a 4.00 Elvira Moseley yn coginio yn Y Pantri (mewn cydweithrediad â Cyngor Sir Powys)

6 Dydd Iau 12.30: O Bontiets i Batagonia: Hunaniaeth a Pherfformiad Dwy Genedl Dr Rhiannon Williams Cwt Drama

6 Dydd Iau 13.00-14.00 Irma Ariannin Dr Rhiannon Marks yn siarad am fywyd Irma Ariannin (Irma Hughes de Jones) Stondin Prifysgol Caerdydd

6 Dydd Iau 2.00-3.30 Cyfarfod Blynyddol Cymdeithas Cymru-Ariannin ym Mhabell y Cymdeithasau 1 Sgwrs gan Eirionedd Baskerville Y Mimosa a'r fintai Gyntaf

6 Dydd Iau 2.15 Lucy Taylor Y Cyfarfyddiad ym Mhatagonia: Cymry a’r Brodorion, 1865-1885. Pabell Prifysgol Aberystwyth.

7 Dydd Gwener 3.00 (Noder yr amser) Aduniad i bawb sydd wedi bod ar deithiau'r Urdd i Batagonia dros y blynyddoedd ers 2008 ym mhabell yr Urdd

8 Dydd Sadwrn 1.30, Mewn Cymeriad Mordaith y Mimosa, gyda Martin Thomas. Theatr y Maes


(27-07-2015)






CD newydd Gwenan Gibbard (27-07-2015)

Y Gorwel Porffor

Y Gorwel Porffor


Y Gorwel Porffor’, Gwenan Gibbard

Caneuon a cherdd dant am Y Wladfa, am Gymru ac am fywyd.


Label: Sain (SAIN SCD 2737)

Dyddiad rhyddhau: Dydd Llun, Awst 3ydd

(Ar gael ym mhabell Cymdeithas Cymru-Ariannin a Sain yn yr Eisteddfod ac yn eich siop Gymraeg leol. Hefyd ar gael i lawrlwytho)

Casgliad newydd o 6 o ganeuon:



1. Patagonia

2. Ddoi di draw?

3. Mesur Dyn

4. Gwawr (gyda Mei Gwynedd)

5. Cenedl

6. Lisa Fach (gyda Alejandro Jones)



Wedi taith fythgofiadwy draw i’r Wladfa yn ystod mis Chwefror a Mawrth eleni, ’roedd Gwenan yn awyddus i ganu am ei phrofiadau. Bu’n perfformio yno, dan nawdd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, yng Ngŵyl Patagonia Celtica yn Nhrevelin, yr Andes, a chafodd gyfle hefyd i berfformio mewn cyngherddau yn Nhrelew, Gaiman ac Esquel.

Mae’r caneuon yn ein cludo ar fordaith arloesol y Mimosa i draeth Porth Madryn ac yna’n ôl i Gymru. Ceir yma gasgliad amrywiol yn adlewyrchu profiadau personol a threfniannau a gosodiadau newydd gan Gwenan o rai o’n barddoniaeth mwyaf eiconig. Mae’r gân agoriadol yn drefniant o ddetholiad o ‘Patagonia’, yr awdl a enillodd i R Bryn Williams Gadair Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1964. Ynddi, cawn ein hatgoffa o fenter, siom, dewrder a dyfalbarhâd rhyfeddol y gwladfawyr cyntaf. Yna ceir ‘Ddoi di draw?’- cân sy’n adleisio cerddoriaeth gynhedid yr Ariannin. Cawn hefyd drefniant newydd o’r gân werin ‘Lisa Fach’, cân a wnaethpwyd yn enwog yn yr Ariannin gan y canwr Rene Griffiths, ac yma yng Nghymru gan Ar Log. Yn y trefniant hwn mae’r canwr a’r gitarydd o’r Wladfa, Alejandro Jones, yn ymuno gyda Gwenan mewn fersiwn hwyliog a recordiwyd yn ystod ymweliad diweddar Alejandro a’i frawd Leonardo â Chymru. Bu Gwenan ac Alejandro yn canu deuawd draw yn y Wladfa nôl ym mis Mawrth ac achubodd y ddau ar y cyfle i ganu gyda’i gilydd unwaith eto.

Hefyd yn y casgliad ceir fersiwn cerdd dant, (recordiad byw), o ran o gerdd anfarwol Gerallt Lloyd Owen, ‘Cenedl’ – trac a recordiwyd yng nghyngerdd agoriadol gŵyl Womex 2013, yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd. Mae ‘Gwawr’ yn ffrwyth dosbarth meistr cerdd dant yn Tŷ Gwerin , Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr llynedd, lle bu’r cerddor roc Mei Gwynedd yn mentro ar yr hen grefft am y tro cyntaf, tra bod ‘Mesur Dyn’, geiriau John Gwilym Jones, yn pendroni ar werthoedd bywyd.

Yn dilyn llwyddiant yr albwm ‘Cerdd Dannau’, dyma gasgliad blaengar arall gan Gwenan, yn rhoi cipolwg ar amrywiaeth ei gweithgareddau cerddorol dros y flwyddyn ddiwethaf.




mwy


Cyfarchion dathlu (27-07-2015)

Cyfarchion gan Gymdeithas Cymru-Ariannin i Gymdeithasau, Ysgolion ac unigolion yn y Wladfa ac Ariannin.

Annwyl Gyfeillion,

Hoffwn estyn ein dymuniadau gwresocaf atoch chi yn enw Cymdeithas Cymru-Ariannin wrth inni ddathlu Canmlwyddiant a Hanner Gŵyl y Glaniad.

Achylsur unigryw am sawl rheswm rydych ni'n ei ddathlu heddiw. Mae'n garreg filltir yn hanes dwy wlad ond hefyd, mae'n esiampl o gyfeillgarwch a dycnwch y Cymry. Dyma arloeswyr a adawodd eu gwlad, eu teuluoedd a'u ffrindiau er mwyn ymgartrefu mewn ardal ddiarth a phell. Gweithion nhw'n galed i droi anialwch yn ffermydd ffrwythlon a chynhyrchiol fel mae yn y trefi yma bellach.
Cant a hanner o flynyddoedd yn ôl planwyd yr hedyn hwn sydd wedi gwreiddio'n ddwfn yn eich cymunedau. Mae dycnwch, dewrder a ffydd yr arloeswyr cynnar yn parhau'n fyw yn eu disgynydion ac ymysg pobl eraill, fel finnau gobeithio, sydd wedi mabwysiadu iaith ac anian y genedl a ddangosodd cymaint o egwyddorion cadarn a ffydd yn y dyfodol.

Mae'n bosib dathlu 150 hefyd, diolch i ymdrechion a gweledigaeth dysgynyddion yr arloeswyr ac i'r rhai sydd yma heddiw. Dyma bobl a weithiodd yn ddi-baid er mwyn sicrhau gwaddol i'r cenedlaethau iau. Oherwydd gyda'r esgus y dathliad y flwyddyn hon, mae bob un o'r cymunedau wedi gosod tasg ei hunan ac felly, rydyn ni'n gallu gwerthfawrogi heddiw bod capeli'n llawn, ysgolion dwyieithog yn cael eu codi ac etifeddiaeth hanesyddol a digwylliannol yn cael ei thrysori yn Nhalaith Chubut.


Ein cyfarchion annwyl, Gŵyl y Glaniad Llawen i chi!
Ymlaen a ni gan fod y gwynt yn ffafriol!

