Sefydlwyd Cymdeithas Cymry Ariannin ym 1939 gan rai a oedd â chysylltiad â'r Wladfa Gymreig yn Chubut er mwyn bod yn ddolen gyswllt rhwng y ddwy wlad. Newidiwyd yr enw yn 1999 i Cymdeithas Cymru-Ariannin i adlewyrchu aelodaeth a gweithgareddau'r Gymdeithas heddiw.
Cewch ddarllen
cyflwyniad i'r Gymdeithas a'r wefan yma
Yn y flwyddyn 1865 hwyliodd dros gant a hanner o Gymry, yn wyr, gwragedd a phlant, o Lerpwl i wlad newydd ddiffaith yn Ne America. Pobl galed a phenderfynol oedd y Cymry hyn a hwyliodd ar y llong Mimosa, ac er iddynt gyrraedd gwlad ddiffaith ddiannedd heb na chanolfan na chymdeithas barod ar eu cyfer, trwy chwys a llafur llwyddasant i greu yno gymdeithas newydd. Troesant y tir diffaith yn ardd a'i throsglwyddo i'w disgynyddion sydd hyd heddiw yn byw yn y rhan honno o'r Ariannin a elwir Patagonia.
Yn 2015, bydd y Gymdeithas yn dathlu 150 o flynyddoedd y Wladfa. Cewch ddarllen mwy am y dathliadau 150 mlynydd
yma.
Mae Cynllun yr Iaith Gymraeg yn Chubut yn weithredol ers pymtheng mlynedd bellach a chyfrannodd yn helaeth tuag at gynnal a hybu’r Gymraeg a'i diwylliant yn y Wladfa.Wrth gymharu’r sefyllfa â’r hyn a fodolai yn 1996 y gwelir gliriaf ystod, dwyster a natur dylanwad y Cynllun ar fywyd yn gyffredinol. Cewch ddarllen mwy am y gynllun
yma

Cael gwers a the yn Nhrevelin yn yr ardd ar ddiwrnod o haf gydag Iwan Madog.

Dathlu pen-blwydd Trevelin, Tachwedd 25ain 2010

Criw dosbarthiadau Esquel enillodd dystysgrifau yn Eisteddfod y Wladfa 2003 am sgets, ysgrifennu a chyfieithu gyda Nesta Davies eu hathrawes
Cewch weld llawer mwy o luniau yn yr Oriel
| Digwyddiadau |
| 07 Meh Cangen Môn/Arfon - Cyfarfod Blynyddol manylion |
| 27 Gor Gŵyl y Glaniad manylion |
| 08 Awst Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas manylion |
Digwyddiadur
| Newyddion |
Minieisteddfodau Dyffryn Camwy Haens Minieisteddfod Ysgol Camwya dyddiadau rhai Dolavon a Bethel Stori llawn
|
Enillwyr Mai y Clwb Cyfeillion Tynnwyd y rhifau ym Mhwyllgor Gwaith Mai Stori llawn
|
Newyddion o'r Andes Newyddion diweddar o'r Andes oddi wrth Eluned Owena Evans Stori llawn
|
mwy o newyddion