Hanes Y Wladfa

Yn y flwyddyn 1865 hwyliodd dros gant a hanner o Gymry, yn wyr, gwragedd a phlant, o Lerpwl i wlad newydd ddiffaith yn Ne America. Rhan o batrwm ymfudo mawr y ganrif ddiwethaf oedd hwn ac aethant yno i osgoi tlodi a gormes landlordiaid. Pobl galed a phenderfynol oedd y Cymry hyn a hwyliodd ar y llong Mimosa, ac er iddynt gyrraedd gwlad ddiffaith ddiannedd heb na chanolfan na chymdeithas barod ar eu cyfer, trwy chwys a llafur llwyddasant i greu yno gymdeithas newydd. Troesant y tir diffaith yn ardd a'i throsglwyddo i'w disgynyddion sydd hyd heddiw yn byw yn y rhan honno o'r Ariannin a elwir Patagonia.

Yn fuan wedi ymsefydlu yno talodd yr ymfudwyr hyn wrogaeth i faner Ariannin ac addo bod yn deyrnagar i'w gwlad newydd. Er cadw cysylltiad a'r "hen wlad" daethant yn Archentwyr brwd, gan gynnal gyda brwdfrydedd bopeth a berthynai i'w gwlad newydd, ond gan gadw o hyd draddodiadau yr "hen wlad", sef Cymru. O dipyn i beth daeth y traddodiadau hynny yn rhan o fywyd cenhedloedd eraill a ymsefydlodd yn nyffryn yr afon Chubut.

Heddiw, ar ôl dros ganrif a chwarter, cawn bobl nad oes ganddynt unrhyw gysylltiad â Chymru yn cyd-ddathlu Gwyl y Glaniad ar Orffennaf 28 bob blwyddyn. Maent yn uno hefyd yn un o uchafbwyntiau'r flwyddyn, sef yr Eisteddfod fawr a gynhelir yn Nhrelew, Eisteddfod sydd wedi ei phatrymu ar Eisteddfodau Cymru, a cheir pobl o bob cenedl yn cystadlu ar ganu, adrodd a dawnsio a llu o gystadlaethau eraill. Nid dim ond un Eisteddfod sydd yn y Wladfa heddiw. Yn ystod y flwyddyn cynhelir nifer o eisteddfodau bach a mawr mewn gwahanol ardaloedd.

Mae cerddoriaeth yn rhan bwysig o'u traddodiad. Ym 1987 cafodd Côr y Camwy y drydedd wobr yn Eisteddfod Gydwladol Llangollen yn y gystadleuaeth ar gyfer partion; yn Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Taf-Elai ym 1991 enillodd Côr Plant y Gaiman y wobr gyntaf, a bu cân gan Hector Ariel MacDonald a Lowri Davies (a fu allan yn dysgu yn y Gaiman) yn rownd derfynol Cân i Gymru ym 1999.

Dros y blynyddoedd cyhoeddwyd llawer o lyfrau yn Gymraeg a Saesneg yn ymwneud â hanes y Wladfa a chyfieithwyd amryw i'r Sbaeneg. Yn ogystal cyhoeddwyd papur newydd y Wladfa, y Drafod, yn ddidor ers dros ganrif ac ers bron i ddeugain mlynedd fe'i golygwyd gan Irma Hughes de Jones. Ar ôl ei marwolaeth yn 2003 parheir y gwaith gan ei theulu - Laura Henry ei merch a Rebecca Henry, ei wyres gyda chymorth Esyllt Nest Roberts. Bellach mae aelodau'r Gymdeithas yn derbyn copïau o'r Drafod sy'n cael eu postio i Gymru. Yn Nhachwedd 1998 dechreuwyd cyhoeddi'r cylchlythyr Llais yr Andes ar gyfer dysgwyr Cwm Hyfryd ac mae'n parhau i ymddangos.Yn 2011-12 cyhoeddwyd Clecs Camwy. Gellir gweld copïau o'r ddau ar wefan Menter Patagonia.

Cyhoeddwyd Cydymaith newydd i hanes y Gwladfawyr Cydymaith i'r Wladfa Gymreig
     

Dylunio a hostio'r wefan: Technoleg Taliesin Cyf.

Administration