Sandra De Pol
Cadeirydd


Enillwyr Gorffennaf 2015 Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin. (26-07-2015)

Tynnu y gwobrau yng Nghaernarfon

Dyma enillwyr Gorffennaf 2015 Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin. Tynnwyd y rhifau buddugol yng Ngŵyl y Glaniad yng Nghaernarfon

£60 Rhif 83 Alwyn a Gwenllian Roberts, Llanuwchllyn

£50 Rhif 386. Gwyn a Rhian Parry Williams , Cricieth

£40 Rhif 2 Elen Wyn Lewis, Mynachlog-ddu

£30 Rhif 363 Ann Jones, Waunfawr, Caernarfon

£25 Rhif 226 Morfudd Slaymaker, Llanbedr Pont Steffan

£20 Rhif 333 Pat ac Edward Naish, Garndolbenmaen

£10 Rhif 144 Ceinwen Edwards, Moelfre, Llansilin



Patrwm Patagonia - Melin Tregwynt (25-06-2015)




Ysbrydolwyd gan hanes anhygoel - sy'n dechrau 150 o flynyddoedd yn ôl... pan aeth nifer o Gymry ar siwrnai 8,000 o filltiroedd i greu 'Cymru tu hwnt i Gymru' newydd yn ne America - Patagonia.

Patrwm Patagonia - yn uno arddulliau Cymru a De America.
Mae ein brethyn yn troedio tir newydd... mae'n cydnabod yr arloeswyr beiddgar hynny a'u cymdogion brodorol.

Gwneir mewn 4 lliw gwahanol - 100% o wlân oen.
mwy


Swyddi Newydd: Swyddogion Datblygu 2016 (23-06-2015)


3 SWYDD

Swyddog Datblygu’r Gymraeg ym Mhatagonia

A oes gennych ddiddordeb mewn dysgu a datblygu’r Gymraeg ym Mhatagonia?

Ydych chi’n chwilio am her newydd a phrofiadau gwerth chweil?



Gwybodaeth Ychwanegol
Noddir Cynllun yr Iaith Gymraeg yn Chubut gan Lywodraeth Cymru, British Council Cymru, Canolfan Dysgu Cymraeg i Oedolion Prifysgol Caerdydd, Cymdeithas Cymru-Ariannin ynghyd ag Ymddiriedolaeth Mari a Pryderi, gyda chefnogaeth Menter Patagonia

Nod y prosiect yw hyrwyddo a datblygu'r iaith Gymraeg yn nhalaith Chubut ym Mhatagonia. Ers ei sefydlu yn 1997, mae'r prosiect wedi recriwtio athrawon o Gymru i ymgymryd â lleoliadau dysgu yn y cymunedau Cymraeg ym Mhatagonia a darparu hyfforddiant ac arweiniad i'r tîm o diwtoriaid lleol. Nod hyn yw datblygu'r gallu addysgu Cymraeg a gwella'r ddarpariaeth Gymraeg yn yr ardaloedd hyn.

Yn y tri dalgylch (Esquel,Gaiman a Threlew) dysgir ystod eang o gyrsiau o safon dechreuwyr hyd at safon siaradwyr rhugl (gloywi iaith a chyrsiau ysgrifennu). Cynhelir trawsdoriad o ddosbarthiadau yn ôl oedran – plant meithrin, plant cynradd, plant ysgol gyfun a dosbarthiadau i oedolion. Mae tiwtoriaid lleol yn cyfrannu’n helaeth at y dysgu yn y tri dalgylch ond bydd disgwyl i’r swyddogion o Gymru ddysgu ystod o gyrsiau o blith Wlpan, Pellach, Uwch, Meistroli a Gloywi. Defnyddir cyrsiau Canolfan Dysgu Cymraeg, Prifysgol Caerdydd ac y maent eisoes wedi eu haddasu ar gyfer y cyd-destun Sbaeneg/Cymraeg.

Dylid pwysleisio mai dosbarthiadau gwirfoddol yw’r rhai a gynhelir ar hyn o bryd – 80 dosbarth bob wythnos rhwng y tri dalgylch. O’r herwydd ni ellir gwarantu oriau dysgu sefydlog fel a geir o fewn fframwaith yr ysgolion dyddiol swyddogol. Ar y cyfan cynhelir rhan helaethaf y dosbarthiadau yn ystod y prynhawn a gyda’r hwyr.

Bydd galw arnoch, fel rhan o’ch dyletswyddau ar ran Menter Iaith Patagonia i gyfrannu at bapurau newydd, rhaglenni radio a gweithgareddau cymdeithasol/diwylliannol.

Mae’n gyfle ardderchog i gyfrannu at adfywiad y Gymraeg yn Chubut.

mwy


CYFLWYNO CORON EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU (18-06-2015)

Coron Maldwyn a'r Gororau: Llun: Iestyn Hughes

Coron Maldwyn a'r Gororau: Llun: Iestyn Hughes


Neithiwr (Mehefin 17) cyflwynwyd Coron Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau i Bwyllgor Gwaith lleol yr Eisteddfod.
Rhoddir y Goron eleni gan Gymdeithas Cymru-Ariannin, a’r wobr ariannol g


Lluniwyd y Goron gan y gof arian, John Price, cyn athro crefft a gwneuthurwr nifer o goronau eisteddfodol cain, a gofynnwyd iddo gyfleu’r berthynas agos sy’n bodoli rhwng y Cymry a’u cefndryd yn Nhalaith Chubut wrth ei chreu.
Gwnaed cylchyn y Goron o arian. Ar ei ganol, gwelir carreg a godwyd o draeth Porth Madryn, lle glaniodd y gwladfawyr Cymreig cyntaf ddydd Gwener 28 Gorffennaf 1865. Ar y garreg hon, gosodwyd y nod cyfrin. Cymru newydd ym Mhatagonia oedd y nod yr anelai gwladfawyr y Mimosa ato, a’u gobaith oedd cael bywyd newydd, llewyrchus a rhydd o bob gormes yno.
O bobtu’r garreg, gwelir hwyliau’r Mimosa yn cael eu tynnu i lawr ar ddiwedd y daith cyn i’r ymfudwyr lanio ar dir eu gwlad newydd. Dyma symbol o ddiwedd un cyfnod a dechrau’r nesaf. Mae’r rhain hefyd yn cynrychioli’r ddwy gofeb a welir ar y lan – cerflun o’r wraig Gymreig a’i chefn at y môr yn edrych mewn gobaith at y tir ac, ar benrhyn ger man y glaniad, cerflun o frodor yn edrych allan dros y môr yn barod i groesawu’r Cymry.
Ar y cylchyn hefyd gwelir symbol o afon Camwy. Mae ei dyfroedd wedi chwarae rhan allweddol ym mywyd y trigolion o’r dechrau un. Heb ddŵr yr afon a dyfeisgarwch y gwladfawyr, ni fyddai tiroedd Dyffryn Camwy erioed wedi bod yn gynhyrchiol.
Mae’r blodau yn cynrychioli planhigyn y Celyn Bach (neu’r Quilimbay, sef y fersiwn frodorol o’r enw Cymraeg). Mae’r planhigyn hwn yn tyfu hwnt ac yma ar y paith.
Daw defnydd y cap, a wnaed gan Mary Price, o Batagonia – yr un defnydd a ddefnyddir yng ngwisg Gorsedd y Wladfa.
Meddai Beryl Vaughan, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau, “Mae’n bleser derbyn y Goron hardd yma heno, a diolch yn fawr i Gymdeithas Cymru-Ariannin a theulu’r diweddar Aur ac Arwyn Roberts am eu haelioni. Mae eleni’n flwyddyn eithriadol o bwysig i’r cysylltiad rhwng Cymru a Phatagonia, a braf yw gallu nodi’r cysylltiad hwn mewn ffordd mor hardd, drwy gyplysu’r ddwy wlad ynghyd drwy waith celfydd John Price.
“Mae’n bleser derbyn y Goron hon ar ran y Pwyllgor Gwaith, a gwn fod gweddill y Pwyllgor, fel minnau a phawb yng Nghymru’n gobeithio y bydd teilyngdod yn y seremoni a gynhelir brynhawn Llun 3 Awst yn y Pafiliwn. Edrychwn ymlaen i’r seremoni a diolch yn fawr am eich cefnogaeth, nawdd a Choron hyfryd.”

