Dathlu 150 mlwyddiant Gwladfa Gymreig Patagonia

Braslun o hanes y Wladfa


• Sefydlwyd Y Wladfa ym 1865, pan deithiodd dros 150 o bobl o wahanol rannau o Gymru, yn y llong hwylio Mimosa i ymgartrefu yn Nyffryn Camwy, yn Ne'r Ariannin.

• Dros yr hanner canrif canlynol, ymfudodd cannoedd o Gymry yno, gan sefydlu trefi megis Porth Madryn yn y Bae Newydd; Rawson, Gaiman, Trelew a Dolavon yn Nyffryn Camwy; a Threvelin yng Nghwm Hyfryd. Mae llawer o'u disgynyddion yn byw hefyd yn Esquel, wrth droed yr Andes; yn Comodoro Rivadavia (dinas fwya'r dalaith); yn Colonia Sarmiento - ac mewn nifer o daleithiau eraill ledled yr Ariannin.

• Bu iddynt greu cymdeithas Gymreig ffyniannus, gyda'r iaith Gymraeg yn cael lle canolog; mewn cydweithrediad â Llywodraeth yr Ariannin, ac mewn heddwch gyda'r brodorion a drigai yno - yr unig achos o wladychu heddychlon yn hanes cyfandir America.

• Erbyn heddiw mae poblogaeth Trelew, tref fwyaf Dyffryn Camwy, dros 120,000 ac un talaith Chubut tua 600,000. Cyfran fechan o'r rhain sydd o dras Cymreig pur ond amcangyfrifir bod o leiaf traean y boblogaeth yn cario rhywfaint o waed Cymreig yn eu gwythiennau - ac erys ymwybyddiaeth eang o wreiddiau Cymreig y fro.

• Heddiw, mae ysgol ddwyieithog (Cymraeg-Sbaeneg) wedi ei sefydlu yn Nhrelew ac mae ysgolion meithrin Cymraeg hefyd yn y Gaiman ac yn Esquel; ac mae Eisteddfod y Wladfa, a gynhelir pob mis Hydref, ac Eisteddfod yr Ifanc pob mis Medi, yn mynd o nerth i nerth. Cynhelir hefyd nifer o eisteddfodau llai yn Nyffryn Camwy, Porth Madryn a'r Andes.

• Mae Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth y Cyngor Prydeinig, Prifysgol Caerdydd a Chymdeithas Cymru-Ariannin, yn noddi Cynllun yr Iaith Gymraeg yn Chubut, gan anfon athrawon i fynd yno i ddysgu'r Gymraeg ac i hyfforddi tiwtoriaid lleol. Mae nifer da o bobl ifanc y Wladfa yn ymweld â Chymru bob blwyddyn, ac mae dirprwyaeth o aelodau Urdd Gobaith Cymru yn ymweld â'r Wladfa bob hydref.

• Ym 1965, ar achlysur dathlu canmlwyddiant y Wladfa Gymreig, teithiodd 73 o 'bererinion' yno o Gymru, gan gynnwys nifer o arweinyddion cenedlaethol, i gydnabod hanes rhyfeddol y Gwladfawyr; cafwyd dathliadau - a barodd am dair wythnos - ledled Talaith Chubut ac yn Buenos Aires. Gwahoddwyd hefyd mintai fechan o Wladfawyr ifainc i ddod i Gymru am dri mis yr haf hwnnw, a dangoswyd iddynt wahanol agweddau ar fywyd diwylliannol a diwydiannol gwlad eu teidiau. Bu'r ail-gysylltiad hwn gyda phobl y Wladfa yn allweddol wrth ail-greu diddordeb o fewn y ddwy wlad yn hanes a datblygiad y sefydliad - a bu'n symbyliad i ddisgynyddion y Gwladfawyr ail-ymddiddori yn eu tras a'u gwreiddiau.

• Ers hynny, bu cysylltiad agos rhwng Cymru a'r Wladfa; a threfnwyd teithiau - ffurfiol ac anffurfiol - sydd, erbyn hyn, yn digwydd yn flynyddol (ac yn amlach na hynny!). Yn ogystal, cynhelir cysylltiadau diwylliannol drwy fod corau, partion, unawdwyr ac ati o'r naill wlad yn ymweld â'r llall.

• Yn 2015, bydd Y Wladfa yn dathlu ei phenblwydd yn 150 oed; mae trefniadau eisioes ar y gweill i sicrhau bod y dathliadau hyn yr un mor llwyddiannus â rhai 1965:

Tudalen nesaf >>
     

Dylunio a hostio'r wefan: Technoleg Taliesin Cyf.

Administration