Hanes y Gymdeithas

Sefydlwyd Cymdeithas Cymry Ariannin ym 1939 gan rai a oedd â chysylltiad â'r Wladfa Gymreig yn Chubut er mwyn bod yn ddolen gyswllt rhwng y ddwy wlad. Cyhoeddwyd llyfryn - Cymdeithas Cymry Ariannin 1939-1989 gan y Gymdeithas ym 1989. Newidiwyd yr enw yng nghyfarfod blynyddol 1999 i Cymdeithas Cymru-Ariannin i adlewyrchu aelodaeth a gweithgareddau'r Gymdeithas heddiw.

Mae'n gymdeithas elusennol;rhif elusen 50773. Daw'r cyfan o'i hincwm oddi wrth ei haelodau, dros 300 ohonynt, ac mae'r gwaith sydd i'w wneud â'r incwm hwnnw yn fawr. Ymhlith ei chyfrifoldebau y mae:-

• Trefnu a noddi teithiau cyfnewid i athrawon, myfyrwyr a gweinidogion rhwng Cymru ac Ariannin. Mae'r Gymdeithas hefyd yn un o bedwar aelod o Bwyllgor Cynllun yr Iaith Gymraeg yn Chubut, ac mae ganddi gynrychiolydd ar ei Bwyllgor. Sefydlwyd y Cynllun gan y Swyddfa Gymreig yn 1997. Yn dilyn Datganoli, Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol amdano a hwythau sy'n bennaf gyfrifol am ei gyllido*. British Council Cymru sy'n ei weinyddu, a Phrifysgol Caerdydd sy'n darparu'r wybodaeth arbenigol. Mae'r Gymdeithas yn cyfrannu at gludiant a llety myfyrwyr a dan y Cynllun i'r Cwrs Cymraeg Dwys a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd yn flynyddol yn yr haf, ac at gostau Menter Patagonia. Mae hi hefyd yn cynorthwyo gyda threfniadau llety a chroesawu'r myfyrwyr, yn ogystal â'r athrawon a ddaw ym misoedd y gaeaf i arsylwi mewn ysgolion Cymraeg. Yn ogystal, mae hi'n sianelu'r arian a dderbynnir oddi wrth Ymddiriedolaeth Mari a Pryderi i dalu am gostau'r ymweliadau uchod ac am anfon athrawon i'r Wladfa.

* Yn 2013 ymgorfforwyd Cynllun yr Iaith Gymraeg yn Chubut yng nghynllun newydd ehangach Llywodraeth Cymru, sy'n cael ei adnabod dan yr enw Addysg Rhyngwladol Cymru.
• Noddi cystadleuaeth flynyddol, ers Eisteddfod Caerdydd 1978, yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac yn dal i fyw yn Ariannin. Cyhoeddwyd dau ddetholiad o'r cynnyrch Atgofion o Batagonia; gol. R. Bryn Williams (Gwasg Gomer, 1980) a Byw ym Mhatagonia; gol. Guto Roberts a Marian Elias Roberts (Gwasg Gwynedd, 1993). Mae'r ddau lyfr allan o brint. Cyhoeddwyd Bywyd yn y Wladfa - detholiad o gynnyrch 1978- ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r cyffiniau 2009.

• Noddi myfyrwyr o Ariannin sy'n dymuno dod i Gymru i ehangu eu gorwelion addysgol. Mae gan Goleg Llanymddyfri bellach Ysgoloriaeth tymor a ddyfernir yn flynyddol er cof am Tom Gravell, a fu'n drysorydd i'r Gymdeithas, diolch i'w fab David Gravell. Mae aelodau'r Gymdeithas yn gofalu am y myfyrwyr yn ystod eu gwyliau a rhai penwythnosau.

• Ymhlith sefydliadau a gafodd nawdd yn ddiweddar mae Ysgol Gymraeg Trelew, Ysgol Feithrin y Gaiman a Chanolfan Gymraeg yr Andes.

• Cynhelir Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn flynyddol a bu gan y Gymdeithas Babell ar y Maes ers 1997.

• Dethlir Gŵyl y Glaniad yn flynyddol yng Nghymru.

Mae'r cyswllt rhwng ein dwy wlad wedi parhau am ganrif a hanner ac yn sicr bu Ariannin a Chymru ar eu hennill o'r cyswllt hwn. Ein gobaith -wrth i ni nesau at 2015 - yw gallu cryfhau'r berthynas yn y dyfodol a chadw'n fyw ar gyfer y genhedlaeth sydd i ddod y freuddwyd fawr a fu â rhan fach mewn creu gwlad newydd.

Cyhoeddwyd llyfryn ym 1989 Cymdeithas Cymry Ariannin 1939-1989 yn rhoi hanes y Gymdeithas ers ei sefydlu a chyhoeddwyd cyfrol yn 2014 wedi ei golygu gan Elvey MacDonald i ddathlu pen blwydd y Gymdeithas yn 75 oed.

     

Dylunio a hostio'r wefan: Technoleg Taliesin Cyf.

Administration