Cyflwyno'r goron


John Price, Beryl Vaughan, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith) ac Elvey MacDonald (:Llywydd Anrhydeddus)







Fiesta Aber-Esquel Dathlu 150 mlwyddiant y Glaniad (05-06-2015)

Bydd Cymdeithas Aberystwyth ac Esquel: Pobl mewn Partneriaeth (AEPPA) yn trefnu nifer o ddigwyddiadau yn y dref i ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu'r Wladfa Gymreig ar ddydd Mawrth, 28ain Gorffennaf.

Cynhelir cyfres o weithgareddau awyr agored, gan gynnwys cerddoriaeth, adrodd straeon ac eitemau dawns ar safle Llys y Brenin, bydd yn apelio i'r hen a'r ifanc, pobl lleol a dwȃd, ac yn gyfle gwych i flasu diwylliant Cymreig ac Archentaidd.

Mae'r Gymdeithas yn cydweithio yn agos gydag Amgueddfa Ceredigion i drefnu gweithgareddau a gweithdai ar gyfer plant ysgol lleol sy'n cyd-fynd â themȃ yr arddangosfeydd haf eleni, sef bywyd morwrol a mudo.

Bydd Panel Ieuenctid Treftadaeth Ceredigion (CHYP) yn cynnal gweithdai hwyliog yn yr amgueddfa ar y 22ain a'r 23ain Gorffennaf, yn ogystal ag ar y diwrnod ei hun. Dywedodd Anna Evans, Swyddog Addysg Amgueddfeydd Ceredigion:

"Gallwn ddibynnu bob amser ar ein panel ieuenctid i feddwl am ffyrdd newydd a chyffrous i archwilio hanes. Felly dewch draw i'n helpu i adeiladu 'Anghenfil Chwedlonol', a fydd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yng ngharnifal Aberystwyth ar y 25ain Gorffennaf. Yn ôl chwedloniaeth, Patagonia oedd Gwlad y Cewri, felly rydym yn disgwyl mlaen i greu un!”

Bydd Theatr Arad Goch hefyd yn cynnal disgwyddiadau ac yn darparu lleoliad ar gyfer pob math o gerddoriaeth a sesiynau adrodd straeon.

I ddathlu y penblwydd arbennig hwn mae’r Gymdeithas wedi cynnal ysgoloriaeth o £2500 i alluogi person ifanc o’r ardal i ymweld a’r Wladfa i astudio yno. Enillydd yr ysgoloriaeth yw Isabella Hughes, cyn ddisgybl o Ysgol Penglais, sydd bellach yn astudio athropoleg ym mhrifysgol Caeredin. Bydd yn treulio 3 wythnos yn yr Ariannin yn ystod yr haf yn gweithio ar ei maes ymchwil.

Meddai Isabella: "Rwyf yn ddiolchgar iawn i'r Gymdeithas am roi y cyfle imi ymweld â'r Wladfa, a fydd yn fy ngalluogi i ddilyn fy mreuddwyd o ymweld â'r rhan honno o'r byd a chwblhau fy ymchwil israddedig. Bydd fy ymchwil yn edrych ar y ffyrdd yr ydym yn ymgysylltu â hanes ymfudol a phrofiad pobl o ddysgu am hanes Patagonia ac ymweld â'r Wladfa.

"Bydd ymgysylltu â'r hanes a chwrdd â phobl sy'n rhan annatod o hanes y Wladfa yn ddiweddglo perffaith i fy ymchwil. Os oes unrhyw un yng Nghymru neu yn Patagonia â diddordeb mewn cymryd rhan yn fy ymchwil, mae croeso iddynt gysylltu â mi drwy e-bost: geih@hotmail.co.uk ".

Mae'r Gymdeithas hefyd yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â straeon sy'n ymwneud â'r ymfudo. Efallai bod gennych hynafiaid neu berthnasau pell ymfudodd i'r Wladfa? Os felly, bydd Casgliad y Bobl, Llyfrgell Genedlaethol Cymru wrth law i gofnodi unrhyw ffeithiau diddorol neu atgofion teuluol sydd gennych.

Dywedodd Dr Stephen Tooth, Cadeirydd y Gymdeithas: "Rydym yn gwybod am ffaith bod llond llaw o ymfudwyr o Aberystwyth ar y daith enwog honno 150 o flynyddoedd yn ôl, a gellir gweld eu hanesion yn arddangosfa haf Amgueddfa Ceredigion. Bydd y diwrnod yn gyfle gwych i ddathlu ein cysylltiadau, hanes y ddwy wlad a nodi hanes y mudo Cymreig i Batagonia yn y 19eg ganrif.

"Mae'r gefeillio rhwng Esquel ac Aberystwyth wedi mynd o nerth i nerth ers ei sefydlu ac er bod miloedd o filltiroedd rhyngom teimlwn ei bod yn bwysig i nodi'r pen-blwydd arbennig drwy dynnu sylw at y cysylltiadau cryf sy'n bodoli rhwng ein cymunedau.

“Os yw unryw glwb, busnes neu gymdeithas am ymuno yn yr hwyl a threfnu digwyddiad neu stondin i gyd-fynd ȃ’r achlysur mae croeso iddynt gysylltu gyda’r trefnydd Gaynor Jones: 07775 847710. Rydym yn awyddus i drefnu diwrnod i’w gofio.”

Aberystwyth-Esquel


Plac yn Esquel
Bella





Enillwyr y Clwb Cyfeillion (04-06-2015)

Dyma enillwyr y Clwb Cyfeillion am fis Mai 2015 – tynnwyd yr enwau ym Mhwyllgor Gwaith y Gymdeithas Sadwrn 16 Mai

1. £60 rhif 31 Geraint Jones, Sir Benfro
2. £50 rhif 238 Meic a Bet Jones, Llanddaniel, Môn
3. £40 rhif 52 David R. Jones Lerpwl
4. £30 rhif 5 Eifion a Iona Daniels Sir Benfro
5. £25 rhif 239 Mai Williams Conwy
6. £20 rhif 169 John a Marina Adams-Lewis Ceredigion
7 £10 rhuf 10 Eirwyn a Bessie Harris Aberteifi



Dathliadau Patagonia – 150 mlynedd (26-05-2015)




A hithau yn 150 o flynyddoedd ers i’r ymfudwyr cyntaf fentro i Batagonia, mi fu'r Eisteddfod heddiw yn croesawu criw o Ysgol Gynradd Gymraeg yr Hendre, Trelew, ar y Maes, fydd yma trwy’r wythnos. Buont yn perfformio ar y llwyfan perfformio am 11:30am heddiw.

Bydd yr Urdd a chwmni Clwyd Theatr Cymru hefyd yn cydweithio ar gynhyrchiad theatr o’r enw Mimosa, gydag actorion proffesiynol,
17 aelod o’r Urdd a pump person ifanc o Batagonia yn rhan o’r cast. Mi fyddant yn dechrau ymarfer ym mis Gorffennaf ac yn perfformio ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau ym Meifod ym mis Awst cyn teithio i Batagonia i fynd â’r sioe ar daith yno.

Cyhoeddodd yr Urdd heddiw hefyd enwau’r 25 person ifanc sydd wedi eu dewis ar gyfer taith yr Urdd a Mentrau Iaith Cymru i Batagonia ym mis Hydref eleni. Bydd y 25 person ifanc canlynol yn treulio 10 diwrnod ym Mhatagonia ble byddant yn ymweld â Threlew, Esquel a Buenos Aires. Tra yno byddant yn ymweld gyda’r Ysgol Feithrin Gymraeg, yn cael cyfle i gymdeithasu gyda phobl ifanc Archentaidd sy’n siarad Cymraeg ac yn cystadlu yn Eisteddfod y Wladfa. Bydd angen i bob un godi £2,400 er mwyn mynd ar y daith.

De
· Ysgol Plasmawr - Tomos Ifan, Lucy Claire Marks ac Ela Pari Hughes

· Ysgol Gyfun Glantaf - Elis Phillips Jones

· Ysgol Gyfun Llangynwyd - Carys Ellie Parry ac Emily Bruce

· Ysgol Gyfun Ystalyfera - Jacques Stefan Mahé

· Ysgol Gyfun Gwynllyw - Cara Hood a Sophie Georgia Allen

Gorllewin;
· Ysgol Bro Myrddin - Gwenllian Anthony

· Ysgol y Preseli - Eurgain Haf Wyn a Holly Evans

· Ysgol Dyffryn Teifi - Siriol Ifan Thomas

· Ysgol Gyfun Aberaeron - Carwyn Sion Hawkins a Catrin Haf Evans


Gogledd
· Ysgol Brynhyfryd - Beth Mars Lloyd a Lowri Jones Williams

· Ysgol Dyffryn Conwy - Branwen Tudur Morus a Rhiannon Eiddon Hughes

· Ysgol y Berwyn - Joseph Glyn Owen ac Ilan Hedd Jones

· Ysgol Brynrefail - Nia Haf ac Adam Carl Bragan

· Ysgol Syr Thomas Jones - Sorcha Roberts

· Ysgol Gyfun Llangefni - Hattie Plesant


Croeso nôl Pen Gwyn! (24-05-2015)


Bydd Mistar Urdd yn croesawu ei ffrind hoff, Pen Gwyn, o Batagonia i Faes yr Eisteddfod yn Llancaiach Fawr eleni, 30 mlynedd a mwy ers i’r ddau gyfaill gyfarfod diwethaf.


Cyflwynwyd y cymeriad yn wreiddiol ym 1979 gan swyddog cyhoeddusrwydd yr Urdd ar y pryd, Wynne Melville Jones, a fu hefyd yn gyfrifol am greu Mistar Urdd. Bydd Pen Gwyn yn bresennol ar y maes ar ffurf teganau meddal fydd ar werth yn stondin yr Urdd.

Bydd Pen Gwyn hefyd yn ymddangos yng nghylchgrawn misol plant 7-11 oed yr Urdd, CIP, ar ôl i olygydd cylchgronau’r Urdd, Llio Maddocks, ddod o hyd i gartŵnau gwreiddiol o’r cymeriad a grëwyd gan awdur llyfrau Sali Mali, y diweddar Mary Vaughan Jones.

Fe ddarganfuwyd y cartŵnau mewn hen rifynnau o’r cylchgrawn Deryn oedd wedi’u storio yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn. Byddant yn cael eu diweddaru yn weledol a’u hatgynhyrchu mewn lliw llawn yn CIP o fis Medi ymlaen.

Mae presenoldeb Pen Gwyn ar faes Eisteddfod Caerffili yn cyd-fynd â’r dathliadau i nodi 150 mlynedd ers sefydlu’r Wladfa, ac mae’n un o nifer o weithgareddau yn gysylltiedig â Phatagonia sydd ar y gweill gan yr Urdd.

Bydd criw o ddisgyblion o Ysgol yr Hendre, Patagonia yn ymweld â’r Maes, ac mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd 2015 wedi’i hysbrydoli gan fordaith y Mimosa, a gludodd y Cymry cyntaf hynny i Dde America.

Eglura Wynne Melville Jones, a sefydlodd yn ddiweddarach gwmni cysylltiadau cyhoeddus dwyieithog Stratamatrix ac sydd bellach yn gweithio fel artist: “Fe ofynwyd i mi ar ddiwedd y 1970au i ystyried creu cymeriad i fod yn gwmni i Mistar Urdd, a’r canlyniad fu creu ffrind trilliw a fyddai’n gallu pontio rhwng Cymru a Phatagonia a’i alw’n Pen Gwyn.
“Fe welwyd Pen Gwyn am y tro cyntaf pan laniodd ar ei ymweliad cyntaf â Chymru a hynny ym Maes Awyr Cymru Caerdydd a Mistar Urdd a nifer o blant yr Urdd yno i’w groesawu.
“Yn ogystal â’r cartwnau yn Deryn, fe ryddhawyd cân Pen Gwyn, wedi’i chyfansoddi gan Geraint Davies a’i pherfformio gan Emyr Wyn.
“Mae ail gyflwyno Pen Gwyn yn gyfle ardderchog i safleoli’r Urdd o fewn dathliadau Patagonia a bydd ef a Mistar Urdd yn siwr o greu mwy fyth o ddiddordeb a brwdfrydedd yng ngweithgareddau’r Urdd yng Nghymru ac yn y Wladfa.
“Ychwanega Llio Maddocks: “Ar ddiwedd y 1970au a dechrau’r 1980au roedd Pen Gwyn yn wyneb cyfarwydd yn yr Eisteddfod ac roedd yn gymeriad hoffus a doniol. Dwi’n sicr y bydd croeso cynnes iddo gan ddarllenwyr CIP a phlant ifanc ledled Cymru, a dwi’n edrych ymlaen at gael yr ymateb.”
Ail-greu cloriau o 1979 ar gyfer cylchgrawn IAW
Bydd tri chlawr eiconig o 1979 o’r cylchgrawn ‘Mynd’, rhagflaenydd ‘Iaw’, cylchgrawn dysgwyr oedran uwchradd yr Urdd, yn cael eu hail-greu gyda sêr modern.
Bydd clawr gyda llun o Caryl Parry Jones yn cael ei ail-greu gyda’r gantores Miriam Isaac, merch Caryl, ar gyfer rhifyn mis Mehefin Iaw. Bydd cyfweliad gyda Miriam yn y rhifyn, yn ogystal â phytiau diddorol yn cymharu Cymru heddiw gyda Chymru’r 1970au.
Yn rhifyn mis Medi Iaw bydd clawr newydd gyda’r seiclwr Geraint Thomas yn adlais o glawr o 1979 gyda’r chwaraewr rygbi John Toshack.
Bydd llun o’r cerddor Griff Lynch, cyflwynydd rhaglen Ochr 1 S4C ac aelod o grŵp Yr Ods, ar glawr rhifyn mis Hydref Iaw yn dwyn i gof clawr tebyg gyda’r cerddor Geraint Griffiths o 1979.
Bydd elfennau dyluniad ‘Mynd’ – delweddau du a gwyn gydag ymyl coch - hefyd yn cael eu hailgynhyrchu ar y cloriau newydd.
Meddai Llio Maddocks, golygydd cylchgronau’r Urdd: “Mae’n ddiddorol iawn gweld y cloriau hyn o’r 1970au, sy’n nodweddiadol iawn o steil a ffasiwn y cyfnod. Bydd ail-greu’r cloriau yn ffordd gyffrous o gyflwyno sêr y Gymru fodern i’n darllenwyr.”
Mae cân Pen Gwyn, ryddhawyd yn wreiddiol ar label Sain yn 1979, ar gael i’w lawrlwytho am 99c o wefan Sain neu iPlayer.

Pen Gwyn


Pen gwyn 1
Pen gwyn 2
Pen gwyn 3





DAU GWMNI THEATR CENEDLAETHOL CYMRU AC S4C YN DOD AT EI GILYDD I NODI 150 O FLYNYDDOEDD ERS SEFYDLU’R WLADFA YM MHATAGONIA (22-05-2015)

, CYNHYRCHIAD AML-BLATFFORM WEDI EI GREU GAN YR ARTIST MARC REES, YN CAEL EI LWYFANNU YN STORFA’R TŶ OPERA BRENHINOL YN ABERDÂR,
MEHEFIN-GORFFENNAF 2015


Bydd dau gwmni theatr cenedlaethol Cymru yn dod at ei gilydd am y tro cyntaf, gydag un o’n prif artisiaid theatr, Marc Rees, i adrodd stori wir, arwrol, llawn antur.

Yn 1865, fe ymadawodd 150 o ddynion, menywod a phlant â Chymru i chwilio am fywyd gwell ym Mhatagonia, De America. Bydd y cynhyrchiad aml-blatfform hwn – a berfformir yn Gymraeg, Saesneg a Sbaeneg, ac sy’n cynnwys digwyddiadau byw a ffilm – yn adrodd hanes rhai o uchafbwyntiau eu taith anhygoel, ac yn mynd ar drywydd eu disgynyddion yn Y Wladfa heddiw.

Bydd yn cael ei lwyfannu yn Storfa’r Tŷ Opera Brenhinol ger Aberdâr, adeilad enfawr nad yw fel arfer ar agor i’r cyhoedd. Bydd y perfformwyr yn cynnwys: Gareth Aled, Rosalind Brooks, Dafydd Emyr, Angharad Harop, Eddie Ladd, Beth Powlesland, Caroline Sabin a Lara Ward, yn ogystal â pherfformwyr gwâdd Billy Hughes a Fernando Williams o’r Ariannin.

Wedi’i integreiddio yn y perfformiad byw bydd darnau o ffilm sydd wedi’i chomisiynu’n arbennig gan S4C, ac wedi ei hysgrifennu gan Roger Williams a’i chyfarwyddo gan Lee Haven Jones. Mi gaiff y ffilm, sydd wedi’i chynhyrchu gan Joio, ei darlledu’n llawn ar S4C ar ddiwedd mis Gorffennaf 2015.

Mae Marc Rees yn artist amlgyfrwng creadigol ac mae wedi gwneud enw i’w hunan trwy greu prosiectau sydd yn gwthio ffiniau, yn torri tir newydd yn procio’r dychymyg. Adain Avion oedd prosiect mwyaf uchelgeisiol Rees hyd yma, ac fe gafodd ei ddewis fel y prosiect oedd yn cynrychioli Cymru yn Olympiad Celfyddydol Llundain 2012 a Gŵyl Llundain 2012. Tir Sir Gâr, ei gynhyrchiad gyda’r awdur Roger Williams ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru oedd y cynhyrchiad a dderbyniodd y mwyaf o enwebiadau yng Ngwobrau Beirniaid Theatr Cymru 2014, gyda phump enwebiad. Yn 2014, fe ail-ddychmygoedd fyd Under Milk Wood, Raw Material: Llareggub Revisited ar gyfer NTW a BBC Cymru oedd yn dod â thref Talacharn ynghyd yn rhan o’r Ŵyl DT 100. Mae hefyd yn creu a churadu LLAWN (Penwythnos Celfyddydol Llandudno), gŵyl blynyddol sydd yn dathlu etifeddiaeth y dref Fictorianaidd ger y môr.
http://marcrees.com/

Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn creu naratif cenedlaethol sy’n cynrychioli diwylliant deinamig Cymru, a hynny trwy greu theatr arloesol a chynyrchiadau uchelgeisiol trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru a thu hwnt – ar brif lwyfannau, mewn lleoliadau annisgwyl, ac yng nghalon ein cymunedau. Mae’r cwmni – a leolir yng Nghaerfyrddin – hefyd yn cynnig gweithdai a rhaglen gynhwysfawr o waith gyda chymunedau, ac yn darparu adnoddau ar gyfer y sector theatr yng Nghymru. www.theatr.cymru

Mae National Theatre Wales wedi bod yn creu cynhyrchiadau Saesneg eu hiaith mewn lleoliadau ar draws Cymru, y DU, yn rhyngwladol ac ar-lein ers Mawrth 2010. Mae’r cwmni yn gweithredu o leoliad bach yng nghanol dinas Caerdydd, ond maent hefyd yn gweithio dros y wlad i gyd, a thu hwnt, gan ddefnyddio tirwedd gyfoethog ac amrywiol Cymru, ei threfi a’i phentrefi, ei straeon anhygoel a’i thalent gyfoethog fel ysbrydoliaeth. Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn cefnogi National Theatre Wales. nationaltheatrewales.org

S4C yw'r unig sianel deledu Cymraeg yn y byd. Mae'r arlwy yn cynnig rhaglenni o feysydd amrywiol, gan gynnwys dramâu a dogfennau uchel ei bri. Drwy weithio mewn partneriaeth â’r diwydiannau creadigol yng Nghymru, mae S4C yn rhoi sylw i nifer eang o ddigwyddiadau diwylliannol gyda chynyrchiadau theatr a cherddoriaeth yn eu plith, yn ogystal â chyd-weithio er mwyn creu cynnwys gwreiddiol i'w ddarlledu ar y sianel.

mwy


Gemydd Cymreig blaenllaw yn cynhyrchu casgliad Dathlu Patagonia (21-05-2015)

Mari Thomas

Mari Thomas


Gemwaith MT yn cyflwyno: Casgliad y Mimosa

Mae’r gemydd Cymreig cyfoes Mari Thomas wedi cynhyrchu casgliad arbennig i ddathlu canmlwyddiant a hanner sefydlu’r Wladfa ym Mhatagonia.
Mae dau ddarn - cadwyn i’r gwddf a phin i’w roi ar labed, tei neu fel broetsh - a’u cynllun wedi ei ysbrydoli gan y Mimosa, y llong hwyliau a gludodd 153 o deithwyr o bob cwr o Gymru i’w bywyd newydd yn Nyffryn Camwy yn ne’r Ariannin. Mae’r darnau wedi eu cynhyrchu o arian soled gyda marc arian swyddogol Mari, y gwneuthurwr, arnynt. Cyfres gyfyngedig yw hon yn cael ei chynhyrchu ym mlwyddyn y dathlu yn unig a’r marc arian swyddogol yn dangos y flwyddyn 2015 ar bob darn. Pris y pin yw £150 a £290 yw pris y gadwyn wddf. Bydd cyfran o’r pris yn cael ei drosglwyddo i Gymdeithas Cymru-Ariannin ac i brosiectau ym Mhatagonia. Gall Mari gynhyrchu fersiwn arbennig o’r gemmwaith mewn aur pur os gwneir cais.
Mae’r darnau ar gael drwy wefan MT - http://www.marithomas.com/

Gemwaith MT


Cadwyn i'r gwddf (c)Mari Thomas
Pin (c)Mari Thomas




mwy


Dwy arddangosfa ar y Wladfa yn Aberystwyth (21-05-2015)

Cyflwyno Beibl

Cyflwyno Beibl


Mae Amgueddfa Ceredigion a'r Llyfrgell Genedlaethol wedi paratoi arddangosfeydd ar ddathlu 150 y Wladfa yn eu sefydliadau.

Hwylio tuag at fywyd gwell; arddangosfa i gofio’r daith arwrol a wnaethpwyd 150 mlynedd yn ôl gan yr allfudwyr cyntaf o Gymru i Batagonia, De America.
22 Mai tan 2 Awst, 2015

Bydd arddangosfa dros dro sy’n rhoi blas o fywyd ar y môr a thaith yr allfudwyr cyntaf o Gymru i Batagonia yn dechrau yn Amgueddfa Ceredigion ar 22 Mai.

Dyma Carrie Canham, curadur yn Amgueddfa Ceredigion, yn esbonio’r caledi oedd yn wynebu’r 153 o bobl a fu’n teithio am ddeufis ar fwrdd y cliper ‘Mimosa’: “Nid y Mimosa oedd y llong wreiddiol a gomisiynwyd i gludo’r teithwyr, ond yn hytrach cliper oedd hi a gafodd ei haddasu i fynd ar y daith ar fyr rybudd. Mae’n rhaid ei bod yn brofiad anodd iawn i bawb.”

Yn ôl y manylion sydd ar gael am y daith, bu’n rhaid i’r teithwyr aros am fis cyn mynd ar fwrdd y llong. Meddai Carrie: “Unwaith roeddent ar y llong, roedd yn rhaid iddynt aros i’r tywydd wella. Fe fuon nhw yno am rai diwrnodau, dim ond yn aros i’r gwynt lenwi’r hwyliau.”

O’r diwedd, am bedwar o’r gloch y prynhawn ar 28 Mai, 1865, cododd yr angor a chychwynnodd y 'Mimosa' ar ei thaith i Batagonia.

‘codwyd yr angor a daeth yn bryd inni ffarwelio â gwlad ein mebyd.’ Thomas Jones, Glan Camwy

Roedd y teithwyr yn dod o bob cwr o Gymru, a rhai ohonynt o ardal Aberystwyth. Cawsant ddechrau cyffrous i’r daith – daeth gwyntoedd cryfion a thonnau mawr i chwipio’r llong yn fuan wedi iddi hwylio o Afon Merswy.

Bydd yr arddangosfa yn yr amgueddfa’n cynnwys eitemau sydd a wnelont â bywyd yn y cyfnod hwnnw. Wrth sôn am brif themâu’r arddangosfa, dywed Carrie: “Mae gennym ni eitemau yn ein casgliadau sy’n debyg i’r rhai y byddai’r bobl yma wedi mynd gyda hwy. Mae gennym lythyrau a dogfennau sy’n adrodd hanesion rhai o’r teithwyr, hefyd.”

Hwn oedd y tro cyntaf i rai o’r teithwyr fynd ar y môr, ac mae’n rhaid bod llawer ohonynt wedi cael trafferth mawr ymdopi â hynny. Roedd y tywydd wedi cadw’n weddol fwyn wrth iddynt groesi Môr Iwerydd, tan iddynt ddynesu at draethau Brasil, lle daeth storm arall i chwipio’r llong.

Mae’r amgueddfa’n trefnu amrywiaeth o weithgareddau morwrol yn yr wythnosau nesaf, felly holwch am fwy o wybodaeth am sut allwch chi gymryd rhan.

A’r gair olaf gan Carrie: “Ar 26 Gorffennaf 1865, ar ôl bron i ddeufis ar y môr, cyhoeddodd un o’r criw fod tir sych ar y gorwel. Hwyliodd y llong i’r Bae Newydd y noson honno, a’r bore trannoeth dringodd y teithwyr i fyny i fwrdd y llong i gael eu cipolwg cyntaf o dir sych. Aeth criw bach o ddynion i’r lan y noson honno, ond bu’n rhaid i weddill y teithwyr aros am ddiwrnod arall cyn cael cyfle i gamu ar dir Patagonia.”

Gallwch weld yr arddangosfa yn rhad ac am ddim ym mhrif awditoriwm Amgueddfa Ceredigion.
Cofiwch, bydd yr amgueddfa’n cynnal noswaith arbennig o ganu Siantis Môr ar 26 Mehefin am 7yh (£7.00/ £6.00).
​================================================================
Beibl o'r Mimosa ymhlith trysorau'r
Llyfrgell Genedlaethol ar Ŵyl Banc y Sulgwyn

Bydd Beibl Cymraeg a gludwyd ar y Mimosa gan y Cymry cyntaf hynny a deithiodd i Batagonia ym 1865 ymhlith y trysorau fydd i'w gweld yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth ar Ddydd Llun Gŵyl Banc y Sulgwyn, 25 Mai.

Mae'r Beibl ar fenthyg i’r Llyfrgell ar gyfer arddangosfa newydd o’r enw 'Gwladfa' sy'n agor ddydd Sadwrn, 23 Mai.

Mae 'Gwladfa' yn cofio 150 mlynedd ers sefydlu cymuned Gymraeg Patagonia. Mae'n dilyn hynt a helynt yr ymfudwyr cyntaf, o’u breuddwydion am fywyd gwell i’r glaniad ym Mhorth Madryn ar 26 Gorffennaf 1865 a sialensiau eu blynyddoedd cynnar ar y paith.

Mae’r arddangosfa yn cynnwys llawysgrifau a gwaith celf o gasgliadau’r Llyfrgell. Ar 19 Mehefin bydd cyfle i aelodau’r cyhoedd ddod â deunydd perthnasol am Batagonia i’r Llyfrgell er mwyn cael cryfhau’r wybodaeth am y Wladfa ar wefannau Wicipedia a Chasgliad y Werin Cymru.

Bydd Ystafell Ddarllen y Gogledd, Ystafell Ddarllen y De, y siop a'r Caffi Bach hefyd ar agor i'r cyhoedd ar ddydd Llun 25 Mai. Bydd y Llyfrgell ar agor rhwng 9.30am-5.00pm.

Meddai Dr Aled Gruffydd Jones, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

"Mae hanes yr antur fawr i Batagonia yn un sydd wedi cydio yn nychymyg y Cymry erioed, a bydd ‘Gwladfa’ yn dod â’r hanes hynny’n fyw trwy gyfrwng dyddiaduron, lluniau, llythyrau a mwy.
“Mae Gwladfa yn un o nifer o arddangosfeydd difyr sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd yn y Llyfrgell. Yn sicr mae rhywbeth at ddant pawb, ac edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr dros Ŵyl Banc y Sulgwyn. "

Arddangosfa LLGC


Map o'r Wladfa
Tocyn Mimosa






MORDAITH Y MIMOSA YN YSBRYDOLI NEGES HEDDWCH AC EWYLLYS DA YR URDD 2015 (19-05-2015)

Neges Heddwch ac Ewyllys Da Cwm Rhymni 2015

Neges Heddwch ac Ewyllys Da Cwm Rhymni 2015


Mordaith y Mimosa, y llong a aeth â’r Cymry cyntaf i Batagonia i sefydlu gwladfa newydd 150 o flynyddoedd yn ôl, sydd wedi ysbrydoli Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd yn 2015.

Cafodd y neges ei chyflwyno gan grŵp o ddisgyblion o Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn Llancaiach Fawr, Nelson, am 11.00am ar ddydd Llun 18 Mai, Dydd Ewyllys Da ac union wythnos cyn i Eisteddfod yr Urdd gael ei chynnal ar y safle.

Mae’r Neges Heddwch ac Ewyllys Da, a anfonwyd am y tro cyntaf ym 1922 gan y Parchedig Gwilym Davies o Gwm Rhymni, yn draddodiad blynyddol sy’n ysgogi ac yn ysbrydoli gweithgarwch dyngarol.

Eleni, mae’r neges yn disgrifio teimladau a gobeithion y Cymry ar ddec y Mimosa wrth iddynt adael “hen fyd blinedig” a theithio tua’r gorwel gan ddychmygu “Cymru newydd yn ein pennau, i’w hadeiladu’n well yfory.”
Criw o ddisgyblion Blwyddyn 7-10 Ysgol Gyfun Cwm Rhymni sydd wedi llunio’r neges, gyda chefnogaeth Bardd Plant Cymru, Aneirin Karadog, Morgan Roberts, Swyddog Ieuenctid yr Urdd Caerffili a Bethan Jones, Swyddog Prosiect Llais Menter Iaith Caerffili.

Bydd y criw yn perfformio’r neges i gyfeiliant trefniant arbennig o’r alaw ‘Ar Lan y Môr’, wedi’i baratoi gan y cerddor a’r cyfansoddwr Jeffrey Howard a’i berfformio ar y delyn.
Mae’r neges wedi’i chyfieithu i 29 o ieithoedd, gan gynnwys Saesneg, Sbaeneg, Swahili a Chatalaneg. Bydd hefyd yn cael ei pherfformio yn y Senedd, Bae Caerdydd am 12.45pm ddydd Mercher 20 Mai, dan nawdd Aelod Cynulliad Caerffili, Jeff Cuthbert, ac ar lwyfan yr Eisteddfod ei hun ar 27 Mai.

Bydd BBC Radio Cymru yn darlledu’r neges yn ystod rhaglen Shân Cothi, ‘Bore Cothi’, 10.00am-12.00pm ar fore Llun, 18 Mai. Bydd y neges hefyd ar gael i’w darllen a’i gwylio ar wefan yr Urdd, urdd.cymru/cy/dyngarol/peace-goodwill

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd:
“Mae’r Neges Heddwch ac Ewyllys Da yn un o draddodiadau pwysica’r Urdd, sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc Cymru estyn dwylo i bobl ifanc ym mhedwar ban byd gyda neges yn llawn gobaith a chyfeillgarwch.

“Mae thema’r neges eleni, ymfudo, ac yn benodol yr ymfudo i Batagonia, yn un oesol ac amserol, gyda chymaint o bobl ledled y byd yn fodlon wynebu peryglon lu wrth geisio bywyd gwell.
“Wrth i ni ddarparu cyfleoedd i’n pobl ifanc ddysgu a chymdeithasu yng nghwmni ei gilydd, yng Nghymru ac yn rhyngwladol, mae cyfeillgarwch a pharchu ein gilydd a phobl ar draws y byd ymhlith conglfeini gwaith yr Urdd.”
mwy


Gwerthu copїau o lun y Mimosa er budd i'r Wladfa (09-04-2015)

Oriel yn Llandeilo yn gwerthu printiau o'r Mimosa

I ddathlu 150 mlynedd ers i’r Mimosa gyrraedd Patagonia, bydd Oriel Mimosa yn cynhyrchu a gwerthu 150 print o’r darlun, pob un ar bapur o’r ansawdd gorau, wedi eu rhifo a gyda thystysgrif ddilysrwydd. Bydd cyfran o’r arian yma yn mynd i Gymdeithas Cymru-Ariannin ac i brosiectau yn y Wladfa
mwy


Enillwyr Clwb Cyfeillion Mawrth (25-03-2015)

Tynnwyd rhifau buddugol ym mhwyllgor Mawrth - ohiriwyd o Chwefror.

Dyma enillwyr Mawrth 2015 Clwb Cyfeillion Cymdeithas Cymru-Ariannin. Tynnwyd y rhifau buddugol ar 21 Mawrth.

£60 Rhif 101 Geraint Rowlands, Llanelltud
£50 Rhif 386 Gwyn Parry Williams, Chwilog
£40 Rhif 163 Helen Prosser, Tonyrefail
£30 Rhif 160 Gwilym Roberts, Caerdydd
£25 Rhif 34 Tegid Roberts, Llanrug
£20 Rhif 309 Iorwerth Gruffudd Jones, Abermaw
£10 Rhif 164 Arwyn Owen, Nant Gwynant



Dosbarthu'r Testament Newydd (23-03-2015)




Cafodd dosbarth Cymraeg Arddegau Camwy bnawn prysur ddydd Iau 19eg o Fawrth, gan iddynt ymweld a gwestai lleol yn y Gaiman i ddosbarthu Testament Newydd ddwyieithog, Cymraeg - Sbaeneg. Mae'r gyfrol sydd yn cynnwys y Salmau a'r Diarhebion wedi cael ei gyhoeddi gan y Feibl Gymdeithas, er cof am Mair Davies a fu yn cenhadu yn y Wladfa am amser math.

Trefnwyd yr ymgyrch gan Undeb Eglwysi Rhyddion y Wladfa a Menter Patagonia, gyda chymorth Pwyllgor Dathlu y Canmlwyddiant a Hanner.

Mae Testament Newydd wedi cael ei osod ym mhob bwrdd nos yn yr ystafelloedd yn y gwestai. Cafwyd croeso cynnes gan y perchnogion. Rydym yn gobeithio ymweld a gweddill y gwestai yr wythnos nesa.




Cystadlu dros Skype o Batagonia (10-03-2015)

Guillermo

Guillermo


Eleni bydd dau o Archentwyr ifanc o Batagonia, Guillermo Javier Thomas a Florencia Giselle Zamareno, yn cystadlu yn Eisteddfod ranbarthol yr Urdd tu allan i Gymru dros Skype. Bydd yr Eisteddfod tu

Dyma fydd y tro cyntaf i Guillermo, sydd yn wreiddiol o’r Gaiman, gystadlu yn yr Eisteddfod ac fe fydd yn teithio i Gymru erbyn Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r Cylch, boed yn ennill yn yr Eisteddfod ranbarthol a’i peidio, gan aros am dair wythnos. Dywedodd,

“Dwi’n meddwl ei bod yn ddiddorol sut yr ydym yn defnyddio y rhwydweithiau cymdeithasol i fyrhau pellteroedd – ac yn yr achos yma, rhoi cyfle i mi gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd.

“Rwyf ychydig bach yn nerfus o ran sut fydd y dechnoleg yn gweithio – ac os y gall y beirniaid wir werthfawrogi y perfformiad yn defnyddio camera a microffon ar gyfrifiadur. Mi fyddaf yn canu ac yn adrodd yn fy fflat yn La Plata, Buenos Aires ble rydw i yn mynd i’r Brifysgol, yn gwybod efallai y bydd y cymdogion yn gallu fy nghlywed a ddim yn deall unrhyw beth!”

Bydd cyflwynwraig The One Show, Alex Jones, yn agor yr Eisteddfod yn swyddogol gyda Gillian Elisa Thomas, sydd bellach yn actio cymeriad ‘Grandma’ yn sioe gerdd Billy Elliott, yn beirniadu. Bydd tua 100 yn cystadlu yn Llundain, gan gynnwys aelodau’r Urdd o Ysgol Gymraeg Llundain, Aelwyd Llundain ac aelodau unigol o bob rhan o Brydain.

Bydd Florencia Giselle Zamareno o’r Gaiman yn cystadlu ar yr unawd offerynnol 19 – 25 oed gyda’r gitâr a Guillermo yn cystadlu ar yr alaw werin unigol a’r llefaru unigol, y ddwy gystadleuaeth 19 – 25 oed.

Yn y gorffennol mae plant a phobl ifanc wedi cystadlu dros Skype o Bahrain a Singapore, ond dyma’r tro cyntaf i gyswllt gael ei wneud gyda’r Wladfa. Dywedodd Leah Owen-Griffiths, trefnydd yr Eisteddfod tu allan i Gymru, “Rydym yn gyffrous iawn fod gennym ddau eleni yn cystadlu dros Skype o’r Wladfa – mae’n braf fod y dechnoleg gennym bellach fel bod aelodau o bob cornel o’r byd yn gallu cystadlu yn yr Eisteddfod. Mae hefyd yn wych fod y gyflwynwraig boblogaidd Alex Jones wedi cytuno i agor yr Eisteddfod i ni – mae Alex wastad wedi bod ac yn dal i fod yn gefnogol iawn i’r Urdd a’n bod wedi cael rhywun o safon Gillian Elisa i feirniadu.

“Mi fydd gennym ni eleni hefyd stondinau Cymreig yn y festri, gan gynnwys Cylch Ti a Fy Llundain, Cariad Welsh Cakes a stondin gyda nwyddau’r Urdd.”
mwy


Bu Matthew Thistlewood , Rheolwr Cerdd Ieuenctid, Ty Cerdd ar ymweliad a'r Ariannin (26-02-2015)

Darllenwch am ei ymweliad yma


mwy


Gwerthu hetiau i godi arian i noddi myfyrwyr o'r Wladfa (23-02-2015)

Fel Swyddog Datblygu’r Gymraeg yn Nyffryn Camwy y llynedd ac eleni yn dychwelyd i’r Andes
teimlai Eluned Jones fod gwir angen cefnogi pump o ieuenctid o’r Wladfa sydd wedi cael eu dewis i gymry


"Deallais fod yn rhaid i’r ieuenctid o Gymru sy’n cymryd rhan godi o gwmpas £2900 o bunnoedd yr un. O glywed hyn meddyliais am ffordd efallai i gynorthwyo costiau ieuenctid y Wladfa i’w galluogi i gymryd rhan llawn yn y prosiect. Yn amlwg nid yw codi arian o’r fath yn hawdd yma ym Mhatagonia oherwydd yr economi.
Cefais ymateb syfrdanol gan gyfeillion, busnesau,cymdeithasau ac ysgolion ym mro’r Preseli a gogledd Penfro ac o ardal gyfagos Aberteifi a de Ceredigion pan ofynnais iddynt gefnogi’r ymgyrch. Bu Siop Awen Teifi yn hael ofnadwy pan archebais 100 o hetiau Cymreig. Diolchaf yn fawr i Geraint am werthu’r hetiau am bris prynu i mewn yn ogystal a noddi.
Deallais tra’n ymweld y llynedd a Threvelin y buasai’r Ysgolion yn falch iawn i gael hetiau uchel Cymreig ar gyfer y dathliadau cyson. Gwerthwyd yr hetiau am £10 yr un a thrwy hynny gwneud elw o £900 tuag at y gronfa a thrwy hynny hefyd sicrhau fod gan blant Ysgol Gymraeg yr Andes yn Nhrevelin ac Esquel, Ysgolion y Dyffryn sef Ysgol yr Hendre Trelew ac Ysgol Gymraeg y Gaiman
bump ar hugain o hetiau yr un yn eu meddiant erbyn Mis Mawrth.
Diolchaf yn arbennig felly i’r busnesau, ysgolion a’r unigolion canlynol am noddi. Siop Awen Teifi,
E.L Jones yr Argraffwyr Aberteifi, Olew Trefigin Cware, Siop Sglodion a Bwydydd Glandy Cross, Dylan Thomas Crane Hire Boncath, Midway Motors Crymych, John Harries
Trydanwyr Maenclochog/Aberteifi. Ysgolion lleol - Ysgol Gynradd Aberteifi, Ysgol y Frenni Crymych ac Ysgol Brynconin Llandysilio. Clybiau Criced a Rygbi Crymych. Unigolion a chysylltiadau personol megis Richard Jones Aberporth, Eirwyn a Bessie Harries Brynawelon, Marina Jones Cefn Sidan a’r Parch Eirian Wyn Lewis Brynhyfryd.
Rhaid peidio anghofio am bawb a fu mor garedig i gludo’r hetiau allan i’r Wladfa.
Bu’r daith yn faith i’r hetiau. Cludwyd chwe deg ohonynt i Ruthin gan Rhian Clwyd Blaenffos a’u trosglwyddo i Pedr Wynn a’u gyfeillion o Glwyd sy’n teithio allan i’r Wladfa ddechrau Mawrth.
Yna tair ar ddeg gan Delyth ac Elvey Mac Donald Llanrhystud sy’n teithio ddiwedd Chwefror.
Dwsin arall gan Sion a Rebeca o’r Gaiman a fu ar eu gwyliau yng Nghymru, a minnau’n cludo’r gweddill.
Hoffwn ddiolch hefyd i Ceris Gruffudd unwaith yn rhagor am ei gymorth i wneud y trefniadau gyda chyfeillion Clwyd.
Banciwyd cyfanswm o naw can punt yng nghyfrif Urdd Gobaith Cymru - Taith Patagonia yr wythnos diwethaf. Dymunaf i’r arian hwn i fynd yn uniongyrchol i gefnogi’r pump o’r Wladfa sy’n cymryd rhan yn y perfformiad.

Diolch i bawb am gefnogi"
Euned Jones
Swyddog Datblygu’r Gymraeg / Menter yr Andes 2015.

Gweler lluniau plant yr Ysgolion yn gwisgo’r hetiau a nifer o’r hetiau wedi eu pacio yn y bagiau ar gyfer y daith,
O’r Chwith - Ysgol Brynconin ac Ysgol y Frenni yn sefyll o flaen bws Midway Motors.

Plant Cymru g